Tuesday, October 04, 2011

Theresa May, y giaman a'r dyn o Folifia

Dydi o byth yn arwydd da pan mae gwleidydd yn gorfod cyfiawnhau ei bolisiau canolog trwy - wel - ddweud celwydd.  Dyna wnaeth Theresa May wrth gyfiawnhau ei gwrthwynebiad i'r Ddeddf Hawliau Dynol yng nghynhadledd y Toriaid ddoe. 

Fersiwn May o'r stori oedd bod dyn wedi cael aros ym Mhrydain oherwydd bod ganddo gath yn anifail anwes.

Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod myfyriwr o Bolifia wedi gwneud cais i gael aros yn y DU oherwydd bod ganddo bartner sydd yn ddinesydd Prydeinig, ac roedd cyfeiriad at gath ynghanol y dystiolaeth sylweddol a gyflwynwyd ynglyn a natur eu perthynas a'u bywyd efo'i gilydd.  Nid bodolaeth y giaman oedd y rheswm iddo ennill yr hawl i aros, ond natur ei berthynas efo'i bartner.

Pan mae'n rhaid i wleidyddion gyfiawnhau eu safbwyntiau trwy gyflwyno nonsens fel dadl, mae'n rhesymol casglu bod y safbwyntiau hynny wedi ei seilio ar ragfarnau.

No comments: