Tuesday, September 27, 2011

Peter Hain yn parhau i ymosod ar ddemocratiaeth yng Nghymru

Rydym eisoes wedi edrych ar yr effaith y byddai troi at y dull o ethol aelodau Cynulliad mae Peter Hain yn ei awgrymu, yn ei gael ar wleidyddiaeth Cymru - llywodraeth fwyafrifol Llafur hyd yn oed pan mae'r blaid honno yn cael llai na thraean o'r bleidlais.




Ymddengys bod Hain yr parhau yr un mor frwdfrydig tros sefydlu ei syniadau cwbl anemocrataidd heddiw, nag oedd pan ddaethant i'w ben gyntaf ym Mis Gorffennaf.

Efallai ei bod yn rhyw hanner disgwyladwy i ddyn a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ne Affrica aparteid gael ei ddenu yn is ymwybodol at systemau etholiadol sy'n rhoi'r un canlyniad pob tro - hyd yn oed os ydi'r dyn hwnnw wedi ymladd yn erbyn system felly  yn ei wlad enedigol

2 comments:

maen_tramgwydd said...

Dylai fod wedi dychwelyd i wlad ei febyd ar ol iddi ennill rheolaeth mwyafrifol.

Yn fy marn i, dyna ddylai dyn o egwyddor wneud.

Beth mae Cymru a'i phobl wedi gwneud i haeddu ei bresennoldeb yma?

Enghraifft ydyw o'r ffordd mae'r pleidiau Prydeinig wedi ymdrin a Chymru am flynyddoedd maith.

Anonymous said...

Idiot llwyr yw Peter Hain - fe ddaeth lan a'r rheol yma sy'n atal ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad fod ar y 'rhester' ac hefyd ymladd etholaeth. Onibai am fe a'i ddrigioni bydde Wigley a Ron Davies ayyb yn y Cynulliad.

Pan ddaw Adam Price nol ma angen iddo ymladd Castell Nedd A bod ar y rhester.