Tuesday, September 25, 2012

Enillydd y wobr wythnosol am am bowldrydd ydi _ _

_ _ _   David Hume - un o arweinwyr yr Urdd Oren yng Ngogledd Iwerddon.

Ymddengys bod David o'r farn y dylai pobl sy'n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd gael pleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban.  Unoliaethwyr ydi pobl sy'n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd wrth gwrs.  


Felly ymddengys bod rhai o arweinwyr  yr  Urdd Oren yn credu y dylai Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon gael atal annibyniaeth i'r Alban yn ogystal ag atal ail uno'r Iwerddon.



2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Beth amdanom ni Gymry o'r Hen Ogledd! Rydyn ni wedi chwarae rhan alweddol yn hanes yr Alban hefyd. Fe ddylen ni gael pleidlais... ad nauseum...

Cai Larsen said...

Cweit.