Saturday, February 09, 2013

Gwynedd vs Caerfyrddin - Strwythur Oedran

Dwi ddim yn 100% siwr i mi gael pob ward yn y gymhariaeth isod, ond mae'r patrwm yn eithaf clir.  Mae'r canrannau ar eu huchaf ymysg y sawl sydd yn mynychu ysgolion - ond bod y cyfraddau'n uwch o lawer yng Ngwynedd nag yng Nghaerfyrddin. 

Yr ail wahaniaeth arwyddocaol ydi'r gymhariaeth rhwng y ddau grwp arall o bobl.  Mae'n anarferol yng Ngwynedd i'r grwp 65+ fod a chanran uwch o siaradwyr Cymraeg, na'r grwp 16 i 64 - er bod eithriadau - yn arbennig felly yn wardiau Bangor, ac mewn ambell i le arall, Llanberis, y Bala, Deiniolen ac Ogwen er enghraifft.

Yn Sir Gaerfyrddin mae yna dueddiad i'r grwp 65+ fod a chanran uwch o siaradwyr Cymraeg na'r grwp ieuengach.  Mae hyn yn arbennig o wir am ardal Llanelli ac - yn anffodus - ardal Gwendraeth/Aman - ardal Gymreiciaf Sir Gaerfyrddin .  Mae pethau ychydig yn iachach yn rhai o'r ardaloedd mwy gwledig a Gorllewinol. 

Awgryma'r patrymau gwahanol y bydd y bwlch ieithyddol rhwng Gwynedd a Chaerfyrddin yn tyfu'n sylweddol mewn blynyddoedd sydd i ddod.

                                     
                                              Sir Gaerfyrddin                Gwynedd








 
 
 

.

2 comments:

Anonymous said...

A yw'r ffigyrau cymharol ar gyfer 2001/1991 ar gael ? . Fe gofiaf grywbwyll 'Yr Ysgol Gymraeg ym Mangor' i ymgynghorydd tua 15 mlynedd yn ol, a chael ateb 'Mae pobl ysgol (gynradd) ym Mangor yn ysgol Gymraeg' . A yw'r polisi yn yr ysgolion cyn gryfed ac yr oeddem yn tybio. Un peth arall a fuasai'n ddiddorol : Faint o ddisgyblion Tryfan sy'n dod o Ysgol y Garnedd bob blwyddyn, a faint sy'n dod o Maesgeirchen, Hirael a Cae Top.

Rhys said...

Dwi'n mwynhau'r dadansoddi yma'n arw. A gaf i wneud amgrym, sef yn lle copio a pastio screen shot o dabl excel ydy bod ti'n ei osod ar GoogelDrive ac yna yn ei fewn osod ar y cofnod blog.

Dyma enghraifft o dabl o fewn cofnod: http://eincaerdydd.com/2012/11/09/ymweliadau-rheolaidd-y-fyddin-ag-ysgolion-glantaf-a-phlasmawr/

(Cyfarwyddiadau bras yma)

Os oes gen ti gyfrif Google, mae'n caniatau i ti uwchlwytho dogfennau ar GoogleDrive (GoogleDocs gynt).

Mantais hyn ydy y mae'n bosib wedyn i eraill ail-ddefnyddio data dy dablau di'n hawdd petai nhw'n dymuno yn lle gorfod aildiepio popeth + mae'n haws i'w ddarllen os yw'r tabl yn un mawr hir.
Mae canllawiau