Tuesday, September 13, 2011

Guto'n gwneud yn siwr nad oes yna jobs i'r hogiau - weithiau o leiaf

Mae'n dda gweld bod fy nghymydog Guto Bebb yn cadw llygad barcud ar sut y bydd S4C yn mynd ati i ddewis prif weithredwr newydd.  Er fy mod yn gwbl sicr na fyddai Winston Roddick QC yn cam ddefnyddio ei sefyllfa i roi mantais i'w fet Arwel Ellis Owen, mae gan Guto bwynt.

Fel cenedl rydym yn gymharol rhydd o lygredd - 'dydi cymryd amlenni brown sy'n llawn pres ddim at ein dant o gwbl.  Ond, ein gwendid yn y materion hyn ydi'r ffaith nad ydi llawer yn ein mysg yn gweld fawr ddim o'i le mewn gadael i rwydweithiau cyfeillgarwch edrych ar eu holau.  Mae felly'n gwbl briodol tynnu sylw at y math yma o beth - neu gallai'r pethau mwyaf grotesg ddigwydd.


Er enghraifft, mae gan Doriaid Cymru drefn ryfeddol o ganiatau i'r sawl sydd eisoes ar eu rhestrau rhanbarthol i gadw'r llefydd hynny heb orfod cyfiawnhau eu bodolaeth i aelodau cyffredin eu plaid eu hunain.  Ymddengys bod pwyllgor canolog y Toriaid yng Nghymru yn gadael i'w mets sy'n Aelodau Cynulliad gadw eu lleoedd ar y rhestrau rhanbarthol  heb orfod trafferthu efo manion gwirion megis parchu gweithdrefnau democrataidd tryloyw.  Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru mor llywath - neu sefydliadol lwgr - fel nad oes neb yn eu plith yn ymddangos i fod efo problem efo'r trefniant rhyfeddol yma. 

Treueni nad oes yna neb fel Guto i gadw golwg ar fisti manars y Blaid Geidwadol Gymreig. 

No comments: