Thursday, August 30, 2012

Blogiau sy'n mynd ar fy nerfau rhan 1 - Paul Flynn

Gan fod arddull arferol y blog yma mor ffeind a di niwed dwi'n siwr y bydd llawer ohonoch yn credu mai'r unig beth sydd yn mynd ar nerfau'r awdur ydi rwdlan rhagfarnllyd Gwilym Owen yn Golwg pob pethefnos. Byddai canfyddiad felly yn un cwbl anghywir - mae yna pob math o bethau yn mynd ar fy nerfau - a dim byd mwy felly na rhai o fy nghyd flogwyr. Felly dyma ddechrau cyfres fach o flogiadau sy'n ymdrin a blogwyr sy'n crafu ar fy nerfau.

Rwan peidiwch a chamddaeall - dwi'n rhyw wybod bod Paul Flynn ar ochr yr angylion yn y bon - wedi dysgu'r Gymraeg ac yn gefnogol iddi, yn erbyn rhyfeloedd boncyrs a di ddiwedd y DU, yn erbyn y teulu brenhinol a'r system anrhydeddau dw lali sy'n gysylltiedig a'r teulu hwnnw, eisiau mwy o rym i Gymru ac ati. Dwi'n siwr petai genhedlaeth yn ieuengach, a bod gyrfa wleidyddol ac aelodaeth o'r Blaid yn bethau a allai ddigwydd ar yr un pryd y byddai'r dyn yn Bleidiwr. Ar ben hynny mae'n sgwennu yn dda - yn glir, yn gynnil ac yn uniongyrchol. Mae hefyd yn 'sgwennu'n aml ac yn doreithiog.

Ond mae ei arfer o gyfri pob milwr Prydeinig sy'n marw yn Afghanistan yn fy ngwylltio braidd. Mae yna lawer mwy o filwyr Americanaidd wedi marw yn y wlad - 2,000 o Americanwyr o gymharu a 426 o Brydeinwyr. Dwi'n gwybod y bydd Paul yn dadlau nad cyfrifoldeb llywodraeth Prydain ydi hynny - yn union fel mae'n gwrthod rhoi cyfrifoldeb am y 100,000+ o sifiliaid Iracaidd a laddwyd ar ysgwyddau Tony Blair am ei fod yn meddwl y gallent fod wedi marw beth bynnag.

Yn bwysicach mi laddwyd miloedd lawer o sifiliaid Afghan ers ymyraeth y Gorllewin - llawer o ganlyniad i weithredoedd milwrol gan y ddwy ochr, a mwy o ganlyniad i orfod symud o'u cartrefi a'u cymdogaethau a cholli eu ffynonellau incwm.

I wneud pethau'n glir i Paul - mae bywydau yn gyfwerth - os ydynt yn Americanwyr, Prydeinwyr neu'n drigolion anffodus Afghanistan. Gellir dadlau bod rhywun sy'n ymuno efo byddinoedd America neu Brydain yn rhyw dderbyn bod yna risg y byddant yn marw o ganlyniad i ymosod ar wledydd tramor, tra bod rhyw greadures sy'n trio gwneud dim mwy na magu ei phlant yn Helmand erioed wedi cael dewis o'r fath. Ond dydw i ddim yn gweld fawr o bwynt gwahaniaethu. Mae pawb sydd ynghlwm a'r sefyllfa yn dioddef - ac mae eu dioddefaint yn gyfwerth.

Mae'n anffodus felly bod blog Paul yn boenus gyfri pob marwolaeth Prydeinig tra - i bob pwrpas - yn anwybyddu dioddefaint pawb arall sy'n ddigon anffodus i fod ynghlwm a'r sefyllfa.

Ymddiheuriadau _ _ _

_ _ _ am y blogio ysgafn (wel y dim blogio o gwbl) ond dwi wedi bod i ffwrdd yn Ffrainc - er mwyn cadw golwg ar y wleidyddiaeth y weriniaeth Ffrengig ar ran darllenwyr blogmenai yn dilyn ethol yr Arlywydd Hollande - wrth reswm.

Gwasanaeth arferol i'w adfer maes o law.

Thursday, August 23, 2012

Blogiadau o'r gorffennol rhan 5

O 2008 - blwyddyn y sgandal dreuliau sydd bellach yn gwbl anghof - un y Cynulliad - y daw blogiad o'r gorffennol yr wythnos yma. Roedd Nick Bourne wedi bod wrthi'n brysur yn gwario pres y cyhoedd ar ei ystafell molchi.



Mae cryn dipyn o gwyno a rhuo wedi bod yn y wasg oherwydd bod rhai o aelodau'r Cynulliad wedi hawlio cryn dipyn o bres i gynnal eu hail gartrefi, bwyta, prynu Ipods ac ati. Mae'n fater o gryn boen i ambell un bod saith o'r aelodau wedi hawlio'r mwyafswm posibl o £12,000, a bod Huw Lewis a Lynne Neagle - gwr a gwraig - wedi hawlio £22,298 rhyngddynt.

'Rwan mae edrych trwy'r rhestr yn rhoi ychydig o hwyl diniwed i ddyn - tipyn fel edrych i mewn i droli siopa cymdogion yn Tesco. Wedi dweud hynny 'dydi blogmenai ddim yn bwriadu ymuno efo'r cor dolefus, hunan gyfiawn sy'n cwyno ac yn udo. Gan bod hawlio costau hyd at £12,000 yn rhan o'r drefn, mae'n wirion braidd disgwyl i bobl beidio cymryd mantais o hynny, ac mae'n wirionach i gymryd arnom ein bod wedi ein rhyfeddu bod ambell un wedi cymryd mantais o'r £12,000 yn ei gyfanrwydd. Felly mae'r natur ddynol mae gen i ofn. Byddai'n ddiddorol petai'r Bib (sydd fel y Cynulliad wedi ei ariannu'n llwyr gan gyllid cyhoeddus) yn cyhoeddi faint o dreuliau mae eu staff nhw yn ei hawlio. Byddai'r ymarferiad bach yna mewn edrych i mewn i droli siopa yn un gwerth chweil hefyd.

Serch hynny, mae yna un peth yn fy niddori'n fawr, sef bod arweinydd y Blaid Geidwadol Gymreig (fel 'dwi'n 'sgwennu hwn o leiaf) wedi gwario £5,000 ar ei ystafell molchi.

Peidiwch a fy ngham ddeall - does gen i ddim gwrthwynebiad i Nick wario lwmp mawr o'i lwfans ar ei 'stafell molchi. Ddim o gwbl,'dwi pob amser wedi ystyried Nick yn wleidydd glan - yn gwahanol iawn, iawn i lawer o wleidyddion eraill. Son am ystyr llythrennol y gair 'glan' ydw i yma wrth gwrs, er nad ydi Nick erioed wedi fy nharo fel gwleidydd dan din na Maceofelaidd chwaith - er ei fod yn Dori.

Na mae Nick pob amser yn drwsiadus a glan - ei ddillad a'i gorff wedi eu golchi yn y gorffennol cymharol agos, ei grys a'i dei'n gweddu, pob blewyn yn ei le.

Mor wahanol i'w ragfleynydd fel arweinydd y Toriaid Cymreig oedd dragwyddol yn drewi o wirodydd cryf (os nad gwenwynig) a sent rhad. Neu Shirley Williams sydd pob amser yn edrych fel petai newydd gael ei dillad o sel olaf un. Neu'r diweddar Willie Hamilton oedd a'i ddannedd, ac yn wir y gweddill ohono wedi eu harlliwio gan fwg ei sigarets. Neu Ken Clark sydd wedi cysgu yn ei siwt ers ugain mlynedd - yr un siwt. Neu'r diweddar George Brown oedd yn edrych yn amlach na pheidio fel petai wedi cysgu yn y gwter. Neu Rhodri sydd wedi ei ddilladu gan bwyllgor mewn cartref i'r deillion. Neu Michael Mackintosh Foot sydd yn ol pob golwg yn dwyn ei ddillad oddi wrth gardotwyr pan maent yn cysgu. Neu Jim Callaghan oedd pob amser gydag arogl baw moch ar ei esgidiau. Neu Lempit Opik - na - dyna ddigon 'dwi'n meddwl.

Cymaint ydi parch Nick at ddemocratiaeth Cymreig nes ei fod yn cymryd ei lendid personol o ddifri mewn ffordd nad oes yr un gwleidydd arall yn y wlad wedi ei wneud - hyd yn oed Lisa Francis. Mae'n debyg gen i ei fod yn cymryd o leiaf ddwyawr pob bore yn ei 'stafell 'molchi drydfawr yn ymbaratoi ar gyfer yr ymgodymu gwleidyddol sy'n ei aros.

Mae'n wych meddwl amdano yn llenwi ei fath trobwll gyda dwr a'i dymheredd wedi ei fesur i'r radd agosaf, ychwanegu jyst digon o hylif sebon Truefitt & Hill cyn setlo i mewn i ffeilio ei winedd, rhwbio'r croed caled oddi ar gwadnau ei draed a chledrau ei ddwylo, eillio'n ofalus tros ei gorff i gyd (ond am ei ben wrth gwrs)gyda rasal, finiog, syth o Taylors of Old Bond Street, tynnu unrhyw flew sydd wedi ymwthio o'i drwyn neu'i glustiau tros nos, rhwbio'i gefn yn ofalus efo loofah wedi ei wneud o gotwm Eifftaidd, cyn mynd ati i olchi ei fop o wallt gyda Kevin Murphy's Luxury Rinse.

Yna'n codi'n ofalus o'r bath a throedio ar hyd y llawr marmor at y bidet Ffrengig er mwyn mynd i'r afael go iawn efo'r rhannau hynny o'r corff sydd mewn perygl o fynd yn chwyslyd, yn ludiog ac efallai'n ddrewllyd yn ystod y dydd oni bai bod dyn yn sobor o ofalus.

Yna codi a rhwbio ei hun o'i ben i'w gynffon gydag hylif corff Rouge Rambling Rose a thasgu mymryn o hylif ol eillio Hugo Boss cyn chwystrellu Vichy No 7 o dan ei geseiliau. Ar ol mynd i'r llofft i wisgo bydd yn barod am ddiwrnod arall.

Yr unig beth sydd yn fy mhoeni ychydig ydi nad oes gen i 'stafell molchi gwerth £5,000. Yn wir 'dwi ddim yn 'nabod neb sydd gyda 'stafell 'molchi felly - nag yn 'nabod rhywun sydd yn 'nabod rhywun fel petai.

'Dwi ddim yn disgwyl am funud i Nick adael i mi ddod draw i gael gweld y rhyfeddod wrth gwrs, ond cyn fy mod yn rhannol gyfrifol am dalu am y peth, 'dwi'n teimlo ei bod yn deg gofyn i Nick dynnu lluniau a'u gosod ar y We. Yn ffodus mae ganddo flog arbennig o dda lle gallai'n hawdd wneud hyn - er nad ydi o'n cyhoeddi lluniau yno'n aml..

'Dwi'n bwriadu gadael neges yno yn gofyn iddo wneud hyn. 'Dwi'n hyderu y byddwch chithau yn gwneud yr un peth - er ei fod yn cymedroli'n anffodus (yn gwahanol i mi).

Tuesday, August 21, 2012

Ydi Tony Ben yn xenoffobaidd?

Mae'n ymddangos ei fod - mae'n dadlau yn erbyn annibyniaeth i'r Alban, mewn cyfweliad efo'r Scotsman, ar y sail y byddai meddwl bod ei fam - a ansyd yn Glasgow - yn dramorwraig yn ei ypsetio yn ofnadwy.

Mae'n beth da nad oes ganddo berthnasau Gwyddelig, neu efallai y byddai eisiau concro'r wlad honno er mwyn eu dad dramori.

Monday, August 20, 2012

Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol?

Mae'n debyg y dyliwn i gofio pwy ddywedodd bod wythnos yn amser maith mewn gwleidyddiaeth, ond a barnu oddiwrth yr holl droelli gan gyfeillion Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, i roi pwysau ar Cameron i'w wneud yn Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru, mae'n amlwg bod tair blynedd yn oes.

Yn ol yn 2009 roedd rhaid i Stephen alw cyfarfod cyhoeddus yn ei etholaeth i egluro pam ei fod ar flaen y gad ymysg ASau Cymru o ran hawlio treuliau seneddol - doedd y cyfarfod ddim yn un cyfforddus, ac roedd peth ansicrwydd ynglyn a dyfodol Stephen yn San Steffan ar y pryd.

Ymddengys i Stephen hawlio £8,000 i wella ei ail gartref yn Llundain cyn mynd ati i'w werthu am elw o tua £170,000. Wedyn honnodd mai ei brif gartref oedd ystafell mewn fflat cyd AS, ac mai ei gartref yng Nghymru oedd ei ail gartref. Caniataodd hyn iddo hawlio £9,300 o dreth stamp a £1,325 y mis tuag at forgais ei gartref teuluol. Er bod Stephen yn dadlau nad oedd wedi gwneud dim o'i le, ad dalodd y £9,300 wedi ychydig o hym hymian. Roedd hyfyd yn awyddus i bawb ddeall nad oedd wedi hawlio pres i brynu teledu plasma.

Petai yn cael joban Cheryl Gillan byddai ei gyflog yn codi o £65,738 i £145,567 - nid bod Stephen yn poeni am bres wrth gwrs.

Sunday, August 19, 2012

Cwymp yn y gefnogaeth i annibyniaeth yr Alban yn sgil y Gemau Olympaidd

Os ydych o'r farn nad oedd goblygiadau gwleidyddol i'r Gemau Olympaidd cymerwch gip ar dudalen flaen Mail on Sunday heddiw.

Mae'r erthygl ei hun yn bropoganda unoliaethol, ond mae'n adrodd ar rhywbeth 'caled' yn yr ystyr bod pol piniwn oedd wedi ei gomisiynu gan y papur ei hun yn dangos bod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi cwympo'n sylweddol.

Mi fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn aml gydag is destun gwleidyddol iddynt - Beijing, Barcalona, Moscow, Los Angeles yn esiamplau diweddar.

Clymu'r Deyrnas Unedig at ei gilydd oedd is destun hon - rhywbeth fyddai wedi ymddangos yn gwbl ddi angen hanner canrif yn ol. Ers hynny mae amrywiaeth o rymoedd wedi gwneud y syniad o Brydeindod yn llawer mwy anelwig a chymhleth - ac felly'n fwy anodd i'w gynnal. Nid yr adfywiad cenedlaethol yn y gwledydd Celtaidd ydi'r unig beth sydd wedi bod yn gyrru hyn. Mae natur cymdeithas yn llawer o ardaloedd trefol Lloegr wedi newid yn sgil y tonnau o fewnfudo tros y degawdau diwethaf, ac o ganlyniad mae Prydeindod wedi colli llawer o'r hyn oedd yn ei ddiffinio yn y gorffennol - Protestaniaeth, ethnigrwydd neilltuol, perchnogaeth ymerodraeth enfawr, Saesneg fel iaith oedd bron yn gyffredinol ac ati.

Doedd hi erioed yn bosibl i'r wladwriaeth ddychwelyd ymdeimlad pobl o Brydeindod i factory setting, ond mae'r gemau wedi bod yn gyfle i arddangos model arall o Brydeindod - model aml ddiwyllianol a chynhwysol. Yn y Brydain sydd ohoni dyna'r unig fodel y gellir ei gynnig bellach mewn gwirionedd, ac mae'r model o Brydain mwy cynhwysol yn un sy'n hyrwyddo'r undeb hefyd - yn un sydd a'r potensial i atal neu arafu y grymoedd hynny sy'n anfon Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ol ddatganoli i lawr llwybrau eu hunain. Dydw i ddim yn amau am funud bod gwahanol elfennau'r DU wedi eu tynnu at ei gilydd gan ddigwyddiadau'r haf.

Ond cyn i'r unoliaethwyr ddathlu gormod mae yna un mater bach i'w ystyried. Dydi hi ddim yn glir os ydi'r gemau wedi newid pethau yn sylfaenol. Mae'n sicr wedi creu feel good factor, ac wedi cysylltu hwnnw efo'r wladwriaeth Brydeinig. Ond dydi hi ddim yn glir os ydi wedi gwneud Prydeindod fel cysyniad yn fwy atyniadol yn yr hir dymor. Mae gwladwriaethau (democrataidd) yn cael eu cadw at ei gilydd gan gyfuniad o ystyriaethau ymarferol, materol a rhai mwy haniaethol sy'n ymwneud a hunaniaeth.

Dydi'r gemau ddim wedi symud y ddadl ynglyn ag os ydi'r Alban yn well o safbwynt materol yn y DU neu ar ei liwt ei hun fodfedd. Roedd cryn dipyn o son y byddai buddugoliaeth Ffrainc gyda'i dim aml ddiwyllianol yng Nghwpan (pel droed) y Byd yn 1998 yn newid pethau yn y wlad honno yn sylfaenol - ond o fewn blwyddyn roedd terfysgoedd ar y strydoedd. Wnaeth y teimlad cadarnhaol a greuwyd bryd hynny ddim oll i newid yr anghyfartaledd materol yn y wlad. Rhywbeth byrhoedlog ydi ymdeimlad cadarnhaol ynddo'i hun.

Mae hefyd yn ddigon posibl nad ydi'r Gemauu Olympaidd wedi newid agwedd pobl at eu hunaniaeth sylfaenol mewn unrhyw ffordd sylfaenol a pharhaol chwaith. Os felly mi fydd y gemau wedi eu hen pan fydd yr Albanwyr yn pleidleisio ar annibyniaeth mewn dwy flynedd.

Thursday, August 16, 2012

Pwy ydi'r 6?

Yn ol Sam Coates o'r Times mae chwech o'r wyth AS Toriaidd yng Nghymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn newid y ffiniau etholaethol.

Unrhyw un eisiau bwrw amcan pwy ydi'r chwech?

Blogiadau o'r gorffennol - rhan 5

Dydan ni ddim yn mynd ymhell iawn yn ol efo'n blogiad o'r gorffennol yr wythnos yma - ychydig tros flwyddyn.

Roedd yr hen gyfaill Gwilym Owen (sydd wedi dewis byw ym Mangor) wedi dotio - yn ei golofn Golwg - bod Aled Jones Williams (sy'n byw yng Nghriccieth) wedi ailadrodd un o'i ddamcaniaethau bach ystrydebol - sef bod y Gymraeg yn iaith ddosbarth canol. Ymddengys hefyd bod Gwilym yn credu bod cytuno efo Gwilym yn beth eofn iawn i'w wneud.

Ta waeth, mi gawsom olwg ar ddosbarthiad cymdeithasegol y wardiau mwyaf Cymreig yn dilyn honiad Gwilym y llynedd. Dydi'r data ddim yn cefnogi damcaniaethau colofnwyr Golwg - oni bai bod newid mawr - ac anhebygol iawn - wedi digwydd tros y ddegawd diwethaf.


Mynd i rhyw feddwl wnes i ar ol darllen am ymddeoliad Gwilym Owen yn Golwg y diwrnod o'r blaen os oedd yna rhywbeth yn ei osodiad bod y Gymraeg yn mynd yn iaith i'r dosbarth canol yn unig.  Mae'r canfyddiad hwnnw yn groes i fy argraff i, ond wedyn dwi'n byw mewn tre Gymreig iawn sydd hefyd yn ddosbarth gweithiol at ei gilydd.

Felly mi es i ati i geisio gweld os oes yna sail ystadegol i'r sylwadau.  Ymgais ydi'r isod i brofi os ydi gosodiad Gwilym yn gywir neu beidio. Rwyf wedi gosod y wardiau oedd yn ol y cyfrifiad diwethaf gyda 75%+ yn siarad Cymraeg ynddynt yn eu trefn ac wedi nodi eu safle a'u sgor ar Indecs Amddifadedd Cymru. Fel mae'r enw yn rhyw awgrymu ffordd o fesur amddifadedd ydi'r indecs ac mae'n gwneud hynny ar lefel ward etholiadol.  Mesurir amddifadedd 1,792 o gymunedau i gyd.

Felly mae safle isel a sgor uchel yn awgrymu lefel uchel o amddifadedd, tra bod sgor isel a safle uchel yn awgrymu'r gwrthwyneb.  Dwi ymhellach wedi gosod y cymunedau Cymraeg yn eu chwarteli cenedlaethol - mae lefel uchel o amddifadedd mewn cymunedau yn chwartel 4, a lefel isel o amddifadedd mewn rhai yn chwartel 1.  Ceir tair ward yn y chwartel isaf, tair yn y chwartel uchaf, 18 yn y trydydd chwartel a 17 yn yr ail chwartel.

Rwan does yna ddim diffiniad mae pawb yn ei dderbyn o'r hyn sy'n gwneud pobl yn ddosbarth canol - y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio amlaf ydi pobl sy'n syrthio i gategoriau ABC1.  Mae tua hanner poblogaeth Cymru yn syrthio i'r categoriau hynny, tra bod yr hanner arall yng nghategoriau C2DE.  A chymryd hynny mae'r tabl yn awgrymu bod cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi eu rhannu yn weddol gyfartal rhwng rhai sydd yn ddosbarth gweithiol a dosbarth canol, ond bod llai ohonynt yn perthyn i'r pegynnau na sy'n wir am Gymru gyfan. 


Un neu ddau o bwyntiau bach technegol cyn gorffen - 'dwi'n derbyn nad ydi cyfrifo amddifadedd yr un peth a chyfrifo dosbarthiad cymdeithasol - ond mae'r naill yn rhoi syniad o'r llall.  Dwi hefyd yn derbyn nad ydi'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw mewn cymunedau 75% + - ond mae proffeil cymunedau Cymreig yn rhoi syniad i ni am broffeil siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.  Mae hefyd yn wir bod y ffigyrau cyfrifiad yn ddeg oed bellach. Mae unedau cyfrifo'r indecs hefyd mymryn yn wahanol i unedau'r cyfrifiad, ac mae yna ychydig fanylion ar goll o'r indecs.

I gyd yn hyn efo'n gilydd

Mae'r wasg wedi nodi ers tro byd bod mwyafrif llethol cabinet llywodraeth San Steffan werth o leiaf miliwn o bunnoedd.

Mae'n braf felly cael nodi bod yr hogiau (a hogiau ydi'r rhan fwyaf o ddigon ohonyn nhw) wedi llwyddo i gymryd gofal ohonyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a'u cyfeillion yn nannedd y dirwasgiad mae eu polisiau economaidd wedi ei greu. Tra bod fwy neu lai bawb arall yn mynd yn dlotach, mae bois y cabinet a'u cyd filiwnyddion yn mynd yn gyfoethocach - ac yn gwneud hynny yn gyflym iawn.

Wednesday, August 15, 2012

Hunan gasineb ein papur 'cenedlaethol'

Mae Ifan a Royston wedi dweud fwy neu lai yr oll sydd angen ei ddweud am yr erthygl bisar a ymddangosodd yn y Western Mail druan ddoe.

Ymgais ydi'r stori i gysylltu dau beth nad ydynt yn gysylltiedig - perfformiad tim Prydain yn y Gemau Olympaidd ac ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Office for National Statistics ynglyn a pherfformiad economaidd a demograffeg ym mhedair gwlad y DU.

O bosibl er mwyn gwneud stori ddiflas am ffigyrau yn fwy diddorol mae'n ymddangos i'r papur gysylltu efo dau wleidydd sydd efo tipyn o hanes o ddweud pethau braidd yn lliwgar a gofyn iddyn nhw beth allai Cymru ei ddysgu o'r Gemau Olympaidd er mwyn gwella'r ffigyrau Efallai eu bod yn disgwyl i'r naill neu'r llall ddweud rhywbeth am bwysigrwydd undod y DU, neu awgrymu y byddai gwneud i bawb tros 65 redeg ychydig o weithiau rownd trac athletau yn lladd digon o'r henoed i wneud i'r demograffeg edrych yn well neu rhywbeth.

Beth bynnag nid dyna ddywedodd y naill na'r llall - dweud rhywbeth rhannol ddealladwy am wleidyddion Llafur eraill wnaeth Wayne David a rwdlan tipyn am foi mor dda ydi Boris Johnson wnaeth Simon Hart. Mae'n debyg bod cwestiwn gwirion yn siwr o esgor ar ateb gwirion.

Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi beth mae'r stori yn ei ddweud am ddiwylliant newyddiadurol y Western Mail. Maen nhw eisiau riportio ar fethiannau Cymreig - sy'n ddigon teg. Maen nhw hefyd eisiau dod i gasgliadau mwy cyffredinol o'r methiannau hynny - sydd eto yn ddigon teg. Ond dydi ceisio priodi'r methiannau Cymreig efo llwyddiant Prydeinig - er bod y ddau beth yn gwbl ddi gyswllt - ddim yn rhywbeth deallus iawn i'w wneud. Yn wir mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y papur - agweddau sydd wedi eu gwreiddio mewn hunan gasineb.

Efallai y caf wneud pethau'n syml i'r Western Mail. Buddsoddiad anferth gan y wladwriaeth Brydeinig mewn chwaraeon ydi sail llwyddiant TeamGB. Mae diffyg buddsoddiad yn un rheswm am fethiannau economaidd yng Nghymru, ond nid dyna'r prif reswm. Obsesiwn y wladwriaeth Brydeinig efo'r sector ariannol yn Llundain, a diffyg mynediad yng Nghymru at y lefrau economaidd a allai ganiatau i ni fod yn gystadleuol ydi'r rheiny.

Dydi rwdlan am lwyddiannau Prydeinig yn yr un gwynt a disgrifio methiannau yng Nghymru ddim am newid hynny.

Tuesday, August 14, 2012

Pravda Cymru

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol bod y cyfryngau 'Cymreig' -y BBC yn benodol - yn clodfori digwyddiadau a sefydliadau Prydeinllyd, tra'n gwrthod cydnabod bod yna wahaniaeth barn yn y wlad ynglyn a'r cyfryw sefydliadau a digwyddiadau.

Ymddengys bod y Western Mail druan yn mynd cam yn bellach fodd bynnag - yn ol Ian Titherington mae sylwadau sy'n feirniadol o'u hymdriniaeth o'r Gemau Olympaidd yn cael eu dileu oddi ar wefan Wales Online..

Mae gwrthod gadael i bobl sydd ddim yn cytuno efo safbwynt arbennig leisio eu anghytundeb yn dystiolaeth diymwad o wendid y safbwynt hwnnw. A dyna sydd y tu ol i ddiffyg cydnabyddiaeth y cyfryngau Cymreig o safbwyntiau amgen.

Pan mae'r holl heip wedi ei droelli, pan mae newyddiadurwyr hunan fodlon BBC Cymru wedi gorffen diolch i'w gilydd am eu gwaith 'anhygoel' (fel roeddynt ar Newyddion S4C neithiwr) mae'r ffeithiau yn dal yr un peth.

Mae dewis arweinydd gwladwriaeth ar sail etifeddol a phwmpio miliynau lawer i'w theulu yn flynyddol yn dal yn beth chwerthinllyd o wirion a chyntefig i'w wneud.

Mae £500m+ yn parhau i fod yn bris anhygoel o uchel i wlad dlawd ei anfon i un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd ar gyfer cystadleuaeth lle nad yw'n cael anfon tim a phan nad yw'n derbyn nesaf peth i ddim yn ol ar ffurf busnes na lleoliadau digwyddiadau.

'Dydi'r holl hunan fodlonrwydd! na'r holl shysh shyshio yn y Byd ddim yn newid hynny.

Sunday, August 12, 2012

Marwolaeth Eileen Beasley

Mae'n drist gorfod cofnodi marwolaeth Eileen Beasley yn 91 oed.

Dwi'n siwr y bydd darllenwyr blogmenai yn gyfarwydd a'r hanes - os nad ydych dilynwch y linc i ymdriniaeth Golwg360.

Yr hyn mae hanes Eileen a'i gwr Trefor yn ei ddangos fwy na dim arall ydi y gall unigolion wneud gwahaniaeth o fod yn ddigon pen galed a phenderfynol. Doedd gan y cwpwl ddim mudiad i'w cefnogi, ac ychydig o gefnogaeth oedd iddynt o gyfeiriad y cyfryngau. Llugoer oedd cefnogaeth eu teuluoedd hyd yn oed.

Mae rhywbeth yn addas ein bod yn cael cyfle i nodi grym ewyllys yr unigolyn mewn cyfnod lle cafwyd ymgyrch gyfryngol hir a phenderfynol i'n gwthio oddi wrth ein hunaniaeth Gymreig a thuag at hunaniaeth Brydeinig. Does dim rhaid ildio, does dim rhaid troi, does dim rhaid plygu glin.

Ni sydd bia ein hunaniaeth - neb arall.

Saturday, August 11, 2012

Pol y Guardian ar y Gemau Olympaidd

Mae yna rhywbeth bron yn ddigri yng nghanfyddiad pol y Guardian bod y Gemau Olympaidd yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn Llundain. Yn wir yn ol y pol roedd y jambori yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Byddwch yn cofio i'r blog yma groniclo ( hyd at syrffed efallai) nad oes gan Gymru dim yn y gemau, i ni gael nesaf peth i ddim o'r contractau a ddaeth yn sgil y gemau, na chawsom y nesaf peth i ddim o'r cystadleuthau, ac mai ychydig o lwyddiant a gafwyd.

Rwan, dwi'n gwybod am y rhybuddion arferol am is setiau bach o ddata ac ati, ond mae'n rhaid cyfaddef bod hyn yn gryn dro ar fyd - ychydig wythnosau yn ol roedd tri chwarter poblogaeth Cymru o'r farn na fyddai'r Gemau o unrhyw fudd o gwbl i'r wlad.

Mae'n debyg y dylid llongyfarch ein cyfryngau lleol, ac yn arbennig felly BBC Cymru/ Wales am y 'llwyddiant' rhyfeddol yma i newid agweddau pobl. Maent wedi gwerthu'r gemau yn llawer mwy effeithiol na neb arall. Gobeithio y byddant yn cael mwy na'u siar o OBEs, MBEs ac ati am wasanaethau i'r Cwin a'r Neshyn. Duw a wyr maen nhw'n ei haeddu am lyfu a llempian ymhell, bell y tu hwnt i alwadau dyletswydd.

Friday, August 10, 2012

Llongyfarchiadau Rob_ _ _

_ _ _ ar fod yn gyntaf (hyd y gwn i) i ddefnyddio TeamGB i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Cynghorydd Llafur o'r Bari ydi Rob Curtis, ac mae'n ymddangos nad yw'n rhy hapus bod ei blaid wedi cael cweir gan Plaid Cymru mewn is etholiad yn y dref yrwythnosdiwethaf.

Mewn llythyr bach chwerw i'r Echo mae Rob yn mynd i'n rhybuddio o beryglon annibyniaeth:

Every Plaid councillor elected will become a cheer leader for petty short sighted nationalism and an advocate of destroying our unique & mostly successful partnership with the rest of the United Kingdom _ _ _ that means an end to team GB.

A gadael o'r neilltu'r ffaith bod Rob yn ystyried trefniant sydd wedi dod a thlodi, tlodi a mwy o dlodii Gymru yn successful partnership, mae'r llythyr yn adrodd cyfrolau wrthym am sut mae'r sefydliad Cymreig yn gweithio.

Rydym yn cael un colofn sefydliadol Gymreig (BBC Cymru / Wales) yn treulio misoedd lawer yn clodfori ac yn heipio'r jambori mawr Llundeinig yn gyffredinol a TeamGB yn benodol, tra bod colofn arall (y Blaid Lafur Gymreig) yn portreadu llwyddiant i blaid arall mewn is etholiad cyngor fel bygythiad i'r hyn sydd wedi ei heipio cymaint gan ei chyd golofn sefydliadol.

Mae pwt o lythyr Rob yn adrodd cyfrolau am wleidyddiaeth Cymru.

Blogiadau o'r gorffennol - rhif 4

Fel llywodraeth Tony Blair (yn ol Alistair Campell) dydi Blogmenai ddim yn 'gneud' crefydd fel arfer, ond cafwyd ambell i eithriad prin. Daw'r blogiad isod sy'n cymharu dirywiad crefydd yng Nghymru efo nerth ymddangosiadol Islam yn Nhwrci o fis Ebrill 2008.



Mae gen i flog arall ar gyfer ysgrifennu nodiadau am deithiau, ond wedi ‘sgwennu hwn a’i ddarllen, ‘dwi’n rhyw feddwl mai blogmenai ydi’r lle mwyaf addas ar ei gyfer rhywsut.

Newydd dreulio deg diwrnod yn Istanbul – cyn brif ddinas yr ymerodraeth Ottoman, un o brif ganolfanau masnach y byd am filoedd o flynyddoedd, ac un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd (poblogaeth swyddogol o 9 miliwn – gwir boblogaeth unrhyw beth hyd at 18m). Er bod Twrci yn wladwriaeth seciwlar o ran cyfansoddiad, ac er bod yr elit cymdeithasegol a’r fyddin (sefydliad hynod bwerus yn Nhwrci) yn driw iawn i werthoedd y cyfansoddiad hwnnw, Mwslemiaid pybyr ydi’r mwyafrif llethol o drigolion y wlad.

Nid yw’r ffaith yma’n gwbl amlwg ym mhrif ganolfanau twristaidd canol y ddinas. Lleiafrif o’r merched ar y strydoedd hyn sy’n gwisgo yn null traddodiadol merched Islamaidd Twrci – ffrogiau llaes at eu traed a sgarff i guddio eu gwalltiau. Mae’r actorion yn yr operau sebon a darllenwyr y newyddion ar deledu’r gwesty yn ymddangosiadol gwbl Orllewinol. Mae siopau, bariau a thai bwyta sy’n gwerthu alcohol yn gyffredin iawn.

Gwir bod tyrau mosgiau i’w gweld i bob cyfeiriad, a gwir bod y llafarganu sy’n cymell pobl i weddio yn atseinio tros y ddinas bum gwaith pob dydd – yn unol a gorchymyn y Koran. Serch hynny y prif ymdeimlad a geir yn y lleoedd hyn yw o ddinas brysur, fywiog, gosmopolitaidd, seciwlar ei natur.

Ond nid oes rhaid i ddyn grwydro ymhell o’r prif strydoedd masnachol i weld darlun arall cwbl wahanol. Mae Istanbul wedi ei lleoli ar gyfres o fryniau sydd wedi eu hamgylchu a moroedd a sianeli dwr mor sylweddol – Y Corn Aur, Y Bosfforus a Mor Marmara. Tuedda’r canolfannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fod ar ben rhai o’r bryniau hyn. Ar y llethrau sy’n arwain i lawr at y moroedd ceir clytwaith enfawr o gymdogaethau tlawd – rhai ohonynt yn ymddangosiadol dlawd iawn. Mae’n fyd cwbl, cwbl wahanol.

Daw’r Trydydd Byd a’r Byd Cyntaf at ei gilydd ar y bryniau yma. Tra bod is strwythur modern effeithiol ar bennau’r bryniau, is strwythur treuenus o wael sydd ar y llethrau – y palmentydd yn dadfeilio mewn aml i le, a’r ffyrdd mewn cyflwr sal. Dim trafnidiaeth cyhoeddus, goleuadau ffordd anigonnol a chyflenwad trydanol na ellir dibynu arno. Mae’r trigolion yn byw mewn adeiladau sy’n ganoedd o flynyddoedd o ran oed, a phrin bod llawer ohonynt mewn cyflwr digonol i gadw’r glaw a’r oerni allan. Ceir ambell i dan yn llosgi ar y palmentydd ac mae’r pentyrau o sbwriel sydd ar ochr y lon yma ac acw yn awgrymu nad ydi’r gwasanaeth hel sbwriel yn effeithiol iawn chwaith.

Mae ethos Islamaidd y cymdogaethau hyn yn gwbl amlwg. Ychydig iawn o fariau neu gaffis sy’n gwerthu alcohol. Ceir mosg ar bron i bob bloc, a phan fydd yr uchel seinyddion sydd ar eu tyrau yn galw pobl i weddio, mae’r swn sy’n syrthio o bob cyfeiriad ar yr un pryd yn fyddarol ac yn ymylu ar fod yn ormesol. Mae’r merched bron yn unffurf o ran dillad yn eu parchusrwydd Moslemaidd.

Ac eto – wedi dweud hyn oll, dydi’r cymdogaethau hyn ddim yn llefydd anymunol i fod ynddynt. Mae dyn yn teimlo’n gwbl ddiogel yno (diogel oddi wrth y trigolion o leiaf – mae’r tyllau yn y ffyrdd a’r dreifio lloerig yn faterion cwbl wahanol). Ni ellir dweud hyn am lawer o gymdogaethau tlawd, a rhai sydd ddim mor dlawd, yn ninasoedd mawr Lloegr. Mae nifer o gymunedau felly gyda pheryglon i’w thrigolion ei hun, heb son am i bobl sy’n gwbl amlwg yn dramorwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o’r diwylliant cyffuriau sy’n creithio cymaint o gymdogaethau tlawd yn y DU.

Maent yn gymdogaethau distaw a chymdeithasegol drefnus yr olwg. Yr unig yfed cyhoeddus sydd i’w weld ydi dynion (a dynion yn unig) yn yfed yn y tai te. Bydd ychydig o laslanciau yn chwarae peldroed ar y ffordd yma ac acw. Byddant yn llusgo plant man i’w canlyn, neu’n cario babis yn eu breichiau (dydi’r palmentydd ddim digon da i ddefnyddio coets). Ceir ychydig o fusnesau yma ac acw – siop cebab, becws neu siop llysiau a ffrwythau – ac yma ceir y dynion (neu’r rhai nad ydynt yn yfed te o leiaf). Anaml iawn, iawn y gwelir dynes yn gweithio.

Wrth gerdded trwy’r strydoedd hyn roedd yn anodd peidio a meddwl am fy nyddiau Sul yn ystod y deg blynedd a dreuliais i yn byw mewn cymuned lle’r oedd crefydd yn rhan o’i gwead. Deg blynedd cyntaf fy mywyd ym Mhenisarwaun, Arfon rhwng 1960 ac 1970 oedd y rhain.

Mae’n debyg gen i nad ydi Cristnogaeth yng Nghymru wedi treiddio i bob agwedd ar fywyd pob dydd pobl yn y ffordd mae Islam yn gwneud hynny ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny roedd crefydd yn y Gymru Anghydffurfiol yn rhan o wead naturiol bywyd – yn arbennig felly ar y Sul, a pharhaodd pethau i fod felly nes iddi farw yn ddisymwth oddeuty 1970 – pan oeddwn i’n ddeg oed. Mae’n debyg gen i mai fy nghenhedlaeth i fydd yr un olaf i gofio’r Gymru, Gymraeg Anghydffurfiol.

Roedd dyddiau Sul ym Mhenisarwaun y 60au yn ddigon tebyg i ddyddiau Sul Oes Fictoria. Ar un ystyr goroesodd Oes Fictoria ar hyd llawer o’r Gymru Gymraeg ymhell i mewn i ail hanner y ganrif ddiwethaf.

Teulu Pabyddol oeddym ni – o leiaf i’r graddau bod fy nhad yn Babydd, ac roeddem ninnau yn bedwar o blant wedi ein magu yn y ffydd honno. Roedd hi’n orfodol o dan gyfreithiau’r Eglwys i blant o briodasau cymysg gael eu magu’n Babyddion bryd hynny. Bedyddwraig ydi mam, er ei bod yn un o ddisgynyddion John Elias – un o gymeriadau allweddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Un teulu, neu yn hytrach un unigolyn Pabyddol arall oedd yn byw ym Mhenisarwaun tan tua 1967. Symudodd teulu Pabyddol o Lerpwl i’r pentref tua’r adeg honno – rhagflaenwyr cynnar y tonnau mawr o fewnfudo a dorrodd tros rannau mawr o’r Gymru Gymraeg tros y degawdau dilynol. A dyna ni, tri theulu Pabyddol mewn cymuned o ddau neu dri chant o deuluoedd Protestanaidd – Anghydffurfwyr gan fwyaf. Oherwydd ein bod mewn lleiafrif mor fychan, roedd ein gwerthoedd cymunedol yn cydymffurfio yn agos a rhai’r gymuned yr oeddym yn byw ynddi – a chymuned Brotestanaidd oedd honno.

Roedd ein cymdogion yn addoli’n lleol – yn yr Eglwys Anglicanaidd leol, neu yn un o’r pedwar capel Anghydffurfiol lleol. Roeddem ni’n addoli y tu allan i’r pentref – mam yn Neiniolen am nad oes capel Bedyddwyr ym Mhenisarwaun a ninnau yn yr eglwys Babyddol yng Nghaernarfon gan amlaf. Weithiau byddem yn mynd i Fangor pan oedd Offeren Gymraeg yno.

Ond ym mhob ffordd arall roedd ein Suliau ni yn union fel rhai ein cymdogion. Nid oeddym yn mynd allan i chwarae – roedd clo ar giat cae swings pob dydd Sul ac nid oeddym yn cael chwarae yn yr ardd ffrynt chwaith. Ar ddiwrnodiau braf yn yr haf byddwn yn cael chwarae yn yr ardd gefn, ar yr amod ein bod yn gwneud hynny’n ddistaw bach. ‘Dydi Pabyddion ddim yn poeni rhyw lawer am hamddena ar y Sul, ond roeddym ni yn plygu i ddisgwyliadau’r gymuned ehangach. Yn yr un modd byddem yn gwisgo dillad dydd Sul – yn union fel ein cymdogion, er bod Pabyddion mewn gwledydd Pabyddol yn aml yn gwisgo’n ddigon anffurfiol mewn gwasanaethau cyffredin.

‘Doedd yna ddim tafarn ym Mhenisarwaun bryd hynny, er bod nifer wedi bod yn y cylch yn y gorffennol. Cafwyd cais i agor clwb yn y pentref gan Sais o’r enw Jack Nix yn y blynyddoedd hyn, gyda’r bwriad o gymryd mantais o’r ffaith bod tafarnau pentrefi cyfagos i gyd ar gau ar y Sul yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd fy rhieni ynghanol ymgyrch chwyrn i atal y datblygiad – ac roedd yr ymgyrch yn un chwyrn, cafodd yr adeilad ei fomio ar un adeg. Unwaith eto roedd hyn yn agwedd ryfedd i Babyddion – ‘dydi yfed alcohol ar ddydd Sul nac ar unrhyw ddiwrnod arall ddim yn bechod i Babyddion. Roedd Crist yn yfed alcohol wedi’r cwbl. Pechu o ganlyniad i yfed fyddai’r broblem yn hytrach na’r weithred ei hun.

O ran diddordeb, llwyddo wnaeth y cais am drwydded clwb yn y pen draw, a bu canolfan yfed digon llwyddianus ym Mhenisarwaun am flynyddoedd. Yn eironig ddigon canlyniad y refferendwm ar agor tafarnau ar y Sul yn y saithdegau a laddodd y lle yn y pen draw. Y digwyddiad hwn oedd cloch cnul y Gymru Anghydffurfiol yn Arfon – er bod y Gymru honno wedi marw erbyn hynny mewn gwirionedd. Roedd y sefydliad yn ddibynol iawn ar yfywyr dydd Sul o Ddeiniolen, Llanrug a Llanberis. Gydag agoriad y Bull, Pen Bont a’r Victoria ar y Sul, collodd y clwb ei farchnad. Cartref hen bobl sylweddol iawn o ran maint sydd ar y safle erbyn heddiw.

Ar y pryd roedd pethau yn edrych yn ddigyfnewid ac yn barhaol. Ar un wedd mae’n rhyfeddol i’r Gymru honno farw mor ddi symwth a mor ymddangosiadol ddi rybudd. O edrych yn ol, fodd bynnag, mae’n weddol hawdd arenwi’r grymoedd hynny oedd ar waith yn tanseilio’r seiliau.

Roedd gwrthdaro mewnol yn rhan o’r fframwaith deallusol oedd yn cadw’r holl sioe Anghydffurfiol ar ei thraed. Wedi’r cwbl cyfaddawd efo seciwlariaeth ydi Protestaniaeth yn ei hanfod – gwahoddiad agored i ddyn ddod o hyd i Dduw ar ei ben ei hun. Pan roedd y dylanwadau diwylliannol oedd yn effeithio ar bobl yn gyfyng, a phan roedd y traddodiad crefyddol Cymreig yn bwysicach na’r un o’r dylanwadau hynny, roedd canfyddiad pobl o Dduw yn weddol unffurf.

Ond pan gynyddodd yr amrediad o ddylanwadau diwylliannol y tu hwnt i bob disgwyliad yn ail hanner y ganrif ddiwethaf (yn rhannol yn sgil twf enfawr rhai o’r cyfryngau torfol), newidiodd y canfyddiad o Dduw hefyd – ac wrth gwrs mae’r traddodiad Protestanaidd yn gwahodd pobl i ddiffinio eu Duw eu hunain. Pan mae’r byd yn gymhleth, mae’r diffiniad o Dduw hefyd yn gymhleth – a ‘dydi Duw cymhleth ddim o unrhyw werth i neb. ‘Dydi Duw o’r fath ddim gwerth credu ynddo, ac yn bwysicach na hynny ni all Duw o’r fath gynnal gwerthoedd cymunedol cytunedig.

Roedd yn afresymol credu y gallai cestyll cyfundrefn grefyddol oroesi yn yr hir dymor ar fryniau tywod seciwlar – ac felly cyfnewidiol. Roedd y cestyll yn sicr o gael eu sgubo i’r mor gan donnau seciwlariaeth yn hwyr neu’n hwyrach.

‘Dydi Islam ddim yn wynebu’r problemau hyn wrth gwrs. Yn gwahanol i is strwythur diriaethol strydoedd Istanbul, mae’r is strwythur diwynyddol a deallusol yn gadarn. ‘Does yna ddim cyfaddawd efo systemau rhesymu seciwlar – mae’r canfyddiad o Dduw yn cael ei ddiffinio’n allanol – a Duw syml iawn ydi hwnnw.

‘Dydi’r gwledydd Mwslemaidd ddim wedi bod trwy chwyldro Ffrengig chwaith – yn gwahanol i dir mawr Ewrop. O ganlyniad nid oes fframwaith ideolegol seciwlar i gystadlu efo’r un grefyddol. Mae’r cestyll Islamaidd yn gwbl ddiogel ar hyn o bryd – nid ydynt wedi eu seilio ar dywod fel Anghydffurfiaeth Cymreig, ac nid oes cystadleuaeth o du ideolegau seciwlar megis y Chwyldro Ffrengig.

Capeli Penisarwaun - Jehofa Jeira - Wesleiaid - wedi ei droi'n dy.



Bosra - Annibynwyr - yma o hyd.



Glasgoed, Hen Gorff - wedi ei droi'n dy.



Mae Ysgoldy - Hen Gorff wedi ei ddymchwel.

A pherfedd y Mosg Glas yn Istanbul.

Thursday, August 09, 2012

Paul Flynn a'r cynllun i newid ffiniau etholiadol

Cyd ddigwyddiad llwyr dwi'n siwr ydi bod Paul Flynn yn credu bod ffiniau presenol etholaethau seneddol yn deg, a'r ffaith y byddai un o ddwy sedd Casnewydd - lle mae Paul yn aelod - yn diflannu petai'r ffiniau yn newid. Yn wir mae Paul wedi bod yn hefru mwyfwy am anhegwch y gyfundrefn newydd ar ei flog yn ddiweddar.

Un o nodweddion y gyfundrefn bresenol ydi ei bod yn ffafrio plaid Paul yn sylweddol. Byddai'r gyfundrefn newydd yn ffafrio ei blaid hefyd, ond ddim i'r un graddau.

Os ydych eisiau rhyw syniad o faint y ffafriaeth honno ystyriwch hyn - o dan y drefn sydd ohoni petai'r Toriaid (tros y DU) yn cael llai na 4% mwy o fantais tros lafur, yna mae'n debygol y byddai gan Llafur fwy o seddi na nhw. I Lafur gael mwy o seddi na phawb arall efo'i gilydd byddai'n rhaid iddynt gael tua 3% yn fwy o bleidleisiau na'r Toriaid. Byddai'n rhaid i'r Toriaid gael tua 11% yn fwy o bleidleisiau na Llafur i gael mwyafrif llwyr. Go brin bod yna unrhyw gyfundrefn etholiadol yn unman yn y Byd gyda mantais mor sylweddol tuag at un plaid wedi ei hadeiladu i mewn iddi.

Rwan, mi fydd darllenwyr y blog yma yn gwybod nad ydi ei hawdur yn meddwl rhyw lawer o'r Blaid Doriaidd - ond mewn difri mae ceisio dadlau bod y drefn sydd ohoni yn fwy teg na'r un arfaethiedig yn chwerthinllyd.

Wedi dweud hynny dydi'r naill drefn na'r llall yn deg. Yr ateb wrth gwrs ydi cyfundrefn gyfrannol - cyfundrefn sy'n sicrhau bod pleidlais pawb yn gyfartal. Dydan ni ddim am gael cyfundrefn felly gan y naill blaid unoliaethol fawr na'r llall oherwydd byddai cyfundrefn felly yn ei gwneud yn llai tebygol y gallant ennill grym ar eu pennau eu hunain.

Ond byddai cyfundrefn felly yn eironig ddigon yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddai amrywiaeth ehangach o lawer o bleidiau yn bodoli - sefyllfa fyddai'n ei gwneud yn fwy anarferol gweld gwleidyddion sy'n edrych fel chwadan ar dir sych yn eu pleidiau eu hunain - gwleidyddion fel Paul Flynn er enghraifft.

Manylion ystadegol o politicalbetting.com.

Wednesday, August 08, 2012

Llongyfarchiadau i'r BBC!

'Dydi teitl y blogiad yma ddim yn un yr ydych yn debygol iawn o'i weld yn aml ar Flogmenai. Serch hynny mae yna ambell i raglen ar y Bib (y fersiwn Brydeinig wrth reswm, nid yr un Gymreig) sy'n fodlon nofio yn erbyn y lli.

Dyna'n union wnaeth Newsnight neithiwr gydag eitem drylwyr oedd yn ystyried yn union pa mor gynhwysol ydi Gemau Olympaidd Llundain.

Gallwch weld y rhaglen yma. edrychwch arni os cewch chi'r amser.

Mewn difri pwy sy'n bygwth heddwch Byd eang?

Mae'n ddiddorol nodi bod un o asiantaethau'r UDA eisiau cosbi Standard Chartered oherwydd eu bod yn delio efo Iran.

Rydan ni i gyd yn gwybod pam - mae Iran yn wlad ofnadwy o beryglus a drwg sydd efo hanes hir o ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd er mwyn hyrwyddo eu buddiannau eu hunain.

Rhestraf isod pob esiampl o ymyraeth filwrol gan yr UDA ers 1890 - gydag ymddiheuriadau i'r puryddion ieithyddol yn eich plith - 'does gen i ddim o'r amser i gyfieithu'r job lot.

Oes yna unrhyw un eisiau bwrw amcan ynglyn a pham mor hir fyddai rhestr gyffelyb ar gyfer Iran?

COUNTRY OR STATE Dates of intervention Forces Comments
SOUTH DAKOTA  1890 (-?)  Troops 300 Lakota Indians massacred at Wounded Knee.
ARGENTINA 1890 Troops Buenos Aires interests protected.
CHILE 1891 Troops Marines clash with nationalist rebels.
HAITI 1891 Troops Black revolt on Navassa defeated.
IDAHO 1892 Troops Army suppresses silver miners' strike.
HAWAII 1893 (-?) Naval, troops Independent kingdom overthrown, annexed.
CHICAGO 1894 Troops Breaking of rail strike, 34 killed.
NICARAGUA 1894 Troops Month-long occupation of Bluefields.
CHINA 1894-95 Naval, troops Marines land in Sino-Japanese War
KOREA 1894-96 Troops Marines kept in Seoul during war.
PANAMA 1895 Troops, naval Marines land in Colombian province.
NICARAGUA 1896 Troops Marines land in port of Corinto.
CHINA 1898-1900 Troops Boxer Rebellion fought by foreign armies.
PHILIPPINES 1898-1910 (-?) Naval, troops Seized from Spain, killed 600,000 Filipinos
CUBA 1898-1902 (-?) Naval, troops Seized from Spain, still hold Navy base.
PUERTO RICO 1898 (-?) Naval, troops Seized from Spain, occupation continues.
GUAM 1898 (-?) Naval, troops Seized from Spain, still use as base.
MINNESOTA 1898 (-?) Troops Army battles Chippewa at Leech Lake.
NICARAGUA 1898 Troops Marines land at port of San Juan del Sur.
SAMOA 1899 (-?) Troops Battle over succession to throne.
NICARAGUA 1899 Troops Marines land at port of Bluefields.
IDAHO 1899-1901 Troops Army occupies Coeur d'Alene mining region.
OKLAHOMA 1901 Troops Army battles Creek Indian revolt.
PANAMA 1901-14 Naval, troops Broke off from Colombia 1903, annexed Canal Zone; Opened canal 1914.
HONDURAS 1903 Troops Marines intervene in revolution.
DOMINICAN REPUBLIC 1903-04 Troops U.S. interests protected in Revolution.
KOREA 1904-05 Troops Marines land in Russo-Japanese War.
CUBA 1906-09 Troops Marines land in democratic election.
NICARAGUA 1907 Troops "Dollar Diplomacy" protectorate set up.
HONDURAS 1907 Troops Marines land during war with Nicaragua
PANAMA 1908 Troops Marines intervene in election contest.
NICARAGUA 1910 Troops Marines land in Bluefields and Corinto.
HONDURAS 1911 Troops U.S. interests protected in civil war.
CHINA 1911-41 Naval, troops Continuous occupation with flare-ups.
CUBA 1912 Troops U.S. interests protected in civil war.
PANAMA 1912 Troops Marines land during heated election.
HONDURAS 1912 Troops Marines protect U.S. economic interests.
NICARAGUA 1912-33 Troops, bombing 10-year occupation, fought guerillas
MEXICO 1913 Naval Americans evacuated during revolution.
DOMINICAN REPUBLIC 1914 Naval Fight with rebels over Santo Domingo.
COLORADO 1914 Troops Breaking of miners' strike by Army.
MEXICO 1914-18 Naval, troops Series of interventions against nationalists.
HAITI 1914-34 Troops, bombing 19-year occupation after revolts.
TEXAS 1915 Troops Federal soldiers crush "Plan of San Diego" Mexican-American rebellion
DOMINICAN REPUBLIC 1916-24 Troops 8-year Marine occupation.
CUBA 1917-33 Troops Military occupation, economic protectorate.
WORLD WAR I 1917-18 Naval, troops Ships sunk, fought Germany for 1 1/2 years.
RUSSIA 1918-22 Naval, troops Five landings to fight Bolsheviks
PANAMA 1918-20 Troops "Police duty" during unrest after elections.
HONDURAS 1919 Troops Marines land during election campaign.
YUGOSLAVIA 1919 Troops/Marines intervene for Italy against Serbs in Dalmatia.
GUATEMALA 1920 Troops 2-week intervention against unionists.
WEST VIRGINIA 1920-21 Troops, bombing Army intervenes against mineworkers.
TURKEY 1922 Troops Fought nationalists in Smyrna.
CHINA 1922-27 Naval, troops Deployment during nationalist revolt.
MEXICO

HONDURAS. 1923. 1924-25 Bombing Troops Airpower defends Calles from rebellion Landed twice during election strife.
PANAMA 1925 Troops Marines suppress general strike.
CHINA 1927-34 Troops Marines stationed throughout the country.
EL SALVADOR 1932 Naval Warships send during Marti revolt.
WASHINGTON DC 1932 Troops Army stops WWI vet bonus protest.
WORLD WAR II 1941-45 Naval, troops, bombing, nuclear Hawaii bombed, fought Japan, Italy and Germay for 3 years; first nuclear war.
DETROIT 1943 Troops Army put down Black rebellion.
IRAN 1946 Nuclear threat Soviet troops told to leave north.
YUGOSLAVIA 1946 Nuclear threat, naval Response to shoot-down of US plane.
URUGUAY 1947 Nuclear threat Bombers deployed as show of strength.
GREECE 1947-49 Command operation U.S. directs extreme-right in civil war.
GERMANY 1948 Nuclear Threat Atomic-capable bombers guard Berlin Airlift.
CHINA 1948-49 Troops/Marines evacuate Americans before Communist victory.
PHILIPPINES 1948-54 Command operation CIA directs war against Huk Rebellion.
PUERTO RICO 1950 Command operation Independence rebellion crushed in Ponce.
KOREA 1951-53 (-?) Troops, naval, bombing , nuclear threats U.S./So. Korea fights China/No. Korea to stalemate; A-bomb threat in 1950, and against China in 1953. Still have bases.
IRAN 1953 Command Operation CIA overthrows democracy, installs Shah.
VIETNAM 1954 Nuclear threat French offered bombs to use against seige.
GUATEMALA 1954 Command operation, bombing, nuclear threat CIA directs exile invasion after new gov't nationalized U.S. company lands; bombers based in Nicaragua.
EGYPT 1956 Nuclear threat, troops Soviets told to keep out of Suez crisis; Marines evacuate foreigners.
LEBANON l958 Troops, naval Army & Marine occupation against rebels.
IRAQ 1958 Nuclear threat Iraq warned against invading Kuwait.
CHINA l958 Nuclear threat China told not to move on Taiwan isles.
PANAMA 1958 Troops Flag protests erupt into confrontation.
VIETNAM l960-75 Troops, naval, bombing, nuclear threats Fought South Vietnam revolt & North Vietnam; one million killed in longest U.S. war; atomic bomb threats in l968 and l969.
CUBA l961 Command operation CIA-directed exile invasion fails.
GERMANY l961 Nuclear threat Alert during Berlin Wall crisis.
LAOS 1962 Command operation Military buildup during guerrilla war.
 CUBA  l962  Nuclear threat, naval Blockade during missile crisis; near-war with Soviet Union.
 IRAQ 1963 Command operation CIA organizes coup that killed president, brings Ba'ath Party to power, and Saddam Hussein back from exile to be head of the secret service.
PANAMA l964 Troops Panamanians shot for urging canal's return.
INDONESIA l965 Command operation Million killed in CIA-assisted army coup.
DOMINICAN REPUBLIC 1965-66 Troops, bombing Army & Marines land during election campaign.
GUATEMALA l966-67 Command operation Green Berets intervene against rebels.
DETROIT l967 Troops Army battles African Americans, 43 killed.
UNITED STATES l968 Troops After King is shot; over 21,000 soldiers in cities.
CAMBODIA l969-75 Bombing, troops, naval Up to 2 million killed in decade of bombing, starvation, and political chaos.
OMAN l970 Command operation U.S. directs Iranian marine invasion.
LAOS l971-73 Command operation, bombing U.S. directs South Vietnamese invasion; "carpet-bombs" countryside.
SOUTH DAKOTA l973 Command operation Army directs Wounded Knee siege of Lakotas.
MIDEAST 1973 Nuclear threat World-wide alert during Mideast War.
CHILE 1973 Command operation CIA-backed coup ousts elected marxist president.
CAMBODIA l975 Troops, bombing Gassing of captured ship Mayagüez, 28 troops die when copter shot down.
ANGOLA l976-92 Command operation CIA assists South African-backed rebels.
IRAN l980 Troops, nuclear threat, aborted bombing Raid to rescue Embassy hostages; 8 troops die in copter-plane crash. Soviets warned not to get involved in revolution.
LIBYA l981 Naval jets Two Libyan jets shot down in maneuvers.
EL SALVADOR l981-92 Command operation, troops Advisors, overflights aid anti-rebel war, soldiers briefly involved in hostage clash.
NICARAGUA l981-90 Command operation, naval CIA directs exile (Contra) invasions, plants harbor mines against revolution.
LEBANON l982-84 Naval, bombing, troops Marines expel PLO and back Phalangists, Navy bombs and shells Muslim positions. 241 Marines killed when Shi'a rebel bombs barracks.
GRENADA l983-84 Troops, bombing Invasion four years after revolution.
HONDURAS l983-89 Troops Maneuvers help build bases near borders.
IRAN l984 Jets Two Iranian jets shot down over Persian Gulf.
LIBYA l986 Bombing, naval Air strikes to topple Qaddafi gov't.
BOLIVIA 1986 Troops Army assists raids on cocaine region.
IRAN l987-88 Naval, bombing US intervenes on side of Iraq in war, defending reflagged tankers and shooting down civilian jet.
LIBYA 1989 Naval jets Two Libyan jets shot down.
VIRGIN ISLANDS 1989 Troops St. Croix Black unrest after storm.
PHILIPPINES 1989 Jets Air cover provided for government against coup.
PANAMA 1989 (-?) Troops, bombing Nationalist government ousted by 27,000 soldiers, leaders arrested, 2000+ killed.
LIBERIA 1990 Troops Foreigners evacuated during civil war.
SAUDI ARABIA 1990-91 Troops, jets Iraq countered after invading Kuwait. 540,000 troops also stationed in Oman, Qatar, Bahrain, UAE, Israel.
IRAQ 1990-91 Bombing, troops, naval Blockade of Iraqi and Jordanian ports, air strikes; 200,000+ killed in invasion of Iraq and Kuwait; large-scale destruction of Iraqi military.
KUWAIT 1991 Naval, bombing, troops Kuwait royal family returned to throne.
 IRAQ 1991-2003 Bombing, naval No-fly zone over Kurdish north, Shiite south; constant air strikes and naval-enforced economic sanctions
LOS ANGELES 1992 Troops Army, Marines deployed against anti-police uprising.
SOMALIA 1992-94 Troops, naval, bombing U.S.-led United Nations occupation during civil war; raids against one Mogadishu faction.
YUGOSLAVIA 1992-94 Naval NATO blockade of Serbia and Montenegro.
BOSNIA 1993-? Jets, bombing No-fly zone patrolled in civil war; downed jets, bombed Serbs.
HAITI 1994 Troops, naval Blockade against military government; troops restore President Aristide to office three years after coup.
ZAIRE (CONGO) 1996-97 Troops Troops at Rwandan Hutu refugee camps, in area where Congo revolution begins.
LIBERIA 1997 Troops Soldiers under fire during evacuation of foreigners.
ALBANIA 1997 Troops Soldiers under fire during evacuation of foreigners.
SUDAN 1998 Missiles Attack on pharmaceutical plant alleged to be "terrorist" nerve gas plant.
AFGHANISTAN 1998 Missiles Attack on former CIA training camps used by Islamic fundamentalist groups alleged to have attacked embassies.
IRAQ 1998 Bombing, Missiles Four days of intensive air strikes after weapons inspectors allege Iraqi obstructions.
YUGOSLAVIA 1999 Bombing, Missiles Heavy NATO air strikes after Serbia declines to withdraw from Kosovo. NATO occupation of Kosovo.
YEMEN 2000 Naval USS Cole, docked in Aden, bombed.
MACEDONIA 2001 Troops NATO forces deployed to move and disarm Albanian rebels.
UNITED STATES 2001 Jets, naval Reaction to hijacker attacks on New York, DC
AFGHANISTAN 2001-? Troops, bombing, missiles Massive U.S. mobilization to overthrow Taliban, hunt Al Qaeda fighters, install Karzai regime, and battle Taliban insurgency. More than 30,000 U.S. troops and numerous private security contractors carry our occupation.
YEMEN 2002 Missiles Predator drone missile attack on Al Qaeda, including a US citizen.
PHILIPPINES 2002-? Troops, naval Training mission for Philippine military fighting Abu Sayyaf rebels evolves into combat missions in Sulu Archipelago, west of Mindanao.
COLOMBIA 2003-? Troops US special forces sent to rebel zone to back up Colombian military protecting oil pipeline.
IRAQ 2003-? Troops, naval, bombing, missiles Saddam regime toppled in Baghdad. More than 250,000 U.S. personnel participate in invasion. US and UK forces occupy country and battle Sunni and Shi'ite insurgencies. More than 160,000 troops and numerous private contractors carry out occupation and build large permanent bases.
LIBERIA 2003 Troops Brief involvement in peacekeeping force as rebels drove out leader.
HAITI 2004-05 Troops, naval   Marines & Army land after right-wing rebels oust elected President Aristide, who was advised to leave by Washington.
PAKISTAN 2005-? Missiles, bombing, covert operation CIA missile and air strikes and Special Forces raids on alleged Al Qaeda and Taliban refuge villages kill multiple civilians. Drone attacks also on Pakistani Mehsud network.
SOMALIA 2006-? Missiles, naval, troops, command operation Special Forces advise Ethiopian invasion that topples Islamist government; AC-130 strikes, Cruise missile attacks and helicopter raids against Islamist rebels; naval blockade against "pirates" and insurgents.
SYRIA 2008 Troops Special Forces in helicopter raid 5 miles from Iraq kill 8 Syrian civilians
YEMEN 2009-? Missiles, command operation Cruise missile attack on Al Qaeda kills 49 civilians; Yemeni military assaults on rebels
LIBYA 2011-? Bombing, missiles, command operation NATO coordinates air strikes and missile attacks against Qaddafi government during uprising by rebel army.

Monday, August 06, 2012

'Llwyddiant' Cymreig y Gemau Olympaidd

Mae'n ddiddorol mai Cymru ydi'r wlad sydd wedi cyfranu leiaf i lwyddiant TeamGB yn y Gemau Olympaidd yn ol dadansoddiad y Guardian - 2% o'r medalau o gymharu a 5% o'r boblogaeth. Mae cyfraniad yr Alban a hyd yn oed Gogledd Iwerddon yn sylweddol well. Nid bod neb yn debygol o ddod i ddeall hyn o wrando ar y brwdfrydedd mwyfwy hysteraidd sy'n dod o gyfeiriad BBC Cymru a'r cyfryngau Cymreig eraill.

Ar un olwg mae'n anodd arenwi'r rhesymau am y diffyg llwyddiant - wedi'r cwbl mae Cymru'n perfformio'n dda - o gymharu a'i phoblogaeth - mewn nifer o chwaraeon rygbi yn arbennig wrth gwrs, ond hefyd peldroed. Un rheswm tebygol ydi mai cymharol ychydig o blant Cymru sy'n mynychu ysgolion bonedd. Mae cefndir mewn ysgol felly yn rhoi cryn fantais i athletwr. Yn wir yng Ngemau Olympaidd Bejing aeth hanner medalau Prydain i gyn ddigsyblion ysgolion bonedd, er mai dim ond 7% o blant y DU sy'n mynd i ysgolion felly. Mae'r ffigyrau yn is y tro hwn, ond mae plentyn o ysgol bonedd bedair neu bump gwaith mwy tebygol o gael medal na rhywun aeth i ysgol gyffredin. Yn wir eithriad prin ydyw i rhywun o ysgol gyffredin gael medal mewn saethu, rhwyfo neu unrhyw beth i'w wneud efo ceffyl.

Rheswm arall posibl ydi diffyg buddsoddiad - wedi'r cwbl mae Cymru'n wlad dlawd. Dydi all gyfeirio gwariant ar chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru i gyfeiriad Gemau Olympaidd Llundain ddim yn debygol o wella'r sefyllfa yn y tymor canolig na'r hir dymor wrth gwrs.

Wneith realiti'r sefyllfa ddim amharu fymryn ar bropoganda lloerig BBC Cymru a'u tebyg wrth gwrs - mi fyddwn yn clywed ymhell, bell ar ol i'r holl sioe ddod i ben profiad mor gadarnhaol oedd y peth i gyd, cymaint mae Cymru wedi elwa, mor lwcus oeddem i gael ein cysylltu efo'r jambori estynedig, ac ati, ac ati.

Ond y gwir ydi mai'r unig wahaniaeth i Gymru fydd hybu hunaniaeth Brydeinig yn y wlad ar draul hunaniaeth Gymreig. Ac yn y pen draw, cryfder hunaniaeth Brydeinig sydd y tu ol i'n diffyg rheolaeth tros ein bywyd cenedlaethol ein hunain. Y diffyg ymreolaeth hwnnw sydd y tu ol i'n diffyg llwyddiant economaidd, a hynny yn ei dro ydi'r ffactor pwysicaf sydd wrth wraidd ein diffyg llwyddiant yn Llundain 2012.

Saturday, August 04, 2012

Aelodaeth y pleidiau gwledyddol

Mae'n ddiddorol nodi o flog Michael Crick bod aelodaeth y Toriaid a'r Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigyrau Crick fel a ganlyn:

Lib Dems 48,934
Llafur 193,000
Toriaid 130,000 (er eu bod nhw yn gwrthod datgelu eu ffigyrau yn swyddogol)
SNP 23,376
UKIP 17,184

Dydi Crick ddim yn dweud wrthym beth ydi ffigyrau'r Blaid - ond 7,863 oedd yr aelodaeth ym mis Ionawr.

Mae'n anodd cymharu ffigyrau'r pleidiau unoliaethol a rhai'r pleidiau cenedlaetholgar oherwydd bod y rhan fwyaf o aelodau'r pleidiau unoliaethol yn byw yn Lloegr. Ond os ydym yn cyfrifo cymhareb poblogaeth:aelod gan ddefnyddio poblogaeth y DU ar gyfer cymarebau'r pleidiau unoliaethol a phoblogaethau'r gwledydd Celtaidd ar gyfer y Blaid a'r SNP, dyma'r darlun:

Lib Dems 1:1,280
Llafur 1:324
Toriaid 1:481
SNP 1:224
UKIP 1:3,645
Plaid Cymru 1:389

Felly'r SNP sy'n perfforio orau o ddigon ar y mesur hwn, gydag UKIP efo llai nag un aelod am pob 3,000 o bobl a'r Lib Dems efo llai nag un am pob mil. Dydi'r Blaid ddim yn gwneud yn ddrwg o gwbl.

Friday, August 03, 2012

Blogiadau o'r gorffennol - rhif 3

I haf 2009 awn ni am y blogiad o'r gorffennol y tro hwn. Un o'r llawer o grwpiau o bobl sy'n dan ar groen awdur blogmenai oedd o dan y lach - y creaduriaid rhyfedd hynny sy'n poeni bod yna ormod o bobl yn byw yn y Byd.

Mae'n debyg y dyliwn ddatgan buddiant cyn cychwyn ar hwn - mae gen i bump o blant.

Tua'r amser yma pob blwyddyn, mae yna fyllio a thantro bod y boblogaeth yn tyfu'n rhy gyflym - gan y wasg Geidwadol yn bennaf, ond gan bobl mwy rhyddfrydig weithiau hefyd. Mae'r erthygl anymunol a hiliol yma yn y Daily Mail gan Amanda Platell yn esiampl o gonsyrn y Dde.

Ymddengys bod y ffaith bod 61,000,000 o bobl yn byw ym Mhrydain bellach yn rhywbeth y dylem oll dreulio llawer iawn o amser yn poeni amdano. Yn wir mae'n stwmp ar stumog llawer bod y boblogaeth yn tyfu y tu allan i Brydain, gyda rhywun o'r enw David Attenbrough yn cefnogi ymgyrch corff sinister a rhyfeddol o fysneslyd o'r enw'r Optimal Population Trust i gosbi gwledydd tramor oni bai eu bod yn cadw eu poblogaeth yn isel. Mae un o'u prif noddwyr - Jonathan Porrit, un o gyn arweinwyr Y Blaid Ecolegol - rhagflaenwyr Y Blaid Werdd yn bendant ei bod yn 'anghyfrifol' i bobl gael mwy na dau o blant.

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn poeni eu hunain yn sal oherwydd bod tebygrwydd y bydd poblogaeth y DU yn 77,000,000 erbyn 2050. Mae'n od braidd i' r Mail ddod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt eu hunain a chorff sy'n gwneud defnydd o naratif amgylcheddol y Chwith gyfoes megis yr OPT - ond dyna fo mae yna ambell i briodas rhwng pobl anisgwyl iawn weithiau.

Mae yna bobl wedi bod yn poeni bod yna ormod o bobl eraill ers i ni gael _ _ wel pobl ar y Ddaear. Roedd yr athronydd Sieiniaidd Han Fei-tzu wedi cael ei hun mewn stad am y peth yn y drydydd ganrif CC, ac roedd Plato o'r farn y dylai pobl ddechrau dympio eu merched ar wladwriaethau eraill os oedd poblogaeth y ddinas wladwriaeth yn mynd yn fwy na 5,040.

Nawdd Sant y sawl sy'n poeni am ormod o bobl ydi Thomas Malthus rheithor gydag Eglwys Lloegr yn Oes Fictoria. Rydym eisoes wedi gweld sut wnaeth ei ddamcaniaethu fo gyfrannu at leihau'r boblogaeth yn Iwerddon a thu hwnt.

Canolbwynt damcaniaeth Malthus oedd yr 'amhosebilrwydd' i gyflenwad bwyd y Byd gadw i fyny efo twf arithmataidd y boblogaeth. Roedd cyd destun gwleidyddol i'r ddamcaniaeth wrth gwrs - roedd Malthus yn erbyn datblygu deddfau i roi cymorth i'r tlodion ac roedd o blaid deddfau oedd yn trethu mewnforio bwyd i Brydain. Roedd ei ddamcaniaethu, wrth gwrs, yn bolycs o'r radd eithaf - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Roeddynt hefyd yn bolycs peryglys iawn.

'Dydi hynny heb stopio i bobl a mudiadau cyfoes a diweddar wneud defnydd o'i nonsens. Y lol yma sydd y tu cefn i lawer o ddadleuon yr OPT. Un o lyfrau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf ar y pwnc oedd campwaith Paul R Ehrlich - The Population Bomb (1968).

Roedd Paul o'r farn mai'r gorau y gellid ei ddisgwyl oedd y byddai canoedd o filiynau o bobl yn marw yn saithdrgau'r ganrif ddiwethaf. Byddai'r UDA yn stopio rhoi cymorth i India a'r Aifft erbyn 1974, byddai'r Pab wedi derbyn yr egwyddor o atal cenhedlu, byddai Asia, Affrica, De America a'r Byd Arabaidd yn cael eu hysgwyd gan ymladd am fwyd. Byddai bwyd yn cael ei ddognu yn America ac Ewrop. 2 biliwn fyddai poblogaidd y Byd erbyn 2025, 1.5 biliwn erbyn 2050. Yr unig ateb i hyn yn ol Ehrlich oedd gwenwyno cyflenwadau dwr efo cemegolion atal cenhedlu. Wna i ddim manylu ar y pethau gwaethaf yr oedd Paul yn poeni amdano, rhag bod rhai o fy narllenwyr gyda thueddiad at hunllefau.

Wnaeth methiant treuenus ei ddarogan ddim ei atal rhag cyhoeddi llyfr arall - The Population Explosion efo'i wraig Anne yn 1990. Does yna ddim llawer o dystiolaeth yn yr ail lyfr i Paul fod wedi dysgu llawr o'r ffaith na ddaeth dim o holl ddarogan gwae'r llyfr cyntaf.

Un neu ddau o ffeithiau - mae poblogaeth y Ddaear wedi cynyddu mwy nag erioed (o lawer) yn ystod y ganrif ddiwethaf - ac mae'r GDP ar gyfer pob un o'r bobl yna wedi cynyddu mwy nag erioed hefyd. Er enghraifft roedd GDP y pen (Byd eang) tua phum gwaith yn uwch ar ddiwedd y ganrif nag oedd ar y cychwyn. Roedd y nifer o bobl oedd yn dioddef o brinder bwyd parhaus wedi lleihau ac felly hefyd y gyfradd o blant oedd yn marw. Roedd pobl ym mhob gwlad bron yn gallu disgwyl byw yn hirach - yn hirach o lawer. Roedd India - gwlad roedd Ehlrich o'r farn nad oedd yna unrhyw obaith o gwbl iddi oherwydd dwysedd ei phoblogaeth wedi gwneud ei hun yn hollol hunan gynhaliol o ran bwyd erbyn diwedd y ganrif diwethaf. Roedd ei phoblogaeth wedi tyf'n sylweddol hefyd

'Rwan - mae dwysedd poblogaeth yn stwmp ar y sawl sy'n poeni am boblogaeth Prydain. Dwysedd poblogaeth y Byd ydi
45.21 person y km sgwar o dir. Dwysedd y DU ydi 246 (sydd trwy gyd ddigwyddiad bron yn union yr un peth ag un Pennsylvania- talaith sydd a 2 biliwn acer o fforestydd, naw miliwn acer o dir ffermio sy'n cynhyrchu gwerth tros i ddeugain biliwn dolar o fwyd yn flynyddol). Mae yna 51 o wledydd efo dwysedd uwch - gan gynnwys Singapore (6,814), Macau (18,705), Hong Kong (6,326), De Korea (487), Yr Iseldiroedd (395). Hynny ydi rhai o wledydd a rhanbarthau mwyaf cyfoethog y Byd. Mae yna 22 o wledydd gyda llai na 10 person y km sgwar - tua hanner ohonynt ymhlith y tlotaf yn y Byd.

Daw hyn a ni'n ol at erthygl bach hiliol Amanda. Yr amheuaeth sydd gen i pob amser yr ydwyf yn darllen y math yma o nonsens ydi nad gormod o bobl ydi'r broblem - ond gormod o bobl o'r math anghywir. Alla i ddim yn fy myw gredu y byddai Amanda yn gwneud ei hun mor sal yn poeni petai'r holl bobl yna yn rhai tebyg i'r sawl sy'n gwneud eu siopa yn Waitrose, yn mwynhau guacamole ac yn teithio mewn tractorau Chelsea.

'Chwyldro' Bro Morgannwg

Dwi ddim eisiau swnio yn grintachlyd rwan - da chi'n fy 'nabod i'n ddigon da i wybod hynny - ond mae'n fy nharo bod Carwyn Jones yn mynd braidd yn bell i ddisgrifio cynnydd yn y ganran o blant 7 oed sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mro Morgannwg o 10.9% i 13.7% fel 'chwyldro'.

Ond erbyn meddwl efallai bod cynnydd o 1.8% tros ddeg mlynedd yn dipyn o chwyldro ym myd bach eliffantaidd o araf Carwyn a'i blaid.

Thursday, August 02, 2012

Y Blaid yn ennill is etholiad arall

Yn y Barri y tro hwn - Ian James Johnson yn cipio sedd gan Lafur yn Buttrills.

Mwy o fanylion maes o law.

Diweddariad - y canlyniad yn llawn:

Plaid 541 (44%);Llafur 503 (41%); Tori90 (7%);Annibynnol 82 (7%) PC ennill

Ymlaen.

Y Gymraeg, melinau gwynt a harddwch naturiol

Ddydd Gwener diwethaf mi gyhoeddais un o hen flogiadau'r blog yma - un oedd yn edrych yn benodol ar y cymunedau Cymreiciaf o ran iaith.  Fedrwn i ddim peidio a meddwl am hynny wrth ddarllen y stori yma yn Golwg360 heddiw.

Yr hyn aeth a fy sylw yn arbennig oedd y sylwadau hyn am Gareth Davies - un o'r ymgyrchwyr yn erbyn y diwydiant ynni gwynt ym Maldwyn

Dywed Gareth Davies fod pobol yn dewis byw ym Maldwyn o achos y tirwedd, ac y byddai nifer yn ystyried symud o’r ardal os bydd y “diwydiannu” yn parhau.

“Does dim cyfleusterau gyda ni yma ond mae gyda ni harddwch a llonyddwch. Os byddwn ni’n colli hynna yna fydd dim diben i lawer o bobol aros yma
.”



Rwan mae'n amlwg nad ardaloedd gwledig a hardd ydi'r llefydd mae'r Gymraeg gryfaf. Roedd y ddwy gymuned Gymreiciaf yn Nwyfor yn 2001 ym Mhwllheli a Phorthmadog. Dwy gymuned ym Mlaenau Ffestiniog, y Bala a Llanuwchllyn oedd y rhai Cymreicif ym Meirion. Dim ond yr olaf o'r rheiny sy'n wledig. Mae yna nifer o gymunedau yn Arfon gyda chanrannau uchel iawn yn siarad Cymraeg - mae pedair yn nhref Caernarfon, mae tair yn bentrefi sylweddol sy'n sownd yn y dref a phedair yn gyn gymunedau chwarelyddol. Cymunedau yn nhref Llangefni ydi'r rhai 80%+ ar Ynys Mon.

Rwan i unrhyw un sy'n edrych ar ddosbarthiad y Cymry Cymraeg, a'r ffordd mae'r dosbarthiad hwnnw wedi newid tros y degawdau diwethaf yr hyn sy'n amlwg tros y rhan fwyaf o Gymru ydi'r ffaith i'r iaith fynd yn fwy trefol a llai gwledig. Mae llawer iawn o'r twf yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg tros y cyfnod hwnnw wedi digwydd mewn cymunedau trefol yn y De Ddwyrain. Yr unig eithriad arwyddocaol i'r patrwm hwn y gallaf feddwl amdano ydi ymyl gorllewinol Maes Glo'r De - mae'r cymunedau trefol yno wedi Seisnigeiddio (yn ystyr ieithyddol y term) yn sylweddol. Dydan ni ddim yn gwybod wrth reswm beth fydd canlyniadau cyfrifiad 2011 yn ei ddweud wrthym - ond mi fyddwn yn betio cryn swm y bydd yn dangos bod y patrwm yma yn parhau.

Dwi'n meddwl bod y patrwm hefyd yn amlygu ei hun ar raddfa llawer llai. Un o'r pleserau bach y byddaf yn ei gael o bryd i'w gilydd ydi canfasio. Mae gwahaniaeth enfawr rhwng proffeil ieithyddol oddi mewn i ward. Er enghraifft os ewch o gwmpas Pentre Helen, stad sylweddol o dai cymunedol yn Neiniolen, mi gewch bod mwyafrif llethol y trigolion yn siarad Cymraeg. Ond os ewch i Gallt y Foel, neu Fachwen ychydig bellter o'r pentref, buan y dewch i'r casgliad nad ydi'ch gallu i siarad Cymraeg o fawr o ddefnydd i chi. Mae'r patrwm yma yn un cyffredin iawn - yn y Gogledd Orllewin o leiaf.

Dydi hi ddim yn bosibl bod yn hollol siwr am y rhesymau tros 'drefoli'r' Gymraeg heb wneud ymchwiliad penodol i hynny - ond mi gawn ni ddamcaniaethu. Un o'r prif resymau yn fy marn i ydi'r gwhaniaeth rhwng y math o fewnfudwyr sy'n symud i gefn gwlad Cymru, a'r Cymry sy'n byw yno eisoes. Tuedda'r mewnfudwyr i ddod o ardaloedd trefol, ac maent yn chwilio am rhywbeth arall - harddwch naturiol a ffordd o fyw gwahanol. Mae'r Cymry yn tueddu i fod yn fwy tebyg i'r Saesnon mae'r mewnfudwyr yn eu gadael ar ol - maent eisiau bod yn nes at wasanaethau, swyddi, siopau a chyfleusterau. Mae'n debygol bod mewnfudiad hefyd yn effeithio ar bris eiddo yn yr ardaloedd mwyaf gwledig - a hardd. Mae hynny yn ei dro yn gwneud yr ardaloedd mwy trefol yn fwy fforddiadwy.

Felly gair bach o gyngor i Gareth - mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn ynni gwynt, ond dydi amddiffyn y Gymraeg ddim yn un ohonyn nhw - dydi harddwch naturiol ardal ddim yn cynnig unrhyw amddiffyniad o gwbl i'r iaith - i'r gwrthwyneb.

Wednesday, August 01, 2012