Monday, December 31, 2012

Ffigyrau'r mis, y chwarter a'r flwyddyn

Fel y gwelwch, eleni ydi'r flwyddyn mae Blogmenai wedi denu'r mwyaf o ymwelwyr unigol ers i mi ddechrau cyfri tua diwedd 2008.  Bydd yn anodd cael cymaint y flwyddyn nesaf gan bod traffig Blogmenai ar ei drymaf yn yr wythnosau o gwmpas etholiad - ac ni fydd yna etholiad (mae'n debyg) flwyddyn nesaf yn unman ond Ynys Mon. 

Beth bynnag - diolch i bawb sydd wedi galw draw yma - 'dwi'n mawr werthfawrogi ei diddordeb.








Cip bach yn ol i 1913

Dim byd (llawer) i'w wneud efo gwleidyddiaeth ar ddiwrnod olaf 2012, ond sylw bach ynglyn a'r newid sydd wedi digwydd yn ein byw a'n bod mewn cyfnod cymharol fyr.  Mi fydda i'n aml yn nodi bod pobl o genhedlaeth fy rhieni wedi gweld mwy o newid yn ystod eu bywydau na'r un genhedlaeth o'i blaen. 

Mae yna lawer iawn o ffyrdd o ddangos hyn - fy hoff un i ydi trwy gyfeirio at blastig.  Fedran ni ddim edrych i unman bron heddiw heb weld y stwff - ond mae'n beth cymharol ddiweddar i'w weld yn cael ei ddefnyddio mewn bywyd pob dydd.  Er bod rhai mathau o blastig wedi eu dyfeisioers  cryn gyfnod , doedd yna fawr ddim eitemau masnachol plastig ar y farchnad tan bump degau'r ganrif ddiwethaf.

Ta waeth - digwyddais ddod ar draws y lluniau hyn ychydig ddyddiau'n ol.  Er eu bod yn dyddio gyfnod cyn i fy rhieni gael eu geni dydyn nhw ddim mor hen a hynny. Maent wedi eu cymryd yn yr Iwerddon ym 1913, ac maent  yn ffenest i fyd cwbl wahanol - ond un sydd ddim mor bell a hynny i ffwrdd yn ddaearyddol, nag o ran amser chwaith.

 Gellir gweld mwy yma - ynghyd a manylion am y lluniau.
 

 
 
 
 
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Saturday, December 29, 2012

Y Daily Mail, Robin Lewis a Spar

Wna i ddim gwneud fawr o sylw ar y ffrae od ynglyn ag ymweliad enwog Robin Llyn a Spar Pwllheli, ag eithrio i nodi efallai bod y ddwy ochr wedi bod mymryn bach yn fwy styfnig nag oedd rhaid.

O fwy o ddiddordeb i mi ydi'r holl sylw mae Cymru wedi ei gael yn nhudalennau'r Daily Mail.  Meddyliwch o ddifri am bapur 'cenedlaethol' yn rhoi sylw i ffrae rhwng dyn mewn oed wrth dil mewn siop Spar - o ddifri.

A  meddyliwch  am yr holl straeon (cymharol) ddiweddar bois bach:

Save Wales From the Welsh, Children Told they Can't go to Loo if the Don't Speak Welsh.

Shop Forced to call Police after Druid Refuses to Pay Because Cashier Wouldn't Ask for Money in Welsh.

Terror of the Welsh Taliban

BBC Spends Ren Times More on Welsh Radio than on English Station

Fury as Welsh & Scots Snub National Amthen

Punished for Being English:  Welsh  Students Join Scots in Being tuition Fees Rise

Un agwedd fach ar newyddiadura sy'n dangos rhagfarn systemig tuag at pob math o grwpiau lleiafrifol yn y DU ydi'r detholiad di ddiwedd o straeon gwrth Gymreig wrth reswm - ond mae'r holl ragfarn yn adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y 4,350.000 o bobl sy'n darllen y Daily Mail - bron i 9% o boblogaeth y DU.




Friday, December 28, 2012

Bu'n flwyddyn wych i Gymru felly

Mi fyddai'n anodd cwmpasu tlodi deallusol y Blaid Geidwadol Gymreig a'i diffyg uchelgais llwyr tros Gymru nag y gwnaeth David Jones yn ei neges blwyddyn newydd gwbl bathetig.



Yn ol David cafodd Cymru dri llwyddiant mawr eleni - Jiwbili Mrs Windsor, a gynhaliwyd yn Llundain, y Gemau Olympaidd digwyddiad arall a gynhaliwyd yn Llundain - digwyddiad nad oedd Cymru yn cael anfon tim iddo - a derbyn pres cyhoeddus i'w wario gan George Osborne.

A dyna'r Blaid Geidwadol Gymreig wedi ei chwmpasu yn dwt.  Llwyddiant cenedlaethol ydi lleoli ein hunain mewn lle manteisiol o dan fwrdd rhywun arall a llwyddo i ddal rhai o'r briwsion fel maent  yn syrthio.


Thursday, December 27, 2012

Pytiau brenhinol - rhan 2

Reit, ffaith neu ddau  arall am un o aelodau'r teulu Windsor - Andrew.


Byddwch o bosibl yn cofio i ail fab Elizabeth Windsor gael swydd fel cenad masnach y DU.  Dydi hi ddim yn glir trwy pa broses bu'n rhaid i Andrew fynd drwyddi i gael y joban, na pha gymwysterau oedd ganddo ym myd masnach.  Ta waeth, er bod y swydd yma yn ddi dal, roedd yn rhoi cyfle i'r sawl oedd yn ei gwneud deithio i bob math o lefydd tramor ar gost y trethdalwr (£378,000 yn ystod eu ychydig fisoedd olaf), cwrdd a phob math o bobl ddiddorol - a gwneud llawer iawn o bres.

Er enghraifft yn ol yn 2003 gwerthodd dy oedd wedi ei gael gan ei fam i Timur Kulibayev, mab yng nghyfraith arlywydd Kazakhstan am £15m - er mai £12m yn unig oedd gwerth y ty.  Does yna ddim eglurhad pam y byddai Kulibayev eisiau talu £3m mwy am rhywbeth na'i werth ar y farchnad agored.  Llwyddodd Andrew hefyd i osgoi talu treth ar y trosglwyddiad.

Ond mi'r ydan ni'n gwybod bod ei gyn wraig, sarah Ferguson o dan yr argraff y gallai mynediad i'w chyn wr fod o help mewn materion busnes.  Cafodd ei ffilmio yn dweud y canlynol wrth ohebydd papur newydd tra'n hawlio £500,000 ganddo:

If you want to meet him in your business, look after me, and he'll look after you.  You'll get it back tenfold.  That opens up everything you would ever wish for.  And I can open up any door you want.  And I will for you.



Wednesday, December 26, 2012

Pytiau brenhinol - rhan 1

Mae'n debyg y dyliwn i ddiolch i Golwg360 am adael i ni i gyd wybod beth oedd gan Charles Windsor i'w ddweud yn ei sgwrs radio y bore ma.  Petawn i wirioneddol eisiau gwybod mi fyddwn wedi gwrando fy hun, ond dyna fo - diolch i Golwg360 am sefyll yn y bwlch.



Ta waeth, cyn bod yna gymaint o sylw wedi bod yn y cyfryngau cyfrwng Cymraeg i faterion brenhinol, a chyn y bydd yna gymaint mwy tros y misoedd nesaf, efallai y byddai'n syniad i Flogmenai gymryd rhan yn yr hwyl a'r sbri - felly dyma ddechrau ar gyfres fach o flogiadau brenhinol eu naws - gyda'r bwriad o helpu defnyddwyr Blogmenai ddod i 'nabod y teulu hynod yma yn well.  Dyma'r gyntaf.

Pan oedd Charles Windsor yn dair oed, aeth ei fam i deithio gwledydd tramor am chwe mis a'i adael yn Lloegr.  Wedi iddi ddod adref bu wrthi am bedwar diwrnod yn dal i fyny efo'r gwaith papur ac am ddiwrnod yn y rasus ceffylau cyn rhoi cyfle i'w mab bach ei gweld.  Pan gytunodd i'w weld yn y diwedd bu'n rhaid iddo aros mewn ciw o bobl eraill yn disgwyl i gael cyfarfod a hi.  Pan ddaeth ei gyfle cafodd ysgwyd llaw efo'i fam.  

Tuesday, December 25, 2012

Nadolig Llawen

Dolig Llawen i holl ddarllenwyr Blogmenai

Monday, December 24, 2012

Rhywbeth i'w ddarllen tros y gwyliau

Dewis anarferol, ond diddorol i'r sawl sydd efo stumog go gryf fyddai Cruel Britannia gan Ian Cobain..  Edrych ar hanes y defnydd o artaith gan asiantaethau cudd wybodaeth y DU ers yr Ail Ryfel Byd hyd flynyddoedd diweddar mae'r llyfr, ac mae'n ddigon a chodi gwallt eich pen.

Geiriau Jack Straw wrth Bwyllgor Dethol Materion Tramor Ty'r Cyffredin yn 2005 ydi'r canlynol - mewn ymateb i honiadau bod Prydain a'r UDA yn gwneud defnydd o dechnegau arteithio:

Unless we all start to believe in conspiracy theories and that the officials are lying, that I am lying ... that Secretary [of State Condoleezza] Rice is lying, there simply is no truth in the claims that the United Kingdom has been involved in rendition, full stop, because we have not been.

Mae'n amlwg bellach bod yr honiadau o artaith gan asiantaethau cudd wybodaeth y DU yn ystod Rhyfel Irac yn wir a bod Jack Straw yn dweud celwydd.  Mae hefyd yn amlwg bod yr artaith hwnnw yn digwydd mewn cyd destun ehangach a bod hanes maith iddo..


Friday, December 21, 2012

Y Bib ac Eos

Os oes yna unrhyw un yn amau mai isel iawn ydi'r Gymraeg yn rhestr blaenoriaethau'r Bib, dylai'r anghydfod rhyngddynt ag Eos ynglyn a thaliadau i gyfansoddwyr am chwarae caneuon Cymraeg ar Radio Cymru gael gwared o'r amheuaeth hwnnw unwaith ac am byth.

Yn ol  Golwg360, dydi'r Bib ddim yn fodlon symud yn uwch na'u cynnig o £1.50 y funud am chwarae recordiau Cymraeg.  Rwan, dydw i ddim yn gwybod am faint o amser bydd recordiau Cymraeg yn cael eu chwarae ar y sianel, ond beth am setlo ar 5 awr y diwrnod am ennyd?  Efallai bod y ffigwr yn uwch na hyn, dwi ddim yn gwybod.

A chymryd hynny byddai diwrnod o recordiau Cymraeg yn costio £450 i'r Gorfforaeth.  Y gost flynyddol fyddai £164,250.  Pwynt cychwyn Eos oedd £5 y funud.  Byddai hyn yn cyfieithu i £300 yr awr a £574,250 y flwyddyn.  Mae'n sicr bod Eos wedi symud i lawr bellach o'u pwynt cychwynol, a dydi hi ddim yn afresymol i ddamcaniaethu y gallai'r Bib gael setliad am tua £250,000 y flwyddyn.

Mae'r rhain yn edrych yn swmiau mawr i chi a fi, ond newid man ydyn nhw i'r Bib.  Mae'n codi £3,600m o'r drwydded a ddim yn bell o £800m o ffynonellau eraill.  Mae'r ffigyrau yma'n fawr iawn - yn rhy fawr i'w dirnad mewn gwirionedd.  Ffordd arall o edrych ar bethau fyddai cymharu efo taliad diswyddo diweddar cyn reolwr cyffredinol y Bib, George Entwhistle.  Cafodd George £450,000 o dal di swyddo ar ol 54 diwrnod o waith - gwaith caled iawn yn ddi amau.  Roedd £225,000 o'r swm yma yn arian nad oedd rhaid i fwrdd y Bib ei dalu i ateb gofynion y gontract,  ond mi aethant ati i roi'r macs i George beth bynnag - er mwyn gwneud iddo deimlo ychydig yn well mae'n debyg.  Swm tebyg iawn i'r hyn y byddai'n rhaid iddynt (yn ol pob tebyg) ei dalu am flwyddyn o gerddoriaeth Cymraeg.

Mae rhoi pres mawr i'w uchel swyddogion ar eu hymddeoliad yn nodweddiadol o'r Bib.  Cafodd Mark Byford £1m  y llynedd, ac mae £4m wedi ei dalu i'r un pwrpas ers 2010 - llawer ohono'n arian nad oedd yn rhaid ei dalu i anrhydeddu contractau.  Mae'n ymddangos bod uchel swyddogion y Bib yn hynod, hynod ofalus efo pres y talwr trwydded pan mae'n dod i brynu'r hawl i chwarae cerddoriaeth Cymraeg, ond yn hapus efo cyfundrefn sy'n hynod wastraffus o'r pres hwnnw pan mae'n dod i roi taliad ffarwel iddyn nhw eu hunain.

Gyda llaw - yr hogiau a'r genod yma fydd yn gyfrifol am S4C maes o law - ond tydi hynny'n newyddion da?

Thursday, December 20, 2012

Gwil a Rhodri

Un o fanteision mawr darllen Golwg ydi cael gwybod yr hyn mae Gwilym Owen yn ei feddwl.  Yr wythnos yma rydym yn cael bargen ddwbl - sef cael ar ddallt gan Gwilym ei fod o a'i gyd grach Llafuraidd - Rhodri Morgan wedi ei chracio hi o ran achub y Gymraeg.  Yr hyn sydd rhaid ei wneud da chi'n gweld ydi rhoi'r iaith yn ol i'r dosbarth gweithiol.

Rwan, rydan ni wedi edrych ar ddamcaniaeth Gwilym mai iaith ddosbarth canol ydi'r Gymraeg yn y gorffennol - a chael mai prin ydi'r dystiolaeth ystadegol i'w chefnogi - nid bod tystiolaeth ac ystadegau a 'ballu yn debygol o gael fawr o effaith ar 'resymu' Gwil wrth gwrs.

Ond, cyn ei bod yn dymor o ewyllys da, mae'n debyg y dyliwn dalu teyrnged i Rhodri am weithredu yn unol a'i ddaliadau.  Trwy beidio a magu ei blant i siarad Cymraeg, roedd yn cymryd cam ymarferol ac effeithiol i ddadgysylltu'r iaith oddi wrth y crachach cyfryngol yng ngolwg y werin datws.  Wedi'r cwbl, beth sydd yn fwy crachaidd nag addysg yn Rhydychen a chartref yn  Llanfihangel-y-pwll? 

Gobeithio nad ydi ymdrechion y cyfryw blant i ddysgu'r Gymraeg ar ol tyfu i fyny wedi dad wneud holl waith da eu tad.

Tuesday, December 18, 2012

Oes gan Simon Brooks bwynt ynglyn a Sir Gaerfyrddin?

Dwi ddim yn awgrymu am ennyd na ddylid buddsoddi yn y Gymraeg yn y sir wrth gwrs (dwi ddim yn siwr os mai dyna beth oedd Simon yn ei awgrymu chwaith a dweud y gwir), ond mae'r graffiau isod sy'n dangos strwythur oedran y sawl yn siarad y Gymraeg.  Maent wedi eu cymryd o safwe Comisiynydd y Gymraeg ac maent yn awgrymu bod problemau Sir Gar yn wahanol i rai'r rhan fwyaf o siroedd eraill - yn arbennig felly y rhai Cymreiciaf.

Fel Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot, dwy sir gyfagos, mae'r canrannau o bobl mewn oed sy'n siarad y Gymraeg yn llawer uwch nag ydi rhai oedolion ieuengach.  Mae hyn yn gwbl groes i batrwm Gwynedd, Mon a Cheredigion (i raddau llai).  Mae hefyd yn wahanol iawn i'r patrwm yn siroedd y De Ddwyrain.  Mae hyn yn ei dro yn awgrymu bod yna broblemau sylfaenol o ran trosglwyddo'r Gymraeg o un genhedlaeth i'r nesaf yn y De Orllewin, tra bod y trosglwyddiad hwnnw yn hynod effeithiol mewn llawer o siroedd eraill. 

Efallai bod cefnogi'r iaith yn y De Orllewin yn gofyn am strategaeth wahanol i'r un sydd ei hangen yn y rhan fwyaf o Gymru - ac yn wir bod angen strategaethau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Sunday, December 16, 2012

Iaith y siop a iaith y stryd

Roeddwn yn falch i gael bod ymysg y cannoedd o bobl ddaeth ynghyd heddiw i rali Cymdeithas yr Iaith ar y Maes yng Nghaernarfon.

Un o'r pethau a fydd o bosibl wedi taro'r sawl ddaeth yno o bell ydi'r gwahaniaeth rhwng yr iaith ar y stryd a'r iaith a fyddant wedi ei chlywed yn nifer o'r siopau.  Mae mwy o bobl ddi Gymraeg yn gweithio yn siopau Caernarfon nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl.  Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn gydnabod nad ydw i'n un am siopa - anaml iawn y byddaf yn mynd i siop o unrhyw fath - ond gallai'r Mrs siopa tros Gymru - a dwi'n mynd ar ei thystiolaeth hi efo llawer o'r manylion sydd i ddilyn.

Mae yna un rheswm gweddol syml am y tangynrychiolaeth o weithwyr siopa Cymraeg eu hiaith.  Ceir sector gyhoeddus mawr iawn yn ardal Caernarfon, ac mae mwyafrif llethol y gweithwyr yn y sector honno yn siaradwyr Cymraeg.  O ganlyniad mae'n dilyn bod gor gynrychiolaeth o bobl di Gymraeg yn y pwll o weithwyr sydd ar gael i'r sector breifat.  Mae hyn yn gwbl ddealladwy.

Ond mae yna fwy i'r stori na hynny mae'n debyg - ceir amrywiaeth mawr ymysg i siopa yng Nghaernarfon.  Ewch i Stermat neu Boots, ac mae'n dra thebygol y byddwch yn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.  Ewch i'r Factory Shop gerllaw ac mae hynny'n anhebygol - er bod Factory Shop Porthmadog yn ddigon Cymreig.  Ewch i Tesco a gallwch ddisgwyl gael eich gwasanaethu gan bobl Cymraeg eu hiaith, mae hynny'n llawer llai tebygol ym Morrisons.

Ewch i Peacocks dydych chi ddim yn debygol o gael rhywun ar y til yn siarad Cymraeg, byddai Craftcentre England weithiau yn enw mwy addas ar Craftcentre Cymru, mi wneith y sawl sy'n gweithio yn Johnsons edrych arnoch fel petaech yn dioddef o rhyw anhwylder seicolegol os ydych yn cychwyn sgwrs yn y Gymraeg, 50/50 ydi pethau yn Superdrug, mae'n debyg mai trwy gyfrwng y Saesneg y byddech yn prynu par o sgidiau yng Nghaernarfon gan mai di Gymraeg ydi'r rhan fwyaf o weithwyr Stead & Simpsons.  Gwasanaeth Saesneg rydych yn debygol o'i gael yn Spar hefyd. Ers talwm mi fyddai pawb bron yn Clinton Cards neu Ethel Austin yn ddi Gymraeg, ond maen nhw wedi cau
.
Mi fyddwch chi'n prynu eich cig trwy gyfrwng y Gymraeg ta waeth pa gigydd y byddwch yn ei ddefnyddio, ac mi fyddwch yn prynu llyfrau trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd - os ydych yn mynd i Palas Print, Na Nog neu hyd yn oed i WH Smiths - er bod y lle hwnnw yn enwog o Seisnig ers talwm.  Mae'n debyg mai'r Gymraeg y byddwch yn ei defnyddio i gael eich car wedi ei drwsio, neu os ydych eisiau prynu deunyddiau adeiladu neu bot o baent.

Mae'r un peth yn siwr o fod yn wir am ardaloedd eraill yng Nghymru - er enghraifft doedd yna fwy neu lai ddim gweithwyr Cymraeg eu hiaith yn Focus Do It All ym Mangor.  Pan aeth yr hwch trwy'r siop arbennig yna, agorwyd The Range ar yr un safle.  Mae bron i bawb sy'n gweithio yno yn siarad y Gymraeg.

Rwan mae'n anhebygol iawn bod hyn oll yn fater o hap a damwain.  Gellir awgrymu nifer o resymau posibl.  Er enghraifft mae'n ddigon posibl bod rhywun sy'n ateb cwestiynau cyfweliad mewn acen Maenceinion am swnio'n well i reolwr adnoddau dynol o Bolton, na rhywun sy'n siarad Saesneg fel mae trigolion tref Caernarfon yn ei siarad.   Mae'n debyg bod ambell i fusnes yn adleoli gweithwyr o ardal arall. Mae hefyd yn bosibl hefyd bod rhai pobl sydd a'r grym i wneud y penderfyniadau 'ma yn anghyfforddus efo'r syniad o gael y rhan fwyaf o bobl o'u cwmpas yn siarad iaith nad ydynt yn ei deall.

Mae hefyd yn weddol amlwg nad ar hap a damwain mae llawer o weithwyr mewn rhai siopau yn siarad y Gymraeg - mae yna rhai mathau o waith sy'n denu Cymry Cymraeg - gwaith sy'n ymwneud a cheir, cig neu frics er enghraifft - ond mae hefyd yn debygol bod rhai busnesau yn cyflogi Cymry Cymraeg yn fwriadol.  Flynyddoedd yn ol roeddwn yn arfer chwarae sboncen efo un o gyn reolwyr Tesco, Caernarfon - Sais rhonc. Roedd yn dweud eu bod yn mynd ati yn fwriadol i sicrhau bod y sawl oedd yn dod i gysylltiad efo'r cyhoedd yn siarad y Gymraeg oherwydd eu bod o'r farn mai dyna oedd dymuniad y rhan fwyaf o'u cwsmeriad.

Rhag bod camddealltwriaeth 'dwi ddim yn dadlau am funud na ddylai siopau mewn lleoedd Cymraeg gyflogi'r di Gymraeg - mae gan pawb hawl i weithio, ac mae gan bawb hawl i ystyriaeth deg pan maent yn gwneud cais am waith. Ond 'dwi yn credu ei bod yn rhesymol i ddisgwyl gwasanaeth Cymraeg gweddol ddi drafferth  mewn siop mewn ardal Gymraeg - ac mewn ardaloedd llai Cymraeg hefyd lle mae'r capasiti gan fusnes i wneud hynny

A daw hyn a ni at rhywbeth sy'n cysylltu a'r blogiad diwethaf ond un - y pethau y gallwn eu gwneud i ddyrchafu'r Gymraeg. Mae'n briodol i garedigion y Gymraeg bwyso ar yr awdurdodau i gefnogi'r iaith, ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cymryd cyfrifoldeb personol. Os nad ydym yn hapus efo gwasanaeth o unrhyw fath, waeth i ni heb a disgwyl i'r sawl sy'n darparu'r wasanaeth honno addasu oni bai ei fod yn gwybod am yr anfodlonrwydd. Felly os nad ydych yn gallu cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg mewn siop mewn ardal Gymraeg, ysgrifennwch at y cwmni sydd biau'r siop i dweud eich bod yn ystyried rhoi'r gorau i'w defnyddio oherwydd nad ydych yn gallu cael darpariaeth yn eich iaith eich hun yno. Os gwneith digon o bobl weithredu felly, gellir gwneud gwahaniaeth. Mi wneith unrhyw gwmni gwerth ei halen addasu ei weithdrefnau yn wyneb bygythiad i'w elw.

Friday, December 14, 2012

Hunaniaeth Brydeinig - y bwlch rhwng propoganda'r cyfryngau a barn y dyn a'r ddynas ar y stryd

Dwi wedi bod yn ddigon digywilydd i ddwyn y tabl isod oddiwrth y blog Syniadau:


In Wales:
Welsh only ... 57.5%
Welsh and British only ... 7.1%
Welsh and any other(s) ... 1.2%
Welsh in any form ... 65.9%
Not Welsh ... 34.1%
British only ... 16.9%
British and any other(s) ... 9.4%
British in any form ... 26.3%
Not British ... 73.7%
English only ... 11.2%
English and British only ... 1.5%
English and any other(s) ... 1.1%
English in any form ... 13.8%
Not English ... 86.2%
In England:
English only ... 60.4%
English and British only ... 9.1%
English and any other(s) ... 0.7%
English in any form ... 70.1%
Not English ... 29.9%
British only ... 19.2%
British and any other(s) ... 10.1%
British in any form ... 29.3%
Not British ... 70.7%
Welsh only ... 0.6%
Welsh and British only ... 0.1%
Welsh and any other(s) ... 0.1%
Welsh in any form ... 0.8%
Not Welsh ... 99.2%
Census 2011, Table KS202EW
Pwynt Mike ydi mai lleiafrif o Gymry a Saeson sydd yn eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr - ac eto mae'r cyfryngau Prydeinig yn troelli'r celwydd bod Prydain yn wlad yn hytrach na gwladwriaeth.

Mae yna fwlch rhwng yr hyn mae'r cyfryngau yn ei honni mae John Jones a Joe Bloggs yn ei gredu ynglyn a'u hunaniaeth, a'r hyn mae Mr Jones a Mr Bloggs yn ei gredu ynglyn a'u hunaniaeth.

Mae o'n llygaid ei le - fel arfer.

Gwnewch y pethau bychain

Mi fyddwn  yn dod yn ol at ddyfodol y Gymraeg a'r cyfrifiad sawl gwaith rhwng rwan a'r Nadolig - a thu hwnt.  Pwrpas y blogiad byr hwn ydi gwneud pwynt cyffredinol ynglyn a dyfodol y Gymraeg - pwynt y byddwn hefyd yn dychwelyd ato sawl tro.

Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn bobl sydd yn gefnogwyr brwd i'r iaith - ac yn bobl sy'n ei chael yn anodd deall pam nad ydi nifer o bobl yn rhannu'r arddeliad hwnnw.

Tra bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn gefnogol i'r Gymraeg mewn modd cyffredinol, dydi'r gefnogaeth honno ddim digon cryf iddynt gymryd camau fyddai o gymorth go iawn iddi - ei dysgu neu magu eu plant i'w siarad.

Yr hyn sy'n debygol o gymell y rhan fwyaf o bobl i fynd i'r drafferth ydi canfyddiad bod y Gymraeg o ddefnydd materol - ymarferol iddyn nhw a'u plant.  Collwyd y Gymraeg mewn aml i ran o Gymru oherwydd y canfyddiad ei bod yn gysylltiedig a thlodi a diffyg cyfleoedd.  Canfyddiad i'r gwrthwyneb wneith adfer yr iaith.  Mae'n ddigon posibl mai gwahaniaeth mewn canfyddiad o statws a gwerth yr iaith ydi'r rheswm bod y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn llawer mwy effeithiol o un genhedlaeth i'r llall yn y Gogledd Orllewin nag  yn y De Orllewin.

Rwan dydi un weithred, datganiad, deddf na dim arall ddim yn newid canfyddiad pobl o werth a statws iaith ar ei ben ei hun - mae delwedd iaith yn rhywbeth sydd wedi ei hadeiladu o nifer dirifedi o elfennau gwahanol - llawer ohonynt yn fach a di nod ar eu pennau eu hunain, ond yn arwyddocaol a phwysig mewn cyfuniad a'i gilydd.  Mi'r ydan ni i gyd yn gallu cyfrannu at godi bri a statws y Gymraeg yn ein bywydau pob dydd - pob tro rydym yn dechrau sgwrs yn y Gymraeg, pob tro rydym yn mynegi ein bod eisiau gwasanaeth yn y Gymraeg, pob tro rydym yn darparu gwasanaeth yn y Gymraeg, pob tro rydan ni'n trydar yn y Gymraeg - ac ati, ac ati.

Ond ambell waith bydd y cyfle yn codi i wneud rhywbeth bach sy'n arwain at newid eithaf arwyddocaol.  Esiampl o hynny ydi'r cynghorydd o Gaerdydd Neil McKevoy yn siarad yn y Gymraeg yn siambr Cyngor Caerdydd y mis diwethaf - gweithred a arweiniodd at ddarpariaeth cyfieithu a rhagor o gynghorwyr yn ymarfer y Gymraeg yn gyhoeddus mewn cyfarfod o'r cyngor fis yma.  Un weithred fach yn arwain at rhywbeth sy'n codi statws y Gymraeg yn arwyddocaol ym mywyd gwleidyddol y brif ddinas.  Gwych.

Byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill syml o hybu canfyddiad pobl o werth y Gymraeg tros y dyddiau nesaf.

Wednesday, December 12, 2012

Cymhariaeth lawn rhwng 2001 a 2011

Diolch i Syniadau am y gwaith trylwyr arferol - cymhariaeth lawn rhwng 2001 a 2011 y tro hwn.

Diolch MH -  ti wedi arbed llwyth o waith i rai ohonom!

Y Cyfrifiad rhan 2 - sylw neu ddau ynglyn a sylwadau pobl eraill

Un sylw sydd wedi ei wneud ynglyn a'r cwymp yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ydi nad yw 'mor
ddrwg a hynny' oherwydd nad oedd yn agos cyn waethed a'r cwymp rhwng 1961 a 1971 (o 26% i 19.8%).  Rwan mae gen i ofn bod hyn yn optimistiaeth di feddwl - mae'r Byd wedi newid yn llwyr ers 71.  Mae yna strwythurau lu sydd wedi eu gosod i gynnal yr iaith heddiw, doedd yna ddim strwythurau felly bryd hynny.  Hefyd mae'n debyg bod natur y boblogaeth Gymraeg ei hiaith yn fwy bregys heddiw - yn 1971 roedd y rhan fwyaf ohonom yn rhugl ein Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith yn aml - dydi hynny ddim yn wir heddiw.  Roedd yna fwy o gadernid i 19.8% 1971 na sydd i 19% 2011.

Mae'n fy mhoeni braidd nad yw'r gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith yn gweld argyfwng.  Nid fy mod i'n bersonol yn credu bod argyfwng eto - ond mae Leighton Andrews yn ddyn sy'n gweld creisis ym mhob twll a chornel.  Mae o'r farn bod y ddarpariaeth addysg yn 'ofnadwy' yng Nghymru, er nad oes ganddo fawr o dystiolaeth meintiol tros ddweud hynny - ac mae'n bygwth troi'r gwasanaeth addysg yng Nghymru a'i ben i lawr yn wyneb y canfyddiad hwnnw.  Y tebygrwydd ydi nad yw Leighton o'r farn bod y Gymraeg yn flaenoriaeth, a ni fydd yna ddim byd llawer yn newid.

A daw hyn a ni at addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae llawer wedi rhoi eu ffydd yn nhwf y sector cyfrwng Cymraeg, ac yn edrych i'r cyfeiriad hwnnw am waredigaeth.  Does yna ddim amheuaeth bod y sector cyfrwng Cymraeg yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg - ond mae'r twf yn y sector yn boenus o araf.  Rhwng 2005 a 2011 mae'r ganran o blant oed cynradd sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 19.6% i 21.4%.  Mae hyn yn gynnydd o ychydig mwy na 0.3% y flwyddyn.  Rwan mae'n ddigon posibl nad ydi hyn yn ddigon i wneud iawn am y colledion sy'n digwydd oherwydd allfudo o ran Cymry Cymraeg a mewnfudiad pobl ddi Gymraeg.

Nid diffyg galw sy'n gyfrifol am arafwch y cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg - mae yna ddigon o hynny.  Y broblem ydi llusgo traed wrth ymateb i'r galw ar raddfa gwrth arwrol gan rai o awdurdodau lleol y wlad.  Petai Leighton eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i sefyllfa'r iaith, mae yna ffordd gweddol hawdd iddo wneud hynny.  Petai yn ei gwneud yn blwmp ac yn blaen i awdurdodau lleol bod rhaid iddynt asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, mynnu eu bod yn gweithredu yn ddiymdroi ar ganfyddiadau'r asesiad hwnnw, a chyfarwyddo ESTYN i edrych ar sut mae awdurdodau yn asesu galw a darparu yn y maes - a chymryd y camau arferol os ydynt yn methu ymgymryd a'u dyletswyddau.  Mi fyddai gweld Cyngor Merthyr yn mynd trwy'r un felin a chynghorau Dinbych, Penfro a Mon oherwydd ei ddiffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gwneud gwyrthiau i'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru - credwch fi.

Yn bersonol mi fyddai'n well gen i gael fy nghofio fel y boi a achubodd yr iaith Gymraeg na'r boi a symudodd Cymru dri neu bedwar lle yn uwch yng nghyngrhair Pisa.  Yn anffodus mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai'r gwrthwyneb sy'n wir am Leighton.  

Y Cyfrifiad - Rhan 1 - Strwythur Oed Cymry Cymraeg yng Ngwynedd

Fydd yna ddim llawer o flogiadau gobeithiol yn y gyfres yma, ond waeth i ni ddechrau efo un.  Isod ceir strwythur oedran y Cymry Cymraeg yng Ngwynedd.  Fel y gwelir mae'r patrwm yn 'iach' i'r graddau bod y grwpiau oedran ieuengaf yn llawer mwy tebygol o fod yn siarad Cymraeg na'r rhai hynaf.

Fedra i ddim dod o hyd i set o ddata i gymharu'n uniongyrchol efo'r tabl ond dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod y canrannau hyd at 14 oed ychydig yn uwch yn 2011 nag oedd yn 2001, bod cwymp bach wedi bod yng nghanrannau'r grwpiau 25 - 59 (tua 1.5%), cwymp mwy yn y grwp 60+  (tua 6%) a chwymp o tros i 8% yn y grwp 15\24.

Rwan dydan ni ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm am yr amrywiaeth yma, ond mi fedrwn ni fwrw amcan.  Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngwynedd - y rhan fwyaf ohonynt ym Mangor.  Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor.  Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori  15 - 24. 

Bydd y canlyniadau nesaf yn niwedd Mis Ionawr yn rhoi awgrym cryf i ni os ydi hynny'n wir.  Os bydd cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn wardiau Bangor, gallwn gymryd mai ffactorau sy'n ymwneud efo'r Brifysgol ydi un o'r rhesymau mwyaf am y cwymp anisgwyl o fawr yng Ngwynedd.

Byddai cwymp sylweddol yn y wardiau gwledig arfordirol hefyd yn awgrymu mai pobl o'r tu allan o Gymru yn dod i Wynedd i ymddeol sy'n gyfrifol am y cwymp yn y categori 60+. 

Cwymp ydi cwymp wrth gwrs - ond byddai cwymp sylweddol yn y cohort oed sy'n esgor ar blant yn llawer mwy difrifol na chwymp ymysg pensiynwyr, a fydd cynydd mawr ymysg myfyrwyr ddim yn gwneud llawer o niwed parhaol i'r iaith chwaith.



Oed          Canran siarad Cymraeg

3\4                         73%

5\9                         91%

10\14                     93%

15\19                     72%

20\24                     51%

25\29                      68%

30\34                      70%

35\39                      69%

40\44                      67%

45\49                      64%

50\54                      58%

55\59                      58%

60\64                      54%

65\69                      54%

70\74                      58%

75\79                      60%

80\84                      61%

85+                         62%

Tuesday, December 11, 2012

Cyfrifiad 2011 a'r Gymraeg

Does gen i ddim amser i sgwennu blogiad go iawn ar y ffigyrau a ryddhwyd heddiw - ac mi'r ydw i eisiau golwg iawn ar y data cyn i mi wneud hynny beth bynnag.

Serch hynny mae'n debyg nad oes rhaid i mi nodi bod y ffigyrau yn siomedig, ac yn siomedig mewn gwahanol ffyrdd ar hyd a lled Cymru.  Byddaf yn dod yn ol at hyn maes o law.

Monday, December 10, 2012

Gair o rybudd ar drothwy'r cyfrifiad

Mi briodais i a Nacw ar ddiwrnod cyntaf 1982 yng Nghaerdydd.  Fisoedd cyn hynny roedd rhaid i ni gael cyfweliad gan ficer, sydd yn digwydd bod yn dad i rhywun a ddaeth yn wleidydd adnabyddus wedi hynny.  Ar y ffordd i mewn cawsom sgwrs a'i wraig, oedd yn siaradwraig Gymraeg o'r Gorllewin.  Roedd y cyfrifiad oedd i'w gynnal ychydig wythnosau wedi hynny ar ei meddwl.   Siarsiodd ni i wneud yn siwr ein bod yn cofio dweud ein bod yn siarad Cymraeg.  Aeth ymlaen i ddweud ei bod am honni bod ei gwr yn siarad Cymraeg.  Pan fynegais syndod ei fod yn gallu siarad yr iaith, dywedodd nad oedd yn siarad fawr ddim - ond ei bod yn bwysig bod y niferoedd cyn uched a phosibl yng Nghaerdydd er mwyn cryfhau'r ddadl i gael gwasanaethau Cymraeg yn y ddinas.

Ddegawd yn ddiweddarach roeddwn yn un o'r creaduriaid hynny sy'n mynd o dy i dy yn hel ffurflenni cyfrifiad.  Ceunant oedd fy llecyn bach i - ardal wledig ond Cymraeg iawn o ran iaith ar gyrion Caernarfon.  Mi es i un ty a mynd trwy ffurflen cwpl mewn oed efo nhw.  O gyrraedd y cwestiwn iaith, dywedais wrthynt eu bod wedi gwneud camgymeriad - roeddynt wedi nodi nad oeddynt yn siarad y Gymraeg - er bod y sgwrs rhyngom wedi bod yn un trwy gyfrwng y Gymraeg - pob gair.  Roeddynt yn benderfynol nad oeddynt yn siarad yr iaith - 'Dydan ni ddim yn siarad Cymraeg fatha chi'.  Ond roeddynt yn siarad Cymraeg yn union fel fi.  Dwi'n siwr nad oeddynt yn Gymry yn yr ystyr eu bod wedi eu geni a'u magu yma, ond roeddynt wedi byw yma am y rhan fwyaf o'u bywydau, ac roeddynt yn siarad Cymraeg cystal a neb arall.  Wrth ateb y cwestiwn roeddynt yn gwneud datganiad ynglyn a'u hunaniaeth genedlaethol yn hytrach na'u sgiliau ieithyddol.

A pwynt y blogiad yma?  Dydi ffigyrau cyfrifiad ddim am ddweud y stori i gyd - yng nghyd destun iaith o leiaf.  Mae rhai pobl yn meddwl am lawer mwy na iaith wrth ateb y cwestiwn iaith.  Ac wrth gwrs, 'does yna ddim cwestiwn ynglyn a pha mor aml y bydd pobl yn gwneud defnydd o'u hiaith.

Sunday, December 09, 2012

Marwolaeth rhywun arall oedd yn gweithio i'r Bib

Tra ein bod ni wrthi am y cyfryngau, tybed os ydi o'n mynd ar nerfau rhywun arall fel mae'r Bib yn gwneud mor a mynydd o farwolaethau pobl sydd wedi bod yn gweithio iddi?

Mi fyddai rhywun wedi tybio o wylio newyddion y Bib heddiw mai marwolaeth Patrick Moore yn 89 oed oedd y digwyddiad pwysicaf yn y Byd.  Yn sicr dyna'r stori sydd wedi bod ar flaen pob bwletin 'cenedlaethol' trwy'r dydd.  Mi fydd y Bib ar lefel Prydeinig a Chymreig yn gwneud y math yma o beth yn rheolaidd.  Dydw i ddim yn siwr pam, efallai bod y sefydliad mor ynysig nes bod y sawl sy'n gweithio iddi yn credu bod pawb yn y DU yn teimlo marwolaeth eu cydweithwyr fel maen nhw'n ei wneud.  Neu o bosibl mae'r sefydliad mor uffernol o hunan bwysig nes credu yn wir bod marwolaeth eu cyflwynwyr enwocaf yn faterion o bwysigrwydd Byd eang.

Ta waeth, mae'r angen yma i glodfori pobl ei hun doed a ddel  wedi cael y Bib mewn cryn dipyn o drafferth yn ddiweddar.  Ei bwriad i gyflwyno rhaglenni yn canmol y diweddar Jimmy Savile i'r cymylau oedd y rheswm mae'n debyg i Newsnight beidio a chael darlledu eitem oedd yn edrych at ei dueddiadau troseddol.  Mae'r gweddill yn hanes - a benthyg idiom Saesneg.

Does yna ddim awgrym o gwbl i Patrick Moore wneud rhywbeth troseddol wrth gwrs, ond mae'n drawiadol nad ydi ymdriniaeth y Bib o Patrick Moore yn cyffwrdd efo rhai o'r pethau rhyfedd y dyn - yn arbennig felly ei syniadau gwleidyddol anarferol.

Ymddengys nad oedd Patrick yn or hoff o ferched, ac roedd o'r farn na ddylent gael swyddi rheolaethol gan y Bib - na hyd yn oed ddarllen y newyddion.  Yn wir roedd yn meddwl y byddai'n syniad da i gael sianeli gwahanol i ddynion a merched.   Roedd yn gadeirydd y New Country Party - plaid adain dde, wrth fewnfudo yn y 70au.  Roedd hefyd  o'r farn na ddylid ymddiried mewn Ffrancwyr nag Almaenwyr.  Roedd yn un o noddwyr UKIP, roedd yn wrthwynebus i fesuriadau metrig, Ewrop, a'r Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol, Roedd hefyd o'r farn mai pobl hoyw oedd yn gyfrifol am ehangu AIDS oherwydd mai 'Adam & Eve ac nid Adam & Steve oedd yng Ngardd Eden'.

Ond dyna fo, y Bib ydi'r Bib - waeth i ni heb a chwyno mwy na chwyno am y gwynt a'r glaw.  Mae hyfdra gwaelodol y gorfforaeth mor ddi gyfnewid a'r gwynt a'r glaw.



Marwolaeth Jacintha Saldanha a rhagrith y cyfryngau Prydeinig

Mae'r sterics cyfryngol ynglyn a marwolaeth Jacintha Saldanha yn adrodd cyfrolau am werthoedd gwaelodol y cyfryngau Prydeinig.  Mae yna rhywbeth sy'n ymylu ar gonsensws mai bai'r ddau gyflwynydd radio Awstralaidd Michael Christian a Mel Grieg yn ffonio Ysbyty Edward 7fed i holi am iechyd Kate Middleton tra'n cymryd arnynt mai Elizabeth a Charles Windsor oedd marwolaeth  Mrs Saldanha.

Rwan, dydan ni ddim yn gwybod yn union beth oedd yn mynd trwy feddwl Jacintha Saldanha pan aeth ati i ladd ei hun - ond mae yna nifer o bethau yr ydym yn ei wybod.  Y pwysicaf ydi nad oedd gan y ddynas anffodus fynediad i Radio Aestero.  Serch hynny roedd ganddi ddigon o fynediad i'r BBC, Sky, y Daily Mail a'r holl gor hunangyfiawn o asiantaethau cyfryngol Prydeinig.  Os mai' ymdriniaeth cyfryngol oedd yn gyfrifol am ei gwneud mor anhapus nes iddi ladd ei hun, ymdriniaeth y cyfryngau Prydeinig oedd hwnnw, nid ymdriniaeth cyfryngau Awstralia.   

Mae'r ffordd mae'r cyfryngau Prydeinig yn ymdrin a'r teulu 'brenhinol' yn sylfaenol abnormal.  Caiff pob dim sy'n ymwneud a'r teulu yma ei or liwio, ei or ddweud, ei chwyddo, ei bwmpio i fyny y tu hwnt i pob rheswm.  Rhoddir arwyddocad anferth i faterion sydd mewn gwirionedd yn gwbl gyffredin a di ddim.  Y rheswm am hynny ydi bod y cyfryngau wedi gwneud cenhadaeth iddynt eu hunain i ddyrchafu a dwyfoli'r teulu Windsor.

Mater bach iawn mewn gwirionedd oedd camgymeriad Jacintha Saldanha - pasio galwad ffon yn ei blaen pan na ddylai fod wedi gwneud hynny.  Petai'r alwad honno yn holi am iechyd Jane Bloggs yn hytrach na Kate Middleton, go brin y byddai wedi colli cwsg tros y mater.  Ond yn anffodus i Jacintha Saldanha holi am Kate ac nid Jane oedd yr alwad, ac o ganlyniad aeth y cyfryngau ati i wneud yr hyn maent yn ei wneud gyda phob stori 'frenhinol'  - gor ddweud, gor liwio, chwyddo, a chael sterics.  O ganlyniad roeddynt yn creu'r canfyddiad bod mater cymharol fach yn un o dragwyddol bwys.  Gwaetha'r modd roedd un o'r bobl oedd yng nghanol y stori yn fregus, ac ymatebodd i'r pwysau o fod yng nghanol y sterics cyfryngol mewn  ffordd anragweladwy.  

Y cyfryngau Prydeinig oedd yn creu y pwysau a'r sterics - er bod y cyfryngau hynny yn anhebygol iawn o sylwi ar hynny a hwythau ynghanol rownd arall eto fyth o sterics brenhinol.

Saturday, December 08, 2012

Colofn Angharad Mair a'r defnydd o alcohol yng Nghymru

Mi fydd Blogmenai yn anghytuno yn fynych efo un o golofnwyr rheolaidd Golwg - Gwilym Owen.  Dydi'r wythnos yma ddim yn eithriad wrth gwrs - ond crafu asgwrn efo colofnydd y byddaf yn cytuno a hi fel rheol y bydda i heddiw.  Fy mhrif  gwyn yn erbyn Gwilym fel rheol ydi'r ffaith ei fod yn seilio ei golofnau ar ei ragfarnau ei hun, ac yn trin y rhagfarnau hynny fel ffeithiau 'caled' yn hytrach na'r rwdlan anwybodus yr ydynt mewn gwirionedd.  Mae gen i ofn bod Angharad yn seilio ei cholofn ar ragfarn yr wythnos yma.

Byrdwn y golofn ydi bod 'Cymru'n nofio mewn alcohol' a bod angen cymryd camau i achub y wlad rhag boddi yn y stwff - cuddio alcohol mewn arch farchnadoedd a gwahardd alcopops er enghraifft. Mae'n rhaid bod cof go lew gan Angharad i gofio'r rheiny.  Rwan mae Angharad yn well colofnydd o lawer na Gwilym ac mae'n caniatau i ffeithiau, ystadegau ac ati grwydro i mewn i'w dadl - ond mae'n hynod ddethol ynglyn a'r  ystadegau hynny.

Y gwir amdani ydi nad yw Cymru yn nofio mewn alcohol. Mae Angharad yn edliw diflaniad y mudiad dirwestol, ond mewn cyd destun hanesyddol rhyw eithriad hynod anarferol oedd y feddylfryd oedd ynghlwm a'r mudiad hwnnw.  Mae'r cyffur wedi ei ddefnyddio gan y ddynoliaeth yng Nghymru am o leiaf bedair mil o flynyddoedd.  Mae yna adegau pan rydym wedi yfed mwy nag y gwnawn heddiw, ac mae yna adegau pan rydym wedi yfed llai.  Mae yna adegau pan mae pris alcohol wedi bod yn is (mewn termau real) nag yw heddiw, ac mae yna adegau pan mae wedi bod yn uwch.  Mae yna adegau pan mae argaeledd y stwff wedi bod yn ehangach, ac mae yna gyfnodau pan mae wedi bod yn fwy cyfyng.

Yn wir petai Angharad wedi ei geni bedair neu bum can mlynedd yn ol mi fyddai'n yfed cwrw efo'i brecwast, gan mai dyna'r unig ffordd o yfed hylif yn ddiogel.  O edrych ar batrymau yfed alcohol hanesyddol mae'n debyg i gyfraddau syrthio rhwng diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwerydd ganrif ar bymtheg, cyn cynyddu yn sylweddol iawn hyd at 1880, syrthio tan tua 1960 a dechrau cynyddu drachefn a pharhau i wneud hynny tan 2002, ond syrthio pob blwyddyn ers hynny.  Yn wir mae faint o alcohol a yfir gan ddynion ifanc wedi haneru yn y ddegawd rhwng 1999 a 2009.  Doedd yna ddim un blwyddyn yn yr ugeinfed ganrif na'r unfed ganrif ar hugain lle cyrhaeddodd y lefelau yn agos at rhai 1900.

Mae ystadegau helaeth i'w cael ynglyn a'r defnydd o alcohol ym Mhrydain, ac er bod rhai penodol ar Gymru yn fwy prin, does yna ddim rheswm i feddwl bod y patrymau cyffredinol yng Nghymru yn gwahaniaethu'n sylweddol oddi wrth y rhai yn y DU yn ehangach - er bod rhai mathau o or yfed yn fwy amlwg yn Lloegr nag yng Nghymru. Gweler yma am ymdriniaeth gryno.

Rwan ar gyfartaledd mae unigolion ym Mhrydain yn yfed 13.37 litr o alcohol pur yn flynyddol.  Mae hyn yn weddol uchel o gymharu a gweddill y Byd, ond mae'n ganolig mewn cyd destun Ewropiaidd.  Mae'r gyfradd yma ychydig yn is nag yw yn Ffrainc neu Iwerddon, ond mae ychydig yn uwch na'r Almaen.  Mae'n arwyddocaol is nag yw yn y rhan fwyaf o wledydd Dwyrain Ewrop.


Mae Angharad yn tynnu sylw at yfed ymhlith yr ifanc, marwolaethau oherwydd yfed ac yfed a gyrru, ac mae'n awgrymu mai'r rheolau mwy rhyddfrydig diweddar ynglyn a gwerthu alcohol sy'n gyfrifol am hyn oll.  Y gwir ydi bod llawer mwy o yfed alcohol ymhlith pobl hyn na phobl iau - 7% o ddynion rhwng 16 a 24 sy'n yfed pum diwrnod allan o saith a 2% o ferched.  Y ffigyrau cyfatebol am bobl tros 65 ydi 27% a 14%.  Serch hynny mae tua phum gwaith yn fwy cyffredin i bobl ifanc yfed 8 uned neu fwy mewn un diwrnod na rhai mewn oed.  Mae pobl mewn oed yn yfed yn gyson ond yn gymhedrol tra bod rhai ifanc yn yfed yn llai aml o lawer ond yn drymach.  Mae'r canrannau sy'n yfed yn drwm wedi cwympo yn sylweddol ers i reolau gwerthu alcohol gael eu gwneud yn fwy rhyddfrydig, gyda'r ffigyrau wedi syrthio o 39% yn 1998 ymysg dynion ifanc a 24% ymysg merched.

Mae pobl broffesiynol yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio alcohol na phobl yn y grwpiau socio economaidd isel,   Mae'r nifer o farwolaethau mewn damweiniau ffordd lle mae yfed alcohol yn ffactor wedi haneru ers 1997 , ac mae damweiniau ffordd yn gyffredinol sy'n ymwneud ag alcohol wedi syrthio'n sylweddol yn y cyfnod hwnnw hefyd.  Serch hynny mae marwolaethau yn gyffredinol oherwydd afiechydon a achosir gan alcohol wedi cynyddu o 24% rhwng 2001 a 2010 - er bod cwymp diweddar wedi bod yn y ffigyrau hynny hefyd.

Rwan dydw i ddim yn anghytuno efo Angharad bod problemau ynghlwm ag alcohol, a dydw i ddim yn gwadu ein bod fel gwlad angen trafod y mater. Ond mae hefyd yn ffaith bod alcohol yn cael ei ddefnyddio yn eang iawn yng Nghymru, ac mae'r rhan fwyaf o ddigon o bobl sydd yn ei ddefnyddio yn gwneud hynny mewn modd cwbl gyfrifol. Mae dyn yn gobeithio y byddwn yn y dyfodol mewn sefyllfa i drafod materion fel hyn ar raddfa Cymru gyfan. Ond os ydym i gael trafodaeth felly mae'n bwysig ei fod ar sail rhesymegol a chytbwys. Dydi hynny ddim yn wir ar hyn o bryd - mae yna lawer gormod o hysteria ynghlwm a'r pwnc, ac yn anffodus mae peth o'r hysteria hwnnw yn gwneud ei ffordd i golofnau Angharad o bryd i'w gilydd.

Ar nodyn gwahanol ond cysylltiedig, mae yna rhywbeth rhyfedd iawn gweld tafarnau a chapeli Cymru yn cau mewn niferoedd mawr ar yr un pryd. Ers talwm roeddem yn tueddu i weld diwylliant y dafarn a diwylliant y capel fel dau ddiwylliant cwbl wahanol oedd mewn cystadleuaeth chwyrn efo'i gilydd. Mae'n debyg y dylem fod wedi sylweddoli hyd yn oed bryd hynny mai dwy agwedd ar yr un diwylliant oeddynt, a rhagweld hefyd y byddai'r grymoedd a fyddai'n lladd y naill hefyd yn lladd y llall.

Friday, December 07, 2012

Gwleidyddiaeth a demograffeg yng Ngogledd Iwerddon

Mae'n debyg gen i y bydd sylw llawer ohonom yng Nghymru wedi ei hoelio ar y data iaith pan fydd ail gam y cyfrifiad yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.  Yng Ngogledd Iwerddon y ffigyrau sy'n ymwneud a chefndir crefyddol fydd yn mynd a'r sylw.  Mae yna gysylltiad agos iawn rhwng cefndir crefyddol a barn wleidyddol yn y dalaith - mae mwyafrif llethol pobl o gefndir Pabyddol yn cefnogi pleidiau cenedlaetholgar, tra bod rhai o gefndir Protestanaidd cefnogi rhai unoliaethol.

Un o'r ffactorau sydd wedi gyrru gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon am ddegawdau ydi demograffeg.  Ceir canfyddiad (cywir) bod y boblogaeth cenedlaetholgar yn cynyddu tra bod yr un unoliaethol ar drai.  Gwelwyd adlais o hyn yn ystod y dyddiau diwethaf gyda gwrthdaro ar strydoedd Derry, Belfast a Carrickfergus yn sgil penderfyniad Cyngor Dinas Belfast i beidio a gadael i Jac yr Undeb gahwfan uwch ben Neuadd y Ddinas yn barhaol.  Ymddengys nad yw'r faner wedi ei thynnu i lawr am dros i ganrif, ond ni fydd ond yn cael ei chodi ar rai dyddiau penodol yn y dyfodol.  'Dydi'r gymuned unoliaethol heb gymryd y newyddion yn dda.


Newid yng nghydbwysedd gwleidyddol Cyngor Belfast sydd y tu ol i'r penderfyniad - bellach mae tua 48% o bleidlais y ddinas mewn etholiadau lleol yn mynd i bleidiau cenedlaetholgar tra bod tua 37% yn mynd i rhai unoliaethol.  Mae'r graff isod yn dangos y newid ers 1973.

Thursday, December 06, 2012

Gair bach o blaid smygwyr

Mae 'drygioni' smocio ac yfed tipyn bach fel y teulu 'brenhinol'  yn yr ystyr eu bod yn faterion lled barhaol yn y newyddion - ac oherwydd bod gan y cyfryngau agwedd default tuag atynt.  Ystyrir y teulu 'brenhinol' yn 'dda', a 'does yna ddim tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn cael ei ystyried.  Ystyrir ffags a diod yn 'ddrwg', a 'does yna ddim tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn cael ei ystyried.  Mae gwrthod edrych ar unrhyw beth yn ei gyfanrwydd yn esgor ar idiotrwydd, ac mae'r cyfryngau yn aml yn edrych yn idiotaidd wrth ymdrin a'r pynciau arbennig yma.

Cymerer er enghraifft smygu - pwnc sydd eto fyth yn y newyddion ar hyn o bryd.  Byddwn yn aml yn cael gwybod bod yr arfer yn ofnadwy o ddrud i'r Gwasanaeth Iechyd - a byddwn yn aml yn cael ffigyrau i ddangos pa mor ddrud - mae'r rhain yn tueddu i amrywio o £1.5bn y flwyddyn i £5bn.  Mae methedoleg dod o hyd i'r ffigyrau hyn yn amheus a dweud y lleiaf - mae pob afiechyd a achosir gan sigarets yn gallu codi yn eu habsenoldeb hefyd, a dydi'r ffaith bod rhywun sy'n cael trawiad ar y galon hefyd yn smygu ddim yn golygu mai'r ffags a achosodd yr hartan.

Ond o roi hynny o'r neilltu, mae'r ddadl ei hun yn idiotaidd.  Mae'r dreth ffags yn codi £12.1bn, sy'n uwch nag unrhyw amcangyfri o faint mae smygu i fod i'w gostio i'r Gwasanaeth Iechyd.  Yn wir mae'n codi mwy na 10% o gost y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd.  Ond mae pobl nad ydynt yn smygu hefyd yn marw, ac yn marw o afiechydon  - dydyn nhw ddim yn cael eu codi yn uniongyrchol i'r nefoedd.  Y gwahaniaeth ydi eu bod yn tueddu i farw yn hwyrach - a 'dydi marw o Alzeimers neu gancr y coluddyn  yn 90 oed ddim yn rhatach i'r wladwriaeth na marwolaeth o gancr yr ysgyfaint yn 60.

Yn wir, mae smygwyr fel grwp yn cyfrannu mwy na'u siar mewn ffyrdd eraill.  Meddyliwch am bensiynau gwladol er enghraifft.  Mae'r ddarpariaeth yma'n hynod ddrud - tua £100bn y flwyddyn ar hyn o bryd - ac yn debygol o godi'n sylweddol mewn blynyddoedd sydd i ddod.  Telir am hyn wrth gwrs trwy drethiant cyffredinol.  Mae smygwyr yn talu eu trethi fel pawb arall, ond dydyn nhw ddim yn tynnu eu pensiynau fel pawb arall -  oherwydd eu bod - fel grwp - yn marw yn gynt na phobl sydd ddim yn smygu.  Maent yn cyfrannu mwy na'u siar, yn cario mwy o bwysau na'r gweddill ohonom.

O - ac un pwt bach arall cyn gorffen - dydw i ddim yn smygwr - efallai fy mod bron yn unigryw i'r graddau nad ydw i wedi smygu cymaint ag un sigaret yn fy mywyd.  Serch hynny dwi'n ddiolchgar i smygwyr - petai'r arfer yn dod i ben tros nos, mi fyddai George Osborne yn dod i chwilio am ei £12.1bn - ac mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf y byddai'n dod ar fy ol i'n weddol handi.  

Monday, December 03, 2012

Cwpan y Bib yn llawn

Un o'r problemau eilaidd sy'n wynebu unrhyw gymuned sydd wedi dioddef llifogydd neu anffawd naturiol arall ydi'r posibilrwydd cryf y bydd Charles Windsor neu aelod arall o'i deulu' n cymryd mantais o'r sefyllfa i hyrwyddo ei hun ac yn glanio yno ynghanol fflyd o sycoffantiaid proffesiynol.  Dyna ddigwyddodd heddiw yn Llanelwy - cyrhaeddodd Charles ynghanol y llanast i gyfeiliant anymunol gohebwyr y Bib yn ei ganmol i'r cymylau ac yn chwilio ym mhob twll a chornel am bobl oedd yn fodlon dweud pethau ffeind am y parasit diog.  

A thra rydym yn son am BBC Cymru, mae'n debyg y byddai'n grintachlyd peidio a chydnabod bod cwpan y sefydliad yn llawn ar hyn o bryd.  Llyfu a llempian o gwmpas uchelwyr neu sefydliadau tramor ydi'r unig beth mae BBC Cymru yn ei wneud yn wirioneddol dda, a chafwyd cyfleoedd di ben draw i ymarfer a mireinio'r grefft yn ddiweddar.  Cafwyd jiwbili Elizabeth Windsor yn ystod y gwanwyn, jambori fawr Brydeinllyd y Gemau Olympaidd yn ystod yr haf, a wele lawenydd ar ben llawenydd - feichiogrwydd Kate Middleton.  Mi fydd y crafu o Fryn Meirion, Ffordd Llantrisant a Phenglais yn ymgyraedd at binacl hysteraidd fel y bydd y misoedd sydd o'n blaenau yn mynd rhagddynt.  

Sunday, December 02, 2012

UKIP ac etholiadau Ewrop

Yr etholiadau traws DU nesaf fydd etholiadau Ewrop yn 2014.  Mae'n hawdd anghofio i UKIP ddod yn ail (y tu ol i'r Toriaid) yn etholiad Ewrop 2009.  Mi fydd y blaid adweithiol yma yn gwneud yn dda yn rheolaidd mewn etholiadau Ewropeaidd hyd yn oed os nad ydynt yn gwneud yn arbennig o dda yn y polau piniwn.  Mae sawl rheswm am hyn - yn eironig mae'r sawl sy'n gwrthwynebu'r Undeb Ewropiaidd yn fwy tueddol na neb arall yn yr etholiadau hyn ac mae cyfundrefn bleidleisio gyfrannol yn tueddu i wneud iawn am ddiffygion trefniadol UKIP ar lawr gwlad.

Rwan mae'r mis diwethaf wedi bod yn un arbennig o dda i UKIP, ac mae'r pol sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn yr Observer yn awgrymu bod cynnydd sylweddol yn eu cefnogaeth cyffredinol - maent bellach yn gyfforddus o flaen y Lib Dems.  Mae'n weddol sicr y bydd cefnogaeth UKIP yn uwch  o lawer nag un y Lib Dems yn etholiadau Ewrop 2014, a byddant yn cael mwy o seddi na'r 13 a gafwyd yn 2009.  Mi fydd y Lib Dems hefyd yn gweld eu deuddeg sedd yn haneru - os byddant yn lwcus.  Yn wir mae yna bosibilrwydd y byddant yn cael cymaint o seddi a'r Toriaid (mae'r rheiny ar 26 ar hyn o bryd).  Os digwydd hynny, bydd yn anodd i'r Toriaid fynd i etholiad cyffredinol 2015 heb addewid o refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd yn eu maniffesto.

Mi fydd pethau yn ddiddorol yng Nghymru hefyd.  Yn 2008 cafodd y Blaid, UKIP, Llafur a'r Toriaid sedd yr un.  Roedd y Blaid, y Toriaid a Llafur yn yr amrediad 18.5% - 21.3% tra bod UKIP ar 12.8%.  Gallwn fod yn weddol siwr y bydd y cyfanswm Llafur yn uwch (y Toriaid ddaeth yn gyntaf y tro o'r blaen).  Y ddau gwestiwn ydi os bydd Llafur yn cael dwy, ac os bydd hynny'n digwydd, pwy fydd yn dioddef ?  Yn syml, y cwbl sydd rhaid i Lafur ei wneud i gael dwy ydi cael dwywaith cymaint o bleidleisiau a'r pedwerydd plaid.  Dylent gael mwy na 30% o dan amgylchiadau tebyg i'r rhai a geir ar hyn o bryd.  Bydwn yn dweud ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd Llafur yn cael dwy nag un.

Pwy felly sy'n mynd i golli sedd?  Ar yr olwg gyntaf UKIP fydd ar eu colled, ond mae yn fwy na phosibl y bydd pleidlais UKIP yn uwch na 15%.  Mae hefyd yn debygol y bydd pleidlais y Toriaid gryn dipyn yn is nag oedd yn 2009 - maent i lawr tua saith pwynt yn y polau piniwn ac mae eu pleidlais yn syrthio fel carreg mewn is etholiadau.  Dydi'r dystiolaeth am lle mae pleidlais y Blaid ddim yn gryf oherwydd diffyg polio Cymreig, ond mae is etholiadau diweddar yn awgrymu ei bod o leiaf yn dal ei thir.

Felly mae'n bosibl - yn fwy na phosibl y bydd y Toriaid yn dod yn bedwerydd, ac yn cael llai na hanner pleidlais Llafur.  Mae amgylchiadau yn newid trwy'r amser wrth gwrs, ond gallai etholiadau 2014 yn hawdd arwain at sefyllfa lle nad oes yr un o'r pleidiau sy'n llywodraethu yn Llundain fod ag aelod o Senedd Ewrop pan maent yn ymladd etholiad cyffredinol 2015.

Mwy o ryfeddodau gan y Mail

Diolch i Ann Hopcyn am dynnu ein sylw at yr esiampl diweddaraf o hysteria LittlEnglander parthed y Gymraeg.

Y Mail on Sunday sydd wrthi wrth reswm, a'r sgandal echrydys ddiweddaraf ydi bod rhywun neu'i gilydd sy'n trwsio darn o lon yn rhywle yn Hampshire wedi cael ei hun yn brin o arwyddion rhybudd, ac wedi mynd ati i osod arwydd dwyieithog (Cymraeg / Saesneg) dros dro.  Digwyddodd yn anfadwaith tua wyth mis yn ol.

 Ymddengys bod tim golygyddol y Mail o'r farn bod hon yn stori digon pwysig i'w rhoi mewn papur 'cenedlaethol' sydd efo cylchrediad o 2m a thros i 4m o ddarllenwyr.  Mae'n rhaid bod man straeon sy'n feirniadol o Fwslemiaid, mewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop, Asiantaeth Ffiniau'r DU, yr Undep Ewropeaidd a thramorwyr yn gyffredinol yn brin braidd yr wythnos yma.

Thursday, November 29, 2012

Pobol y Cwm a Charles Haughey Cymru

Tybed os oes yna unrhyw beth mwy dw lali wedi dod o gyfeiriad llywodraeth Cymru na'i ymdrech ryfeddol i berswadio S4C i dynnu'r plwg ar bennod o opera sebon oherwydd bod cymeriad yn y rhaglen yn lleisio barn sy'n feirniadol o un o'i bolisiau?

Mae'n debyg y byddai rhywun yn disgwyl y math yma o baranoia gan lywodraeth a arweinid gan Stalin neu Saddam Hussein neu rhywun felly - ond llywodraeth sy'n cael ei harwain gan Carwyn ddiog, ddi ffwdan, ddi ffrwt?  Mae'n dda o beth bod y cyfryngau Cymreig mor awyddus i blesio, neu Duw a wyr beth fyddai'n digwydd.  A Duw a wyr beth fyddai'n digwydd petai gan Gymru rhywbeth tebyg i Scrap Saturday.

Rhaglen radio (hynod boblogaidd) gan  RTE oedd Scrap Saturday a ddaeth i ddiwedd di symwth ar ddechrau'r 90au.  Roedd seren y sioe (Dermot Morgan o enwogrwydd Father Ted) wedi gwneud crefft hynod gywrain o lambastio prif weinidog y dydd, Charles Haughey wythnos ar ol wythnos r ol wythnos.  Roedd yna ychydig o Stalin neu Saddam yn perthyn i Haughey, ac aeth hwnnw ati i roi pwysau ar RTE i gael gwared o'r rhaglen, ac ildiodd y darlledwr i'r pwysau hwnnw - gan ddefnyddio'r datganiad cofiadwy canlynol i egluro'r penderfyniad:  The show is not being axed, it's just not being continued.

Gobeithio na fydd Carwyn Jones yn gwneud yr un peth i Pobol y Cwm - mi fyddai hynny'n ofnadwy o drist.




Wednesday, November 28, 2012

Glyn Davies, Roger Lewis a'r Daily Mail

Mae'n ddiddorol nodi nad ydi Glyn Davies, AS Maldwyn eisiau i'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws gymryd camau cyfreithiol yn sgil erthygl Roger Lewis yn y Daily Mail.

Dadl Glyn ydi y byddai cymryd cam felly yn 'rhoi cyhoeddusrwydd' i'r erthygl.  Rwan gellid defnyddio dadl felly ar gyfer unrhyw unrhyw sylwadau amhriodol.  Er enghraifft mae'r camau cyfreithiol mae'r Arglwydd McAlpine wedi ei gymryd yn erbyn ITV, y Bib a llu o drydarwyr yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r honiadau a wnaed ganddynt.  Ond mae'r camau hynny hefyd yn ei gwneud yn glir bod y sylwadau a wnaed yn amhriodol ac nad oes gwirionedd iddynt.

Mi fydd yna gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd o bryd i'w gilydd yn erbyn pobl sy'n gwneud sylwadau hiliol yn y wasg, neu ar y rhyngrwyd, ond 'dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn.  Mae yna reswm gweddol syml am hynny - 'does yna ddim llawer o bobl yn cyhoeddi sylwadau hiliol oherwydd eu bod yn gwybod bod goblygiadau cyfreithiol difrifol i wneud hynny.  Petai yna ganfyddiad ar led na fyddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y sawl sy'n cyhoeddi sylwadau hiliol 'rhag rhoi sylw iddynt', yna byddai yna fwy o sylwadau hiliol o lawer yn cael eu cyhoeddi na sydd ar hyn o bryd.

O ganlyniad byddai'r ymgais i 'sgubo'r ffaith bod pobl gydag agweddau hiliol o dan y carped yn arwain at wyntyllu mwy ac nid llai o sylwadau hiliol.  Wir Dduw - dydi hyn ddim yn anodd iawn Glyn Davies.

Monday, November 26, 2012

Cenhadon casineb y Daily Mail

Mae erthygl ddiweddaraf Roger Lewis ynglyn a'r iaith Gymraeg mor eithafol ac idiotaidd nes ei bod yn fwy digri na dim arall - o safbwynt rhywun sy'n byw yng Nghymru o leiaf.  Wedi'r cwbl yr oll sydd yn yr erthygl mewn gwirionedd ydi cymysgedd rhyfedd o ragfarnau Lewis, honiadau di dystiolaeth a dehongliadau hanesyddol anwybodus.

Ond mae yna ochr mwy difrifol i'r peth.  Mae'r Daily Mail yn bapur  sy'n apelio at grwp o bobl rhagfarnllyd, hysteraidd ac ofnus sydd mewn galar lled barhaol am Brydain sydd wedi hen farw - os oedd y ffasiwn  Brydain erioed yn bodoli mewn gwirionedd.  Mae llawer o'r bobl anffodus hyn y credu nonsens Lewis - yn wir maent yn ei fwynhau oherwydd ei fod yn porthi eu rhagfarnau gwaelodol.

Dyna pam bod pob math o grwpiau lleiafrifol yn cael eu colbio yn rheolaidd yn y papur - hynny yw pobl nad ydynt yn Saeson, gwyn, lled gefnog, hetro rywiol o gefndiroedd Cristnogol.  Mae mwydro di resymeg y Mail yn hynod niweidiol i gydlynedd cymdeithasol yn y DU oherwydd ei fod yn adgyfnerthu rhagfarnau sy'n bodoli ers cenrdlaethau.

Mae'r erthygl yn rhan o batrwm ehangach o ddiafoli rhannau eang o gymdeithas yn Lloegr, Cymru a gweddill y  DU gan elfennau o'r wasg Brydeinig, ac mae Roger Lewis a'i debyg yn ennill eu bywoliaeth yn nofio yng nghanol y mor yma o gasineb ac anoddefgarwch.

Wednesday, November 21, 2012

Cynlluniau Leighton Andrews ar gyfer y Gwasanaeth Addysg

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sylwadau a wnaeth gan John Davies y bore 'ma yn taro deuddeg efo fi o leiaf.

Ymateb oedd Mr Davies i ddatganiad y gweinidog addysg, Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad llawn o'r ddarpariaeth addysg yng Nghymru.  Ymddengys bod Leighton o'r farn bod y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn 'ofnadwy'. Pen draw posibl y broses yma fydd symud y gyfrifoldeb tros addysg o ddwylo'r cynghorau unedig a'i osod naill ai yn nwylo'r Cynulliad, neu yn nwylo'r pedwar consortia sydd wedi eu creu yng Nghymru ers mis Medi.

Honiad John Davies oedd bod ethos y gwasanaeth addysg yng Nghymru wedi newid tua'r amser y daeth Leighton Andrews yn weinidog addysg.  Yn wir roedd yn mynd cyn belled a honni bod y ffordd mae'r corff arolygu, ESTYN yn dod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad darparwyr addysg yng Ngymru wedi mynd yn llawer caletach tua'r amser hwnnw.



Rwan, heb fynd i weithio fy ffordd trwy hwda a adroddiadau ar arolygiadau, mae'n rhaid i mi ddweud  mae'r argraff yr ydwyf fi yn ei chael ydi bod mwy o ysgolion o lawer yn cael ail ymweliadau gan ESTYN yn sgil rhyw wendid neu'i gilydd. Mae yna hefyd fwy o awdurdodau addysg yn cael eu hunain mewn dwr poeth efo'r corff.  Ymhellach mae rhai o'r darparwyr sydd yn cael ail ymweliad gan ESTYN yn rhai nad oedd disgwyl iddynt gael problemau o unrhyw fath.


Awgrym John Davies wrth gwrs ydi bod y newid hwn yn ganlyniad i newid bwriadol yn y cyfarwyddyd mae ESTYN yn ei gael gan y gweinidog, a bod arolygiadau ESTYN felly yn cael eu defnyddio fel esgys i ail strwythuro'r ffordd mae addysg yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn llwyr.  Mi fyddwn i yn ychwanegu bod llawer, llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar ysgolion ar hyn o bryd gan awdurdodau addysg, a'i bod yn debygol mai'r rheswm am hynny ydi bod llawer mwy o bwysau yn cael ei roi ar yr awdurdodau hynny gan y gweinidog.  

Byddai symud y gyfrifoldeb am ddarparu addysg oddi wrth yr awdurdodau lleol ymysg y newidiadau mwyaf pell gyrhaeddol i ddigwydd yn hanes y gwasanaeth addysg yng Nghymru.  Byddai'r elfen o atebolrwydd democrataidd yn cael eu symud, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau enfawr.  Er enghraifft byddai'n llawer mwy tebygol y cai ysgolion bach gwledig eu cau.  Yn wir byddai hefyd yn dra phosibl y byddai ysgolion canolig eu maint yn  cau.  Gellir dadlau y byddai pob ysgol sydd a llai na chant o blant mewn perygl.

Mae lle hefyd i boeni am y polisiau iaith y byddai'r ardaloedd Cymreiciaf yn gweithredu oddi tanynt.  Er enghraifft, gallai Gwynedd a Mon gael eu hunain efo'r un polisi iaith a Fflint a Wrecsam.  Ar ben hynny gellid yn hawdd ddychmygu y byddai llawer o'r personel rheolaethol a gweinyddol mewn uned fawr yn ddi Gymraeg.  Canlyniad hynny fyddai creu sefyllfa lle ceid yr holl wasanaeth yn llawer mwy Seisnig ei naws nag ydyw yn y siroedd gorllewinol ar hyn o bryd.  
Mae lle cryf i ddadlau bod 22 Awdurdod Addysg lleol yn ormod, a bod llawer o ddyblygu gwaith ac anwastadedd ynghlwm a'r drefn sydd ohoni. Mae lle cryf hefyd i ddadlau y byddai 10 cyngor sir yn hen ddigon ar gyfer anghenion y Gymru ol ddatganoledig sydd ohoni. Ond mae dilyn y trywydd mae'n ymddangos bod Leighton Andrews eisiau ei ddilyn yn mynd a ni yn llawer rhy bell yn llawer rhy gyflym.