Thursday, September 15, 2011

Is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen

Mi fydd darllenwyr Golwg360 yn debygol o fod o dan yr argraff mai ymgeiswyr Llais Gwynedd yn unig sydd yn sefyll yn is etholiadau Penrhyndeudraeth a Diffwys a Maenofferen ddiwedd y mis.  Gan nad ydi eu hadroddiad yn trafferthu son am unrhyw ymgeiswyr ag eithrio rhai'r meicro grwp - Rhian Jones a Catrin Elin Roberts - mae'n debyg bod rhaid i Flogmenai geisio dod a rhyw fath o gydbwysedd i'r darlun.  Gallwch ddarllen am ymgeiswyr Llais Gwynedd yn y linc  'dwi wedi ei darparu uchod.

Un ymgeisydd arall sy'n sefyll yn Diffwys a Maenofferen, Mandy Williams - Davies, 45, ac mae'n sefyll ar ran Plaid Cymru.  Mae Mandy wedi ei geni a'i magu yn y Blaenau, mae'n aelod o'r cyngor tref, mae wedi sefydlu busnes lleol ac mae'n aelod o'r siambr fasnach.  Mae hefyd yn fam i ddau o blant sy'n mynychu Ysgol Maenofferen.


Ceir dau ymgeisydd ym Mhenrhyndeudraeth.  Dafydd Thomas, neu Dafydd Morfa ydi'r ymgeisydd annibynnol.  Fedra i ddim dod o hyd i lun o Dafydd yn anffodus, ond mae'n ymgeisydd profiadol sydd wedi cael ei ethol ar ran Plaid Cymru a'r grwp Annibynnol yn y gorffennol - ac wedi cael llwyddiant yn erbyn ambell i ymgeisydd adnabyddus iawn.  Mae gan Dafydd ddwy broblem fodd bynnag - mae'n sefyll yn gymharol bell o'i ward ei hun. ac nid yw wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn etholiadau diweddar yn ei ward ei hun.  Mae'n wynebu talcen go galed.

Gareth Thomas, 53 ydi ymgeisydd Plaid Cymru.  Fel Donna, cafodd Gareth ei eni a'i fagu yn lleol, ac mae'n aelod cyfredol o'r cyngor plwyf.  Bu'n ynad heddwch yn y gorffennol, mae'n gadeirydd rhaglen Ewropiaidd yng Ngwynedd, ac mae'n is gadeirydd Fforwm Gwledig Cymru.  Bu'n gweithio am ugain mlynedd yng ngorsawf bwer Trawsfynydd cyn mynd ati i sefydlu cwmni TJP Cymru, cwmni sy'n cefnogi elysennau a grwpiau cymunedol.  Mae ganddo dri o blant.



Mae'r Blaid wedi profi cryn lwyddiant mewn is etholiadau lleol yn ddiweddar yng Ngwynedd a thu hwnt - a hynny er gwaethaf nad ydi'r cyd destun ehangach wedi bod yn arbennig o ffafriol.  Y prif reswm am hyn ydi'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gyflwyno ymgeiswyr o ansawdd uchel sy'n gweddu eu cymdogaethau yn dda ger bron yr etholwyr. Mae'n galonogol nodi y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny ym Mhenrhyn a'r Blaenau ar Fedi 28 hefyd. 

1 comment:

Dyfed said...

Diolch am rannu'r wybodaeth efo ni.

Mi wn i fy mod i'n Bleidiwr - ond mae calibr ymgeisyddion y Blaid yn hynod o uchel ar bapur yng Ngwynedd. Pobl efo profiad sylweddol. Tydi hi ddim yr un fath ym mhobman.