Sunday, September 25, 2011

Newidiadau Plaid Lafur yr Alban

Mae'r newyddion bod y Blaid Lafur yn yr Alban yn bwriadu cryfhau statws ei harweinydd yn codi cwestiynau diddorol ynglyn a bwriadau'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Un o nodweddion y weinyddiaeth bresenol yng Nghaerdydd ydi ei diffyg uchelgais llethol.  Gellir gweld hyn ym mhob man mae dyn yn edrych - yn y ffaith i bod yn gwneud pob dim o fewn ei gallu i osgoi cymryd unrhyw rymoedd a fyddai yn ei gorfodi i gymryd unrhyw benderfyniadau amhoblogaidd - yn arbennig felly penderfyniadau cyllidol neu rhai sy'n ymwneud ag ynni adnewyddol.  Gellir  gweld y diffyg uchelgais hefyd yn y tin droi di ddiwedd ar ddechrau'r tymor gwleidyddol cyntaf ac yn eu rhaglen llywodraethol cyfangwbl ddi fflach a di ddychymyg - rhaglen sy'n gwrthgyferbynnu'n greulon efo Cymru'n Un.



Byddai methiant i ddilyn Llafur yr Alban a chymryd y cam gweddol fach yma yn symbol digon twt o ddiffyg hyder a diffyg uchelgais treuenus y Blaid Lafur yng Nghymru. 

2 comments:

maen_tramgwydd said...

D'oes dim rhaid i ni edrych yn bellach na cyflwr Cymru heddiw yn economaidd ar ol dros ganrif o deyrngarwch etholiadol i'r Blaid Lafur.

Mae llawer iawn o'n cyd-ddinasyddion hyd yn hyn ddim wedi dysgu'r wers.

Rhan o dasg a chyfrifoldeb Plaid Cymru ydi eu haddysgu.

Unknown said...

Cafodd Carwyn ei drin heddiw yn 'Labour Conference' fel hoff anifail anwes, ac roedd e'n hapus i ddangos ei deiyrngarwch ffyddiol at ei feistri saesneg. Pryd neith e ddeall mae FE yw y boss, a dweud wrth Hain a'r lleill if fynd i grafu?

O ran Plaid, gobeithio na fydd e byth yn newid ei atgwedd isradd at ei hun, ond ran Cymru - 'TYFA GEILL, CARWYN!'