Thursday, November 03, 2011

Difa'r genedl _ _ _

Pan mae Peter Hain yn honni y byddai trosglwyddo pwerau trethu i Gymru yn 'difa'r genedl' mae'n euog o bechodau sy'n gyffredin i lawer o Lafurwyr Cymru - gor ddweud gorffwyll a  chymysgu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig.  Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.



Petai yna gysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.

Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.

1 comment:

Ifan Morgan Jones said...

Fe fyddai'n well cael hunan reolaeth a bod heb geiniog yn ein pocedi na derbyn arian mawr i gael ein rheoli gan wlad ara... wps, na, dw i'n meddwl am Wlad Groeg.