Friday, July 27, 2012

Blogiadau o'r gorffennol - rhan 2

Blogiad o ddyddiau cynnar y blog sydd gen i'r wythnos yma - Tachwedd 2004 a bod yn fanwl. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2001 newydd eu rhyddhau, ac roedd y blogiad yn edrych ar y wardiau hynny lle'r oedd mwy nag 80% yn siarad Cymraeg. Bydd y data yma ar gael yn gynharach ar gyfer cyfrifiad 2011 - yn ystod yr hydref sydd i ddod mae'n debyg.



Beth petai’r Fro Gymraeg wedi ei adeiladu o’r wardiau hynny sydd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg? Sut byddai’n edrych?

Fel hyn.

Peblig: Caernarfon. Trefol. Byd byrlymus proletaraidd yn berwi efo plant, a chwn. Pencadlys a chartref ysbrydol y cofis oll. Bron y gallai fod yn astudiaeth achos o amddifadedd - 4ydd ward efo incwm isaf yng Nghymru, 15fed uchaf o ran diweithdra, 15fed salaf o ran addysg ac hyfforddiant, 57fed o ran ansawdd tai sal.

Seiont: Caernarfon. Trefol. Mawr a chymysg. Canol tref, fflatiau cyngor, stad dai cyngor, stadau mawr preifat, rhwydwaith o dai teras cul, ffermydd ar gyrion de Caernarfon.

Cadnant: Caernarfon. Trefol. Proletaraidd, ond ddim cymaint felly na Peblig. Stad cyngor mawr (parchus), lwni lands cymdeithasau tai, stad breifat, rhai strydoedd culion canol yn agos at ganol y dref.

Menai: Caernarfon. Trefol. Twthill sy’n dal yn rhannol ddosbarth gweithiol a thai mawr gogledd y dref. Dosbarth canol Cymraeg ei hiaith. Llawer o bobl o’r tu hwnt i Gaernarfon, ac yn wir Gwynedd. Yr unig le cyn belled i’r gogledd lle, nad yw’n anisgwyl clywed acenion y De ynddo.

Llanrug: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Dosbarth canol Cymraeg a chofis y wlad.

Bontnewydd: Pentref mawr. Sownd yng Nghaernarfon ac yn ddibynnol arni’n economaidd. Cofis wlad yn bennaf, rhai dosbarth canol Cymreig.

Bethel: Gweler Bontnewydd. Digon tebyg.

Penygroes: Pentref mawr. Diwylliant chwarel– er bod hon wedi cau. Yn orbit Caernarfon.

Groeslon. Gweler Penygroes – tebyg ond nes at Gaernarfon.

Llanwnda. Ward o bentrefi llai rhwng Groeslon / Penygroes a’r Bontnewydd. Cynnwys ardaloedd chwarel, pentref glan y mor, dosbarth canol Cymreig a cofis wlad rhan uchaf y Bontnewydd.

Wel dyna hanner yr ugain. Pob un o fewn ychydig filltiroedd i Gastell C/narfon.

Dwyrain Porthmadog: Trefol. Y rhan o Borthmadog sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno.

Gogledd Pwllheli: Trefol. Y rhan o Bwllheli sydd ymhell o’r mor ac nad ydi Saeson eisiau dod i fyw yno. Pobl tref Pwllheli a phobl o Ddwyfor wledig sydd wedi mewnfudo i’r dref. Trydydd o ran safon gwael tai yng Nghymru.

Teigl: Trefol. Blaenau Ffestiniog. Yn ol ym myd y chwareli llechi. Chwarel, neu o leiaf fersiwn open cast yn dal yn agored.

Maenofferen: Gweler Teigl. Tebyg.

Bala: Trefol, ond ychydig yn gwahanol i’r uchod. Gwasanaethu byd amaethyddol.

Tudur: Trefol. Llangefni. Proletaraidd. Un o’r wardiau efo’r incwm cyfartalog isaf yng Nghymru.

Cefni: Trefol. Llangefni. Ward mae’r heddlu’n dweud sydd a record anhygoel o anhrefn cymdeithasol. Y rheswm am hyn ydi bod yr heddlu’n ddwl. Maent yn cofnodi pob achos yng nghanol y dref (sydd yn lle anhrefnus liw nos) fel Cefni. Dydi canol y dref ddim yng Nghefni.

Cyngar: Trefol. Llangefni Llai tlawd na Tudur.

Llanuwchllyn: Gwledig. Yr unig ward amaethyddol wledig sydd a thros 80% yn siarad Cymraeg. Fel hyn oedd y rhan fwyaf o’r Fro Gymraeg ers talwm. 7fed salaf o ran ansawdd tai yng Nghymru.



Blaenau Ffestiniog

Plaid Cymru sy'n cynrychioli 11 o'r 17 ward sydd yng Ngwynedd, ond dim un o'r dair sydd ar Ynys Mon.

Wps, newydd sylwi fy mod wedi anghofio hen bentref bach Llanber - Mecca twristiaid sy'n hoffi dringo a ballu. Mae o'n edrych yn rhyfedd am wn i cael lle sydd mor boblogaidd efo Saeson fod mor Gymraeg. Ond mewn rhai ffyrdd mae'r lle yn ddigon nodweddiadol o'r lleoedd eraill sy'n Gymreig iawn - siar da o dai cyngor, pentref mawr chwarel (gynt), yn orbit C'narfon.

No comments: