Friday, May 18, 2012

Sut i ennill etholiadau mewn pum cam (cymharol) syml

Mi fydd adroddiad Eurfyl ap Gwilym ar ddatblygu'r Blaid yn dechrau cael ei weithredu yn y dyfodol agos. Tra fy mod yn croesawu llawer o'r camau a argymhellir yn yr adroddiad, mae dau beth yn fy mhoeni - cymhlethdod yr adroddiad, a'r diffyg tystiolaeth bod y camau a argymhellir wedi eu blaenoriaethu'n ofalus.

Yn y bon mae perfformio'n dda mewn etholiadau yn fater gweddol syml - neu o leiaf mae'n fater gweddol syml os ydym yn edrych ar ennill cefnogaeth etholiadol fel proses. Byddwn yn dadlau ei bod yn broses pum cam yn ei hanfod:

(1). Creu naratif neu naratifau sy'n apelio at garfannau sylweddol o bobl.
(2). Cyfathrebu'r naratif / naratifau efo'r carfannau hynny.
(3). Cadw mewn cysylltiad efo'r carfannau targed rhwng etholiadau.
(4). Dwysau'r cysylltiad yn y cyfnod sydd yn arwain at etholiad.
(5). Sicrhau bod cymaint a phosibl o aelodau'r carfannau targed yn pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad - neu'n gwneud hynny trwy'r post yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad.

Mae pethau mor syml a hynny yn y bon. Ond dydi proses syml a phroses hawdd ddim yr un peth wrth gwrs. Mae angen strwythurau effeithiol cyn y gellir gweithredu pob un o'r camau uchod yn effeithiol - ac mae cryn dipyn o waith adeiladu i'w wneud ar holl strwythurau etholiadol y Blaid.

Mae'r ail broblem yn ymwneud a blaenoriaethu. Un o'r pethau nad yw'n glir i mi ynglyn a'r adroddiad ap Gwilym ydi bod yr holl argymhellion a gynigir ynddo wedi eu graddio yn ol pryd y dylid eu gweithredu. Mae'n haws gweithredu nifer cymharol fach o newidiadau nag ydi hi gweithredu nifer fawr ar yr un pryd. Yn wir yn amlach na pheidio mae ceisio gweithredu gormod o newidiadau efo'i gilydd yn wrth gynhyrchiol, ac yn arwain at ddim newid o gwbl.

Yr hyn sy'n anodd wrth flaenoriaethu ydi dewis pa newidiadau y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt? Mae dau ateb i'r cwestiwn hwnnw. Yn gyntaf mae'n weddol amlwg y dylid gweithredu newidiadau sy'n hawdd a di drafferth yn syth bin.

Yn ail dylid gweithredu'r newidiadau sy'n cael y mwyaf o effaith cyn rhai llai effeithiol. Gan mai llwyddiant etholiadol ydi'r bwriad yn y pen draw, awgrymaf y dylid defnyddio'r amlinelliad uchod o'r broses ennill pleidleisiau fel llinyn mesur wrth flaenori. Os ydi unrhyw newid arfaethedig yn symud un neu fwy o'r camau rwyf yn eu harenwi uchod ymlaen i raddau arwyddocaol, dylent dderbyn blaenoriaeth. Os nad ydynt, 'does yna ddim brys i'w gweithredu.

No comments: