Thursday, December 20, 2012

Gwil a Rhodri

Un o fanteision mawr darllen Golwg ydi cael gwybod yr hyn mae Gwilym Owen yn ei feddwl.  Yr wythnos yma rydym yn cael bargen ddwbl - sef cael ar ddallt gan Gwilym ei fod o a'i gyd grach Llafuraidd - Rhodri Morgan wedi ei chracio hi o ran achub y Gymraeg.  Yr hyn sydd rhaid ei wneud da chi'n gweld ydi rhoi'r iaith yn ol i'r dosbarth gweithiol.

Rwan, rydan ni wedi edrych ar ddamcaniaeth Gwilym mai iaith ddosbarth canol ydi'r Gymraeg yn y gorffennol - a chael mai prin ydi'r dystiolaeth ystadegol i'w chefnogi - nid bod tystiolaeth ac ystadegau a 'ballu yn debygol o gael fawr o effaith ar 'resymu' Gwil wrth gwrs.

Ond, cyn ei bod yn dymor o ewyllys da, mae'n debyg y dyliwn dalu teyrnged i Rhodri am weithredu yn unol a'i ddaliadau.  Trwy beidio a magu ei blant i siarad Cymraeg, roedd yn cymryd cam ymarferol ac effeithiol i ddadgysylltu'r iaith oddi wrth y crachach cyfryngol yng ngolwg y werin datws.  Wedi'r cwbl, beth sydd yn fwy crachaidd nag addysg yn Rhydychen a chartref yn  Llanfihangel-y-pwll? 

Gobeithio nad ydi ymdrechion y cyfryw blant i ddysgu'r Gymraeg ar ol tyfu i fyny wedi dad wneud holl waith da eu tad.

18 comments:

Anonymous said...

"rydan ni wedi edrych ar ddamcaniaeth Gwilym mai iaith ddosbarth canol ydi'r Gymraeg yn y gorffennol - a chael mai prin ydi'r dystiolaeth ystadegol i'w chefnogi - nid bod tystiolaeth ac ystadegau a 'ballu yn debygol o gael fawr o effaith ar 'resymu' Gwil wrth gwrs. "

Dydych chi wedi profi'r fath beth. Os dwi'n cofio'n iawn edrych ar y Fro Gymraeg yn unig wnaethoch chi ac nid ar Gymru gyfan lle, mae'n debyg, bod y Gymraeg yn dod yn iaith dosbarth canol. Mae ochor dda ac ochor ddrwg i hynny wrth gwrs.
Welbru

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn honni fy mod wedi profi dim - mae'n rhaid i ti gam ddarllen y blogiad.Mae' data ar gael parthed wardiau Cymraeg eu hiaith ac amddifadedd. Mae'n llawer mwy anodd dod o hyd i ddata ehangach sy'n cymharu amddifadedd a'r gallu i siarad Cymraeg. Os ti'n dod o hyd i ffordd, gadael i mi wybod.

Yr hyn dwi'n ei ddadlau ydi bod honiadau GO a Rh M yn gwbl ddi dystiolaeth. Dwi o leiaf yn darparu'r dystiolaeth y gellir dod o hyd iddi.

Hogyn o Rachub said...

Mae eu damcaniaeth nhw yn un gwbl hurt. Do'n i methu â choelio Rhodri Morgan ar Bawb a'i Farn bythefnos nôl yn dweud bod 'y werin' yn meddwl mai iaith i bobl fawr ydi'r Gymraeg (yn enwedig achos 'Canolfan Dodrefn') ... dydw i BYTH wedi dod ar draws Cymro Cymraeg o ba ddosbarth cymddeithasol bynnag sy'n meddwl hynna am yr iaith ac mae hynny'n ddigon o dystiolaeth i mi!

Anonymous said...

"Dwi ddim yn honni fy mod wedi profi dim - mae'n rhaid i ti gam ddarllen y blogiad.Mae' data ar gael parthed wardiau Cymraeg eu hiaith ac amddifadedd."

O beth dwi'n cofio, edrych ar ystadegau wardiau yn y Fro Gymraeg wnaethoch ac nid ar bwy sy'n siarad Cymraeg tu allan i'r Fro Gymraeg.

Welbru

Cai Larsen said...

Wel ia - mi fedri di ddilyn y linc i wneld hynny. Dydw i ddim yn gweld dy bwynt.

Ioan said...

I fod yn pedantic (a dwi'n un drwg am hynnu) dweud bod y gymraeg yn "mynd yn iaith ar gyfer y dosbarth canol yn unig" wnaeth GO. Profi nes di nad oedd y Gymraeg yn iaith ddosbarth canol yn 2001. Mi gawn weld pwy sy'n iawn yn Ionawr - plotio'r gwahaniaeth ers 2001 yn erbyn indecs amddifadedd, a gwneud trend line.

Dwi'n casau gorfod cytuno efo GO, ond ar y pwynt yma, dwi'n poeni ella bydd on iawn.

p.s. HOR, digalon iawn oedd gorfod gwrando ar rwdlan Rhodri Morgan ar Pawb a'i farn. Does ryfedd bod y Gymraeg ar i lawr ar ol bod yn ei ddwylo fo...

Cai Larsen said...

Wel, mae Gwil wedi gwneud datganiadau ar y pwnc yma yn weddol aml, ac mae'r geiriad wedi amrywio.

Rhag camddealltwriaeth, dwi ddim yn honni i fod wedi profi dim ag eithrio nad ydi'r iaith yn un ddosbarth canol yn y Fro Gymraeg. Dim ond ar fanno wnes i edrych - a dim ond yno oedd yn bosibl edrych heb fynd i uffar o drafferth.

Mae'n bosibl y bydd y trend oddi wrth y Gymraeg yn gryfach yn yr ardaloedd dosbarth gweithiol Cymraeg - ond dydw i ddim yn meddwl hynny ar hyn o bryd. Mae'r cwymp mwyaf yng Ngwynedd (blaw am 15 i 19) ymysg yr henoed - ac mae hynny yn awgrymu mewnfudo ymysg y rheiny - dydi pensiynwyr ddim yn mynd i Sgubor Goch i chwilio am ymddeoliad delfrydol.

Cai Larsen said...

Sori Huw, fama dwi'n trio ei ddweud - http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1110/Cynllun_Addysg_Gymraeg_Gwynedd__2011.pdf

Anonymous said...

Fy mhwynt ydy dy fod di wedi dangos o'r blaen nad ydy'r iaith yn iaith ddosbarch canol yn y Fro Gymraeg ond beth am weddill Cymru? Felly, dwyt ti ddim wedi dangos bod Gwylym Owen yn anghywir.
Welbru

Cai Larsen said...

Ond dydi GOheb ddangos mewath o dystiolaeth ei fod yn gywir - mae'n cyrraedd yn dwfn i mewn iddo'i hun am pob doethineb.

Mae'n anodd trawswirio Cymry Cymraeg ac amddifadess tros y wlad i gyd - ond mi fedrwn ni ei wneud lle mae'r canrannau sy'n siarad yr iaith yn uchel. Os oes gen ti ffordd gweddol hawdd o wneud yr ymarferiad yn ehangach, gad i mi wybod.

Anonymous said...

"Os oes gen ti ffordd gweddol hawdd o wneud yr ymarferiad yn ehangach, gad i mi wybod."

Dwi ddim yn rhy siwr ond gallech chi edrych ar ffigurau cinio am ddim plant sydd yn mynd i ysgolion cyfrwng Gymraeg. Ond wrth gwrs, rhaid cofio nad ydy'r rhan fwyaf o blant ail iaith sy'n mynd i ysgolion Cymraeg yn parhau gyda'u Cymraeg wedyn felly byddai'n rhaid edrych ar yr oedolion sy'n defnyddio'u Cymraeg a dwi ddim yn gwybod sut i wneud hyn heblaw drwy arolwg arbennig.
Dwi'n credu bod edrych ar y Fro Gymraeg yn unig yn amherthnasol achos y tu allan i'r Fro Gymraeg mae'r iaith yn dod yn rhywbeth dosbarth canol - am ei bod yn aml yn ail iaith i rai sydd wedi gwrando'n dda yn yr ysgol neu'n mynd i ddosbarthiadau nos i oedolion.
Gallech chi fynd i dafarndai dosbarth gweithiol a gofyn i'r cwsmeriaid os ydyn nhw erioed wedi clywed rhywun yn siarad Cymraeg yn eu tafarn.
Welbru

Anonymous said...

[url=http://www.microgiving.com/profile/clarithromycin]buy biaxin xl online
[/url]

Anonymous said...

[url=http://sustiva-efavirenz.webs.com/]Stocrin
[/url] purchase Sustiva 500 mg
order Sustiva 200 mg
purchase Sustiva online

Anonymous said...

[url=http://rebetol-online.webs.com/]order rebetol online
[/url] buy rebetol
purchase rebetol
rebetol 100 mg online

Anonymous said...

ovulation after taking clomid | http://buyclomidcheap.webs.com/#93852 - cheap clomid online, clomid post cycle dosage

Anonymous said...

how to take clomid | order clomid online - where can i purchase clomid, clomid side effects men

Anonymous said...

50 mg clomid and twins | [url=http://purchaseclomid.jimdo.com/#21912]clomid without prescriptions uk[/url] - clomid generic, pkqm clomid pregnancy rate

Anonymous said...

[url=http://www.microgiving.com/profile/ribavirin]ribavirin buy
[/url] rebetol 200 mg
virazole 200 mg online
ribavirin buy