Saturday, June 30, 2012

O leiaf mae un rhan bach o'r sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n eithaf da

Fel blog sydd wedi bod yn gyffredinol gefnogol i weithwyr sector cyhoeddus yn ystod amser anodd i'r sector honno, mae'n debyg y dylid ymfalchio bod o leiaf un gweithiwr sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n o lew.

Son ydw i wrth gwrs am Charles Philip Arthur George Windsor. Ymddengys bod y gyfran o'i incwm sy'n dod yn uniongyrchol o'r pwrs cyhoeddus wedi codi o £1.96m i £2.19m - cynnydd o 11%. Y cyd destun ehangach i weithwyr sector cyhoeddus wrth gwrs ydi bod cyflogau'r rhan fwyaf ohonynt wedi ei rewi am y drydydd blwyddyn o'r bron.

Mae gwir incwm Charles yn llawer uwch wrth gwrs. Y cafodd £18.28m gan Ddugaeth Cernyw. Er bod yr asedau hyn (sydd werth o bosibl £700m) yn dechnegol yn rhai preifat, penderfyniadau gan y wladwriaeth yn y gorffennol sydd wedi sicrhau eu bod ar gael i etifedd brenhiniaeth Prydain.

Ymddengys bod lwmp go dda o'r pres yn cael ei wario ar deithio (£1.31m) - yn arbennig felly teithio tramor. Dadl y llywodraeth ydi bod y teithio hwn yn dod a budd ariannol i'r DU. Y broblem efo hyn ydi nad oes yna unrhyw ymdrech i gyfrifo nag asesu gwerth y budd honedig hwnnw. Yn wir, 'does yna ddim ymdrech i ddod i gasgliadau ynglyn ag effeithlonrwydd gwario cyhoeddus ar y teulu brenhinol o gwbl.

Rydym mewn sefyllfa ryfeddol lle mae nyrsus a chymorthyddion dosbarth sydd ar waelod eu graddfeydd cyflog, a sydd heb weld codiad cyflog am dair blynedd, yn cael eu perfformiad wedi ei werthuso a'i reoli yn rheolaidd, pan nad oes yna unrhyw werthuso na rheoli ar berfformiad un o'r gweithwyr sector cyhoeddus sy'n derbyn y mwyaf o gyflog a sy'n un o'r ychydig i weld codiad cyflog mewn blynyddoedd diweddar.

2 comments:

Anonymous said...

Dwi'n darllen y Daily Mail online weithia i gael ychydig o laugh.

Ond chwarae teg iddyn nhw roedd rhan fwyaf o rai oedd wedi gadael sylwadau yn rhai yn erbyn yr hyn.

Pwy a wyr? Efallai y Brenin Charles fydd yr un olaf?

Anonymous said...

Y pedwerydd cartwn:

http://www.independent.co.uk/opinion/the-daily-cartoon-760940.html