Thursday, February 07, 2013

Mwy o bropoganda brenhinol

Mae'n debyg gen i y bydd rhai o ddarllenwyr rheolaidd Blogmenai yn cofio i mi feirniadu'r Bib yng Nghymru yn hallt yn ystod y gwanwyn diwethaf am ymddwyn fel asiantaeth newyddion Gogledd Corea trwy glodfori'r jiwbili yn benodol a'r teulu Windsor yn gyffredinol gyda brwdfrydedd lloerig - er nad oedd ganddynt fawr o dystiolaeth bod eu gwylwyr a'u gwrandawyr yn rhannu eu obsesiynau rhyfedd.

Ymddengys bod sefydliad Cymreig arall yn ystyried mai rhan o'u pwrpas ydi hyrwyddo hawl un teulu tramor i ddylanwad, cyfoeth a statws cyfansoddiadol llawer uwch nag y gallai neb yng Nghymru freuddwydio ei gael.  Llywodraeth Cymru ydi'r corff hwnnw.

Wele ddelwedd o rhywbeth sy'n cael ei ddisgrifio fel prawf mathemateg a anfonwyd i ysgolion cynradd Cymru yn ddiweddar. Y gwahaniaeth o bosibl rhwng y Bib a'r Cynulliad yn hyn o beth ydi bod y naill yn taflu eu propoganda i gyfeiriad pawb, tra bod y llall yn canolbwyntio ar blant ysgol.

Rhag ofn eich bod eisiau gwybod y dasg ydi dyfalu pa mor fawr ydi'r dorf.

2 comments:

Anonymous said...

Fyddai "rhy ffwcin fawr" yn cael ei gyfri fel ateb cywir?

Cai Larsen said...

Na, dwi'n meddwl bod rhaid i ti fod o fewn cwpl o ganoedd i gael marc.