Tuesday, July 31, 2012

Y Gemau Olympaidd

Doeddwn i heb fwriadu son am y gemau a dweud y gwir, ond gan bod Team GB yn gwneud cystal (21fed - rhwng Colombia a Slofenia) mae'n debyg y dyliwn eu llongyfarch am wneud mor dda.

Felly da iawn chi bois - llongyfarchiadau.

Glyn, Maldwyn a'r melinau gwynt

Felly mae Glyn Davies yn bygwth ffeit ddyrnau oni bai bod y berthynas draddodiadol rhwng ei etholwyr a'r broses gynhyrchu trydan yn cael ei chynnal - hynny yw bod y gyfrifoldeb a'r anghyfleustra o gynhyrchu a throsglwyddo trydan yn dod i ran eraill, tra bod trigolion Maldwyn yn defnyddio'r dywydedig drydan. Mi geith Baglan Bay, Dinorwig, Penfro, Glannau Dyfrdwy, Shotton, Port Talbot a Ffestiniog gynhyrchu'r trydan ac mi gaiff Maldwyn ei ddefnyddio. Trefniant neis iawn - i Glyn a'i gymdogion.

Mae'n ddiddorol bod y genadwri yma'n codi ar yr un diwrnod a thoriadau yn y gyflenwad trydan yn India a effeithiodd ar 600 miliwn o bobl.. Mae'r rheswm tros y toriadau yn sylfaenol weddol syml - bwlch rhwng faint o alw sydd yna am drydan a'r cyflenwad y gellir ei ddarparu. Mae'r un peth wedi digwydd ym Mhrydain yn y gorffennol - yn ystod yr Ail Ryfel Byd a streiciau'r glowyr yn y 70au er enghraifft. Yn wir mae toriadau mewn cyflenwadau trydan yn hynod gyffredin ar hyd a lled y Byd - fel y gellir gweld yma.

Rwan mae'r newidiadau mae Glyn eisiau ffeit ynglyn a nhw yn digwydd mewn cyd destun ehangach - llawer ehangach. Gyrrir yr angen i ddod o hyd i ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan gan ddau beth - a bwlch rhwng cyflenwad a galw sy'n datblygu oherwydd bod nifer o orsafoedd pwer glo a Magnox yn tynnu tua diwedd eu hoes, a chytundebau mae'r DU wedi eu harwyddo sy'n ei chlymu i gynyddu'r ynni adnewyddadwy mae'n ei gynhyrchu. Mae'r ffaith na fydd cyflenwadau olew Mor y Gogledd ar gael am hir - naill ai oherwydd annibyniaeth i'r Alban, neu'r cwymp naturiol mewn lefel cynhyrchiad yn ychwanegu at y pwysau.

Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith. Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo, gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.

Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.

O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2% o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%, Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.

A daw hyn a ni yn ol at Glyn Davies a rhai o'i etholwyr tymhestlog. Eu hateb nhw i'r bwlch rhwng y cyflenwad a'r galw am drydan sy'n siwr o ddatblygu tros y blynyddoedd sydd i ddod ydi mai mater i bobl eraill ydi mynd i'r afael a'r broblem honno. Problem i eraill hefyd ydi sicrhau bod y DU yn cwrdd a'i haddewidion ynglyn a chynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Dim oll i wneud a Maldwyn - dim.

Pan roedd ein holl anghenion trydan yn cael eu cwrdd gan y diwydiant glo, roedd yn dilyn mai'r cymunedau glofaol fyddai'n cynhyrchu'r glo, ac roedd yn synhwyrol i gymunedau cyfagos ei losgi er mwyn creu trydan. Ac rwan mae amgylchiadau wedi newid, ac mae Maldwyn yn fwy addas na'r Rhondda a'r Barri, mae Glyn a'i gyfeillion yn dal o'r farn mai mater i rannau eraill o Gymru a'r DU ydi cynhyrchu trydan o hyd.

Sunday, July 29, 2012

Y wers i'r Blaid o boblogrwydd parhaus yr SNP

Mae'n ddiddorol nodi bod y pol piniwn diweddaraf yn yr Alban yn rhoi'r SNP ymhellach ar y blaen nag oedd yn ystod etholiadau 2011 hyd yn oed.. Byddwch yn cofio i'r SNP berfformio yn rhyfeddol o dda yn yr etholad hwnnw, a llwyddo i ennill mwyafrif llwyr - er bod y system etholiadol wedi ei gynllunio i sicrhau na allai hynny ddigwydd.

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol bod y prif bleidiau cenedlaetholgar yn y DU - yr SNP a Sinn Fein yn polio yn sylweddol uwch na'r Blaid, er bod y pleidiau hynny wedi bod yn hanesyddol yn llawer mwy agored ynglyn a'u delfryd o ennill annibyniaeth i'w gwledydd. Yr hyn sy'n ddiddorol o safbwynt y Blaid yn y pol hwn ydi bod cefnogaeth yr SNP yn llawer uwch na'r gefnogaeth i annibyniaeth.

Rwan, gellir darllen hyn mewn sawl ffordd - ond efallai mai'r wers y dylai'r Blaid ei chymryd ydi nad oes o reidrwydd gysylltiad uniongyrchol rhwng poblogrwydd annibyniaeth a phoblogrwydd plaid sy'n arddel y polisi hwnnw. Conglfaen poblogrwydd etholiadol yr SNP ydi'r canfyddiad ei bod yn llywodraethu'n effeithiol.

Mae'r canfyddiad hwnnw yn ei dro wedi ei adeiladu ar y canfyddiad bod y blaid yn wrthblaid effeithiol a chyson yn y blynyddoedd cyn 2007. Un o brif lwyddiannau'r SNP ydi bod yn hollol agored ynglyn a'u polisi o annibyniaeth, ond gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn atal y sawl nad ydynt am fynd cyn belled a gweld gwlad gwbl annibynnol rhag pleidleisio iddi.

Ac efallai mai dyna ddylai prif flaenoriaeth y Blaid fod - gwrthbleidio yn effeithiol, tra'n bod yn agored am ei delfrydau creiddiol. Ond cyn y gellir gwneud hynny mae'n rhaid ymddangos yn unedig a dangos undod pwrpas. Dal llywodraeth Carwyn Jones i gyfri mewn ffordd unedig a phwrpasol ddylai fod yn brif flaenoriaeth i ni tros y misoedd nesaf.

Saturday, July 28, 2012

Allanoli gwasanaethau a thaflegrau niwclear.

'Dwi ddim yn siwr beth ydi'r term Cymraeg am outsourcing - allanoli o bosibl. Beth bynnag mae'n debyg gen i eich bod yn gwybod am yr hyn 'dwi'n son - y broses o roi cyfrifoldeb am wasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat. Yn ol Golwg360 mae'r gyfrifoldeb sylweddol o gymryd gofal o daflegrau niwclear y DU yn yr Alban wedi ei allanoli i gwmni preifat ABL Alliance yn ddiweddar.

Mae cyd destun ehangach i hyn wrth gwrs. Rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae mwy o allanoli i'r sector preifat yn mynd rhagddo na sydd wedi digwydd ers yr wyth degau. Mae'n debyg y bydd gwerth mwy na £4bn o gontractau yn cael eu harwyddo eleni yn unig. Mae llawer o'r contractau hyn yn rhai y byddai llawer ohonom yn eu hystyried yn rhai sy'n ymwneud a dyletswyddau creiddiol y wladwriaeth - plismona er enghraifft.

Syniadaeth wleidyddol sydd y tu ol i hyn oll - y gred bod cwmniau preifat o reidrwydd yn fwy effeithiol na sefydliadau cyhoeddus. Ond 'dydan ni ddim yn gorfod meddwl rhyw lawer i ddod ar draws esiamplau syfrdanol o fethiant gan gwmniau preifat i gynnig gwerth am arian wrth weinyddu gwasanaethau sydd wedi eu allanoli. Yr esiampl mwyaf diweddar ydi G4S - y cwmni a gafodd y gyfrifoldeb o sicrhau diogelwch yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain. Er bod y cwmni wedi derbyn cymaint a £284m am eu 'gwasanaethau' mae'n debyg y bydd rhaid i'r heddlu a'r fyddin ddod o hyd i 20,000 o ddynion a merched i lenwi'r bylchau anferth yn narpariaeth G4S

Nid dyna'r esiampl waethaf o fethiant allanoli yn y DU - ddim o bell, bell ffordd. Arwyddodd llywodraeth Blair gontractau gwerth £12.7bn efo nifer o gwmniau technoleg gwybodaeth i ddarparu system gyfrifiadurol i'r gwasanaeth iechyd. Wnaeth pethau ddim gweithio o'r dechrau'n deg, ac yn y diwedd roedd rhaid rhoi'r gorau i'r ymarferiad yn llwyr.

'Does yna ddim llawer o dystiolaeth bod allanoli yn gweithio y tu allan i'r DU chwaith. Mewn astudiaeth gan sefydliad NFK yn Nenmarc yn ddiweddar edrychwyd ar holl allanoli'r wlad honno rhwng 2000 a 2011. Y casgliad oedd bod y broses yn creu man arbedion yn y tymor byr, ond bod y rheiny yn cael eu gor bwyso gan gostau uwch yn y tymor hirach ynghyd a chwymp posibl yn ansawdd y ddarpariaeth.

Rwan mae diogelu taflegrau niwclear yn joban go bwysig - ac mi fyddai dyn yn rhyw ddisgwyl y byddai'r wladwriaeth eisiau bod yn gwbl sicr ei bod yn cael ei gwneud yn effeithiol - mae darpariaeth niwclear y DU yn darged amlwg i derfysgwyr. Does yna ddim tystiolaeth y bydd edrych ar ol y taflegrau yn cael ei gwneud yn fwy effeithiol gan ABL Alliance - i'r gwrthwyneb - ac mae yna gryn dipyn o dystiolaeth hefyd y bydd cost effeithiolrwydd yn cael ei golli.

Esiampl hynod anymunol o ddogma yn cael ei roi o flaen diogelwch cyhoeddus mae gen i ofn.

Friday, July 27, 2012

Blogiadau o'r gorffennol - rhan 2

Blogiad o ddyddiau cynnar y blog sydd gen i'r wythnos yma - Tachwedd 2004 a bod yn fanwl. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2001 newydd eu rhyddhau, ac roedd y blogiad yn edrych ar y wardiau hynny lle'r oedd mwy nag 80% yn siarad Cymraeg. Bydd y data yma ar gael yn gynharach ar gyfer cyfrifiad 2011 - yn ystod yr hydref sydd i ddod mae'n debyg.



Beth petai’r Fro Gymraeg wedi ei adeiladu o’r wardiau hynny sydd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg? Sut byddai’n edrych?

Fel hyn.

Peblig: Caernarfon. Trefol. Byd byrlymus proletaraidd yn berwi efo plant, a chwn. Pencadlys a chartref ysbrydol y cofis oll. Bron y gallai fod yn astudiaeth achos o amddifadedd - 4ydd ward efo incwm isaf yng Nghymru, 15fed uchaf o ran diweithdra, 15fed salaf o ran addysg ac hyfforddiant, 57fed o ran ansawdd tai sal.

Seiont: Caernarfon. Trefol. Mawr a chymysg. Canol tref, fflatiau cyngor, stad dai cyngor, stadau mawr preifat, rhwydwaith o dai teras cul, ffermydd ar gyrion de Caernarfon.

Cadnant: Caernarfon. Trefol. Proletaraidd, ond ddim cymaint felly na Peblig. Stad cyngor mawr (parchus), lwni lands cymdeithasau tai, stad breifat, rhai strydoedd culion canol yn agos at ganol y dref.

Menai: Caernarfon. Trefol. Twthill sy’n dal yn rhannol ddosbarth gweithiol a thai mawr gogledd y dref. Dosbarth canol Cymraeg ei hiaith. Llawer o bobl o’r tu hwnt i Gaernarfon, ac yn wir Gwynedd. Yr unig le cyn belled i’r gogledd lle, nad yw’n anisgwyl clywed acenion y De ynddo.

Llanrug: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Dosbarth canol Cymraeg a chofis y wlad.

Bontnewydd: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Cofis wlad yn bennaf, rhai dosbarth canol Cymreig.

Bethel: Gweler Bontnewydd. Digon tebyg.

Penygroes: Pentref mawr. Diwylliant chwarel– er bod hon wedi cau. Yn orbit Caernarfon.

Groeslon. Gweler Penygroes – tebyg ond nes at Gaernarfon.

Llanwnda. Ward o bentrefi llai rhwng Groeslon / Penygroes a’r Bontnewydd. Cynnwys ardaloedd chwarel, pentref glan y mor, dosbarth canol Cymreig a cofis wlad rhan uchaf y Bontnewydd.

Wel dyna hanner yr ugain. Pob un o fewn ychydig filltiroedd i Gastell C/narfon.

Dwyrain Porthmadog: Trefol. Y rhan o Borthmadog sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno.

Gogledd Pwllheli: Trefol. Y rhan o Bwllheli sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno. Pobl tref Pwllheli a phobl o Ddwyfor wledig sydd wedi mewnfudo i’r dref. Trydydd o ran safon gwael tai yng Nghymru.

Teigl: Trefol. Blaenau Ffestiniog. Yn ol ym myd y chwareli llechi. Chwarel, neu o leiaf fersiwn open cast yn dal yn agored.

Maenofferen: Gweler Teigl. Tebyg.

Bala: Trefol, ond ychydig yn gwahanol i’r uchod. Gwasanaethu byd amaethyddol.

Tudur: Trefol. Llangefni. Proletaraidd. Un o’r wardiau efo’r incwm cyfartalog isaf yng Nghymru.

Cefni: Trefol. Llangefni. Ward mae’r heddlu’n dweud sydd a record anhygoel o anhrefn cymdeithasol. Y rheswm am hyn ydi bod yr heddlu’n ddwl. Maent yn cofnodi pob achos yng nghanol y dref (sydd yn lle anhrefnus liw nos) fel Cefni. Dydi canol y dref ddim yng Nghefni.

Cyngar: Trefol. Llangefni Llai tlawd na Tudur.

Llanuwchllyn: Gwledig. Yr unig ward amaethyddol wledig sydd a thros 80% yn siarad Cymraeg. Fel hyn oedd y rhan fwyaf o’r Fro Gymraeg ers talwm. 7fed salaf o ran ansawdd tai yng Nghymru.



Blaenau Ffestiniog

Plaid Cymru sy'n cynrychioli 11 o'r 17 ward sydd yng Ngwynedd, ond dim un o'r dair sydd ar Ynys Mon.

Wps, newydd sylwi fy mod wedi anghofio hen bentref bach Llanber - Mecca twristiaid sy'n hoffi dringo a ballu. Mae o'n edrych yn rhyfedd am wn i cael lle sydd mor boblogaidd efo Saeson fod mor Gymraeg. Ond mewn rhai ffyrdd mae'r lle yn ddigon nodweddiadol o'r lleoedd eraill sy'n Gymreig iawn - siar da o dai cyngor, pentref mawr chwarel (gynt), yn orbit C'narfon.

Thursday, July 26, 2012

'Manteision' economaidd y jiwbili

Yn ol y Telegraph, y jiwbili ydi un o'r rhesymau tros y dirywiad sylweddol yn economi'r DU yn ystod y chwarter diwethaf.

Hwn ydi'r un papur yn union oedd yn darogan yn hyderus y byddai'r digwyddiad yn rhoi chwystrelliad o £10bn i economi Prydain mor ddiweddar a Mis Mai.

Mae hyn yn datblygu i fod yn dipyn o draddodiad gyda digwyddiadau brenhinol - bu rhagweld mawr y byddai'r briodas frenhinol o fudd mawr i'r economi y llynedd, ond wedi rhyddhau'r data fe'i defnyddid fel esgys / eglurhad am y tanberfformiad economaidd tros y cyfnod hwnnw.

Mae'n fuan i farnu faint o niwed mae'r ddau ddiwrnod o ddarlledu delweddau o law yn piso i lawr yn ddi baid tros y DU ym mhedwar ban byd (a Philip Schleswig-Holstein-Sonderburg-Glücksburgn yn gorfod mynd i'r ysbyty ar ol sefyll yn ei ganol) wedi ei wneud i'r diwydiant twristiaeth, ond 'dydi'r rhagolygon ddim yn dda.

Tuesday, July 24, 2012

Pam na ddylai'r Blaid gynnig cefnogaeth anffurfiol i'r Blaid Lafur

Mae Valleys Mam yn gwbl gywir - fel y bydd yn amlach na pheidio - i nodi bod creu canfyddiad bod y Blaid yn rhyw fath o blaid atodol i'r Blaid Lafur yn codi cwestiwn hynod niweidiol i'r Blaid - if you can vote for the real thing, why vote for the middle man?. Mae yna wirionedd hefyd yn yr hyn mae Gareth Hughes yn ei awgrymu ynglyn a'r perygl o droi Cymru yn rhyw fath o wladwriaeth un plaid os ydi'r Blaid yn ymwrthod a'i dyletswydd i fod yn wrthblaid effeithiol.

Serch hynny fy mhrif wrthwynebiad yn bersonol i lyfu a llempian o gwmpas y Blaid Lafur ydi'r ffaith bod y blaid honno wedi methu, methu a methu eto. Rydym - fel gwlad - wedi pleidleisio trosti ym mhob etholiad o bob math yn ddi eithriad ers 1918 - ac eto mae ein perfformiad economaidd cymharol (a chymharu a gweddill y gweddill y DU) yn waeth nag ydi wedi bod ers hynny. Mae'r rhesymau am hynny yn ddigon hawdd i'w harenwi - 'does gan Llafur ddim diddordeb o gwbl mewn gadael i Gymru gael ei dwylo ar y lefrau trethiannol a chyllidol fyddai'n caniatau iddi fynd i'r afael efo'i phroblemau strwythurol.

Mae'n iawn i'r Blaid glymbleidio o bryd i'w gilydd efo Llafur pan mae manteision amlwg i'r Blaid ac i Gymru o wneud hynny, ond ddylai hynny byth ein dallu i'r ffaith mai'r ffordd orau i symud Cymru yn ei blaen ydi trwy ddifa cefnogaeth etholiadol Llafur - plaid sydd wedi bod yn faen melin o gwmpas gwddf Cymru ers yn agos i ganrif bellach.

Sunday, July 22, 2012

Helynt diweddaraf y Blaid - gwers neu ddwy

Dwi wedi bod yn edrych ar y sioe dan gwyllt bach ym Mae Caerdydd o fwy o bellter nag arfer y tro hwn - dwi ym Madrid fel 'dwi'n sgwennu hyn o eiriau. Beth bynnag os ydych chi'n edrych ar bethau o bell neu agos, mae yna nifer o wersi i'w cymryd o'r holl strancio - dyma nhw - ddim mewn trefn arbennig.

1). Dydi fotio yr un ffordd a'r Toriaid ar rhyw bleidlais neu'i gilydd ddim yn gwneud y Blaid yn gwn bach, ail ffidil nag unrhyw drosiadau eraill tebyg yr ydych eisiau eu cymysgu. Dydi fotio efo Llafur ddim yn ein gwneud yn ddarostyngedig i'r rheiny chwaith. Mae plaid yn dangos ei hannibyniaeth trwy bleidleisio yn unol a'i barn - gyfansawdd - ei hun. Yn wir mae pleidleisio efo'r Blaid Lafur yn rhy gyson yn wrth gynhyrchiol o ran y sawl sydd eisiau mynd i lywodraeth efo Llafur. 'Dydi gallu bod yn sicr o gefnogaeth anffurfiol ond cyson gan Blaid Cymru ddim yn rhoi unrhyw bwysau ar Carwyn Jones i ddod i drefnint mwy ffurfiol. Ar ben hynny mae rhoi ffocws ar beth mae'r naill blaid fawr unoliaethol yn ei wneud yn Prydaineiddio gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd.

2). 'Dydi'r etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy'n rhanedig, ac maent yn amlach na pheidio yn eu cosbi. Yn wahanol i'r 70au hwyr pan roedd hollt yn y Blaid Lafur ynglyn a'i pholisiau economaidd creiddiol, neu'r un yn y Blaid Doriaidd yn y 90au ynglyn ag Ewrop, dydi'r hollt oddi mewn i'r Blaid ddim yn un pwysig - mae'n ymwneud a phersonoliaethau ag ol flas yr etholiad arweinyddol. Serch hynny mae'n edrych fel hollt go iawn - a gall hynny fod yn niweidiol ynddo'i hun.

3). A thra rydan ni'n son am yr etholiad arweinyddol, mae hi drosodd, finito, kaput, finished. Beth bynnag ydi teimlad un o'r ymgeiswyr ynglyn a'r hyn ddigwyddodd mae aelodaeth y Blaid wedi mynegi barn cwbl glir ynglyn a'r angen am broffeil newydd a chyfeiriad i'r Blaid. Mae'r dis arbennig yna wedi ei daflu - beth bynnag arall ddigwyddith, fydd Dafydd Elis-Thomas byth yn arwain Plaid Cymru eto. 'Does yna ddim am newid hynny. Mae'n amser i symud ymlaen.

4). A daw hynny a ni at 'aeddfedrwydd'. Mae yna gryn dipyn o gyfeirio at hynny wedi bod yn ystod yr holl helynt. Un o brif nodweddion aeddfedrwydd mewn unigolyn ydi'r gallu i asesu a derbyn sefyllfa newydd - da neu ddrwg - a symud ymlaen a gwneud y gorau o bethau. 'Dydi gogrdroi o gwmpas sefyllfa nad ydym yn ei chroesawu, ond na fedrwn ni wneud dim oll i'w newid, ddim yn arwydd o aeddfedrwydd emosiynol. Mae angen i bawb symud yn eu blaenau a chymryd y sefyllfa sydd ohoni fel eu man cychwyn - nid y sefyllfa fel yr oedd chwe mis yn ol.

5). Beirniadu'n gall. Fyddai neb am i Blaid Cymru fod fel Plaid Gomiwnyddol Stalin, neu Blaid Lafur Blair lle nad oedd neb yn cael beirniadu polisiau'r arweinyddiaeth. Fyddwn i ddim yn dymuno i fy ngelyn pennaf gael y profiad o ddisgwyl am ymweliad gan Peter Mandelson neu Vyacheslav Molotov liw nos. Mae'n briodol i bobl fod a gwahaniaethau barn, ac mae'n iach pan mae gan blaid wleidyddol y gallu i adael i'r gwahaniaethau barn hynny gael eu gwyntyllu. Yr hyn sy'n broblem efo'r ffordd mae Dafydd Elis-Thomas yn mynegi ei farn, fodd bynnag ydi ei fod yn dod i gasgliadau pellach - a hynod niweidiol i'r Blaid. Mae dweud y dylai'r Blaid gydweithredu mwy efo'r Blaid Lafur yn un peth. Mae priodoli amharodrwydd i wneud hynny i anaeddfedrwydd ar ran yr arweinyddiaeth yn fater arall - mae'n gwneud pethau'n bersonol ac mae'n cynnig naratif i bleidiau eraill. Ni ddylai hynny fod yn dderbyniol i neb.

6). Dydi ymddangosiad ffigyrau patriarchaidd ar y tonfeddi radio yn cynnig cyngor i arweinyddiaeth y Blaid ynglyn a'r 'ffordd ymlaen' ddim yn helpu pethau - ta waeth pa mor nodedig cyfraniad y patriarch yn y gorffennol. Mae'n adgyfnerthu'r canfyddiad o rwyg yn rhengoedd y Blaid, a 'dydi cyngor sydd wedi ei fynegi ar Radio Cymru ddim yn cario mymryn mwy o bwysau na chyngor sydd wedi ei gynnig trwy'r strwythurau priodol.

7). Dylai aelodau etholedig y Blaid wrando ar ei gilydd, a gwneud hynny trwy gyfrwng y strwythurau priodol. 'Dydi cyfathrebu trwy'r cyfryngau torfol ddim yn ffordd dda i aelodau grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad siarad efo'i gilydd. Parch sydd wrth wraidd cyfathrebu yn effeithiol- os ydym yn parchu ein gilydd gallwn fynegi a derbyn gwahaniaeth barn yn rhwydd a thrwy ddulliau anffurfiol. Os oes yna sefyllfa lle mae un neu fwy o aelodau grwp yn ei chael yn anodd parchu'r gweddill, neu rai o'r gweddill, yna mae strwythurau ffurfiol o gyfathrebu'n bwysig er mwyn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol. Ond 'dydi'r rheiny'n dda i ddim os na wneir defnydd ohonynt.

8). Mae Leanne Wood wedi bod yn gall - feiddia i ddweud aeddfed - i dynnu'r gwenwyn o'r holl sefyllfa. Beth bynnag arall y gallwn ei ddweud am Dafydd Elis-Thomas, mae'n wleidydd talentog, sydd wedi gwasanaethu Cymru a'r Blaid yn effeithiol yn y gorffennol, a gall wneud hynny eto yn y dyfodol. Mae'n adlewyrchu yn dda ar Leanne iddi werthfawrogi hynny er gwaethaf emosiwn y dyddiau diwethaf.

Sylwadau pellach ar y stori hon gan:

Paul Flynn
HoR
Syniadau
Dyfrig
Gareth Hughes

Friday, July 20, 2012

Blogiadau o'r gorffennol, rhan 1

Mae'r haf yn ddistaw o safbwynt gwleidyddol, ac o ganlyniad roeddwn yn rhyw feddwl y byddai'n syniad da edrych ar un neu ddau o hen flogiadau yn wythnosol. Felly mi geisiwn wneud hynny ar ddyddiau Gwener.

Blogiad o Fehefin 2010 ydi'r cyntaf - roedd yn edrych ar ragrith llywodraeth Barak Obama yn eu hagwedd tuag at BP pan roedd gan y rheiny ffynnon olew oedd yn pwmpio olew i Gwlff Mecsico - yn agos at arfordir yr UDA.

Dwi'n meddwl mai'r blogiad yma gafodd y darlleniad uchaf yn hanes y blog.




Efo'r holl genadwri am y drychineb amgylcheddol yng Ngwlff Mecsico, hwyrach ei bod werth atgoffa ein hunain nad dyma'r ddamwain amgylcheddol gyntaf nag yn wir yr un waethaf o gryn bellter. Efallai ei bod hefyd werth holi os oes gan yr holl hw ha sydd wedi codi yn sgil yr esiampl arbennig yma o lygredd diwydiannol rhywbeth ehangach i'w ddweud wrthym am y byd a'i bethau.

Dewch am dro bach yn ol mewn amser efo fi i ddinas Bhopal yng nghanolbarth India. Am 12:30am ar Rhagfyr 3ydd, 1984 dechreuodd pobl sylwi bod mwg gwyn yn treiddio i mewn i'w tai a bod eu plant yn troi'n las, yn pesychu ac yn marw. Rhedodd pobl allan i'r strydoedd mewn panig a chael eu hunain yn dystion i weledigaeth o Uffern oedd y tu hwnt hyd yn oed i ddychymyg Ellis Wynne - roedd yna bobl ar y llawr yn cael ffitiau, yn pesychu, yn chwydu ac yn boddi yn eu hylifau corfforol eu hunain. Roedd y ffaith bod y nwy yn llosgi i mewn i lygaid llawer a'u dallu yn ychwanegu at yr anhrefn a'r panig. Lladdwyd llawer ynghanol yr ymdrechion gwyllt i ddianc o'r dref. Roedd pobl yn colli rheolaeth tros eu cyrff eu hunain wrth redeg gyda budreddi a gwlybaniaeth yn rhedeg i lawr eu coesau a merched beichiog yn waed trostynt oherwydd eu bod yn erthylu yn y fan yr oeddynt yn sefyll ynddo. Lladdwyd llawer o'r sawl na allai sefyll gan bobl eraill yn rhedeg trostynt.




'Does yna ddim cytundeb ynglyn a faint fu farw y diwrnod hwnnw, ond rydym yn gwybod i saith mil amdo gael eu gwerthu yn Bhopal yn ystod y diwrnod neu ddau wedi'r digwyddiad ar gyfer y sawl oedd a theuluoedd i'w claddu neu'i llosgi. Rydym hefyd yn gwybod i'r fyddin ac awdurdodau lleol gladdu miloedd o'r sawl nad oedd a theuluoedd yn fyw. Mae'n bosibl i cymaint ag ugain mil o bobl farw. Mae'n debyg i hanner miliwn o bobl ddod i gysylltiad o rhyw fath efo'r nwy. Mae yna ddegau o filoedd - efallai ganoedd o filoedd wedi dioddef problemau iechyd difrifol ers y diwrnod hwnnw. Caiff canoedd o fabanod yn yr ardal eu geni gyda diffygion pob blwyddyn oherwydd bod y cyflenwad dwr wedi ei lygru.

Er bod ansicrwydd ynglyn a'r union nifer a fu farw ac a ddioddefodd broblemau meddygol, rydym yn hollol siwr am bwy oedd yn y pen draw yn gyfrifol - cwmni cemegau Americanaidd o'r enw Union Carbide, a'r dyn oedd yn gadeirydd iddynt ar y pryd - Warren Anderson. Roedd ganddynt ffatri yn y dref oedd yn cynhyrchu cemegolion gwenwynig ac roedd y safonau rheolaeth tros y ffatri yn rhyfeddol o isel - gyda phob rheoliad diogelwch yn cael ei anwybyddu mewn ymgyrch loerig i arbed pres.

Mae'n sicr mai'r hyn a arweiniodd yn uniongyrchol at y drychineb oedd y penderfyniad i droi'r system cadw cemegolion yn oer i ffwrdd er mwyn arbed gwerth $37 doler y diwrnod ar nwy freon. Arweiniodd hyn at brosesau cemegol a greodd y methyl-isocyanate - un o'r nwyon mwyaf gwenwynig i gael ei gynhyrchu erioed a chwythwyd hwnnw tros y dref. Roedd cyfres hir o benderfyniadau eraill wedi eu cymryd cyn hynny oedd yn tanseilio'r systemau diogelwch. Arbed pres oedd y rheswm tros pob un o'r penderfyniadau hynny.

Mae'r broses gyfreithiol i ddigolledu'r sawl a fu farw ac a gafodd eu bywydau wedi eu difetha ac i gosbi'r sawl oedd yn gyfrifol wedi bod yn un faith. Fel mae'n digwydd cafwyd dedfryd mewn achos troseddol ddechrau'r mis yma (yng nghanol yr helynt BP) - gyda saith o swyddogion Indiaidd yn cael eu dedfrydu i ddwy flynedd a hanner o garchar yr un ac yn cael eu dirwyo $10,500 - rhyngddyn nhw. 'Doedd Mr Anderson nag Union Carbide ddim yn y llys - er eu bod wedi derbyn gwis i fynd. Dewisodd Mr Anderson aros adref yn Efrog Newydd ac ni ddaeth neb i'r llys ar ran y cwmni. Hyd yn hyn mae gweinyddiaeth Mr Obama wedi gwrthsefyll pwysau o'r tu allan ac oddi mewn i'r UDA i estraddodi Mr Anderson i wynebu llys yn India. Mae Union Carbide wedi talu iawndal bellach i'r rhan fwyaf o'r sawl a effeithwyd arnynt - ond mae hwnnw'n llawer, llawer llai ym mhob achos na mae BP yn gorfod ei dalu mewn dirywon uniongyrchol i lywodraeth yr UDA am pob un o'r miliynau o fareli maent yn eu colli o'u ffynnon olew yng Ngwlff Mecsico.



Rwan cymharwch hyn efo ymateb eithaf hysteraidd ac o bosibl xenoffobaidd gan yr un weinyddiaeth a'r bygythiadau o ddirwyon, erlyniadau troseddol ac ati sy'n cael eu taflu i gyfeiriad BP yn sgil trychineb llawer, llawer llai difrifol (mewn termau dynol) Deepwater Horizon.

Does gen i ddim problem efo'r bygythiadau hynny fel y cyfryw - mae atebolrwydd corfforiaethol yn greiddiol i ymdeimlad o gyfrifoldeb corfforiaethol. Mae gen i, fodd bynnag, broblem efo'r safonau deublyg o mor Americanaidd mae'r cyferbyniad rhwng y ddwy stori yn ei ddangos yn anymunol o glir.

Mae yna ddrwgdeimlad digon cyffredinol tuag at America y tu allan i'r wlad honno ers rhyfel Vietnam. Ceir amryw o resymau am hynny ac maent yn gymhleth. Ond un o'r pwysicaf yn eu plith ydi'r ymdeimlad o safonau deublyg ar ran y wlad a'i phobl - bod buddiannau, ac yn bwysicach bywydau Americanaidd cymaint pwysicach iddynt na buddiannau a bywydau pobl eraill. Mae'r gwerth isel a roir gan yr UDA ar fywydau tramorwyr yn cyferbynnu'n anghyfforddus efo'u arfer o bregethu pwysigrwydd hawliau dynol, gwerthoedd democrataidd ac ati i eraill.

Yn y cyd destun yma mae deall y gwahaniaeth yn ymateb gweinyddiaeth Obama i fethiant Tony Hayward i ddelio efo'r broblem yn y Gwlff yn ddiymdroi a methiant Warren Anderson i gyflwyno ei hun ger bron ei well yn India. Mae'r rhan fwyaf o lefydd a effeithwyd arnynt yn y Gwlff yn Americanaidd, ac mae canfyddiad (ffug fel mae'n digwydd - mae BP mor Americanaidd nag ydyw Brydeinig erbyn hyn) mai cwmni tramor sy'n gyfrifol am y sefyllfa. Mae hyn yn cynhyrchu drwgdeimlad sylweddol tuag at BP ymysg llawer o Americanwyr, ac mae Osama yn gorfod ymateb i hynny trwy gosbi BP, ac yn bwysicach trwy gynhyrchu rhethreg sy'n adlewyrchu diflastod Americanwyr - etholwyr - cyffredin.

Ar y llaw arall cwmni Americanaidd ydi Union Carbide ac Americanwr ydi Warren Anderson. Tramorwyr oedd y sawl a effeithwyd arnynt gan y methyl-isocyanate. Mae'n ddealladwy nad ydi'r digwyddiad yn Bhopal yn cynhyrchu cymaint o ddrwg deimlad heddiw yn yr UDA - wedi'r cwbl mi ddigwyddodd chwarter canrif yn ol. Ond ni wnaeth achosi llawer o ddrwg deimlad tuag at Union Carbide yn y wlad ar y pryd - yn sicr ddim canfed o'r gynddaredd sy'n cael ei gyfeirio at BP pob tro mae 'deryn wedi ei orchuddio mewn olew yn ymddangos ar Fox News. Mae rhywfaint o bwysau wedi dod gan seneddwyr Democrataidd i estraddodi Mr Anderson, ond ddim llawer.

Pan gafodd Obama ei ethol yr angen am newid oedd craidd ei ymgyrch. Ond mae rhai pethau sylfaenol ddigyfnewid am yr wlad ryfeddol o fewnblyg a hunan ymrwymedig yma - ac mae bod efo llinyn mesur cwbl wahanol i fesur gwerth pobl sydd yn Americanwyr, a phobl nad ydynt ymhlith y rheiny.

Wednesday, July 18, 2012

DET a'r chwip

Mae gwrthryfel meinciau cefn yn rhywbeth sy'n digwydd o bryd i'w gilydd - fel y gwelwyd yn San Steffan wythnos ddiwethaf. Diffyg mewn arweinyddiaeth gwleidyddol sy'n aml yn arwain at wrthryfeloedd sylweddol. Dyna arweiniodd at ddigwyddiadau diweddar San Steffan.

Yr hyn sy'n nodweddu gwrthryfel Dafydd Elis-Thomas ydi ei fod yn wrthryfel un dyn - a bod yr un dyn hwnnw nid yn unig yn atal ei bleidlais, ond yn mynd ati i fynegi barn negyddol ynglyn ag aeddfedrwydd ei blaid wrth y wasg. Mae hynny'n awgrymu nad diffyg arweinyddiaeth ydi'r broblem yn yr achos yma, ond rhywbeth arall.

Y broblem sylfaenol efo helynt diweddaraf aelod Meirion Dwyfor ydi ei fod yn awgrymu nad oes ganddo'r rhinweddau a'r ddisgyblaeth sydd eu hangen i fod yn rhan effeithiol o grwp gwleidyddol. Mae gwyleidd-dra yn rhinwedd sy'n cael ei thanbrisio yn rhy aml. Mae angen gwyleidd-dra arnom i allu cyd fyw yn hapus efo'r bobl o'n cwmpas, ac mae angen gwyleidd-dra arnom i fod yn rhan effeithiol o unrhyw grwp - gwleidyddol neu fel arall. Rydym angen gwyleidd-dra i sylweddoli y gall ein barn fod yn anghywir, ac i sylweddoli bod barn gyfansawdd grwp yr ydym yn perthyn iddo yn aml yn bwysicach na'n barn ni ein hunain.

Y ffaith syml ydi hyn - Leanne Wood ac nid Dafydd Elis-Thomas enillodd yr etholiad arweinyddol eleni. O ganlyniad nid Dafydd sy'n arwain y Blaid, ond Leanne. Efallai bod Dafydd o'r farn bod dal y llywodraeth i gyfrif yn dystiolaeth o anaeddfedrwydd, ac efallai ei fod o'r farn mai priod bwrpas y Blaid ydi cefnogi'r Blaid Lafur. Mae ganddo pob hawl i'w farn.

Ond y gwir amdani ydi bod trwch aelodaeth y Blaid wedi dangos trwy bleidlais bod ganddynt fwy o ffydd ym marn gwleidyddol Leanne nag ym marn gwleidyddol Dafydd Elis-Thomas. Efallai ei fod o'n meddwl mai fo sy'n gwybod orau - mae hynny'n ddigon teg.

Yr hyn sydd ddim yn ddigon teg mewn cyfundrefn bleidiol ydi i aelodau etholedig roi eu barn eu hunain uwchben barn y grwp maent yn perthyn iddo. Petai pawb o fewn grwp y Blaid yn gweithredu yn yr un ffordd, ac yn aros o'r Cynulliad i agor archfarchnad, urddo myfyrwyr, cynnal syrjeris neu beth bynnag pob tro mae'n meddwl ei fod o / hi ei hun yn 'gwybod yn well' na'r farn gyfansawdd, mi fyddai'r grwp yn gwbl aneffeithiol.

Mae perthyn i grwp gwleidyddol yn golygu bod rhaid i'w aelodau unigol dderbyn bod y farn gyfansawdd yn bwysicach na'r farn unigol. Os ydi grwp yn cynnwys aelodau sy'n ddigon trahaus i ddyrchafu eu barn unigol nhw uwchben barn y grwp, yna mae gan y grwp hwnnw broblemau. Mae'r problemau hynny'n waeth os oes gan y grwp aelodau sy'n ei feirniadu'n allanol yn ogystal ag yn fewnol.

Dafydd El yn colli'r chwip dros dro

Yn ol y Bib mae Dafydd Elis-Thomas wedi colli'r chwip tros dro, yn sgil ei fethiant i ymddangos i bleidleisio yn y bleidlais diffyg hyder yn Lesley Griffiths heddiw.

Mi fyddwn - wrth gwrs - yn dychwelyd at y stori yma maes o law.

Monday, July 16, 2012

Dwy draean o bobl Cymru eisiau 'difa'r genedl'

Byddwch yn cofio ymateb hysteraidd Peter Hain i awgrymiadau gan Cheryl Gillan y dylai Cymru gael y pwer i drethu - yn ol Peter byddai grymoedd o'r fath yn 'difa'r genedl'. Ymddengys bod y rhan fwyaf o ddigon o bobl Cymru yn anghytuno efo'i 'ddadansoddiad'.

Darllenwch yr adroddiad ICM/John Curtice/Richard Wyn Jones - mae ymysg yr astudiaethau mwyaf cynhwysfawr o'r farn gyhoeddus yng Nghymru ynglyn a datganoli i gael ei gyhoeddi erioed.

Drysu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru mae Peter wrth gwrs - pechod sy'n gyffredin i lawer o aelodau'r Blaid Lafur yng Nghymru. Byddai datganoli grym trethu i Gymru yn peri problemau sylweddol i'r Blaid Lafur Gymreig, ond byddai'n newyddion da i Gymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig.  Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.

O sefydlu cysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.

Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.

Sunday, July 15, 2012

Costau teithio aelodau seneddol.

Diolch i'r ferch o Ferthyr, Valleys Mam am dynnu ein sylw at gostau teithio ein haelodau seneddol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y math yma o beth, gallwch weld y ffigyrau llawn yma.

Saturday, July 14, 2012

Pam nad ydi'r Bib eisiau i ni wybod am ymchwil Beaufort i agweddau tuag at y Gemau Olympaidd?

Mae'n ddiddorol nodi nad ydi BBC Cymru yn trafferthu dweud wrthym ar eu gwefan nad ydi mwyafrif pobl Cymru yn meddwl y bydd Gemau Llundain o unrhyw fudd o gwbl i Gymru. yn ol ymchwil gan Beaufort Research.

Mae hyn er gwaethaf i Golwg360 a Wales Online redeg y stori. Mae gan y wefan Saesneg fodd bynnag straeon bach diddorol am weilch ar Eryri a wiwerod, ac mae gan yr un Gymraeg rhywbeth am gwmni'n anfon eu gweithwyr ar wyliau.

Rhy boenus ar ol eu hymdrechion fwyfwy gorffwyll i heipio'r nonsens i'r entrychion o bosibl.

Y Gemau Olympaidd - pwy fydd yn elwa mewn gwirionedd?

Bydd darllenwyr rheolaidd y blog yma'n gwybod mai nid y Gemau Olympaidd ydi fy hoff ddigwyddiad. Mae dau reswm canolog am hyn - i ddechrau y gost i Gymru ac yn ail y defnydd a wneir o'r gemau i greu naratif Prydeinig a Phrydeinllyd.

Bydd cost y gemau o leiaf £10bn ar lefel Prydeinig, a bydd Cymru yn gorfod dod o hyd i o leiaf £500m ar gyfer hyn. Mae £500m yn llawer iawn o bres i wlad sydd mor dlawd a Chymru - a dydan ni yn cael y nesaf peth i ddim yn ol - ar ffurf contractau na digwyddiadau.

Ond yn ol rhifyn cyfredol Money Week gall economi'r DU yn gyffredinol ac un Llundain yn benodol ddisgwyl cryn dipyn o newyddion drwg gyda daw'r gemau i ben.

Arafodd GDP China yn sylweddol yn haf 2008. Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Ngwlad Groeg yn 2005 ac yn Awstralia yn 2000.

Y rheswm mae'n debyg ydi hyn - mae'r blynyddoedd sy'n arwain at y gemau yn rhai lle buddsoddir yn sylweddol mewn is strwythur, adeiladau ac ati, ond gyda mae'r gemau trosodd does yna ddim byd llawer wedi newid. Mae'r buddsoddiad yn dod i ben, mae'r holl adeiladau drudfawr sydd wedi eu codi yn wag, mae'r is strwythur trafnidiaeth yn rhywle lle nad oes bellach ei angen.

Mae'r gemau wedi cynnal economi'r DU yn Llundain ar draul pob man arall am gyfnod, ond daw hynny i ben yn y man - a bydd hynny yn ei dro yn tynnu economi Llundain i lawr.

Felly bydd £500m Cymru wedi ei wario yn bennaf ar adeiladu is strwythur yn Llundain nad oes ei angen yn yr hir dymor, ac o ganlyniad nid yw wedi ei wario yng Nghymru lle mae angen gwirioneddol ar fuddsoddiad felly.

Friday, July 13, 2012

Is etholiadau Ynys Mon

'Dwi'n hwyr glas ar hon, ond llongyfarchiadau i Vaughan Hughes am ennill sedd i'r Blaid yn Llanbedrgoch, Ynys Mon.

Mae hyn yn gwneud iawn am y ffaith anffodus na lwyddwyd i gael ymgeisydd yn Llanfairpwll i amddiffyn sedd oedd yn perthyn i'r Blaid.

Cotterel Annibynnol 92
Gill UKIP 89
Hughes Plaid Cymru 182
Kilkelly Annibynnol 92

Rhyddhad i Andrew R T Davies

'Dwi' siwr y bydd o gryn ryddhad i Andrew RT Davies gael deall bod y Tori lliwgar, Felix Aubel o'r farn bendant bod y grwp Toriaidd yn y Cynulliad yn gwbl gefnogol i'w arweinyddiaeth, ac nad oes yna rhyw hen gynllwynio cas yn ei erbyn y tu ol i'r lleni.

Yn ol ei hunan gofiant mae Felix hefyd o'r farn bendant bod ysbrydion yn bethau digon cyffredin.

Wednesday, July 11, 2012

Felly ymateb call, pwyllog a rhesymegol y Blaid Lafur i alwad y gwrthbleidiau yng Nghaerdydd ydi - we will resist the attempts of the three conservative parties to wreck the NHS.

Three conservative parties?

Pa blaid tybed oedd yn arddel y polisiau canlynol pan roeddynt mewn llywodraeth yn San Steffan?

PFI - pwmpio pres preifat i mewn i wasanaethau cyhoeddus.
Gorfodi myfyrwyr i dalu crogbris am eu haddysg.
Rhyfeloedd di ddiwedd yn erbyn gwledydd Mwslemaidd.
Gorfodi pobl i gario cardiau adnabod.
Rheoleiddio'r banciau mewn modd mor ysgaf nes caniatau iddynt ddod a'r economi i'w gliniau.
Rhoi Asbos i bobl am chwarae eu stereo yn rhy uchel

Pwy lwyddodd i gynyddu anghyfartaledd cymdeithasol i raddau na welwyd ers Oes Fictoria?

Pwy dreuliodd y rhan helaethaf o ugain mlynedd yn dawnsio i bib Rupert Murdoch?

Pa arweinydd ddisgrifiodd ei hun fel bod yn intensely relaxed tuag at bobl sy'n hel mynyddoedd o gyfoeth?

O - a phwy sydd eisiau lleoli WMDs yn Sir Benfro?

'Mond gofyn.

Tuesday, July 10, 2012

Chwaraeon ac egwyddorion - rhan 2

Bydd rhai ohonoch yn cofio i mi gyfeirio yn ddiweddar at yr holl chwaraewyr rygbi o Gymru oedd yn fodlon cefnogi'r gyfundrefn aparteid yn Ne Affrica trwy ymweld a'r wlad i chwarae rygbi. Y cyd destun wrth gwrs oedd parodrwydd cymaint o bel droedwyr Cymru i chwarae i Team GB yn y Gemau Olympaidd, er bod Cymdeithas Bel Droed Cymru yn chwyrn yn erbyn hynny.

Efallai mai'r esiampl fwyaf trawiadol o barodrwydd pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i roi pob dim ag eithrio eu gyrfa i un ochr ydi'r digwyddiad isod - tim peldroed Lloegr yn rhoi saliwt Natsiaidd cyn gem beldroed gyfeillgar efo'r Almaen ym 1938 - gwta 16 mis cyn i'r Ail Ryfel Byd gychwyn.

'Dwi'n gwybod mai rwan ydi rwan ac mai pryd hynny oedd pryd hynny - ond _ _ _.

Monday, July 09, 2012

Llywodraeth y DU i golli yn y bleidlais ar ddiwigio Ty'r Arglwyddi

Neu dyna mae'r marchnadoedd betio yn ei awgrymu fodd bynnag.

Rwan mae'r syniad o barhau i dynnu cyflog AS + treuliau sylweddol + cadw'r pen ol yn soled ar ledr y limo, yn achos gweinidogion,am wneud i lawer feddwl yn ofalus cyn gwneud rhywbeth gwirion yn sgil yr anhrefn y byddai colli'r bleidlais yn ei greu.

Ond o golli byddai ansefydlogrwydd wedi ei adeiladu i mewn i'r glymblaid, ac fel mae 2015 yn dod yn nes, bydd y fantais o aros mewn llywodraeth yn lleihau, tra y bydd y demtasiwn i ddod a'r holl sioe i lawr er mwyn ennill mantais tactegol yn cynyddu.

Os collith y llywodraeth y bleidlais, mi fydd yna etholiad cyffredinol 2015.

Sunday, July 08, 2012

Y Toriaid yng Nghymru a'u harweinydd

Mae'n gas gen i dramgwyddo ar alar preifat, ond gyda chwestiynau amlwg ynglyn ag effeithiolwyr y Toriaid yn y Cynulliad a'u harweinydd yn benodol, aelodaeth y blaid Brydeinig yn syrthio fel carreg a'r polau piniwn yn awgrymu y byddai etholiad Cynulliad heddiw yn rhoi 5 sedd iddynt - yr un faint ag UKIP - dwi'n ei chael yn anodd i beidio a gwneud sylw neu ddau.

I ddechrau byddai cwymp yn aelodaeth y Toriaid i'r un lefel ag UKIP yn y Cynulliad yn arwain at newid sylfaenol yn natur y sefydliad. Ar hyn o bryd mae yna gonsensws digon cyfforddus yn y Cynulliad sy'n bleidiol iddo. 'Dydi hyn ddim yn cynrychioli'r farn gyhoeddus yng Nghymru - mae yna leiafrif sydd o bosibl cymaint a 20% o'r boblogaeth sy'n wrthwynebus i ddatganoli o unrhyw fath. Gallai hynny (yn eironig ddigon) fod yn llesol i ddatganoli - byddai agweddau gwrth ddatganoli yn cael eu cysylltu efo pobl sy'n gwisgo welingtons a blesyrs.

Yn ail mae'r ffigyrau am aelodaeth y Toriaid ym Mhrydain yn codi cwestiynau am aelodaeth y Toriaid yng Nghymru. Ymddengys bod yna tua 177,000 aelod tros y DU - sydd yn ganrannol yn weddol debyg i aelodaeth y Blaid yng Nghymru. Ond mae'r Toriaid yn wanach o lawer yng Nghymru na'r DU yn ei chyfanrwydd. Ni ddatgelwyd faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru yn yr etholiad arweinyddol - yr unig wybodaeth a gafwyd oedd mai 49% a bleidleisiodd a bod Andrew RT wedi cael 52% o'r rheiny. Felly faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru - ydi o'n hanner yr 8,000 sy'n perthyn i'r Blaid?

Nid mater academaidd ydi hyn. Rydym yn gwybod i ymgyrch Boris Johnson yn Llundain orfod talu i gwmniau preifat ddosbarthu eu taflenni mewn ardaloedd sydd ag AS Toriaidd oherwydd nad oedd yna aelodau i wneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Toriaid yng Nghymru yn ymylol - a byddant yn gorfod eu hamddiffyn yn 2015 a 2016. Mae'r cyfryngau torfol am fod o gryn gymorth iddynt yn etholiadau San Steffan wrth gwrs - ond mi fyddan nhw ar eu pennau eu hunain yn 2016.

A daw hyn a ni at fater arall - etholiadau Ewrop yn 2014. Un peth sy'n sicr os ydi ffigyrau polio diweddar yn agos at fod yn gywir ydi y bydd Llafur yn cymryd dwy o'r bedair sedd sydd ar gael yng Nghymru. Golyga hyn y bydd naill ai'r Toriaid, neu'r Blaid neu UKIPyn colli sedd. Rydym (i'r graddau ein bod wedi meddwl am y peth o gwbl) wedi tueddu i gymryd mai'r sedd UKIP fydd yn mynd - nhw oedd y gwanaf o ddigon y tro o'r blaen. Mae ffigyrau YouGov yn agor y posibilrwydd gwirioneddol mai'r sedd Doriaidd fydd yn mynd.

Polau piniwn ydi polau piniwn wrth gwrs - a gall pethau newid. Ond does yna ddim rheidrwydd y bydd pethau'n newid er gwell i'r Toriaid - mae yna lawer o broblemau ar lefel Prydeinig sy'n dechrau hel ar y gorwel - Ewrop (eto fyth), diwygio Ty'r Arglwyddi a dydi effeithiadau'r toriadau diweddar heb eu hamlygu'n llawn eto. Mae yna gysylltiad hynod o agos - nes nag un unrhyw blaid arall ond UKIP - rhwng perfformiad y Toriaid yng Ngymru a Lloegr.

Y peth diwethaf mae'r Toriaid Cymreig ei angen yn yr amgylchiadau sydd ohonynt ydi arweinydd gwan sy'n araf ar ei draed, a sy'n methu ymateb i sefyllfaoedd fel maent yn codi. Dyna sydd ganddynt.

Friday, July 06, 2012

Gwilym Owen - rhif 196

I'r sawl yn eich plith sydd ddim yn prynu Golwg, canmol yr Arglwydd Elis-Thomas, yr Arglwydd Morris, gwadu unrhyw gysylltiad efo Gwalchmai a beirniadu'r blogiwr yma mae colofn Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos yma. Wele rhan o'r feirniadaeth honno isod:

Enw'r celpiwr yw Cai Larsen, sydd wrth ei waith bob dydd yn brifathro ysgol rywle ar lannau'r Fenai. Mae rant y blogiwr o'r stafell ddosbarth yn dystiolaeth o fethiant o leiaf un prifathro i ddeall cynnwys colofn newyddiadurol ddigon syml a ymddangosodd yn y cylchgrawn hwn bythefnos yn ol.

Yr hyn sydd wedi ypsetio'r colofnydd ydi bod Blogmenai wedi dehongli'r frawddeg ganlynol (mewn colofn oedd yn cwyno nad oedd y cyfryngau wedi mynd ar ol stori am Bethan Jenkins yn sgil sylwadau trydar ganddi) fel awgrym bod gan Gwilym ddiddordeb arbennig mewn rhoi sylw negyddol i wleidyddion sy'n Gymry Gymraeg. Mi gewch chi benderfynu:

Ydi mae hi'n stori fach dda. Stori am wleidydd Cymraeg ei hiaith, ond dim ond ar dudalennau Saesneg y Western Mail a gwefan Golwg360 y cyhoeddwyd hi.

Mae cwpl o bwyntiau yn codi o hyn oll. Mae Gwilym yn rhyw frolio nad yw'n gwybod nemor ddim am ddulliau cyfathrebu diweddar. Efallai y bydd yn syndod iddo ddeall bod pob blogiad ar Flogmenai - a'r rhan fwyaf o flogiau eraill - wedi ei logio mewn modd sy'n dynodi'r amser y cychwynwyd ar y blogiad. Cychwynwyd ar y blogiad mae Gwilym yn cyfeirio ato am 19.07 ar ddydd Iau, Mehefin 21.

Beth bynnag mae Gwilym yn ei feddwl o fy 'rant', dydi hi heb ei throsglwyddo o ystafell ddosbarth. Mi fydda i adref, fel y rhan fwyaf o bobl eraill am saith o'r gloch nos. Mae yna 1,470 o flogiadau ar Flogmenai - ac mae amser a dyddiad pob un wedi ei logio yn gyhoeddus. Does yna ddim un o'r rheiny yn cofnodi i ddarn gael ei gynhyrchu yn ystod amser pan mae rhywun yn talu cyflog i mi am wneud rhywbeth arall. Byddai gwneud hynny yn amhriodol ac yn amhroffesiynol. Mae ensyniad Gwilym felly yn enllibus.

Mae'r math yma o ensyniadau wedi eu gwneud yn y gorffennol pan mae'r blog yma wedi anghytuno efo barn neu feirniadu sylwadau rhywun neu'i gilydd. Mewn sefyllfaoedd felly bydd yna'n aml gyfeiriadau at yr hyn 'dwi yn ei wneud i ennill bywoliaeth, er nad oes yna ddim cysylltiad o unrhyw fath rhwng cynnwys y sylwadau a natur fy ngwaith - ynghyd ag ensyniadau fy mod yn blogio yn hytrach nag ennill bywoliaeth gonest.

Efallai y dyliwn gymryd munud neu ddwy i egluro pethau i Gwilym a'i debyg.

Mae yna swyddi lle mae'r sawl sydd yn eu dal wedi ei wahardd rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. 'Dydw i ddim mewn swydd felly, ac o ganlyniad mae gen i hawl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd - yn fy amser fy hun. Un ffordd o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ydi blogio gwleidyddol.

Mae gen i ddigon o wendidau, ond 'dydi dineweitrwydd ddim yn un ohonynt. 'Dwi'n deall yn iawn bod rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud yma yn tramgwyddo, a 'dwi'n derbyn bod pobl am fy meirniadu a dweud pethau cas. 'Dwi'n deall hefyd y bydd fy sylwadau o bryd i'w gilydd yn cael eu darnio, eu beirniadu a'u cam ddehongli. Does gen i ddim problem efo hynny - dim oll.

Ond mae gen i broblem efo honiadau ac ensyniadau sydd wedi eu seilio ar wybodaeth sy'n ffeithiol anghywir, a sydd gyda'r potensial i beri niwed proffesiynol. Cryn broblem.

Serch hynny dwi ddim yn bwriadu gadael i neb fy mwlio i gau fy mhig trosiadol - hyd yn oed Gwilym Owen.

Thursday, July 05, 2012

Gwilym Owen - rhif 195

_ _ _ _ ah, na 'dwi wedi bod mewn cynhadledd yng Nghaerdydd trwy'r dydd a 'dwi wedi blino. Mi fydd rhaid i chi aros tan fory.

Tuesday, July 03, 2012

Y ffolderi coch a chostau eraill

Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu llywodraeth Cymru am wario cyfanswm o £648 ar ffolderi coch newydd i aelodau'r cabinet - mae hyn yn £72 y ffolder - ar yr un diwrnod a mae manylion gwariant teithio teulu Elizabeth Windsor ar gyfer y llynedd wedi ei ryddhau.

Yn ol y Guardian cafodd y trethdalwr y fraint o dalu £6.1m at gostau teithio'r teulu brenhinol am 2010 - 2011. Er enghraifft, talwyd £500.000 ar gostau Charles Windsor tra roedd hwnnw yn ymweld a'r Dwyrain Canol. Roedd ei frawd, Andrew yn rhatach o lawer - dim ond £350,000 oedd rhaid ei dalu arno fo i gyd efo'i gilydd - gan gynnwys £81,000 ar ymweliad a Saudi Arabia a £90,000 ar ymweliad a China. Ond yn anhygoel llwyddodd i wario £10,470 ar daith o Northolt i Belffast ac yn ol.

Costiodd 13 taith ar y tren 'brenhinol' £900,000 - neu £42 y filltir. Costiodd un daith o Ayr i Lundain gan Charles Windsor a'i wraig £38,106. Dylid nodi mai costau teithio yn unig ydi'r uchod - mae'r teulu 'brenhinol' yn cael aros am ddim mewn llysgenadaethau a phlasau wedi iddynt orffen teithio.

Mae'r holl wariant lloerig yma'n cymharu'n anffafriol iawn efo gwariant David Cameron. £500 dalodd hwnnw am daith ar yr Eurostar i gyfarfod a Sarkosy ym Mharis, a £2,000 i hedfan i Afghanistan. Costiodd taith awyren o Aberdeen i Lundain wedi'r terfysgoedd i Charles a Camilla £19,583 - cymaint ag y bydda'n ei gostio i Cameron fynd i Afghanistan ac yn ol ddeg gwaith.

Rwan - 'dwi'n gwybod nad cyfrifoldeb y Cynulliad ydi gwariant ar deithio'r Windsors, ond byddai'n ddiddorol gwybod beth ydi barn Andrew RT a'r hogiau am hynny - ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt a bod yn onest.

Sunday, July 01, 2012

Ffigyrau'r mis


Mae 5,900 o ymwelwyr unigryw yn ffigyrau da ag ystyried ei bod yn haf - y tymor gwaethaf o ran darlleniad i Flogmenai fel rheol. 

Felly diolch i bawb a fu ddigon caredig i alw draw.