Thursday, October 11, 2012

Y Swyddfa Gymreig a deddfau'r Cynulliad

Mae Ffred yn gwbl gywir i ddisgrifio'r sefyllfa sydd ohoni ynglyn a deddfu yng Nghymru fel llanast llwyr.  Mi'r ydan wedi cael gwared o un dull boncyrs o ddeddfu - y gyfundrefn Lcos-  ond wedi cael ein hunain gydag un sydd hyd yn oed yn wirionach, sef cyfundrefn sy'n caniatau i David Jones dreulio yr oriau di ddiwedd sydd ar gael iddo yn cribinio pob darn o ddeddfwriaeth i weld os y gall ei atal neu'i arafu am resymau  'cyfreithiol'.

Yn wir mae idiotrwydd llwyr yr ymyraeth yma yn tanlinellu'r gwendidau sydd yn y gyfundrefn deddfu yn well nag y gallai dim arall.  Ymddengys bod David Jones o'r farn nad ydi hi'n briodol i'r Cynulliad roi hawliau cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg oherwydd ei fod wedi argyhoeddi ei hun bod hynny yn ymwneud a'r Saesneg - a bod delio a'r iaith honno tu hwnt i bwerau'r Cynulliad.

Mae'r ffordd mae pwerau'r Cynulliad wedi eu diffinio yn creu cymhlethdod lle nad oes angen hynny. Mae cymhlethdod felly yn fel ar fysedd Swyddfa Gymreig - sefydliad sydd yn cael ei reoli gan bobl sydd yn sylfaenol wrth Gymreig a sydd erioed wedi dod i delerau efo'r sefyllfa newydd yng Nghymru.  Maent yn cael anhawster efo'r syniad o ddeddfu Cymreig sy'n annibynnol o San Steffan.  O dan y drefn sydd ohoni gallant geisio dod o hyd i rhyw broblem neu'i gilydd efo pob darn o ddeddfwriaeth, a cheisio mynd ati i'w atal neu ei newid.  Hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i newid y ddeddfwriaeth newydd yn y pen draw, cant y cysur seicolegol o deimlo i San Steffan chwarae rhan ynddi.

Mae dau brif bwynt yn codi o hyn oll.  Yn gyntaf mae'n weddol amlwg y dylid diffinio pwerau'r Cynulliad yn yr un ffordd a mae pwerau senedd dai yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi eu diffinio, er mwyn osgoi cymhlethdod di angen.

Yn ail mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn wastraff adnoddau chwerthinllyd i gynnal Swyddfa Gymreig.  Mae'n anodd ar y diawl ddychmygu beth  yn union mae Steven Crabb, David Jones a Jenny Randerson yn ei wneud efo'u hamser.  Efallai bod yr ymyraeth yma yn adlewyrchu'r ffaith bod y tri yn gorfod crafu pen i ddod o hyd i rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud i lenwi'r oriau maith, diflas yn Nhy Gwydyr.

Ond mae agwedd gadarnhaol i'r bennod fach ryfedd yma hefyd - mae'n rhoi cymhelliad cryf i lywodraeth Llafur yn San Steffan unioni'r cam a wnaethant a Chymru trwy roi  setliad datganoli diffygiol i Gymru yn ol yn 1997 - ac mae hefyd yn rhoi cymhelliad iddynt anfon y Swyddfa Gymreig i aberfofiant haeddianol unwaith ac am byth.

3 comments:

Simon Brooks said...

Serch bod na rywbeth doniol iawn am David Jones yn ymgyrchu i beidio cael Saesneg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae holl hanes y Bil Ieithoedd Swyddogol yn llawn yr anghysondebau rhyfedda!

Anonymous said...

Mae'n amser i ni fynd ar y stryd, fel wnaeth y Catalanwyr, a mynnu mai 'Som una Nacio' - rydym yn genedl, neu, efallai'n well yn y Gymraeg'Cenedl yw Cymru' (We are a Nation) yn Saesneg.

Rhywbeth syml gall pawb sefyll tu ôl, rhywbeth y byddai'r 57% a ddwedodd yn pôl ITV mai yn Senedd Cymru y dylse'r penderfyniadau cael eu gwneud.

Rhywbeth byddai'n tarro tant gyda'r miloedd o Gymry gwladgarol sydd methu mynegu ein dyhead. Rhywbeth i ddweud wrth San Steffan, peidiwch cymryd ni yn ganiataol.

Does dim cyd-ddigwyddiad fod David Jones a'r Toriaid (ac Owen Smith, Llafur, yn chwarae gems cyfansoddiadol) nad yw's Sevydliad wedi cael hwb o weld yr holl union jacks ar hyd strydoedd Cymru a gweld na gododd yr un cenedlaetholwr ei lais. Mae nhw'n credu ein bod ni'n fat sychu traed ... ac mae nhw'n iawn i raddau. Beth felly am ddangos ein hochr?

Beth am i Blaid Cymru arwain ar hyn? Rhywbeth i'w haelodau cyffredin wneud ond ei wneud yn rali fawr gynhwysol. Dim polisiau dim gwrth neb, dim hyd yn oed Ceidwadwyr gwladgarol Cymreig.Jyst neges syml i ddweud mai Cymry ydym ni yn ein holl amrywiaeth a mynnwn fod San Steffan a'r BBC yn cofio hynny.

S.

Cai Larsen said...

Tybed os oes unrhyw wlad yn y Byd wedi cael dulliau rhyfeddach o ddeddfu na'r hyn a gafodd Cymru?