Monday, July 16, 2012

Dwy draean o bobl Cymru eisiau 'difa'r genedl'

Byddwch yn cofio ymateb hysteraidd Peter Hain i awgrymiadau gan Cheryl Gillan y dylai Cymru gael y pwer i drethu - yn ol Peter byddai grymoedd o'r fath yn 'difa'r genedl'. Ymddengys bod y rhan fwyaf o ddigon o bobl Cymru yn anghytuno efo'i 'ddadansoddiad'.

Darllenwch yr adroddiad ICM/John Curtice/Richard Wyn Jones - mae ymysg yr astudiaethau mwyaf cynhwysfawr o'r farn gyhoeddus yng Nghymru ynglyn a datganoli i gael ei gyhoeddi erioed.

Drysu rhwng y Blaid Lafur Gymreig a Chymru mae Peter wrth gwrs - pechod sy'n gyffredin i lawer o aelodau'r Blaid Lafur yng Nghymru. Byddai datganoli grym trethu i Gymru yn peri problemau sylweddol i'r Blaid Lafur Gymreig, ond byddai'n newyddion da i Gymru.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw hyd at syrffed at y ffaith y byddai cyfundrefn drethiant Gymreig yn sefydlu perthynas rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at leihad yng nghefnogaeth y Blaid Lafur Gymreig.  Sail eu cefnogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ydi'r ffaith eu bod yn cael galw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus, heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i dalu am hynny.

O sefydlu cysylltiad rhwng faint yr ydym yn ei dalu mewn trethi yng Nghymru a faint yr ydym yn ei wario, byddai reid wleidyddol rhad ac am ddim Llafur ar ben, a byddem mewn sefyllfa i esblygu gwleidyddiaeth mwy aeddfed a chyfrifol nag oes gennym ar hyn o bryd.

Byddai hefyd yn gyfle i leihau dylanwad y maen melin o blaid wleidyddol sydd wedi dal y wlad yn ol am gyhyd.

4 comments:

Anonymous said...

Bring it on! fel ddywedodd rhyw Lafurwraig Albanaidd unwaith.

... yr hyn fydd angen i ni genedlaetholwyr wneud yw sicrhau nad yw'r Gymraeg (S4C, addysg Gymraeg, Cyngor Llyfrau etc etc) ddim yn cael eu gwasgu gan ddadleuon i arbed arian.

Mae angen i ni sichrau hefyd na fydd AC Plaid Cymru chwaith yn tanbrisio'r Gymraeg er mwyn schoolsandhospitals.

Anonymous said...

Dwi yn amlwg or farn y dylai trethi cael eu datganoli. Ond dwi yn derbyn yn y byr dymor fydd hyn yn ddrwg i'r genedl (yn enwedig os di Barnett ddim yn newid ar yr un pryd).

OND, mae hwn yn gam sydd RHAID cael ei gymeryd oherwydd dwi or farn yn y hir dymor fydd cael y pwerau yma yn gallu wellar genedl.

Yn amlwg na fydd Cymru yn cael ei dinistrio- yr unig rheswm di Hain ddim isio hwn ydy oherwydd bod dydy Llafur Cymru ddim eisiaur cyfrifoldeb.

Unknown said...

Taxation, via our Assembly administration, is essential to our democracy.

A humble request, could you add the translate gadget to your blog please.

Cai Larsen said...

done John - I think.