Monday, April 23, 2012

Y frenhiniaeth, y Bib a'r farn gyhoeddus yng Nghymru

Felly yn ol archwiliad British Future 35% yn unig o bobl Cymru sy'n falch o'r Frenhines - a chymharu ag 80% o Saeson.

Peidiwch a meddwl am eiliad y bydd y Bib yng Nghymru yn cymryd y mymryn lleiaf o sylw o hynny. Mi fyddwn yn cael ein cyflwyno i realaeth amgen y Gorfforaeth yng Nghymru tros y misoedd nesaf, lle byddant yn cymryd arnynt bod yna rhyw frwdfrydedd lloerig yma tuag at pob dim brenhinol efo llwyth o raglenni idiotaidd megis Elizabeth's Wales. yn cael eu stwffio o flaen ein trwynau.

'Does yna ddim byd sy'n datgelu gwir natur a phwrpas y Bib yng Nghymru mwy na'u hymdriniaeth o faterion brenhinol. Mae eu hymdriniaeth o'r sefydliad cyntefig a Phrydeinllyd yma'n afresymegol o grafllyd, di feirniadaeth ac anghynrychioladol o'r farn gyhoeddus yng Nghymru.

2 comments:

Simon Dyda said...

Hehe. Nes i bostio'r un peth heddiw cyn imi ddarllen dy blog.

Brwynen said...

Rhaid bod yn ofalus wrth gwrs, gan fod 25% o bobol Cymru yn galw eu hunain yn saeson, fyddwn i ddim am i'r BBC gynrychioli hynny chwaith