Wednesday, March 06, 2013

Llywodraeth San Steffan a Silk

Felly dydi llywodraeth San Steffan ddim am ildio dim - neu nesaf peth i ddim - pwer i'r Cynulliad Cenedlaethol?  Syrpreis, syrpreis.

Dydi'r ffaith bod Aelodau Cynulliad y Lib Dems a'r Toriaid efo barn cwbl wahanol ddim yn syndod chwaith.  Yn wir mae'n lled debygol y bydd yna wahaniaeth barn rhwng llywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol Llafur ynglyn a datganoli grymoedd hefyd.

Does a wnelo'r gwahaniaethau yma ddim oll a syniadaeth, egwyddor, credoau creiddiol ac ati.  Mae'n ganlyniad anhepgor o gael cyfundrefn lle mae dau sefydliad yn cystadlu am yr un grym.  Mae'r naill sefydliad yn tueddu i geisio hel mwy o'r rym iddo'i hun.  Mae'r sawl sydd yn gweithio - ac yn ymarfer grym - yn y naill sefydliad a'r llall yn tueddu i gael eu dylanwadu gan yr ysfa sefydliadol ehangach.  Mae cystadleuaeth rhwng San Steffan a'r Cynulliad bellach yn rhywbeth sydd wedi ei adeiladu i mewn i wead gwleidyddiaeth Cymru.

O safbwynt y cenedlaetholwr Cymreig mae gweld bwlch yn datblygu rhwng Andrew RT Davies, Carwyn Jones a Kirsty Williams a'u cyd unoliaethwyr yn San Steffan yn beth hynod gadarnhaol.  Ond mae hefyd yn bwysig bod dylanwad  unoliaethwyr y Cynulliad yn cael ei gryfhau ar draul unoliaethwyr San Steffan.  Un ffordd o wneud hyn ydi newid y cyd bwysedd niferol rhyngddynt.

Byddai cael mwy o aelodau yn y Cynulliad yn un ffordd o wneud hynny - a byddai cael llai o aelodau San Steffan yn ffordd arall.  Byddai cyfuniad o'r ddau yn well byth.  Dydi hi ddim yn gwneud synnwyr strategol i genedlaetholwyr Cymreig gefnogi cadw 37 o Aelodau Seneddol unoliaethol Cymreig yn San Steffan sydd yn amlach na pheidio efo nesaf peth i ddim i'w wneud ond cynllwynio sut i gadw cymaint a phosibl o rym yn eu sefydliad nhw. 

3 comments:

Dylan said...

Cytuno'n llwyr ynghylch lleihau'r nifer o ASau o Gymru. Beth yw polisi'r Blaid am hynny? Eitha siwr fy mod wedi'u gweld yn anghytuno â'r syniad yn y gorffennol.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn siwr be di'r polisi - ond gallai ymddygiad y Blaid yn y cyswllt yma fod yn fwy cyson.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn siwr be di'r polisi - ond gallai ymddygiad y Blaid fod yn fwy cyson yn hyn o beth.