Friday, November 25, 2011

Pam bod cynnig cymhelliad i brif weithredwr Barclays yn bwysicach nag ydi cynnig cymhelliad i nyrs

 Y streic ddydd Mercher nesaf fydd, mae'n debyg gen i, y fwyaf o'i math ers cenhedlaeth a mwy.  Gallwn wrth gwrs ddisgwyl i amrywiol lefarwyr y llywodraeth ymddangos i ddweud wrthym ein bod i gyd 'yn hyn efo'n gilydd', ac i gyhuddo'r streicwyr o hunanoldeb, diffyg cyfrifoldeb a hyd yn oed anfoesoldeb. 

Roedd yr un llefarwyr yn gwbl absennol yn gynharach yn y mis pan ddaeth codiadau cyflog boncyrs o uchel prif weithredwyr can cwmni'r FTSI i'r amlwg unwaith eto?  Ymddengys nad yw'n briodol i lywodraeth y DU drethu'r cyflogau anferthol yn rhesymol rhag ofn y byddai'r arweinwyr athrylithgar sy'n gyfrifol am gan cwmni mwyaf y DU yn codi eu pac a mynd i rhyw wlad arall neu'i gilydd i ymarfer eu talentau rhyfeddol.  Mae'n bwysig rhoi cymhelliad iddynt weithio da chi'n gweld.

'Dydi'r ffeithiau bod rhai o brif weithredwyr y dywydiedig gwmniau wedi cymryd penderfyniadau a arweiniodd at gynyddu dyled genedlaethol y DU yn sylweddol, ac nad oes yna fymryn o dystiolaeth eu bod yn fwy effeithiol nag unrhyw un arall ddim yn amharu mewath ar y naratif yma - nag ar bolisi trethiant llywodraeth Cameron.  Yn wir mae perfformiad y can cwmni wedi bod yn echrydys tros y blynyddoedd diweddar.  Pe byddai yna unrhyw gysylltiad rhwng perfformiad a chyflog, byddai hanner y drongos hurt yn cael eu cardiau yn hytrach na'u gwobreuo efo codiadau cyflog anferthol.  Yn lle hynny mae cyflog prif weithredwr Barclays, er enghraifft, wedi cynyddu 4,899.4% - o  £87,323 i £4,365,636 ers 1979.

Ac eto 'dydi'r ddamcaniaeth bod torri cymhelliad pobl i wneud gwaith  ddim yn broblem pan mae'n dod i rewi cyflogau a lleihau gwerth pensiynau nyrsus, athrawon ac eraill sydd yn gweithio yn y sector gyhoeddus.  Byddai gwneud rhywbeth sy'n arwain at 'ansawdd is' o ran prif weithredwyr cwmniau yn drychineb, ond 'dydi cymryd camau  sydd am arwain at 'ansawdd is' o ran nyrsus ac athrawon ddim yn broblem. Ac mae'r safonau dwbl arbennig yma yn dweud y cwbl rydym angen ei wybod am lywodraeth y DU.

Dydi'r rhan fwyaf o aelodau'r cabinet presenol ddim yn ddibynol ar y gyfundrefn addysg gyhoeddus, a dydyn nhw ddim yn ddibynol ar wasanaeth iechyd cyhoeddus chwaith.  Felly 'does yna ddim problem efo gwneud swyddi yn y sectorau hynny yn llai atyniadol, a lleihau ansawdd y sawl sy'n gweithio ynddynt.

No comments: