Thursday, November 17, 2011

Addysg Gymraeg ym Mhowys

'Dydi hi ddim yn syndod mawr deall i Gyngor Powys benderfynu torri cwys ei hun parthed addysg cyfrwng Cymraeg.  Tra bod y rhan fwyaf o gynghorau eraill  yn ceisio ymateb i alw rhieni a chynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae Powys yn mynd i'r cyfeiriad cwbl groes ac yn torri'n ol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Cynulliad yn disgwyl i gynghorau asesu'r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ymateb i'r galw hwnnw.  Ymddengys bod Powys wedi methu gwneud hyn.  Mae yna dri chyngor arall sy'n methu ar agweddau o'u gwaith a sydd o ganlyniad yn derbyn sylw arbennig gan y Cynulliad.  Fel Powys maent oll yn gynghorau sy'n cael eu rheoli gan grwp annibynnol - hwyrach nad ydi hynny yn gyd ddigwyddiad. 

Mi fyddwn yn tybio y dylai'r gweinidog addysg ystyried os ydi o am i Gyngor Powys barhau i fod yn gwbl gyfrifol am ddatblygu addysg Gymraeg.  'Dydw i ddim yn cytuno'n aml efo'r gweinidog, ond ni all neb amau ei agwedd cadarnhaol tuag at y Gymraeg.  Efallai bod yr amser wedi dod i wneud yr agwedd honno yn gwbl eglur i gynghorau sy'n llaesu dwylo wrth ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

No comments: