Saturday, April 06, 2013

Rhaid wrth dderyn glan i ganu Mr Smith!

Mi fyddai'n haws cymryd myllio Owen Smith ynglyn a phenderfyniad y Toriaid i dorri trethi'r cyfoethog petai'r creadur wedi trafferthu i fotio yn erbyn y mesur pan gafodd y cyfle.

Dydi'r ffaith bod y cyfoethog yn talu llai o dreth o dan lywodraethau Llafur Blair a Brown na maent yn ei wneud heddiw ddim yn gwneud mwydro Owen mymryn yn fwy dymunol chwaith.

Mae'r toriadau yn gwbl anaddas yn yr amgylchiadau sydd ohonynt - ond wir Dduw nid Owen Smith nac aelodau eraill ei blaid ydi'r bobl orau i gwyno am y peth.

No comments: