Thursday, August 30, 2012

Blogiau sy'n mynd ar fy nerfau rhan 1 - Paul Flynn

Gan fod arddull arferol y blog yma mor ffeind a di niwed dwi'n siwr y bydd llawer ohonoch yn credu mai'r unig beth sydd yn mynd ar nerfau'r awdur ydi rwdlan rhagfarnllyd Gwilym Owen yn Golwg pob pethefnos. Byddai canfyddiad felly yn un cwbl anghywir - mae yna pob math o bethau yn mynd ar fy nerfau - a dim byd mwy felly na rhai o fy nghyd flogwyr. Felly dyma ddechrau cyfres fach o flogiadau sy'n ymdrin a blogwyr sy'n crafu ar fy nerfau.

Rwan peidiwch a chamddaeall - dwi'n rhyw wybod bod Paul Flynn ar ochr yr angylion yn y bon - wedi dysgu'r Gymraeg ac yn gefnogol iddi, yn erbyn rhyfeloedd boncyrs a di ddiwedd y DU, yn erbyn y teulu brenhinol a'r system anrhydeddau dw lali sy'n gysylltiedig a'r teulu hwnnw, eisiau mwy o rym i Gymru ac ati. Dwi'n siwr petai genhedlaeth yn ieuengach, a bod gyrfa wleidyddol ac aelodaeth o'r Blaid yn bethau a allai ddigwydd ar yr un pryd y byddai'r dyn yn Bleidiwr. Ar ben hynny mae'n sgwennu yn dda - yn glir, yn gynnil ac yn uniongyrchol. Mae hefyd yn 'sgwennu'n aml ac yn doreithiog.

Ond mae ei arfer o gyfri pob milwr Prydeinig sy'n marw yn Afghanistan yn fy ngwylltio braidd. Mae yna lawer mwy o filwyr Americanaidd wedi marw yn y wlad - 2,000 o Americanwyr o gymharu a 426 o Brydeinwyr. Dwi'n gwybod y bydd Paul yn dadlau nad cyfrifoldeb llywodraeth Prydain ydi hynny - yn union fel mae'n gwrthod rhoi cyfrifoldeb am y 100,000+ o sifiliaid Iracaidd a laddwyd ar ysgwyddau Tony Blair am ei fod yn meddwl y gallent fod wedi marw beth bynnag.

Yn bwysicach mi laddwyd miloedd lawer o sifiliaid Afghan ers ymyraeth y Gorllewin - llawer o ganlyniad i weithredoedd milwrol gan y ddwy ochr, a mwy o ganlyniad i orfod symud o'u cartrefi a'u cymdogaethau a cholli eu ffynonellau incwm.

I wneud pethau'n glir i Paul - mae bywydau yn gyfwerth - os ydynt yn Americanwyr, Prydeinwyr neu'n drigolion anffodus Afghanistan. Gellir dadlau bod rhywun sy'n ymuno efo byddinoedd America neu Brydain yn rhyw dderbyn bod yna risg y byddant yn marw o ganlyniad i ymosod ar wledydd tramor, tra bod rhyw greadures sy'n trio gwneud dim mwy na magu ei phlant yn Helmand erioed wedi cael dewis o'r fath. Ond dydw i ddim yn gweld fawr o bwynt gwahaniaethu. Mae pawb sydd ynghlwm a'r sefyllfa yn dioddef - ac mae eu dioddefaint yn gyfwerth.

Mae'n anffodus felly bod blog Paul yn boenus gyfri pob marwolaeth Prydeinig tra - i bob pwrpas - yn anwybyddu dioddefaint pawb arall sy'n ddigon anffodus i fod ynghlwm a'r sefyllfa.

5 comments:

Anonymous said...

Ddaru Flynn bleidleisio o blaid bomio Libia dwi'n credu.

Hogyn o Rachub said...

Dyma gyfres o flogiadau dwi am eu mwynhau'n arw!

Anonymous said...

Toes neb yn Plaid Cymru wedi gwisgo uniform y Fyddin, yr unig fyddin mae nhw yn perthyn i, ydi Fyddin y Di waith a benefits..

Anonymous said...

Dwi'n gwybod mae blog Paul Flynn yn boenus ond mae o ond dweud y gwir, be fysa Plaid a Dafydd Iawn yn wneud, canu can i gefnogi y Taliban

Maer'r Taliban yma o hyd
yma o hyd
Mae'r Taliban yma o hyd!!

Dos am gachiad Dafydd Iawn!

Anonymous said...

I'm not sure where you are getting your info, but great topic. I needs to spend some time learning more or understanding more. Thanks for fantastic information I was looking for this information for my mission.

Stop by my blog post; Property for Sale