Friday, May 25, 2012

BBC Cymru ar ei waethaf

'Dwi'n gwylio ymdriniaeth Wales Today o daith y ffagl Olympaidd trwy Gaerdydd wrth 'sgwennu hyn. Rwan 'dwi'n derbyn bod llawer o'r sawl sy'n edrych ar y sioe yn mwynhau a 'ballu - iawn, pawb at y peth y bo.

Ond yr hyn sydd yn fy mlino ydi'r ffaith bod yr amrywiaeth barn yng Nghymru a thu hwnt tuag at y gemau yn cael ei anwybyddu'n llwyr. Mae llawer o bobl yn amheus o'r holl sioe - rhai am resymau tebyg i'r rhesymau sydd wedi eu gwyntyllu yn y blog hwn, a rhai am resymau eraill - yn arbennig felly costau uchel y gemau mewn cyfnod o dorri a thocio ym mhob maes arall. Os nad ydych yn fy nghredu, gofynwch i bump neu chwech o bobl am eu barn ar y mater.

Ond 'dydi'r Bib ddim yn caniatau i sill o'r beirniadaethau hynny amharu iot ar eu hapusrwydd ecstatig. Maent yn hyrwyddo un barn gydag arddeliad lloerig, a 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cydnabod bodolaeth y farn arall. Byddwn yn gweld yr un peth yn union ganddynt pan ddaw'n amser y jiwbili.

Os oes yna unrhyw un am weld gwir bwrpas y BBC yng Nghymru, rhowch y teledu ymlaen ac edrych ar Wales Today.

19 comments:

Anonymous said...

Mae'r bobl cyffredin yn falch or sioe. Y crach cymreig sydd yn erbyn unrhiw beth sydd cysylltiad gyda Lloegr sydd yn erbyn.

Cai Larsen said...

Mae'r crach Cymreig wrthi yn hyrwyddo'r sioe fel rydym yn 'sgwennu.

Anonymous said...

Mae na dorf reit fawr i weld yn Gaerdydd. Pawb yn joio mas draw!

Anonymous said...

Mae na dorf reit fawr i weld yn Gaerdydd. Pawb yn joio mas draw!

Cai Larsen said...

Dadlau ydw mai ond llwyfan i un farn mae'r Bib yn ei gynnig - dim byd i'w wneud efo mwynhad pobl.

Anonymous said...

Mae nifer o'r totfeydd yn 'contrived' - ysgolion yn gorfod shipio plant i fewn.

Emlyn Uwch Cych said...

Rhyfedd gweld y ffaglwraig yn cyrraedd y llwyfan i'w chyfarch mewn cyflwyniad uniaith Saesneg. Dim sill o Gymraeg na llafar nac ysgrifenedig yn unman.

Oes mwy na £400,000 o arian cyhoeddus Cymreig wedi'i wario ar y Lympics? Os felly onid oes rhaid cael y cyfan yn ddwyieithog? A na, nid Ffrangeg yw'r ail iaith chwaith!

Anonymous said...

Mae nhw'n disgwyl 10 000 o bobl yn Aberystwyth dydd Sul . Tydw i ddim yn hoffi Prydeindod ac agwedd nawddoglyd y peth, ond mae fy mhlant wedi gwirioni ar y syniad , a rhaid cyfaddef fod trwch y bobl dwi wedi siarad a hwy yr un modd.
Mae barn o rhyw fath yn erbyn popeth dan haul .Mae'n siwr fod rhai yn gresynu gwario cymaint o arian ardal dlawd ar eisteddfod yr Urdd - a ddylem roi clust a sylw iddynt hwy ?

Emlyn Uwch Cych said...

Torf o 10000 yn Aber, a mae'r baneri coch, gwyn a glas eisoes yn hongian ar hyd yr A487 yn Llanon a Llanrhystud.

Paham mae rhaid diffinio dathliad o Bryneindod yn lliwiau jac yr undeb yn unig?

Cai Larsen said...

Wel - coch, glas a gwyn ydi lliwiau'r Undeb.

Anonymous said...

BBC wedi troi fewn i Russia Today.

Cai Larsen said...

Press TV mwy fatha hi.

Bwlch said...

Sorri i ddweud mi oedd hen lanc yn Gwent a'r y rhyn rhaglen yn dweud fod y holl arian yn wastraff llwyr. Edrychwch a'r y daith o gwmpas Blaenafon. Dwi ddim yn person sydd amddiffyn y Beeb fel arfer ond......

Anonymous said...

Nid dydd gwener oedd yr amser i gael "ochr arall" y ddadl. Mae o fel petai y teledu yn son am pa mor ofnadwy oedd Chelsea yn y gorymdaith ger S.Bridge. Felly, yndw dwi'n cytuno bod yr Olympics yn wastraff arian- ond dwin anghytuno mai ar ddydd gwener oedd yr amser i son am hynny.

Wrth ddeud hynny, gan bod ni wedi talu am y fo- fe fyddai'i yn mynd i'r Faenol fory i weld "y fflam". Yr unig broblem yw- maen rhaid cael tocy o g'fon i barcio.... felly fydd on iawn i fi jest parcio yn rwla ger Parc Menai?!

HC said...

Adroddiad byw BBC o'r ras yn dweud fod un o'r rhedwyr (hen wraig yn ei 80au) yn cario Draig Goch ochrau Sir Benfro. Unrhyw gadarnhad ?. Dim golwg o'r 10000 yn Aberystwyth hyd yma !

Anonymous said...

Roedd digon o farn ar Radio Wales ( Rhaglen Jason) yn cwestiynnu yr holl beth , nid teledu yw'r unig gyfrwng.

Anonymous said...

Pгetty nісe post. I simply stumbleԁ upоn your blοg аnd wіshed to ѕay that I've truly enjoyed browsing your blog posts. In any case I'll
be ѕubscribіng in уоuг
rѕs feed and I аm hορing you ωгite again soon!
Feel free to surf my blog - Full Posting

Anonymous said...

It is іn poіnt of fact a great and useful piece οf infoгmation.
I am satisfied that you simply sharеd this useful info ωith us.

Please kеep us up to date like this. Thanκ yοu foг shаrіng.


My web sіte www.bioingenios.ira.cinvestav.mx:81

Anonymous said...

Thіѕ іs my first timе ρаy a quick visit at here аnd
i am in fact pleaѕsant to read аll at ѕingle place.



Checκ out my web page: http://onzrocks.com/MargretTh