Tuesday, October 23, 2012

Ydi'r newid ffiniau yn bosibl o hyd?

Cafwyd cryn son heddiw am y posibilrwydd y gallai cynlluniau llywodraeth y DU i newid y ffiniau etholiadol fod y fyw unwaith eto gan bod peth lle i gredu y gallai'r Blaid ymuno efo'r SNP, y DUP a'r Toriaid i ganiatau i bleidleisio trostynt.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol y dylai'r newidiadau ddigwydd oherwydd bod y drefn arfaethiedig yn fwy teg na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, ac oherwydd y byddai lleihau'r nifer o ASau yn gwanio dylanwad San Steffan ac yn cryfhau dylanwad y Cynulliad Cenedlaethol.  O ran y tegwch meddyliwch mewn difri - mae yna 53,733 o etholwyr yn Wrecsam, a  68,280 o etholwyr yn Gaer - ychydig filltiroedd i fyny'r lon.  Cynrychiolir trigolion Wrecsam yn San Steffan neu'r Cynulliad gan Ian Lucas, Susan Griffiths,  Llyr Huws Gruffydd,  Aled Roberts, Mark Isherwood a  Antoinette Sandbacgh.  Cynrychiolir trigolion Gaer gan Stephen Mosley.

Ta waeth - o ran y fathemateg - os ydi fy syms i yn gywir - go brin y byddai'n  bosibl i'r bedair plaid gael digon o bleidleisiau rhyngddynt i gael mwyafrif.  Yn absenoldeb 5 aelod seneddol Sinn Fein, byddai'n rhaid cael 324 pleidlais i ennill yn Nhy'r Cyffredin.  Mae gan y Toriaid 306, Plaid Cymru 3, yr SNP 6 a'r DUP 8.  Cyfanswm o 323.  Petai'r Toriaid yn cadw sedd Louise Mench yn Corby - a does ganddyn nhw ddim gobaith mul o wneud hynny - byddai'r cyfansymiau yn gyfartal, ond ni fyddai llefarydd y ty yn cael pleidleisio - a Tori (o fath) ydi hwnnw.  Byddai'n rhaid felly dwyn perswad ar yr SDLP (3 sedd), Sylvia Hermon, George Galloway neu Caroline Lucas i bleidleisio hefyd - a byddai'r newidiadau yn cael effaith negyddol ar y cwbl ohonynt.

Hyd yn oed pe llwyddid i gyflawni'r dasg anhebygol o berswadio un neu fwy ohonynt, mi fedrwch fetio cryn dipyn y byddai rhai o'r Toriaid fyddai eu seddau o dan fygythiad yn gwrth ryfela.  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf y byddai ASau Toriaidd Cymru ar flaen y gad arbennig yna - dydi tyrcwn ddim yn pleidleisio tros Ddolig cynnar yn aml.

No comments: