Friday, October 05, 2012

Carcharorion Kenya a'r Ymerodraeth Brydeinig

Mae'n dda cael nodi i dri cyn garcharor o Kenya ennill eu hachos yn erbyn llywodraeth y DU yn yr Uchel Lys.  Gellir gweld y dyfarniad yma.

Cafodd y tri eu harteithio gan yr awdurdodau trefedigaethol pan oeddynt yn garcharorion yn ystod rhyfel annibyniaeth Kenya yn y pump degau.  Mae'n debyg y bydd hyn yn agor y ffordd i hyd at 2,000 o'r cyn garcharorion sy'n dal yn fyw (allan o gyfanswm o tua 70,000) ddod ag achosion hefyd.  Mae hefyd yn fwy na phosibl y bydd achosion gan garcharorion o wledydd eraill maes o law - Cyprus er enghraifft. 

Wnes i (yn amlwg) ddim gweld sioe agoriadol y Gemau Olympaidd, ond dwi'n deall i hanes ymerodrol Prydain gael ei ddileu bron yn llwyr o'r naratif a gyflwynwyd - er bod cynnal ymerodraeth wedi bod yn rhan ganolog o hunaniaeth Prydeinig am y rhan fwyaf o hanes y wladwriaeth. 

Mae yna pob math o gwestiynau ynglyn a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac mae'r rheiny yn mynd yn llawer pellach na cham drin carcharorion yn ystod dyddiau olaf yr ymerodraeth honno.  Er enghraifft, roedd trigolion rhai o drefedigaethau Prydain (ac ymerodraethau eraill) yn llwgu i farwolaeth mewn niferoedd rhyfeddol o uchel yn ystod Oes Fictoria, ac yn wir yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Ychydig iawn (mewn cymhariaeth) a fu farw yn yr un ffordd wedi i'r Ymerodraeth ddod i ben. 

I unrhyw un a diddordeb yng ngwir natur yr Ymerodraeth Brydeinig, byddwn yn awgrymu eu bod yn darllen llyfr Mike Davies - Late Victorian Holocausts.  Mae'r llyfr yn dylunio'n glir y syniadaethau oedd ynghlwm a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac effeithiau gweithredu'r syniadaethau hynny ar ddegau o filiynau o bobl. 

1 comment:

Anonymous said...

Lle ti'n sefyll ar mater y Cofnod ma? Yn bersonol dwi'n mega pissed off efo safbwynt mwyafrif aelodau Grwp y Blaid