Friday, April 26, 2013

Y broblem efo sylwadau Rhodri Talfan Davies

Dydw i heb ddarllen araith Rhodri Talfan Davies yn ei chyfanrwydd, ond mae'r rhannau ohoni sy'n ymddangos yn Golwg360 yn rhoi peth lle i ofidio am ddyfodol yr orsaf.  Ar un olwg mae'r ddamcaniaeth bod bwlch rhwng ethos Radio Cymru a natur ei chynulleidfa darged yn gwneud synnwyr.  Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn fwy dosbarth gweithiol, yn llai rhugl ac yn ieuengach nag y byddai dyn yn dychmygu wrth wrando ar Radio Cymru.  Ond - os mai gwneud Radio Cymru yn fwy tebyg i orsafoedd radio Saesneg ydi bwriad Rhodri Talfan - mae yna broblem go fawr ynghlwm a'r resymeg.

Mae cynulleidfa bresenol yr orsaf yn gwrando arni yn bennaf oherwydd bod y cynnwys yn Gymraeg gan fwyaf.  Mae'n debyg  bod llawer o'r bobl hynny yn gwneud defnydd eang o'r iaith yn eu bywydau pob dydd.  Mae hefyd yn debygol o fod yn wir bod siaradwyr Cymraeg sy'n gwneud defnydd llai mynych o'r iaith yn llai tebygol o fod yn wrandawyr.

Ond dydi o ddim yn dilyn y bydd y bobl hynny yn troi at Radio Cymru os bydd y cynnwys yn fwy tebyg i gynnwys Radio 2, Radio 1 neu'r fflyd o orsafoedd radio lleol sydd ar gael yng Nghymru.  Mae'r gystadleuaeth am wrandawyr sianeli radio Saesneg 'ysgafn' yn hynod o llym.  Does gennym ni ddim lle o gwbl i feddwl bod Radio Cymru yn gallu cystadlu yn y byd hwnnw.  Yn wir, hyd yn oed petai'r gallu i gystadlu yn y talwrn yma ganddi, mae'n anodd gweld pam y byddai pobl yn troi at Radio Cymru am adloniant ysgafn Seisnig ei naws.

Yn y cyfamser mae hefyd yn debygol y byddai cynulleidfa greiddiol Radio Cymru yn dod o hyd i rhywbeth amgenach i'w wneud efo'u hamser na gwrando ar orsaf sydd ddim yn arbennig o berthnasol i'w bywydau nhw.

No comments: