Wednesday, August 15, 2012

Hunan gasineb ein papur 'cenedlaethol'

Mae Ifan a Royston wedi dweud fwy neu lai yr oll sydd angen ei ddweud am yr erthygl bisar a ymddangosodd yn y Western Mail druan ddoe.

Ymgais ydi'r stori i gysylltu dau beth nad ydynt yn gysylltiedig - perfformiad tim Prydain yn y Gemau Olympaidd ac ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Office for National Statistics ynglyn a pherfformiad economaidd a demograffeg ym mhedair gwlad y DU.

O bosibl er mwyn gwneud stori ddiflas am ffigyrau yn fwy diddorol mae'n ymddangos i'r papur gysylltu efo dau wleidydd sydd efo tipyn o hanes o ddweud pethau braidd yn lliwgar a gofyn iddyn nhw beth allai Cymru ei ddysgu o'r Gemau Olympaidd er mwyn gwella'r ffigyrau Efallai eu bod yn disgwyl i'r naill neu'r llall ddweud rhywbeth am bwysigrwydd undod y DU, neu awgrymu y byddai gwneud i bawb tros 65 redeg ychydig o weithiau rownd trac athletau yn lladd digon o'r henoed i wneud i'r demograffeg edrych yn well neu rhywbeth.

Beth bynnag nid dyna ddywedodd y naill na'r llall - dweud rhywbeth rhannol ddealladwy am wleidyddion Llafur eraill wnaeth Wayne David a rwdlan tipyn am foi mor dda ydi Boris Johnson wnaeth Simon Hart. Mae'n debyg bod cwestiwn gwirion yn siwr o esgor ar ateb gwirion.

Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi beth mae'r stori yn ei ddweud am ddiwylliant newyddiadurol y Western Mail. Maen nhw eisiau riportio ar fethiannau Cymreig - sy'n ddigon teg. Maen nhw hefyd eisiau dod i gasgliadau mwy cyffredinol o'r methiannau hynny - sydd eto yn ddigon teg. Ond dydi ceisio priodi'r methiannau Cymreig efo llwyddiant Prydeinig - er bod y ddau beth yn gwbl ddi gyswllt - ddim yn rhywbeth deallus iawn i'w wneud. Yn wir mae'n adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y papur - agweddau sydd wedi eu gwreiddio mewn hunan gasineb.

Efallai y caf wneud pethau'n syml i'r Western Mail. Buddsoddiad anferth gan y wladwriaeth Brydeinig mewn chwaraeon ydi sail llwyddiant TeamGB. Mae diffyg buddsoddiad yn un rheswm am fethiannau economaidd yng Nghymru, ond nid dyna'r prif reswm. Obsesiwn y wladwriaeth Brydeinig efo'r sector ariannol yn Llundain, a diffyg mynediad yng Nghymru at y lefrau economaidd a allai ganiatau i ni fod yn gystadleuol ydi'r rheiny.

Dydi rwdlan am lwyddiannau Prydeinig yn yr un gwynt a disgrifio methiannau yng Nghymru ddim am newid hynny.

11 comments:

Anonymous said...

Oeddet y gwybod for Team GB wedi canolbwyntio ar 4 faes o chwaraeon; ni fyddai gan unryw wlad tlawd unrhyw obaith o gael medal yn un ohonynt?

Cai Larsen said...

Beicio, rhwyfo - be arall?

Anonymous said...

Marchogaeth ? Hwylio ? .
Mae hyn yn hysbys ers blynyddoedd - ni wnaethpwyd unrhyw gyfrinach o'r peth. Bydd nofio yn colli arian yn sgil eu cywilydd pythefnos yn ol.

Anonymous said...

Prof David Forrest: "We have identified four sports where there is virtually no chance that anyone from a poor country can win a medal - equestrian, sailing, cycling and swimming,"

http://www.bbc.co.uk/news/business-19144983

Anonymous said...

Rhaid i ni yng Nghymru ymladd i gael rygbi neu cerdd dant yn gampau Olympaidd. Bydd yr holl arian ac amser a wastraffir ar y rhain yn cael ei gyfiawnhau wedyn.

Anonymous said...

Shut it, gog. Rygbi yw'r gêm genedlaethol ac mae'n werth bob ceiniog.

Anonymous said...

Anon 5.15. cliwch cliwch!!!

Anonymous said...

Faint o wledydd tlawd sy'n chwarae rygbi ? (Arwahan i Gymru)

Anonymous said...

Samoa, Tonga, Fiji, Romania, Georgia, Kenya.

Anonymous said...

O a Zimbabwe wrth gwrs (un o'r gwledydd tlotaf yn y byd)

Cai Larsen said...

Namibia.