Friday, March 29, 2013

Yr hyn y gall y dyn yma ei wneud i gynnal y Gymraeg

 

 Byddai'n well - yn llawer gwell petai cenedlaetholwr yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar ran llywodraeth Cymru - ond os oes rhaid cael Llafurwr mae'n debyg bod Leighton Andrews cystal a neb.  Go brin bod neb yn amau didwylledd ei gefnogaeth i'r iaith.

Cyhoeddwyd strategaeth iaith Gymraeg ganddo yn ddiweddar.  Gellir ei gweld yma.  Does gen i ddim yn erbyn yr hyn sydd ynddi, er bod rhywfaint ohono'n ymylol - ond hoffwn gynnig fy mewath fy hun.  Ym marn Blogmenai y canlynol ydi'r elfennau pwysicaf o ran arbed yr iaith - pwysicach o lawer na llawer o'r hyn sydd yn nogfen Mr Andrews.



1.  Mi gychwynwn ni efo'r peth pwysicaf.  Petaem yn gwbl onest y gwir amdani ydi bod yna ormod o gyflenwad a rhy ychydig o alw am bron i pob gwasanaeth Cymraeg.  Yr eithriad mawr ydi addysg cyfrwng Cymraeg.  Dydw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw amheuaeth bod llawer mwy o bobl eisiau i'w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg na sydd yn ei gael. Yn wir yn ol un astudiaeth byddai mwy na hanner rhieni Cymru yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg petai addysg felly ar gael yn weddol hawdd.  Ar hyn o bryd mae ychydig mwy na phumed o blant cynradd y wlad yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Addysg cyfrwng Cymraeg ydi'r unig beth sy'n cynhyrchu siaradwyr Cymraeg o'r newydd mewn niferoedd sylweddol.  O gyflenwi hynny yn effeithiol, byddai llawer o bethau eraill yn dilyn.



Rwan, mae darpariaeth addysg - ar hyn o bryd o leiaf - yn nwylo'r awdurdodau lleol.  Mae rhai ohonynt yn dda am sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, tra bod eraill yn anobeithiol o wael.  Mae yna elfennau o'r ddarpariaeth addysg na fyddai unrhyw awdurdod addysg yn meiddio gwneud smonach ohonynt petai dewis ganddo.   Dydi methu a sicrhau darpariaeth amddiffyn plant addas neu methu a gosod trefn i wella perfformiad ysgolion sy'n tan gyflawni ddim yn opsiwn i unrhyw awdurdod lleol.  Byddai methiant o'r math yma yn creu risg arwyddocaol y byddai'r awdurdod addysg yn colli rheolaeth ar y gyfundrefn addysg o fewn ei thiriogaeth.  Dylai parodrwydd i asesu'r galw am addysg Gymraeg ac ymateb i'r galw hwnnw gael ei drin yn union fel codi safonau ac amddiffyn plant gan y corff arolygu, ESTYN.  Byddai newid pwyslais o'r math yma gwneud mwy i gynnal y Gymraeg nag unrhyw beth arall y gallaf feddwl amdano.

2.  Dilyn y data.  Mae'r Cyfrifiad yn ffynhonnell data gwerthfawr - hanfodol hyd yn oed, ond mae'n rhoi darlun braidd yn amrwd i ni.  Mae'n dweud beth sydd yn digwydd yn lle - ond ddim gair am pam.  Mae angen arolwg trylwyr a chynhwysfawr sy'n dod i gasgliadau ynglyn ag agweddau pobl at drosglwyddiad iaith, dysgu'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru.  Rydym angen strategaethau gwahanol i wahanol rannau o'r wlad.  Dydi'r Cyfrifiad ddim yn ein darparu efo'r math o ddata rydym ei angen i ffurfio sail i'r ymarferiad hwnnw.

3.    Peidio ag ofni grwpiau sydd a budd mewn dal pethau yn ol.  Mae Leighton Andrews wedi dangos dewrder wrth fynd i'r afael a rhai o broblemau'r gwasanaeth addysg - ac mae i'w edmygu am hynny - hyd yn oed os ydi rhai o'r pethau mae wedi eu gwneud yn profi'n anghyfforddus i bobl fel fi.  I'r graddau hynny mae wedi sefyll yn erbyn grwpiau buddiant.  Serch hynny mae sefyll tros y Gymraeg yn golygu sefyll yn erbyn grwpiau gwahanol - corfforaethau mawr a rhannau o'r Blaid Lafur Gymreig..  Dydi'r ffaith iddo wrthod safonau'r Comisiynydd Iaith ddim yn awgrymu ei fod yn teimlo fel sathru ar gyrn y corfforiaethau mae Deddf Iaith 2011 yn garreg yn eu hesgid.  Mae'r elfennau gwrth Gymreig yn y Blaid Lafur yn fwy o her eto iddo.  Bydd gwrando ar yr elfennau hynny yn sicrhau nad ydi'r Gymraeg yn symud cam ymlaen.
. Rhoi anghenion mewnol y Blaid Lafur Gymreig cyn dim byd arall ydi un o nodweddion hanesyddol y corff hwnnw - ac mae'n batrwm o ymddygiad gwleidyddol sydd wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru yn y gorffennol.

4.  Deall yr hyn mae am ei gyflawni.  Mae angen i lywodraeth Cymru gael targedau uchelgeisiol ond cyraeddadwy.  Mae holl gynghorau sir Cymru angen targedau felly hefyd - ac mae'n rhaid i'r targedau hynny fod yn addas ar gyfer eu sefyllfa unigol nhw.  Mae'n realistig disgwyl i gynghorau Gwynedd a Chaerdydd gynyddu'r niferoedd a'r ganran sy'n siarad yr iaith.  Y gorau y gellir ei obeithio am Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd ydi bod y dirywiad yn cael ei arafu'n sylweddol.  Mae Gwynedd angen mynd i'r afael efo Bangor, mae Merthyr angen cynnig yr opsiwn o addysg cyfrwng Cymraeg idrigolion y fwrdeisdref.  Dylai bod perthynas rhwng llwyddiant i gyrraedd targedau a setliad ariannol blynyddol y cynghorau.  Mae goblygiadau ariannol i awdurdod lleol os yw'n methu cwrdd a thargedau ail gylchu gwastraff, dylai bod goblygiadau tebyg os yw'n methu cwrdd a thargedau iaith rhesymol.  

1 comment:

Anonymous said...

the latest report due out over the weekend will finnish Labour and Plaid Cymru off from Anglesey for good.
Watch this space tomorrow.