Sunday, October 02, 2011

Pam bod y system addysg yng Ngwynedd yn cynhyrchu cymaint o siaradwyr Cymraeg?

Sylw neu ddau sydd gen i yn dilyn dadl fyrhoedlog a gefais ar y blog Britain Votes efo Alwyn ap Huw (awdur Hen Rech Flin).  Amddiffyn honiad abswrd un o awduron y blog, Harry Hayfield (sydd, dwi'n prysuro i ddweud, yn flogiwr da iawn gan amlaf) mai dadl ynglyn a chau ysgolion cyfrwng Cymraeg ydi hanfod yr anghytundeb rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. 'Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs -  beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o'r newidiadau sydd wedi digwydd ym Meirion tros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi digwydd yng nghyd destun ymarferiad ardrawiad iaith trylwyr. 

Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl, ydi'r feirniadaeth sydd ymhlyg yn sylwadau Alwyn, o'r system yng Ngwynedd mewn perthynas ag addysg Gymraeg.  Mae'r drefn yng Ngwynedd yn anarferol i'r graddau nad oes ysgolion Cymraeg (ag eithrio ym Mangor).  Yn wir (ar wahan i'r eithriad yma)  'dydi'r sir ddim yn diffinio ysgolion yn ol categoriau ieithyddol o gwbl oherwydd bod disgwyl i pob ysgol weithredu polisi iaith y sir.  Mae'r polisi hwnnw yn disgwyl i ysgolion roi cyfle i pob disgybl ddod yn rhugl ddwyieithog. 

Felly sut y gellir barnu pa mor effeithiol ydi'r ddarpariaeth o safbwynt cynnal y Gymraeg?  Trwy edrych ar ddata mae'n debyg.   Mae unrhyw fesur y dewisir yn dangos bod y system addysg yng Ngwynedd yn rhyfeddol o effeithiol am gynhyrchu Cymry Cymraeg.  Er enghraifft:

  • Yn 2009 roedd y ganran o blant bl 6 oedd yng nghategori A (plant rhugl ddwyieithog) yng Ngwynedd yn 78.5%.  .  
  • Roedd 95.2% o blant bl 6 y sir yn cyrraedd lefel 3+ yn yr un flwyddyn, ac roedd 96.1% o'r sawl a gafodd asesiad felly yn parhau i ddilyn cwrs Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 7.  
  • Asesir 99.8% o ddisgyblion yn y Gymraeg ar ddiwedd CA2.
  • Asesir 80.4% o ddisgyblion y sir fel Cymry iaith gyntaf ar ddiwedd CA3 ac mae'r patrwm yn CA4 yn ddigon tebyg.  
  • Roedd 81.5% o ddisgyblion y sir yn sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf.  
  • Mae mwyafrif llethol (100% yn y rhan fwyaf ohonynt) o ddisgyblion pob ysgol uwchradd yn y sir, ag eithrio un, yn astudio pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.  
Rwan 'dwi'n gwybod bod pethau'n haws yng Ngwynedd nag ydynt mewn rhannau eraill o Gymru - mae llawer o'r cymunedau yma gyda chanranau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg naturiol.  Ond mae'r ganran o blant ysgolion uwchradd yng Ngwynedd sydd o gartrefi di Gymraeg sy'n siarad y Gymraeg i safon iaith gyntaf yn uwch nag ydyw mewn unrhyw sir ag eithrio Mon a Cheredigion - er bod 60% o blant y sir yn siarad y Gymraeg adref - canran uwch o lawer nag a geir mewn unrhyw sir arall (25% ydi'r ffigwr yn Sir Gaerfyrddin er enghraifft). .
    Ceir llwyddiant  trawiadol mewn ystod o gymunedau - o geiri ieithyddol yr iaith yn ardaloedd ol ddiwydiannol Arfon i ardaloedd mwy Seisnig y De gwledig.  Wna i ddim trafferthu cymharu'r ffigyrau uchod efo awdurdodau eraill, ag eithrio i nodi  bod pob un ffigwr yn sylweddol uwch nag unrhyw beth sydd gan yr sir arall i'w gynnig. Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddod o hyd i'r ystadegau yma (pennod 11). Y siroedd sy'n dod agosaf at Wynedd ydi Ynys Mon a Cheredigion, siroedd sydd a chyfundrefnau gweddol debyg  i un Gwynedd.

    'Rwan 'dwi ddim yn dadlau bod y gyfundrefn yng Ngwynedd yn llwyr facsimeiddio'r hyn y gellir ei wneud i gynhyrchu cenedlaethau o bobl sy'n gallu siarad y Gymraeg - mae yna rai gwendidau - ond mae'n perfformio'n well nag unrhyw system arall sydd ar gael.  Ymhellach, ac yn bwysicach, bu cynnydd cyson yn effeithlonrwydd y system o ran cynhyrchu Cymry cymraeg, ac mae cynlluniau i wella eto ar droed.

    Nid rhywbeth i'w feirniadu ydi'r system addysg yng Ngwynedd mewn cyswllt a'r Gymraeg, ond rhywbeth i ymfalchio ynddo.  

    6 comments:

    Hogyn o Rachub said...

    Mân ymholiad ond onid ydi nifer y disgyblion sy'n siarad Cymraeg gartref yng Ngwynedd tua 50%, nid 60%?

    Cai Larsen said...

    Dydi'r ffigyrau ddim o fy mlaen, ond dwi'n eithaf siwr mai jyst tros 59% ydi'r ffigwr. Mon sy'n dod yn ail (eto os nad ydi fy nghof yn methu) ar tua 40%.

    Mi chwilia i am y ffigyrau pan gaf ddau funud.

    Cai Larsen said...

    59% ydi'r ffigwr uwchradd a 56% ydi'r un cynradd yn ol asesiadau rhieni.

    Anonymous said...

    Y broblem ydy bod unrhywun sy'n rhugl yn cael ei ddisgrifio fel siaradwr iaith gyntaf. Dwi ddim yn credu bod yr holl blant ail iaith yma'n siarad Cymraeg i'r un safon a siaradwyr mamiaith.

    Cai Larsen said...

    Mae ffigyrau'r Cynulliad yn gwahaniaethu rhwng plant 'rhugl' a phlant 'sy'n siarad Cymraeg adref' Cyfeirio at y plant sy'n siarad Cymraeg adref mae'r 56% a'r 59%.

    Y ganran sy'n rhygl yn yr ysgolion uwchradd ydi 70%, ond 59.3% o'r rheiny sy'n siarad Cymraeg adref. Mae tros 80% yn dilyn y cwrs Cymraeg iaith gyntaf,

    David said...

    Sylwadau diddorol a phwysig eto, Cai, ond oes gen ti ateb i dy gwestiwn dy hun tybed? Hynny yw pam mae Gwynedd yn llwyddo mor dda?

    Oes yna dechnegau neu ddulliau a ddylai gael eu dilyn gan y siroedd eraill?