Saturday, June 30, 2012

O leiaf mae un rhan bach o'r sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n eithaf da

Fel blog sydd wedi bod yn gyffredinol gefnogol i weithwyr sector cyhoeddus yn ystod amser anodd i'r sector honno, mae'n debyg y dylid ymfalchio bod o leiaf un gweithiwr sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n o lew.

Son ydw i wrth gwrs am Charles Philip Arthur George Windsor. Ymddengys bod y gyfran o'i incwm sy'n dod yn uniongyrchol o'r pwrs cyhoeddus wedi codi o £1.96m i £2.19m - cynnydd o 11%. Y cyd destun ehangach i weithwyr sector cyhoeddus wrth gwrs ydi bod cyflogau'r rhan fwyaf ohonynt wedi ei rewi am y drydydd blwyddyn o'r bron.

Mae gwir incwm Charles yn llawer uwch wrth gwrs. Y cafodd £18.28m gan Ddugaeth Cernyw. Er bod yr asedau hyn (sydd werth o bosibl £700m) yn dechnegol yn rhai preifat, penderfyniadau gan y wladwriaeth yn y gorffennol sydd wedi sicrhau eu bod ar gael i etifedd brenhiniaeth Prydain.

Ymddengys bod lwmp go dda o'r pres yn cael ei wario ar deithio (£1.31m) - yn arbennig felly teithio tramor. Dadl y llywodraeth ydi bod y teithio hwn yn dod a budd ariannol i'r DU. Y broblem efo hyn ydi nad oes yna unrhyw ymdrech i gyfrifo nag asesu gwerth y budd honedig hwnnw. Yn wir, 'does yna ddim ymdrech i ddod i gasgliadau ynglyn ag effeithlonrwydd gwario cyhoeddus ar y teulu brenhinol o gwbl.

Rydym mewn sefyllfa ryfeddol lle mae nyrsus a chymorthyddion dosbarth sydd ar waelod eu graddfeydd cyflog, a sydd heb weld codiad cyflog am dair blynedd, yn cael eu perfformiad wedi ei werthuso a'i reoli yn rheolaidd, pan nad oes yna unrhyw werthuso na rheoli ar berfformiad un o'r gweithwyr sector cyhoeddus sy'n derbyn y mwyaf o gyflog a sy'n un o'r ychydig i weld codiad cyflog mewn blynyddoedd diweddar.

Thursday, June 28, 2012

Chwaraeon ac egwyddorion

Mae'n debyg y bydd yna lawer yn ei chael yn anodd credu bod rhai o chwaraewyr peldroed Cymru eisiau chwarae i Team GB - a thrwy hynny o bosibl beryglu dyfodol tim cenedlaethol Cymru. Yn wir mae ambell un wedi gofyn sut y gallai Belamy - efo'i datws Owain Glyndwr a 'ballu - wneud y ffasiwn beth?

Dydi'r ateb i hynny ddim yn arbennig o anodd. Mewn chwaraeon 'does yna ddim llawer o egwyddorion - perfformio ac ennill ydi pob dim. Roedd llawer o'n ser rygbi yn fwy na bodlon mynd i Dde Affrica efo'r Llewod yn 1974 a 1980 tra roedd Nelson Mandella a'i debyg yn pydru ar Robben Island, a phan roedd mudiadau croenddu yn Ne Affrica, llywodraeth Prydain ac ymgyrchwyr gwrth aparteid yn crefu arnynt i beidio a mynd.

Yn wir mae rhai o'r mwyaf digywilydd - megis Gareth Edwards - yn hoffi awgrymu bod eu cefnogaeth i'r gyfundrefn aparteid wedi rhywsut, rhywfodd, fyrhau bywyd y gyfundrefn honno.

Ymysg y chwaraewyr o Gymru i fynd i Dde Affrica yn 1974 neu 1980 roedd y canlynol.

Alan Phillips, Mervyn Davies, Tom David, Bobby Windsor, Phil Bennet, Roy Bergiers, JJ Williams, JPR Williams, Gareth Edwards, Elgan Rees, Peter Morgan, David Richards, Gareth Davies, Graham Price, Jeff Squire, Gareth Williams a Ray Gravell.

Er tegwch gallaf feddwl am ddau a wrthododd - Gerald Davies a John Taylor.

Leanne, Martin McGuinness a Mrs Windsor

Yn ol Wales Today, mae Dafydd Elis-Thomas wedi gwneud datganiad sy'n mynegi'r farn y gallai arweinyddion Plaid Cymru ddysgu llawer oddi wrth Martin McGuiness oherwydd i hwnnw ysgwyd llaw efo Elizabeth Windsor ddoe. Ymhellach mae'n ymddangos ei fod o'r farn y dylai pobl 'dyfu i fyny'.

Mae'n debyg gen i mai cyfeirio mae Dafydd at y ffaith i Leanne Wood beidio a mynychu gwahanol ddigwyddiadau i ddathlu'r jiwbili ychydig wythnosau yn ol. Rwan, hwyrach fy mod i yn methu rhywbeth yma, ond ydi agwedd Leanne a Mr McGuinness yn wahanol i'w gilydd go iawn?

Mae ail weinidog Gogledd Iwerddon yn weriniaethwr, ac mae'n ddigon naturiol felly nad aeth ati i ddathlu'r jiwbili, ond roedd yn fodlon cyfarfod Mrs Windsor yng nghyd destun ei swydd.

Mae Leanne hefyd yn weriniaethwraig, ac yn ddigon naturiol wnaeth hithau ddim mynychu'r digwyddiadau jiwbiliaidd chwaith. Ond mae wedi dweud y byddai'n cyfarfod a Mrs Windsor mewn rol swyddogol petai honno'n dod i'r Cynulliad.

Mae safbwynt y ddau yn ymddangos i fod fwy neu lai yr un peth i mi.

Tuesday, June 26, 2012

Bethan Jenkins, trydar, McGuinness a'r Blaid Lafur

Mae sylwadau Bethan ynglyn a 'naifrwydd' Martin McGuinness yn amlwg yn amhriodol. Mae arweinyddiaeth y blaid mae'n perthyn iddi yn wahanol i bob un arall yn yr ynysoedd yma i'r graddau iddi gael ei chreu gan ryfel. Dogherty, Adams, Murphy, Ferris, McGuinness, Kelly, Anderson, Morgan, Ellis, O'Toole - mae'r cwbl wedi treulio lwmp o'u bywydau yn agos at galon grwp parafilwrol cymharol fach a lwyddodd i gadw tros i 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch y DU yn brysur am ddeg mlynedd ar hugain. Gellir meddwl am sawl ansoddair i ddisgrifio Martin McGuinness, ond 'dydi 'naif' ddim yn eu plith.

Ond mater ymylol ydi hynny yng nghyd destun y stori fach yma. Mae'n dweud mwy am y Blaid Lafur Gymreig na dim arall. Mae'r blaid honno yn tueddu i wleidydda trwy geisio efelychu'r merched hysteraidd rheiny yn The Crucible, Arthur Miller - chwilio am esgys i chwifio eu breichiau o gwmpas yn lloerig a sgrechian yn uchel a hysteraidd rhywbeth megis I saw Goody Jenkins dance with the divil in the dead of night.

Gan i Bethan feirniadu McGuinness mae'r ffatri sterics yn Cathedral Road yn pedlera stori am danseilio'r broses heddwch - ac awgrymu ei bod am ddod a rhyfel yn ol i strydoedd Belfast. Petai wedi dweud rhywbeth ffeind am McGuinness byddai'r ffatri sterics wedi honni ei bod yn Provo cudd gan awgrymu bod ganddi lond bocs o semtex yn y garej.

Mae Bethan yn drydarwraig hynod doreithiog, ond y drwg efo'r fformat 140 llythyren ydi nad yw'n rhoi'r cyfle i'r trydarwr fod yn gwbl glir ynglyn a'r hyn mae'n geisio ei ddweud. O ganlyniad mae'n hawdd i wleidydd sy'n defnyddio'r cyfrwng adael ei hun yn agored i rwdlan afresymegol ac anghymedrol y criw bach hysteraidd sy'n amgylchu Peter Hain. 'Dwi'n meddwl bod Bethan yn ddoeth i gymryd gwyliau bach o drydar i ystyried sut y gall wneud y defnydd mwyaf effeithiol a di risg o'r i hyrwyddo achos y Blaid.

Monday, June 25, 2012

Y rhagolygon ar gyfer refferendwm yr Alban

Mae yna ganfyddiad yn datblygu - yn y cyfryngau a thu hwnt - ei bod fwy neu lai yn sicr mai 'Na' fydd yr ateb yn refferendwm yr Alban yn 2014. Mae yna sawl rheswm y tu ol i hyn - y polau piniwn, perfformiad braidd yn siomedig yr SNP yn etholiadau lleol eleni a dyfarniad y marchnadoedd betio.

Rwan, mae'r pethau hyn yn arwyddocaol wrth gwrs ond,mi fyddai rhoi'r ty i lawr ar 'Na' yn gamgymeriad. Fel mae political betting.com yn dangos mae'r union gwestiwn yn effeithio'n sylweddol ar yr ateb tebygol, a chan lywodraeth yr SNP y bydd yr hawl i osod y cwestiwn. Mae yna dystiolaeth polio pellach bod llawer o bobl yn fodlon pleidleisio 'Ia' os ydynt yn meddwl y byddent yn derbyn £500 neu fwy yn ychwanegol yn flynyddol. Mewn geiriau eraill gallai ennill y ddadl economaidd ennill y refferendwm, ac mae'r ddadl honno yn ei dyddiau cynnar ar hyn o bryd. Yn ychwanegol bydd y digwyddiadau cyfryngol Prydeinllyd sydd wedi dominyddu eleni - y jiwbili a'r Gemau Olympaidd yn hen hanes erbyn 2014.

Pan mae'n dod i ddarogan etholiadau mae gen i record eithaf da, ond mi fydda i'n gwneud ffwl ohonof fy hun weithiau. Y tro diwethaf i mi wneud hynny oedd yn ol yn 2010 pan roeddwn yn sicrhau pawb oedd yn fodlon gwrando neu ddarllen nad oedd gan yr SNP obaith i gadw grym yn Hollyrood y flwyddyn ganlynol. Roedd fy marn wedi ei seilio ar ganlyniad Etholiad Cyffredinol 2010, polau piniwn a'r marchnadoedd betio. Newidiodd y polau piniwn yn sylweddol ym misoedd cynnar 2011 yn sgil dau beth - dad Brdaineiddio gwleidyddiaeth yr Alban fel roedd yr Etholiad Cyffredinol yn diflannu i'r gorffennol, a'r ffaith mai cyd destun etholiadol 2011 oedd y cwestiwn o bwy oedd fwyaf addas i lywodraethu yn yr Alban.

Gallai dad Brydaneiddio o fath gwahanol ynghyd a ffocysu ar y cwestiwn o pa drefniant cyfansoddiadol fyddai'n fwyaf tebygol o godi safon byw gael effaith tebyg erbyn 2014. Byddai newid yn y polau piniwn ym Mhrydain a chanfyddiad ei bod yn debygol y bydd y Toriaid yn cael eu hail ethol yn y flwyddyn ganlynol yn gwneud 'Ia'n' fwy tebygol eto.

Friday, June 22, 2012

Cyfieithu holl drafodaethau'r Cynulliad i'r Gymraeg

Rhyw ymgais ar ymateb i 'gais arbennig' gan Ifan yn nhudalen sylwadau blogiad ddoe am rhywbeth ar benderfyniad grwp y Blaid yn y Cynulliad i bleidleisio yn erbyn cyfieithiad llawn o'r cofnod i'r Gymraeg ydi'r isod. 'Dwi'n siwr na fydd Ifan yn meindio os ydw i hefyd yn defnyddio y blogiad i led ymateb i sylwadau wnaeth ar ei gyfri Trydar yn cwestiynu pwrpas y Blaid os nad ydi'n cefnogi cofnod Cymraeg cyflawn.


Y peth cyntaf i'w ddweud mae'n debyg ydi bod perthynas y Blaid a'r iaith Gymraeg yn gymhleth a bod natur y berthynas honno o bosibl yn niweidiol i'r ddau. Yn y gorffennol mae'r gyfrifoldeb am amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg wedi syrthio i raddau helaeth ar ysgwyddau'r Mudiad Cenedlaethol (hynny yw y Blaid + mudiadau iaith). Mae hynny wedi bod yn anisgwyl o lwyddiannus ar sawl gwedd, ac mae statws y Gymraeg - a'i delwedd - wedi eu trawsnewid yn llwyr. Nid yn unig hynny, ond ceir lled gonsensws bellach ymysg gwleidyddion Cymreig ynglyn a phwysigrwydd y Gymraeg - mae pob plaid - i rhyw raddau neu'i gilydd yn gefnogol i'r Gymraeg bellach.

Serch hynny roedd cost i'w dalu am y llwyddiant hwnnw - cost etholiadol o safbwynt y Blaid. 'Does gen i ddim pwt o amheuaeth i'r canfyddiad bod y Blaid yn endid sy'n ymwneud yn bennaf a'r iaith Gymraeg wedi ei gwneud yn llawer llai etholadwy mewn rhannau mawr o'r wlad. O ganlyniad mae'r hyn a ddylai fod yn amcan creiddiol i fudiad cenedlaethol - annibyniaeth - ymhell ar ol yng Nghymru o gymharu a'r Alban neu Ogledd Iwerddon. 'Dydi hynny ddim yn golygu bod cefnogaeth di amwys i'r Gymraeg wedi bod yn gamgymeriad, ond mae'r ffaith bod y faich o'i chefnogi ar lefel gwleidyddol bellach yn gallu cael ei rannu efo'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru yn cynnig cyfle i'r Blaid ehangu ei hapel etholiadol, a symud ymlaen efo'r agenda annibyniaeth yn sgil hynny. Mae'n debygol y bydd rhaid i'r Blaid wneud addasiadau yn sgil hynny - ac mae hyfyd yn debygol y bydd rhai o'r addasiadau hynny yn anghyfforddus i'r sawl yn ein plith sydd a'u gwreiddiau yn y mudiad iaith.

Mae'n debyg bod yr hyn rwyf wedi ei sgwennu hyd yn hyn yn awgrymu fy mod am gytuno nad oes angen cyfieithu'r cofnod yn ei gyfanrwydd, ond nid dyna fy marn. 'Dwi'n meddwl fy mod wedi dadlau yn y gorffennol bod y syniadaeth sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn weddol fas a di sylwedd o gymharu a syniadaethau cenedlaetholgar rhai gwledydd eraill. Mae hynny'n wir hefyd am y consensws lled wladgarol sy'n nodweddu ein dosbarth gwleidyddol yn ei gyfanrwydd. Mae'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru yn wlatgarol Gymreig mewn rhyw ffordd neis, neis a phoenus o gymhedrol bellach, ac mae hynny yn ei dro yn adlewyrchu adfywiad ehangach mewn ymwybyddiaeth cenedlaethol yng Nghymru. Agwedd amlwg ar hyn ydi'r cydymdeimlad gweddol gyffredinol tuag at yr iaith.

Ond, sobr a arwynebol ydi hyn oll, mae llawer o'r camau sydd wedi eu cymryd i hybu'r Gymraeg yn arwynebol hefyd. Mae llawer o'r adfywiad cyhoeddus yn y defnydd o'r iaith wedi ei sylfaenu ar neidio trwy gylchoedd er mwyn ymddangos i fod yn gefnogol iddi. Dyna pam y ceir archfachnadoedd gyda'u harwyddion i gyd yn ddwyieithog, ond sydd heb yr un o'u staff yn gallu siarad a'r cwsmeriaid yn y Gymraeg. Dyna pam nad yw'n bosibl cynnal ymholiad yn y Gymraeg i gynghorau sydd a gwefannau cwbl ddwyieithog, a dyna pam y ceir llinellau cymorth Cymraeg sydd ond yn gallu cynnig cymorth i ddatrys y broblem mwyaf elfennol. Dyna pam bod rhaid gofyn am ffurflenni Cymraeg mor aml, tra bod y ffurflen Saesneg wedi ei harddangos yn hollol glir. A dyna pam bod yr hawl i addysg Gymraeg i lawer o Gymry ond ar gael os ydynt yn fodlon rhoi eu plant ar fws am awr y naill ben i'r diwrnod ysgol a'r llall.

A (sori am fod yn ailadroddus) dyna pam ei bod yn bwysig i'r Cynulliad osgoi gadael ei hun yn agored i'r cyhuddiad o neidio trwy gylchoedd. Mae dyn yn gobeithio - yn hyderu - y bydd y Cynulliad tros y blynyddoedd nesaf yn disgwyl ac yn mynnu mwy gan gyrff cyhoeddus o ran darpariaeth Gymraeg. Bydd llawer o'r cyfryw gyrff yn gwneud y lleiaf bosibl tra'n ceisio ymddangos i wneud llawer mwy - neidio trwy gylchoedd mewn geiriau eraill. Os ydi'r cyfryw gyrff i gymryd eu dyletswyddau o ddifri, mae'n bwysig bod y Cynullad yn dangos iddynt ei fod yntau yn cymryd y Gymraeg o ddifri. Nid trwy neidio trwy gylchoedd a gwneud ychydig tra'n ceisio ymddangos i wneud llawer mae gwneud hynny. Os ydi'r Cynulliad am i eraill gymryd y Gymraeg o ddifri, rhaid iddo wneud yn siwr nad oes amheuaeth ei fod yntau'n cymryd yr iaith o ddifri.

Mae'n wir yn bryd i'r Blaid symud ymlaen a pheidio a gweld ei hun fel yr unig blaid sy'n amddiffyn y Gymraeg. Ond 'dydi'r amser heb gyrraedd i drystio'r pleidiau unoliathol i wneud joban iawn ar eu pennau eu hunain chwaith.

Mi ddylai'r Blaid wneud safiad ar y mater yma am y rhesymau a amlinellwyd uchod os nad ar yr un arall.

Thursday, June 21, 2012

Gwilym Owen - rhif 194

Bethan Jenkins ydi targed Gwilym Owen yn ei golofn ryfedd yn Golwg yr wythnos yma - nid am y tro cyntaf.

Mae'n cymryd tua 450 o eiriau i honni i'r Bib beidio a mynd ar ol sylwadau gan Bethan ar Twitter oherwydd i'r Western Mail eu curo i stori oedd yn ymwneud a'r ffaith iddi fethu a mynychu dau gyfarfod tra ar ymweliad a'r Iwerddon yn ddiweddar. Gobeithio nad ydi Golwg yn talu fesul gair.

Wel, mae'n bosibl am wn i bod rhyw fath o bwynt gan Gwilym - ond mae yna eglurhad ychydig yn symlach mi dybiwn. Efallai nad ydi stori am ddiffyg ymddangosiad gwleidydd mewn cyfarfodydd yn stori arbennig o ddiddorol i'r rhan fwyaf o bobl, ac efallai nad yw'n newyddion i neb ond Gwilym bod yna fwlis a phobl slei yn ymwneud a gwleidyddiaeth. Ac efallai, jyst efallai nad ydi pawb yn cytuno ag awgrym Gwilym bod gwleidyddion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o addas ar gyfer sylw negyddol gan y cyfryngau.

Wednesday, June 20, 2012

Carwyn a'r WMDs

Felly mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig yn erbyn WMDs yn Iran, Irac ac ati, ond o blaid eu gorfodi nhw ar Gymru.

O ganlyniad ymddengys bod Carwyn Jones eisiau lleoli WMDs yng Nghymru - arfau fyddai yn rhoi'r wlad ymysg prif dargedau unrhyw elyn - yn absenoldeb unrhyw ddylanwad tros bolisiau tramor a allai arwain at ryfel efo'r gelyn hwnnw.

Tybed os oes yna unrhyw lywodraeth arall yn unrhyw le yn y Byd fyddai'n fodlon rhoi'r wlad mae'n llywodraethu trosti mewn perygl sylweddol, tra'i bod heb unrhyw fewnbwn i'r prosesau sy'n arwain at gynnydd a lleihad yn lefel y risg hwnnw?

Monday, June 18, 2012

Taflen ddi enw Bryncrug

Ymddengys i'r daflen isod gael ei dosbarthu ym Mryncrug yn ystod y dyddiau cyn yr is etholiad diweddar. Dydi dosbarthu taflenni ddim yn beth anarferol mewn etholiad wrth gwrs - ond yr hyn sy'n anarferol am y daflen yma ydi'r ffaith ei bod yn anghyfreithlon. I ddechrau dydi hi ddim yn ateb y gofyn cyfreithiol ar y sawl sy'n cyhoeddi gohebiaeth etholiadol i ddarparu enw a chyfeiriad.

Yn bwysicach, mae'r honiadau a wneir yn y ddogfen yn rhai nad ydynt yn wir. Mae'r cyntaf yn cyfeirio ynglyn ag anghydfod lleol ynglyn a phlant yn cerdded i'r ysgol lle daethwyd i gyfaddawd efo'r Awdurdod Addysg. Fel sy'n gyffredin yn y sefyllfaoedd hyn - ac yn arbennig yn ystod cyfnod is etholiad - roedd nifer yn hawlio cyfrifoldeb am y cyfaddawd hwnnw - ond roedd gan yr ymgeisydd Plaid Cymru, Alun Wyn Evans cystal dadl a neb i hawlio cyfrifoldeb. Roedd wedi tynnu sylw'r deilydd portffolio addysg at y sefyllfa, roedd hithau wedi dod i'r ardal ac roedd cyfaddawd wedi ei gyrraedd yn sgil hynny. 'Does yna ddim gwirionedd o gwbl yn yr honiad i Alun Wyn Evans bleidleisio tros gau Ysgol Bryncrug - roedd rhaid iddo atal ei bleidlais oherwydd cysylltedd. Mae dweud celwydd am ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiadol yn groes i gyfraith etholiadol.


Rwan 'dydi hi ddim yn glir pwy oedd yn gyfrifol am y pamffled, ac yn wir 'does yna ddim tystiolaeth bod yr un o'r ymgeiswyr efo unrhyw gysylltiad o gwbl efo'r mater - er ei bod yn weddol amlwg mai ymgais i ddyladwadu ar y ffordd roedd pobl am bleidleisio oedd yr ymarferiad. Serch hynny mae'n anffodus bod mater fel hyn wedi effeithio ar etholiad yng Ngwynedd, ond 'dydi o ddim y tro cyntaf na'r olaf mi dybiwn i'r math yma o beth ddigwydd

Saturday, June 16, 2012

Plaid vs Llais - y darlun ystadegol

Gweld sylw yn nhudalen sylwadau'r blogiad isod oedd yn rhoi canlyniad etholiad Bryncrug wnaeth i mi fynd at Excel yn gynharach heddiw. Ailadrodd canfyddiad sy'n un eithaf cyffredinol oedd y sylw - bod Llais Gwynedd yn gwneud yn dda yn erbyn Plaid Cymru mewn etholiadau lle mai dau ymgeisydd yn unig a geir. Yr awgrym sydd ymhlyg yn hyn ydi bod pobl sy'n wrthwynebus i'r Blaid yn tueddu i hel at ei gilydd o dan faner Llais Gwynedd mewn rasus dau geffyl.

Er bod y canfyddiad yn un cyffredin 'dydi o ddim yn wir. Mewn etholiadau dau geffyl rhwng Llais Gwynedd a'r Blaid cafodd y Blaid 5788 pleidlais i 4628 Llais Gwynedd. Mae hyn yn gymhareb o tua 56/44. Mewn etholiadau lle'r oedd tri neu fwy o ymgeiswyr cafodd y Blaid 2268 pleidlais i 2214 Llais Gwynedd - cymhareb o tua 51/49. Efallai ei bod werth nodi nad oes tystiolaeth bod pleidleiswyr y pleidiau unoliaethol yn aros adref mewn etholiadau lle nad oes ymgeiswyr yn sefyll trostynt - mae cyfraddau pleidleisio yn uchel mewn etholiadau llywodraeth leol yng Ngwynedd - yn wir maent yn uwch nag ydynt yn etholiadau'r Cynulliad mewn llawer o wardiau - yn arbennig rhai gwledig, lle mae Llais Gwynedd yn tueddu i sefyll.

Rwan mae sawl dehongliad posibl i hyn - ond yr un mwyaf amlwg ydi bod mwy o bleidleisio tactegol yn erbyn Llais Gwynedd na sydd yn gwneud hynny yn erbyn y Blaid.

Is etholiad Bryncrug a hen batrwm yn dod yn ol

Prif arwyddocad yr is etholiad ym Mryncrug mae'n debyg ydi'r ffaith nad oes gan y Blaid fwyafrif llwyr ar Gyngor Gwynedd o ganlyniad i beidio a'i hennill - nid bod hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr - byddai'r dealltwriaeth efo Llafur wedi goroesi beth bynnag. Yn wir prin ei bod yn yn syndod na ddaeth y Blaid yn gyntaf - er bod gennym ymgeisydd da, ac er i'r ymgyrch fod yn digon effeithiol, dydi hwn ddim yn dir naturiol i ni - dydan ni erioed wedi ennill sedd yno.

Yr hyn sy'n fwy diddorol i'r sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd ydi perfformiad hynod o wan yr ymgeisydd Llais Gwynedd - dyn sy'n digwydd bod yn wr i gynghorydd LlG sydd a phroffeil uchel iawn, sef Louise Hughes.

Mae'r canlyniad yn cadarnhau patrwm rhanbarthol a sefydlwyd yn etholiadau mis Mai eleni pan berfformiodd Llais Gwynedd yn gadarn iawn yn Nwyfor, yn siomedig yn Arfon ac yn drychinebus ym Meirion. Roedd ganddynt bedair sedd ym Meirion ar gychwyn tymor y cyngor diwethaf, un sydd ganddynt bellach - un Louise yn Llangelynin.

Efallai ei bod werth atgoffa ein hunain o'r canlyniadau ym Meirion ym mis Mai i ddeall yn iawn pa mor drychinebus oeddynt i Lais Gwynedd mewn gwirionedd.

Llangelynin:

LlG 493
Ann 235

Brithdir:

PC 527
LlG 121

Diffwys a Maenofferen:

PC 309
LlG 92

Harlech:

PC 471
LlG 187

Llanbedr:

PC 261
LlG 184

Penrhyndeudraeth:

PC 655
LlG 258

Rwan mi fyddwn mae'n debyg yn gor symleiddio i awgrymu y byddai Llais Llyn ac Eifionydd yn enw mwy addas i Lais Gwynedd na'r un swyddogol - mae ganddynt ddeg (neu unarddeg erbyn meddwl o ganlyniad i un o'r cynghorwyr annibynnol yn newid ochr) o aelodau yn Nwyfor, un ym Meirion a dau yn Arfon - ond mae gwirionedd yn y gor symleiddiad hwnnw.

Mae'r patrwm rhanbarthol wedi mynd yn gliriach yn ddiweddar, roedd gan Lais Gwynedd bedwar aelod ym Meirion yn 2008 o gymharu a'r un sydd ganddynt heddiw, ac maent wedi colli pedair is etholiad o'r bron yno hefyd. Mae ganddynt broblem ychwanegol yn Arfon - sef nad ydynt yn gallu dod o hyd i ymgeiswyr i'r dwyrain o Gaernarfon - ardal boblog sy'n cael ei chynrychioli gan lawer o gynghorwyr.

Yn rhyfedd iawn, mae'r patrwm yma yn adlais o batrwm nid anhebyg oedd yn bodoli yn y dyddiau cyn ad drefnu llywodraeth leol yn 1996. Bryd hynny roedd Plaid Cymru yn gwneud yn llawer gwell ar lefel llywodraeth leol ym Meirion ac Arfon nag oedd yn gwneud yn Nwyfor - er bod y gwrthwyneb yn aml yn wir mewn etholiadau San Steffan. Nid oedd y Blaid yn ennill mwyafrif llwyr yn y ddau ranbarth fel mae'n ei wneud heddiw, ond roedd yn gwneud yn dda - yn llawer gwell nag oedd yn ei wneud yn Nwyfor. Doedd Llais Gwynedd ddim yn bodoli bryd hynny wrth gwrs, annibynwyr o gwahanol fath oedd yn cael eu hethol yn Nwyfor bryd hynny - ond mae'n ddiddorol fel mae hen batrymau etholiadol yn dod yn ol i'r wyneb.

Friday, June 15, 2012

Is etholiad Bryncrug

Clarke, Nancy Elizabeth Annibynnol 51 10.2%
Evans, Alun Wyn Plaid Cymru 136 27.2%
Hughes, Gwyn Llais Gwynedd 35 7%
Lawton, Beth Annibynnol. 212 42.4%
Pughe, John Annibynnol. 66 13.2%

Thursday, June 14, 2012

'I agree with Nick'

Fydd hyn ddim yn digwydd yn aml iawn, ond dwi'n cytuno 100% efo sylwadau Nick Clegg heddiw.

There's no good the Labour Party in Cardiff saying'we need more of this, that or the other, we want more money', but not taking any accountability & responsibility for raising more money in the first place.

My own view is that it isn't going to benifit the people of Wales for the Labour Party to endlessely indulge in the politics of finger pointing, the politics of greivance, blaming everything on London.
Cweit.

Tuesday, June 12, 2012

Pam na fydd Llafur Cymru yn derbyn yr hawl i drethu - beth bynnag ffawd Barnett

'Dydw i ddim yn cytuno efo Gareth Hughes yn aml, ond mae ei flogiadu - ag eithrio'r rhai sy'n ymwneud a cheffylau wrth gwrs - yn rhai digon diddorol. Mae hynny'n wir am flogiad heddiw.

Dadl Gareth ydi na fydd y Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn symud tuag at dderbyn yr hawl i drethu yng Nghymru hyd y bydd y llywodraeth yn Llundain yn diwygio fformiwla Barnett (y dull a ddefnyddir i ariannu Cymru), ac na fydd hynny'n digwydd yr ochr yma i refferendwm yr Alban yn 2014. Y rheswm am hynny yn ol Gareth yw y byddai newid Barnett yn debygol o wneud i fwy o bobl fotio 'Ia' yn y refferendwm hwnnw.

',Dwi'n anghytuno. 'Dydi'r Blaid Lafur Gymreig byth am dderbyn yr hawl i drethu o'u gwirfodd. Y peth diwethaf mae'r blaid ei eisiau ydi sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant. Mae'r gallu i alw am fwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu neb i dalu am y gwariant hwnnw yn greiddiol i apel y Blaid Lafur Gymreig. Ni fydd y Blaid Lafur Gymreig yn gwneud unrhyw beth i amharu ar eu hapel etholiadol. Ennill etholiadau ydi'r peth pwysicaf o ddigoni Lafur yng Nghymru.

'Dydi diwygio Barnett ddim yn debygol o newid y realiti sylfaenol yma.

Monday, June 11, 2012

Perygl y consensws cyfryngol

Mae'n ddiddorol nodi bod Paul Flynn yn tynnu sylw at y math nonsens di dystiolaeth sy'n cael ei gynhyrchu mewn ymdrech i hybu'r teulu brenhinol - gyda'r Charities Aid Foundation yn yr achos hwn yn honni i Mrs Windsor helpu codi £1.4bn y flwyddyn i achosion da. Mae'r honiad ar y gorau yn hynod amheus, ac ar y gwaethaf mae'n gelwydd di sail.

Mae'r stori yn atgoffa dyn o honiad y Daily Post bod y ffagl rhywsut, rhywfodd am gynhyrchu £10m i Ogledd Cymru. Fel mae Plaid Wrecsam yn nodi, 'does yna ddim ffadan goch o dystiolaeth tros yr honiad hwnnw.

A dyna'r drwg efo digwyddiadau / sefydliadau lle mae yna gonsensws cyfryngol eu bod nhw'n bethau da - y frenhiniath a'r Gemau Olympaidd er enghraifft. Lle nad oes consensws, mae honiadau di sail yn llai tebygol o gael eu gwyntyllu oherwydd bod y sawl sydd eisiau eu gwneud yn gwybod y bydd yr honiadau hynny'n debygol o gael eu tynnu'n ddarnau gan rhywun neu'i gilydd yn y cyfryngau. Ond lle ceir consensws cyfryngol dydi'r ddisgyblaeth yna ddim yn bodoli. Ac o ganlyniad yr hyn a geir ydi honiadau amheus / celwyddog / crafllyd yn cael eu creu gan un ffynhonnell gwybodaeth, a ffynonellau cyfryngol eraill yn eu hailadrodd yn ddi feirniadaeth.

Y broses yma sy'n gwneud newyddiaduriaeth mor rhyfedd mewn cyfundrefnau unbeniaethol. 'Dydi'r unben ddim yn gorfod ymyryd yn ormodol ym musnes diwrnod i ddiwrnod y cyfryngau newyddion - mae'r consensws newyddiadurol ynddo'i hun yn creu caseg eira o gelwydd a nonsens. A dyna pam bod cyfryngau gwirfoddol fel blogiau Plaid Wrecsam a Paul Flynn yn bwysig - maen nhw'n gwneud rhywbeth o leiaf i dorri ar gonsensws diog sy'n hynod niweidiol i newyddiadura gwrthrychol.

Friday, June 08, 2012

Carwyn a'r Gymraeg

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai'r ffordd gorau o roi hwb i'r Gymraeg ydi sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio yn amlach..Dwi'n siwr ei fod yn llygad ei le - ond efallai bod yna le i'r dyn ddechrau wrth ei draed ei hun.

Yn ol fy nghyfri fi mae'r ACau Llafur canlynol yn siarad yr iaith yn eithaf rhugl - Carwyn ei hun, Alun Davies, Mark Drakeford, Keith Davies, Gwenda Thomas a Leighton Andrews. Mae Jane Hutt a Huw Lewis gyda rhywfaint o Gymraeg hefyd. Mae'n fwy na phosibl fy mod wedi methu rhywun.

Rwan - ag eithrio Keith Davies, sy'n gwneud defnydd cyson a chlodwiw o'r iaith ar lawr y Cynulliad - pa un o'r uchod sy'n dod yn agos at wneud defnydd cyfartal o'r ddwy iaith?

Dwi'n gwybod nad ydi gosod esiampl yn y Cynulliad ynddo'i hun am wneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad? Ond os ydi pobl sydd ddim yn clywed y Gymraeg o'u cwmpas yn ddyddiol i ddechrau gwneud defnydd cyson ohoni, maent angen ei chlywed mewn cymaint o gyd destunau gwahanol a phosibl. Mae gan bobl fel Carwyn a'i gyd ASau eu rhan i chwarae os ydi hynny i gael ei wireddu.

Thursday, June 07, 2012

A thra ein bod yn siarad ar faneri _ _ _

_ _ _  chware teg i Gwil am fod ddigon dewr i ddangos ei ochr. 

Er nad ydw i'n un mawr am y Jac yn bersonol, mae'n rhaid edmygu dyn sy'n fodlon sefyll tros ei ddaliadau.  Gwil a Gwil yn unig sydd wedi rhoi'r faner goch, glas a gwyn ar ei dy yn Llanberis - nid ar chwarae bach mae dyn yn mynd ati i ddiffinio ei hun fel prif frenhinwr Llanber.

Felly da iawn chdi was - dal dy dir!

Brwydr y baneri - Caernarfon

Os ydych chi wedi bod yn aros yng Nghaernarfon, neu'n ymweld a'r dref yn ystod Eisteddfod yr Urdd byddwch wedi sylwi ar y baneri a'r bynting sydd wedi ymddangos ym mhob man. Byddwch hefyd mae'n debyg gen i wedi nodi bod llawer, llawer mwy o goch, gwyn a gwyrdd i'w weld na choch, gwyn a glas.

Ond pe taech wedi chwilio byddech wedi dod o hyd i gryn dipyn o goch, gwyn a glas - ond byddai'r rhan fwyaf ohono wedi bod yn anodd i'w ganfod - roedd 95% o leiaf - wedi ei leoli ar dair stryd sydd wedi eu cysylltu a'u gilydd ar un stad tai cyngor - Ffordd 'Sgubor Goch, Cae'r Caint a Maes Barcer - yr unig strydoedd yng Ngwynedd i gael eu cau i bwrpas cynnal parti. Mae'r strydoedd yma, gyda llaw, ymysg y tlotaf yn y Gogledd Orllewin, ac ymysg y mwyaf Cymraeg o ran iaith yng Nghymru.

Beth bynnag - dyma i chi flas o frwydr y baneri yng Nghaernarfon:

Coch Gwyn a Glas

Lon Sgubor Goch


Boots

Y Four Alls

Tipyn o'r ddau

Yr Institiwt


Siop Dan Cloc


British Heart Foundation

Spar Maes


Cancer Research


Craft Cymru

Maes Barcer

Cae'r Saint

Coch Gwyn a Gwyrdd

Yr Eagles
 Tesco
 McDonalds
Lon Parc
Llys Meirion

Stryd Fawr

Gwesty'r Celt

Castell Caernarfon
Plaid Cymru

Wil Bwtch

Stryd Twll yn y Wal

Pencadlys Cegin Cofi

Moduron Menai

 Cofi Roc

 Black Boy

Y Castell

Stryd Llyn

Banc HSBC (a phob banc arall)

 Gray Thomas

 Palas Print

 Y Farchnad


 Stryd y Plas

Siop Llinos

 Celtica

Ffordd y Gogledd

 Stryd y Bont

Stryd Fawr

Tuesday, June 05, 2012

Pam bod rhaid gochel rhag cyfaddawdu efo syniadaethau cenedlaetholdeb Prydeinig

Roeddwn yn darllen ymdriniaeth Ifan ar ei flog o'r syniadaeth sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn ychydig ddyddiau'n ol - ac am rhyw reswm gwnaeth hynny i mi feddwl am gyfres o ddigwyddiadau yn Nulyn roeddwn yn dyst iddynt flynyddoedd yn ol. Dylid darllen y blogiad yma yng nghyd destun un Ifan.

Cyn edrych ar y digwyddiadau hynny, efallai y dyliwn ddweud gair neu ddau am gefndir cyfredol blogiad Ifan - y dathliadau brenhinol sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Yr hyn sy'n hynod am boblogrwydd presenol y frenhiniaeth ydi'r ffaith ei fod fel sefydliad yn tynnu mor gyfangwbl groes i syniadaeth yr oes. Mae'r rhan fwyaf o bobl - hyd yn oed ym Mhrydain - yn rhyw led dderbyn gwaddol syniadaethol y Chwyldro Ffrengig - cydraddoldeb, rhyddid yr unigolyn, democratiaeth, hawliau sifil, cyfartaledd cyfle ac ati. Mae'r syniadaeth sydd ynghlwm a'r frenhiniaeth yn gwbl groes i'r rheiny - trefn gaeth o ran dosbarthiadau cymdeithasol, elitiaeth, cyfoeth a phwer wedi ei gyfiawnhau ar sail teuluol ac ati. Pethau sy'n hollol groes i ddaliadau'r rhan fwyaf ohonom.

I'r graddau yna mae'r ffaith bod cymaint o bobl wedi ymgolli'n llwyr mewn delweddau a naratif syml sy'n cuddio gwacter syniadaethol y cwlt brenhinol yn dysteb i rym y cyfryngau i lywio'r ffordd mae pobl yn meddwl - o leiaf mewn perthynas a phethau syml mae'n bosibl eu gwahanu oddi wrth fywyd pob dydd.

Ond ar lefel arall mae'n dysteb i afael cenedlaetholdeb ar bobl. Yn ei hanfod mynegiant modern o hen reddf llwythol o fod eisiau perthyn i grwp yr ydym yn eithaf cyfforddus efo fo ydi cenedlaetholdeb. Yng Nghymru mae yna gymhlethdod oherwydd bod yna hunaniaethau cenedlaethol gwahanol yn ymgiprys efo'i gilydd - un Cymreig ac un Prydeinig. I raddau mae'r ymgiprys hwnnw yn zero sum game - mae'r hyn sy'n cryfhau'r ymdeimlad o Gymreictod yn gwanio'r ymdeimlad o Brydeindod - ac mae'r un peth yn wir i'r gwrthwyneb wrth gwrs. Dyna pam bod yr holl fusnes o ddyrchafu'r frenhiniaeth sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn peri diflastod i lawer ohonom sy'n genedlaetholwyr Cymreig.

Ond mae cenedlaetholdeb amgen ynddo'i hun mewn perygl o efelychu gwacter a diffyg perthnasedd cenedlaetholdeb Prydeinig - ac mae hynny yn arbennig o wir os ydym yn ceisio cyfuno cenedlaetholdeb Cymreig efo ymlyniad i'r teulu brenhinol, a'r syniadaeth sydd ynghlwm a hynny. Priod le cenedlaetholdeb Cymreig yr unfed ganrif ar hugain ydi yn agos at werthoedd yr unfed ganrif ar hugain - nid efo'r gwerthoedd sydd bellach wedi dyddio mae'r frenhiniaeth yn eu cynrychioli. Mae cenedlaetholdeb sydd yn ddim mwy na hynny wedi ei seilio ar syniadaeth digon tenau a di sylwedd yn y pen draw.

Daw hyn a ni at fy mhrofiad hynod fyrhoedlog o'r traddodiad gweriniaethol yn yr Iwerddon. Mae hi'n ddeg mlynedd ar hugain a mwy yn ol ers i mi gael fy hun ynghanol gwrthdaro sylweddol a digon gwaedlyd yn rhai o strydoedd cyfoethocaf Dulyn. Canlyniad i wrthdystiad y tu allan i lusgenhadaeth Prydain yn ystod yr ympryd newyn yn 1981 oedd y gwrthdaro hwnnw. Doeddwn i ddim yn gwybod dim oll am y brotest hyd y noson cynt pan welais hysbyseb mewn clwb Gwyddelig (yn ystyr ieithyddol hynny). Mi es i St Stephen's Green, lle'r oedd yr orymdaith yn cychwyn, o ran chwilfrydedd mwy na dim arall. Roeddwn wedi synnu dod ar draws torf mor fawr, a mor ymddangosiadol hwyliog - roedd yna hyd 20,000 o bobl yno, ac roedd pedwar o'r ymprydwyr newyn wedi marw, gyda dau arall yn agos at farwolaeth.

Ta waeth, i dorri stori hir yn fyr, diflannodd yr hwyl o gyrraedd y llysgenhadaeth Brydeinig a'r cannoedd o heddlu terfysg oedd yn ei amddiffyn ychydig strydoedd i ffwrdd, a chafwyd rhai oriau o ymladd stryd digon ciaidd rhwng elfennau o'r dorf a'r heddlu. Yr hyn sydd wedi aros efo fi mwy na dim, a'r hyn sy'n berthnasol i'r blogiad yma ydi'r hyn roedd y sawl oedd yn ymladd yn bloeddio ar ei gilydd yn ystod y gwrthdaro - Stand your ground, stand your ground - defend the Republic, defend the Republic.

Rwan, ar un olwg roedd hyn yn rhywbeth eithaf boncyrs i'w weiddi - wedi'r cwbl roeddynt yn ymladd yn erbyn gweision cyflogedig y Weriniaeth Wyddelig swyddogol. Ond - fel llawer o bethau mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig, roedd yna gyd destun ehangach. Roedd llawer o'r sawl oedd yn ymladd o'r tu allan i Ddulyn, ond roeddynt yn gwybod mai Stand your ground, defend the Republic oedd aelodau'r IRB yn ei weiddi ar eu gilydd, wrth ymladd y fyddin Brydeinig ychydig strydoedd i ffwrdd o ben y gwahanol adeiladau yr oeddynt wedi eu meddiannu tra'n datgan eu Gweriniaeth wreiddiol yn ol yn 1916.

Ond mewn ystyr arall mae'r gair Republic yn un syniadaethol - ac yn yr ystyr hwnnw roedd protestwyr yn credu eu bod yn amddiffyn rhywbeth haniaethol - rhywbeth roeddynt yn ei gario efo nhw - eu credoau gwleidyddol creiddiol. Mae'r syniadaeth honno i'w gweld ym Mhroclomasiwn 1916 - dogfen sydd wedi ei atgynhyrchu filynau o weithiau, a sydd i'w gweld yn aml ar waliau adeiladau cyhoeddus, tafarnau a thai preifat yn yr Iwerddon.


_ _ _ The Republic guarantees religious and civil liberty, equal rights and equal opportunities to all its citizens, and declares its resolve to pursue the happiness and prosperity of the whole nation and of all its parts, cherishing all the children of the nation equally, and oblivious of the differences_ _ _

Rwan peidiwch a fy ngham ddeall i - mae yna lawer am y traddodiad gweriniaethol Gwyddelig nad ydw i yn ei hoffi - mae'n rhy anhyblyg, rhy barod i ddiffinio ei hun fel gwrth bwynt i Brydeindod, a llawer rhy barod i droi at drais. Ond does yna ddim amheuaeth bod y syniadaeth mae wedi ei seilio arni yn fwy pwerus na'r hyn mae ein cenedlaetholdeb ni wedi ei seilio arno.

Mae'r bobl sydd wedi ei harddel wedi ei chymryd mwy o ddifri o lawer nag ydym ni. Maent wedi bod yn fodlon dioddef (ac achosi dioeddefaint wrth gwrs) trosti mewn ffordd nag ydym ni erioed wedi bod yn fodlon gwneud.

Un o'r pethau trawiadol am y gwrthdaro ar Merion Road yr holl flynyddoedd yna yn ol oedd dewrder pobl - gyda genod bach un ar bymtheg oed yn taflu eu hunain ar heddlu oedd wedi eu harfogi gydag offer atal terfysg. Mae'n debyg i ddegau o filoedd o Wyddelod gael eu lladd a'u carcharu yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf oherwydd eu hymlyniad i'w syniadaeth. Mae'r syniadaeth wedi galluogi llawer iawn o bobl i ddangos dewrder personol sylweddol er ei mwyn. Does dim rhaid i ni gytuno efo'r dulliau treisgar sydd wedi bod yn nodwedd llawer rhy amlwg o'r traddodiad Gwyddelig i allu cydnabod hynny.

Y rheswm am hyn ydi bod y syniadaeth ei hun yn un sy'n apelio at bobl ar sawl lefel. Mae'n bwydo ar y traddodiad gweriniaethol Ewropiaidd ac addewid hwnnw am well bywyd i'r sawl sy'n ei arddel. Mae'n cyfuno delfrydau gwleidyddol pobl, eu gobeithion materol a'r ymdeimlad o chwarae teg a chydraddoldeb mae'r rhan fwyaf ohonom bellach yn ei arddel. O ganlyniad mae ardrawiad emosiynol y syniadaeth yn aml haenog - mae hyn yn ei dro yn ei gwneud yn haws i'w chymryd o ddifri ac i ymroi iddi.

Dwi'n deall pam bod pobl yn dweud y dylai'r Mudiad Cenedlaethol syrthio i mewn i'r consensws sefydliadol ynglyn a'r frenhiniaeth - wedi'r cwbl mae methiant i wneud hynny yn rhwym o arwain at ymysodiadau hysteraidd gan y cyfryngau torfol - ac mae'r rheiny yn hynod bwerus. Ond mae creu syniadaeth genedlaetholgar Gymreig sydd wedi ei seilio ar hanfodion cenedlaetholdeb Prydeinig cyfoes yn debygol o arwain at syniadaeth amherthnasol a di sylwedd - un nad oes neb mewn gwirionedd yn ei chymryd o ddifri.

Y Bib yn dangos ei blaenoriaethau arferol

Peidiwch a fy ngham ddeall i rwan - fel rhywun a dreuliodd ddwy awr bron yn y car ddoe yn ceisio mynd o Gaernarfon i Glynllifon i Eisteddfod yr Urdd, a sydd newydd redeg yr un daith i gasglu'r car - 'dwi wedi bod yn diawlio'r trefniadau cymaint a neb tros y diwrnod diwethaf.

Ond tydi o'n ddiddorol bod gwefan Saesneg y Bib yng Nghymru efo llond tudalen flaen o straeon di feirniadaeth - ac yn wir crafllyd - am y jiwbili, ond mae'r unig stori sydd ganddynt ar y dudalen honno am Eisteddfod yr Urdd yn ymwneud yn llwyr a'r anhrefn traffig.

Monday, June 04, 2012

Y Toriaid a'r polau piniwn diweddaraf

Mae'r polau piniwn ers cyllideb drychinebus George Osborne wedi dangos cwymp cyson ym mhleidlais y Toriaid a'r Lib Dems.

Yn wir petai pol diweddaraf Angus Reid yn cael ei gwireddu (Llaf 45%, Toriaid 29% a Lib Dems 9%) yna un aelod seneddol Toriaidd fyddai'n cael ei ethol yng Nghymru a Glyn (nid David) Davies fyddai hwnnw. Mae hyn yn wir am y ffiniau sy'n cael eu drfnyddio ar hyn o bryd, a'r rhai newydd arfEthiedig.

Effaith posibl newid y drefn cofrestru etholwyr

Yn ol copi heddiw o'r Daily Post mae Jonathan Edwards yn ein rhybuddio y bydd cwymp sylweddol yn y nifer fydd a'r hawl i bleidleisio yng Nghymru os ydi'r drefn cofrestru etholwyr yn cael ei newid - dyna ydi bwriad y Comisiwn Etholiadol yn ol pob tebyg.

Y bwriad ydi gwneud i bobl gofrestru yn unigol, yn hytrach na gofyn i un person mewn ty gofrestru pawb. Mae'n debyg i hyn ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon tua degawd yn ol - a'r canlyniad oedd cwymp sylweddol yn y nifer oedd ar y gofrestr pleidleisio.

Mae yna fwy i'r stori Gogledd Iwerddon fodd bynnag. Y rheswm bod y newid wedi digwydd yno oedd bod yr awdurdodau wedi argyhoeddi eu hunain mai'r unig eglurhad posibl am y twf ym mhleidlais y pleidiau 'eithafol' oedd twyll etholiadol. Roeddynt o'r farn y byddai'r newid yn gwneud twyll yn fwy anodd.

Beth bynnag - yn gwbl groes i'r darogan - canlyniad yr ymarferiad oedd cwymp sylweddol yn y ganran o'r bleidlais oedd yn mynd i'r pleidiau 'cymhedrol', a chynydd cyfatebol yng nghanran y pleidiau 'eithafol'. Mae mwy nag un eglurhad posibl am hyn, ond yr un mwyaf tebygol ydi bod cefnogwyr pleidiau 'eithafol' yn fwy ymroddedig na chefnogwyr pleidiau eraill, ac o ganlyniad maent yn fwy tebygol o gymryd y drafferth i gofrestru yn unigol.

Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd yr effaith ar batrymau pleidleisio yng Nghymru os bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu.

Sunday, June 03, 2012

Carwyn Jones yn llongyfarch Mrs Windsor



Felly mae Carwyn Jones o'r farn bod y jiwbili yn gyfle i ddiolch i Elizabeth Windsor am '60 mlynedd o gefnogaeth' i Gymru.

Rwan dwi'n sylweddoli ei bod yn dymor crafu gorffwyll a di feddwl, ond mewn difri beth yn union ydi natur y gefnogaeth yma? Does yna ddim amheuaeth ei bod yn dod yma o bryd i'w gilydd i agor hyn, neu i edrych ar y llall. Ond dyna ydi ei gwaith - ac am wneud y gwaith digon ysgafn a syml hwnnw mae'n cael cyflog anferth ac mae'n cael dal ei gafael ar freintiau sy'n caniatau iddi gynnal a chadw y ffortiwn anferth sydd ganddi hi a'i theulu - ffortiwn sydd wedi ei adeiladu ar freintiau mae ei chyn dadau wedi eu cael neu wedi eu cymryd yn y gorffennol.


Fel mae'n digwydd mae fy mam a fy mam yng nghyfraith wedi eu geni yn yr un blwyddyn a Mrs Windsor - y naill yng Ngogledd Orllewin y wlad, a'r llall yn y De Ddwyrain. Mae'r ddwy wedi byw eu bywydau yma, maen nhw wedi magu eu plant yma, maen nhw wedi gweithio yma, maen nhw wedi chwarae rhan llawn yn eu cymunedau. Mae yna filoedd lawer o bobl tebyg iddyn nhw.

Mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai arweinydd y Blaid Lafur Gymreig eisiau diolch i Gymry o'u cenhedlaeth nhw. Mae'r ffaith ei fod yn fwy cyfforddus o lawer yn llyfu a llempian wrth draed aristocratiaid tramor yn dweud y cwbl sydd angen ei ddweud am natur y Blaid Lafur Gymreig.