Thursday, March 21, 2013

Rhaid wrth dderyn glan i ganu Mr Andrews

Mae Leighton Andrews yn mynd mymryn yn rhy bell  pan mae'n dweud nad ydi'r Eisteddfod, Cymdeithas yr Iaith, CBAC, Cynghorau Cymru, S4C, Prifysgol Cymru ac ati wedi addasu i ddatganoli, ond mae ganddo fo bwynt.  Mae llawer o sefydliadau Cymreig yn ymddwyn - mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - fel petai'r  ffurf ar ddemocratiaeth Gymreig sydd wedi tyfu ers blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf erioed wedi digwydd.  Efallai bod Cymdeithas yr Iaith mor euog o hyn a neb o hyn.

Ond am rhyw reswm anghofiodd Leighton son am y sefydliad Cymreig mwyaf ohonyn nhw i gyd - y Blaid Lafur Gymreig.  Ni all arweinydd y blaid yma fynd trwy cymaint ag un sesiwn holi'r Prif Weinidog heb gyfeirio at San Steffan ac mae'n cael ei halian i Lundain i gael ffrae os ydi'n meiddio gwneud ei farn yn glir ynglyn a pha bwerau ychwanegol y dylid eu datganoli i Fae Caerdydd.  Ar ben hynny mae'n ymddangos bod Llafur yn credu y dylai Cymru gael ei gor gynrychioli gan Aelodau Seneddol yn San Steffan i'r un graddau heddiw ag oedd yn cael ei gor gynrychioli bymtheg mlynedd yn ol.

Meddyliwch mewn difri - os ydych chi'n byw yng Nghaer rydych yn cael eich cynrychioli ar lefel seneddol gan Stephen Mosley.  Os ydych yn byw ychydig filltiroedd i lawr yr A483 yn Wrecsam rydych yn cael eich cynrychioli gan Lesley Griffiths, Llyr Huws Gruffydd, Aled Roberts, Mark Isherwood, Antoinette Sandbach ac Ian Lucas.  Cyn 1998 roedd gan y ddwy etholaeth un aelod seneddol yr un.




No comments: