Friday, May 31, 2013

Tybed os mai Gogledd Iwerddon _ _ _

_ _ _ ydi'r unig le mae ysgolion yn edrych fel carchardai?  St Mary's Primary yng nghanol Belfast. Pob ffenest efo bariau o'i flaen a ffens wyth troedfedd o amgylch yr adeilad.

Thursday, May 30, 2013

Ynys Rathlin

Mae'r berthynas agos rhwng Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae cyfenwau Albanaidd yn gyffredin iawn yng Ngogledd Iwerddon ac mae'n debyg bod mwyafrif y boblogaeth efo cysylltiadau teuluol cymharol ddiweddar efo'r Alban.

Os oes yna unrhyw beth sy'n dangos mor agos y berthynas honno hanes Ynys Rathlin ydi hwnnw. Mae Rathlin yn rhan o Ogledd Iwerddon ond wedi ei lleoli bum milltir o dir mawr yr Alban ac yma, tra ar ffo rhag filwyr Lloegr, y bu Robert the Bruce yn edrych ar y pry cop yn dringo ac yn syrthio, dringo a syrthio a phenderfynu dal ati i ymladd yn erbyn brenin Lloegr.

Yma hefyd y digwyddodd cyflafan yn 1575 na welir prin dim son amdani mewn llyfrau hanes. Lladdwyd 600 o ddilynwyr y llwyth MacDonnell - llwyth trafferthus i'r awdurdodau yn Llundain oedd ag aelodau yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal a'r Alban. Sifiliaid - merched a phlant yn bennaf - oedd mwyafrif llethol y sawl a laddwyd ac fe'u lladdwyd ar ol cael eu hela fel morloi tra'n cuddio yn yr ogofau ac ymysg y creigiau. Taflwyd llawer ohonynt oddi ar y creigiau i'r mor ymhell islaw. Syr Francis Drake oedd yn arwain lluoedd y wladwriaeth y diwrnod hwnnw.

Wednesday, May 29, 2013

Y Crown, Belfast

Roedd 'Gin Palaces' yn sefydliadau cyffredin iawn yn nhrefi a dinasoedd Ynysoedd Prydain yn ystod Oes Fictoria. Roedd y defnydd o alcohol yn gyffredin iawn bryd hynny - yn fwy cyffredin nad ydyw heddiw - un o sgil effeithiau'r chwyldro diwydiannol.  

Roedd llawer o'r yfed mwyaf anghyfrifol yn digwydd yn adeiladau ysblennydd y Plasdai Gin. Y Crown oedd un o'r gorau bryd hynny, ac mae'n un o'r ychydig sydd wedi goroesi hyd heddiw.



Tuesday, May 28, 2013

Ac yn y cyfamser i lawr yr arfordir yn Larne

Am wn i mai'r hyn sy'n gyffredin rhwng bobl o gefndir Protestanaidd yn Iwerddon ydi diddordeb mewn materion brenhinol a baneri.  Yn yr ystyr yma mae ganddynt gryn dipyn yn gyffredin efo BBC Cymru.  Y lon yn arwain at y porthladd sydd yn y llun uchaf (mae pwy bynnag sy'n gwerthu baneri Jac yr Undeb yn lleol yn gyfoethog) a chylchfan ar gyrion y dref sydd wedi ei addurno  yn hynod chwaethus sydd ar y gwaelod.

Gemau Gwyddeleg

Un o'r ychydig bethau sy'n gyffredin rhwng Gwyddelod o gefndir cenedlaetholgar - ag eithrio cefndir Pabyddol - ydi diddordeb mewn gemau Gwyddeleg.

Gellir gweld tystiolaeth o hyn ar hyd a lled yr ynys - mae crysau GAA yn llawer mwy cyffredin ar y stryd na chrysau pel droed neu rygbi. Os ydi sir neu dref yn gwneud yn dda mewn rhyw gystadleuaeth neu'i gilydd mae baneri'n cael eu plastro ar pob polyn, pob gardd ffrynt a phob dim arall sy'n gallu cymryd poster. Dwi'n cofio dreifio trwy dref yn Kerry flynyddoedd yn ol a chael bod pobl wedi paentio eu ceir yn lliwiau'r tim lleol. Mae lonydd Iwerddon yn gallu bod yn brysur iawn ar ddyddiau Sul gan bod byddinoedd o bobl yn dilyn eu timau lleol o un rhan o'r wlad i'r llall.

Mae yna rhywbeth cadarnhaol iawn yn yr oes sydd ohoni bod gemau cynhenid, amaturaidd yn gallu esgor ar y fath frwdfrydedd. Mae'r llun wedi ei gymryd yn Cushendall, reit yng nghornel gogledd ddwyreiniol y wlad. Mae'r Alban yn nes at Cushendall na Belfast heb son am Ddulyn, ac mae tir mawr yr Alban i'w weld yn glir o'r traeth.

Monday, May 27, 2013

Failte i Ladbrokes

Welwch chi byth arwydd uniaith Wyddeleg yn Nulyn, ond mae Belfast yn wahanol.

Ond tybed pam bod Ladbrokes yn dangos parch at y Wyddeleg ym Melfast, tra'n methu dangos yr un parch at y Gymraeg yng Nghymru?

Mae pob dim yn newid yn y diwedd

Ymweld a Glendalough - Dyffryn y Ddau Lyn - ym Mynyddoedd Wicklow heddiw.  Ymddenhys i'r ddinas eglwysig sydd a'i gweddillion i'w gweld heddiw ddechrau gael ei chodi gan Sant Cefin rhywle tua diwedd y chweched ganrif.

Mae newid cymdeithasol a gwleidyddol yn gallu ymddangos yn araf iawn yn ein bywydau pob dydd - ond un o'r pethau mae rhywle fel Glendalough yn ein hargoffa ohono ydi mor gyfangwbl mae pob dim yn newid o gael digon o amser.  Pan gychwynwyd adeiladu ar y safle roedd yr Eglwys Geltaidd yn ei. bri, doedd Eglwys Rhufain heb hollti'n ddau, doedd y syniad o Iwerddon unedig heb daro neb, doedd Lloegr ddim yn bodoli, i'r graddau bod Saesneg yn cael ei siarad o gwbl yn ardal Denmarc oedd hynny, rhyw lun ar y Gymraeg oedd yn cael ei siarad ar y rhan fwyaf o Ynys Prydain.

Roedd y digwyddiadau modern hynny sydd wedi effeithio cymaint ar sut rydym yn meddwl heddiw - y Dademi, dyfodiad Protestaniaeth, y Chwyldro Ffrengig y Chwyldro Diwydiannol ymhell, bell yn y dyfodol.  Roedd y sawl a adeiladodd ar y safle yn byw mewn Byd syniadaethol hollol wahanol i'n Byd ni.

A felly mae hi - gall y sawl sy'n radicalaidd gredu nad oes dim byth yn newid - ond y gwir ydi bod pob dim yn newid yn llwyr o gael digon o amser.

Saturday, May 25, 2013

Protest swnllyd y tu allan i'r GPO

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed fod yn Nulyn ar b'nawn Sadwrn heb weld gwrthdystiad o rhyw fath y tu allan i'r GPO.  Roedd 'na un mawr swnllyd a lled hysteraidd heddiw efo dwsinau o geir yn mynd rownd a rownd yn canu eu cyrn ac yn gwneud cymaint o miwsans ohonyn nhw eu hunaon a phosibl.  Asgwrn y gynnen oedd bod trethi lleol yn cael eu codi am y tro cyntaf i ariannu llywodraeth leol.  

Mae'r hyn y disgwylier iddynt ei dalu yn chwerthinllyd o isel wrth ein safonau ni - cwpl o gannoedd.  Penderfynais beidio son wrth neb faint dwi'n ei dalu rhag i'r newyddion gerdded a pheri i'r cwbl lot redeg (neu ddreifio) i North Wall a thaflu eu hunain i'r mor.



Arbrawf Bach

Blog gwleidyddol ydi Blogmenai, ac er fy mod ar fy ffordd i Iwerddon ar fy ngwyliau, mi geisiwn gynhyrchu cyfres o flogiadau byr o ffon symudol sydd a chynnwys gwleidyddol iddynt.

Artics yn ciwio i fynd ar y llong i Iwerddon a geir yn y llun. Maen nhw newydd symud trwy ddiffeithwch o safbwynt y diwydiannau cynhyrchu yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y 'drychineb' economaidd yn y Weriniaeth mae eu hallforion i wledydd ag eithrio'r DU yn £66bn. Y ffigwr cyfatebol i Gymru ydi £1.6bn. Yn wahanol i Brydain mae'r allforion o'r Weriniaeth yn uwch o lawer na'r mewnforion - o gwmpas ddwywaith yn nhermau sterling.


O.N Rydych newydd ddarllen y blogiad cyntaf yn hanes Blogmenai i'w lunio ar fwrdd llong.  

Friday, May 24, 2013

Gwrthrychedd y Bib yn dod i'r amlwg eto

Un o'r themau sy'n tueddu i ailgodi ym Mlogmenai yn aml ydi diffyg gwrthrychedd y Bib.  Am rhyw reswm dyma un o'r ychydig bethau sy'n ennyn cwynion y dyddiau hyn. Beth bynnag mae'n ymddangos bod diffyg gwrthrychedd wedi treiddio i wythiennau'r gorfforaeth i'r fath raddau nes ei fod yn cael ei adlewyrchu yn eu cynlluniau llawr ar gyfer staff ffilmio.  Cynllun o lawr Questiontime neithiwr sydd i'w weld isod.  Disgrifir John O'Dowd arno fel SF/IRA tra bod Ian Paisley (y mab, nid y tad) yn cael ei ddisgrifio fel DUP / Goodies.

Yn wahanol i nifer o arweinwyr eraill Sinn Fein does yna ddim lle o gwbl i gredu i John O'Dowd erioed fod yn aelod o'r IRA.  Mae barn anarferol y 'Goody' ar wahanol bynciau yn adnabyddus fodd bynnag.  Pan benododd David Trimble y disglair Stephen King i swydd ymgynghorol roedd sylwadau Ian Paisley yn - ahem - uniongyrchol.  Mae Stephen King yn digwydd bod yn hoyw.

"It is really astounding that David Trimble should have had a man such as this giving him advice - and must surely cast grave doubts on his own political judgement. I think these sorts of relationships are immoral, offensive and obnoxious".

Mae Ian hefyd o'r farn y dylid saethu gweriniaethwyr sydd ddim yn derbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith  yn ddi seremoni ar y stryd.

Tra bod John O'Dowd yn magu ei deulu ar gyflog diwydiannol cyfartalog mae Paisley a'i deulu wedi godro'r trethdalwr i raddau grotesg.  Ar un amser roedd Ian jnr yn cael cyflog fel ymchwilydd gwleidyddol i'w dad, fel Aelod Cynulliad ac fel is weinidog yn llywodraeth Gogledd Iwerddon - i gyd ar yr un pryd.

Ond beth ydi'r ots?  Mae'r Bib wedi dotio ar Jac yr Undeb, y teulu Windsor a'r seremoniau plentynaidd di ddiwedd sydd ynghlwm a nhw, ac mae Paisley wedi dotio ar yr un pethau.  A dyna'r pethau pwysig i'r Bib yn y pen draw - teyrngarwch sefydliadol Prydeinig.

Thursday, May 23, 2013

Gwneud sioe fawr o wneud dim

Felly mae Mark Antoniw, Owen Smith, Chris Bryant a'n hen gyfaill Leighton Andrews yn benderfynol eu bod am gadw adran damweiniau Ysbyty Frenhinol Morgannwg yn Llantrisant ar agor.  Yn wir  maent mor benderfynol o'i cadw'n agored nes iddynt fynd ati i lawnsio ymgyrch i'r perwyl hwnnw.  Ymgyrch fydd wrth gwrs yn dod a chryn sylw i'r pedwarawd  - mi fyddan nhw'n cael  anerch cynulleidfaoedd o bobl i ddweud cymaint maent yn gwrthwynebu'r cynlluniau, sefyll ar y palmant ym Mhontypridd a Threorci yn hel deiseb a dweud wrth bawb cymaint maent yn gwrthwynebu'r cynlluniau -  cael eu gweld fel pobl sy'n ceisio gwneud rhywbeth.  Mae y rhywbeth hwnnw yn debygol o fod yn gwbl aneffeithiol wrth gwrs.

Mae yna rhywbeth arall llawer mwy effeithiol y gallant ei wneud.   'Dydi swyddfeydd Leighton Andrews a Mark Drakeford yn y Cynulliad ddim ymhell oddi wrth ei gilydd.  Gallai Leighton godi oddi ar ei ben ol, croesi'r 'stafell gabinet ac ymweld a Mark Drakeford i gael gair bach efo fo am ddyfodol yr uned.  Ni fyddai hynny'n dod a mymryn o sylw i Leighton  - ond dyna'r ffordd mwyaf effeithiol o gadw'r uned yn Llantrisant.  Ond mae  ymddangos i wneud rhywbeth yn bwysicach o lawer na gwneud rhywbeth.

A dyna ni'r Blaid Lafur Gymreig i'r dim - nhw ydi'r sefydliad yng Nghymru, ganddyn nhw mae'r grym, mae pob dim yn troi o'u cwmpas nhw.  Ond maen nhw hefyd eisiau bod yn wrth sefydliadol ar yr un pryd - sefydliad gwrth sefydliadol.  

Monday, May 20, 2013

Chwalfa'r Toriaid yn mynd o ddrwg i waeth

O diar - yn ol y pol diweddaraf (Survation) dim ond 2% sydd rhwng y Toriaid ag UKIP.  Y ffigyrau yn llawn ydi UKIP 22%, Toriaid 24%, Llafur 35% a'r Lib Dems 11%.

Yn rhyfedd iawn byddai canlyniad felly yn arwain at y dosbarthiad seddi canlynol - Llafur 377, Toriaid 205, Lib Dems 35 UKIP 1, a chenedlaetholwyr 9.  Mae cefnogaeth gyson yn weddol ddiwerth o dan ein cyfundrefn etholiadol ni (oni bai bod lefel y gefnogaeth yn uchel iawn) - a chefnogaeth gyson sydd gan UKIP ar hyn o bryd.

Sunday, May 19, 2013

Y Toriaid yn dychwelyd i'r dyfodol

Fel mae dyn yn heneiddio mae yna rhywbeth yn braf am weld hen batrymau cyfarwydd yn ail adrodd eu hunain.  Tori blaenllaw yn galw actifyddion ei blaid yn mad, swivel eyed loons, pawb o fewn y blaid honno yn ffraeo efo pawb arall ynglyn ag Ewrop, Toriaid adnabyddus o'r gorffennol pell yn ymddangos fel ysbrydion i feirniadu arweinyddiaeth eu plaid, llwyth o aelodau seddi cefn yn gwneud sioe fach o bleidleisio yn erbyn eu llywodraeth eu hunain, rhai o'r mad swivel eyed loons yn sefyll y tu allan i 10 Downing Street yn myllio o flaen y camerau teledu am y sawl sy'n byw yn y ty hwnnw - gyda'u llygaid yn troelli'n lloerig yn eu pennau. Swnio'n debyg iawn i'r 80au hwyr a'r 90au mewn aml i ffordd.  

  Pendraw'r gorffwylldra mewnol yma yn y gorffennol oedd colli grym a gweld lefelau cefnogaeth yn sownd o gwmpas 30% am ddegawd a mwy.  Ffliwc oedd yn gyfrifol am gael y Toriaid allan o'r rhigol hwnnw - cyfuniad o arweinydd Llafur trychinebus, cyfres o ryfeloedd amhoblogaidd a'r economi yn diflanu'n ddi seremoni i lawr y toiled.  Hyd yn oed efo storm berffaith y tu cefn iddynt ni lwyddodd y blaid i ennill grym ar ei phen ei hun.  A rwan - gyda'r storm honno wedi gostegu a'r un hen batrwm o gecru, myllio ac actifyddion a gwleidyddion yn lladd ar ei gilydd wedi ail sefydlu - mae'r lefelau cefnogaeth yn ol yr ochr anghywir o 30%, a chenhedlaeth arall fel gwrthblaid yn gyflym agosau.

Ar un olwg byddai dyn wedi disgwyl y byddai'r Toriaid wedi dysgu rhywbeth o'u hanes eu hunain.  Ond y broblem ydi nad ydyn nhw'n gallu dysgu - mae yna elfennau sy'n rhy groes i'w gilydd oddi fewn i'r blaid, ac mae'r elfennau hynny yn credu mai eu heiddo nhw ydi'r blaid honno.  Felly bydd y sioe yn mynd rhagddi tan ychydig fisoedd cyn yr etholiad nesaf pan fydd pawb yn gwneud ymdrech anferthol i smalio bod yn ffrindiau, bydd yr etholiad yn cael ei cholli a bydd cyfnod estynedig arall fel gwrthblaid yn aros y Toriaid.  

Thursday, May 16, 2013

Methu gweld yr eliffant ar ei stepan drws

Y ffaith bod Plaid Cymru 'yn yr anialwch' yn dilyn etholiadau lleol Ynys Mon ydi thema ein cyfaill yr wythnos yma.  Mae Gwil yn ymddangos yn hapus iawn bod Plaid Cymru yn y dywydedig anialwch, ac mae'n gwbl sicr ei farn mai'r rheswm am hynny ydi'r ffaith nad ydi'r Blaid mor ddi amwys frwdfrydig tros ynni niwclear nag ydi Gwil ei hun.


Rwan, mae'r dyn yn gywir nad ydi'r Blaid mewn grym - hi ydi'r wrthblaid a chyfuniad o bawb arall sy'n llywodraethu.  Ond dydi bod yn brif wrthblaid ddim yn gyfystyr a bod mewn anialwch.  Fel rydym wedi ei awgrymu eisoes mae sefyllfa felly yn cynnig cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Ond rhywbeth mwy diddorol ydi pam bod Gwil yn gwneud cysylltiad rhwng ynni niwclear a phenderfyniad Llafur i fynd i glymblaid efo'r Annibyns, er taeru du yn wyn na fyddant yn gwneud y ffasiwn beth cyn diwrnod yr etholiad.   Yn wir pan holwyd arweinydd y Blaid Lafur pam y daethanti'w penderfyniad ar Radio Cymru roedd ei ateb yn gwbl glir - doedd o ddim yn 'nabod llawer o'r pleidwyr newydd, ac roedd o'n ofn rhyw hen radicalaeth.  Mae hyn yn crisialu gwleidyddiaeth  draddodiadol Ynys Mon yn ddigon twt - rhaid peidio delio efo'r anghyfarwydd a rhaid osgoi radicaliaeth doed a ddelo.  Er gwaethaf yr holl gelwydd y byddant yn newid pethau o gael eu hethol, mae'n ymddangos bod meddylfryd cynghorwyr Llafur Ynys Mon wedi ei angori'n soled ym nhraddodiad hen wleidyddiaeth Ynys Mon.

Ta waeth, mae Gwil yn llafurio efo'r argraff ei fod yn gwybod yn well na'r sawl wnaeth y penderfyniad pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw.  Pam?  Wel dydw i ddim eisiau ymddwyn fel Gwil ei hun a smalio fy mod yn gwybod yn well nag unigolion beth maen nhw eu hunain yn ei feddwl.  Serch hynny rydym yn gwybod nad ydi'r hen foi yn hoffi Leanne Wood (dim digon adnabyddus iddo a rhy radiacal da chi'n gweld) a'i fod yn hoff iawn o bwerdai niwclear.  Dwi'n amau dim bod Gwil wedi edrych ymlaen yn arw at ganlyniadau'r etholiadau i weld y Blaid yn methu a'r Blaid Lafur yn llwyddo, ac wedi edrych ymlaen hyd yn oed mwy at gael priodoli hynny i'w annwyl orsaf niwclear.  Ond och a gwae, pan ddaeth dydd y cyfrif cafodd plaid Gwil y stid fwyaf ofnadwy - er gwaethaf eu hymdrechion di ddiwedd i gysylltu eu hunain a'r syniad o godi ail orsaf ar Ynys Mon, tra bod y Blaid wedi llnau'r llawr efo nhw ym mron i pob twll a chornel o'r ynys.  Felly dyna fynd ati i addasu'r naratif rhyw ychydig.  Mor un llygeidiog ag ydi Gwilym, fedrai hyd yn oed fo ddim honni i'r Blaid wneud yn sal, felly dyna fynd ati i briodoli methiant i ennill grym yn hytrach na methiant i ennill fots i amwyster ynglyn a gorsaf niwclear ar Ynys Mon.

Ac wrth gwrs gan fod Gwil wedi penderfynu ar ei naratif cyn yr etholiad mae'n methu'n lan a sylwi ar yr eliffant mawr hyll ar y stepan drws - y gweir etholiadol anferth a gafodd Llafur ar yr ynys - ynys sydd yn cael ei chynrychioli gynddynt yn San Steffan.  Mi lwyddodd hoff blaid Gwil i gael cweir yn ardaloedd trefol Mon hyd yn oed - methu a chadw eu sedd yn Nhwrcelyn, methu a dod o flaen John Arthur  yng Nghanolbarth Mon, dod y tu ol i dri phleidiwr, dau Annibyn, dau Lib Dem yn Aethwy, gweld dau o'u hymgeiswyr yn dod y tu ol i UKIP yn Ynys Cybi a chael eu tri ymgeisydd ar waelod y pol yn Lligwy.  Mae'n debyg mai hon oedd  y gweir fwyaf i Lafur o holl etholiadau Cymru a Lloegr ar ddiwrnod yr etholiad - ac hynny mewn etholaeth San Steffan maent yn ei dal.

Ac mae Gwil wedi methu'r cyfan.  Y mater sydd o arwyddocad iddo fo ydi bod llond crochan o Doriaid, Gombins, Llafurwyr, Lib Dems a Nimbis wedi dod at ei gilydd i gadw Plaid Cymru allan o rym.  Dydi o ddim yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl o'r ffaith bod cryn draddodiad o glymblaid fel hyn yn dod at ei gilydd yn y Gorllewin - yn Sir Gaerfyrddin ac yn Sir Geredigion tan yn ddiweddar er enghraifft.  A'r rheswm maen nhw'n dod at ei gilydd? Dim oll i'w wneud efo ynni niwclear wrth gwrs. Ond yn hytrach - ag aralleirio'r hyn ddywedodd&nbsp Arwel Roberts, arweinydd Llafur ar Gyngor Mon - maen nhw'n ofn yr anghyfarwydd, yn ofn yr hyn sy'n radical, yn ofn newid. Mae'n nhw'n gasgliad o geidwadwyr cul sy'n ofn unrhyw newid am eu bywydau.

Tuesday, May 14, 2013

Panig bach y Toriaid


Un o'r ychydig bethau cadarnhaol i ddod o lwyddiant diweddar UKIP ydi'r panig sy'n ymledu trwy'r Blaid Doriaidd.  Adlewyrchiad o'r panig hwnnw ydi penderfyniad pedwar o aelodau seneddol Toriaidd Cymru i gicio yn erbyn y tresi mewn perthynas ag Ewrop.  Petai'r polau diweddaraf yn cael eu hadlewyrchu mewn etholiad cyffredinol byddai tri ohonynt - Stephen Hart, Alun Cairns a Guto Bebb yn colli eu seddi, ac mae sedd y pedwerydd - David Davies - wedi ei lleoli mewn rhan o Gymru lle gallai UKIP ddisgwyl gwneud argraff sylweddol.  Y sleisen o'u pleidlais fyddai'n cael ei gymryd gan UKIP fyddai'n gwneud y gwahaniaeth i'w gobeithion i raddau helaeth.

Mae'n debyg bod yr hogiau yn gobeithio y bydd yr holl sioe yn apelio at gefnogwyr UKIP.  Ond y broblem ydi bod ymddangos yn anghytun a ffraegar yn debygol o fod yr un mor niweidiol i'r Toriaid a bygythiad etholiadol UKIP.  Wedi'r cwbl ffraeo tros Ewrop oedd yn rhannol gyfrifol am y gweir fwyaf yn hanes diweddar y Toriaid yn 1997.  Doedd yna ddim bygythiad arwyddocaol o gyfeiriad UKIP bryd hynny wrth gwrs.  Gallai'r cyfuniad o'r ffraeo traddodiadol Toriaidd ynglyn ag Ewrop ar un llaw ynghyd ag UKIP yn bwyta i mewn i'w cefnogaeth ar y llall yn hawdd sicrhau bod etholiad 2015 yn waeth i'r Toriaid nag oedd un 1997 hyd yn oed.

Thursday, May 09, 2013

Alun Ffred yn rhoi'r gorau iddi yn 2016


Felly mae'r hyn sydd wedi bod yn dipyn o gyfrinach agored ers tro bellach wedi ei gadarnhau - mae  Alun Ffred Jones yn rhoi'r gorau iddi fel AC Arfon wedi'r etholiad nesaf.

Er i Ffred fethu'n lan a meistrioli rhai sgiliau gwleidyddol pwysig - rhoi swsus i fabis, smalio crio mewn cynhebryngau pobl nad yw yn eu hadnabod, cofio manylion megis bod Mrs Jones yn chwaer yng nghyfraith i wyres hanner chwaer Anti Jen - mae wedi bod yn aelod etholedig nodedig ym mhob ffordd arall.  Llwyddodd i wneud ei waith yn hynod effeithiol ym Mae Caerdydd fel gweinidog ac aelod tra'n gwneud y gwaith caib a rhaw adref.  Bu hefyd yn gefn i'r Blaid ar lawr gwlad Arfon gan gefnogi amrywiol weithgareddau'r canghenau ar hyd a lled yr etholaeth.  Mae'n un o'r bobl hynny sy'n ddigon ffodus i allu dweud rhywbeth synhwyrol o'r frest am unrhyw bwnc dan haul ar ol rhybudd o tua ugain eiliad. Dyna pam mae'n cael ei hun yn gorfod siarad ym mhob cinio, bore coffi, jambori neu ffair sborion mae'n mynd ar eu cyfyl.  Symudwyd y Gymraeg ymlaen yn sylweddol iawn o ran statws swyddogol yn ystod ei gyfnod fel gweinidog treftadaeth.   Mae'r ffaith iddo gynyddu mwyafrif oedd eisoes yn fawr yn erbyn llif cenedlaethol yn 2011 yn adrodd cyfrolau am ei effeithiolrwydd yn lleol.

Felly mae yna  gryn fwlch i'r sawl sy'n ei ddilyn ei lenwi.  Gall Blogmenai ddatgelu y bydd Sian Gwenllian, cynghorydd Felinheli, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a deilydd y portffolio addysg yn rhoi ei henw ymlaen.  Byddai Sian yn ymgeisydd cryf gyda'i brwdfrydedd, dealltwriaeth o'r cyfryngau, parodrwydd i weithio'n galed a chysylltiadau lleol - hanfodion ymgeisydd effeithiol yn yr oes sydd ohoni.  Byddai hefyd yn well am roi swsus i fabis na'i rhagflaenydd.

Tuesday, May 07, 2013

Y diweddaraf o Fon

Mae bellach yn edrych yn debygol - er nad yn sicr - mai clymblaid rhwng Llafur a'r criw annibynnol fydd yn rhedeg Cyngor Mon yn y dyfodol agos o leiaf.  Mae mathemateg y sefyllfa yn sicrhau mai'r un peth sy'n sicr ydi bod Llafur am fod yn rhan o'r weinyddiaeth nesaf - beth bynnag arall sy'n digwydd.

Mi fyddai'n well o safbwynt y Blaid petai'n arwain y weinyddiaeth nesaf - ennill ac ymarfer grym ydi pwynt gwleidydda.  Ond os mai clymblaid Llafur / Annibynnol fydd yn rheoli bydd cryn dipyn o gysur i'w gymryd o'r sefyllfa.  Bydd yn niweidio'r Blaid Lafur, a bydd yn niweidio'r Annibyns ar yr un pryd.  Bydd rhaid i bwy bynnag sy'n rheoli gymryd penderfyniadau anodd, ac mae yna botensial di ben draw i wneud smonach o bethau.  Os ydi'r gorffennol yn dweud unrhyw beth wrthym am y dyfodol mae'n debygol y bydd y grwp Annibynnol yn hynod o ansefydlog a ffraegar.

Yn bwysicach bydd cysylltiad efo Llafur yn niweidiol i lawer o'r Annibyns efo'u cefnogaeth wledig lled geidwadol a bydd cysylltiad efo rhai o gombins y grwp Annibynnol yn niweidiol i blaid sy'n hoffi cymryd arnynt i fod a rhyw fath o waelod fel y Blaid Lafur.  Gallai cysylltiad efo antics y gorffennol agos - os bydd rheiny yn cael eu hailadrodd - fod yn fwy niweidiol byth.  Byddai peidio a bod mewn grym yn siomedig - ond byddai'n gwneud pethau'n haws i'r Blaid yn 2015' a 2016 a 2017.

Sunday, May 05, 2013

Goblygiadau twf UKIP i wleidyddiaeth yng Nghymru

Mae'n anffodus nad ydi'r Hogyn o Rachub yn blogio mor aml ag yr oedd ar un adeg, mae ei flogiadau pob amser werth eu darllen - er mae'n well osgoi darllen yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am ei deulu.  Mae rhai pethau mae'n well peidio eu gwybod.  Ta waeth wele ei flogiad diweddaraf ar lwyddiant UKIP yn etholiadau lleol Lloegr a goblygiadau hynny i'r dyfodol.

Mae'r blog yma yn naturiol ddigon wedi canolbwyntio ar yr etholiadau lleol yn Ynys Mon tros y dyddiau diwethaf, ond mae'r etholiadau yn Lloegr gyda goblygiadau i Gymru hefyd - yn arbennig felly cyn eu bod yn ganlyniadau mor hynod.  Maent wedi eu nodweddu gan berfformiad cryf iawn gan UKIP a chanlyniadau oedd oll mewn gwahanol ffyrdd yn siomedig i'r prif bleidiau unoliaethol.

Y peth cyntaf - a'r peth mwyaf amlwg - i'w nodi ydi bod y datblygiadau yma'n newid y gem.  Am y tro cyntaf mae Lloegr yn cael ei hun mewn tirwedd pedair plaid, ac mae yna bump yma yng Nghymru.  Mae'n anhebygol y bydd y sefyllfa yma'n parhau yn yr hir dymor, ond mae'n weddol sicr y bydd yn cymryd rhai blynyddoedd cyn i'r sefyllfa newydd, gymhleth sydd ohoni ddod i ben.

Mae'r data sydd ar gael yn sgil etholiadau ddydd Iau yn awgrymu bod UKIP yn cymryd pleidleisiau oddi wrth y dair plaid unoliaethol arall - ond bod y Toriaid yn colli mwy o bleidleisiau a bod Llafur yn cael eu digolledu am eu colledion nhw gan enillion o gyfeiriad y Lib Dems.  Mae hefyd werth nodi nad yw'n debygol y bydd UKIP yn cymryd pleidleisiau gan Blaid Cymru, a gallai hynny roi mantais iddi mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae hi'n debygol y bydd llwyddiant UKIP yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru.  Wnaeth hynny ddim digwydd yn Ynys Mon wrth gwrs - roedd cyfradd cefnogaeth UKIP tua chwarter yr hyn oedd yn Lloegr.  Ond mae yna rannau o Gymru sy'n fwy UKIP gyfeillgar nag Ynys Mon.  Yn etholiad Ewrop 2009 roedd cefnogaeth UKIP tros y DU yn 16.5%.  Roedd yn is yng Nghymru - ond ddim yn arwyddocaol is - 12.8%.  Petai etholiadau lleol tros Gymru ddydd Iau mae'n anhebygol y byddai cymhareb felly wedi cael ei chynnal, ond mi fyddai UKIP yn debygol o fod wedi dychwelyd cynghorwyr mewn nifer o ardaloedd.  Mae'r tirwedd yng Nghymru hefyd wedi newid, ac mi geisiwn ddisgrifio effaith tebygol hynny yn y dyfodol.

Mi gychwynwn efo'r etholiad hawsaf i'w darogan - un Ewrop y flwyddyn nesaf.  Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad oes gan y Lib Dems unrhyw obaith o gwbl o gael sedd.  Dydyn nhw ddim yn gystadleuol mewn etholiadau Ewrop yng Nghymru pan mae'r gwynt yn eu hwyliau.  Dydi'r gwynt ddim yn eu hwyliau ar hyn o bryd.  Does yna ddim llawer o bobl yn cofio mae'n debyg gen i i'r Toriaid ddod yn gyntaf yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw.  Y canlyniad oedd Toriaid 21.2%, Llafur 20.3%, Plaid Cymru 18.5% ac UKIP 12.8%.  Cafodd y pleidiau hynny sedd yr un.  Tan yn ddiweddar byddai dyn wedi disgwyl i Lafur gynyddu eu pleidlais digon i gael mwy na dwywaith pleidlais UKIP ac felly cymryd eu sedd.  Dydi hynny ddim yn debygol o ddigwydd bellach.  Ond petai'r un gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yn digwydd yng Nghymru yn yr etholiadau Ewrop a ddigwyddodd yn etholiadau lleol Lloegr ddydd Iau yna byddai'r Toriaid yn colli eu sedd i Lafur.

O edrych ymhellach ymlaen i etholiad cyffredinol 2015 mae'n mynd yn fwy anodd.  Gellir disgwyl i UKIP wneud yn well nag yn 2010, ond mae'r cyfryngau yn tueddu i wasgu pleidiau ag eithrio Llafur, y Toriaid neu'r Lib Dems allan o'r darlun.  Ond a chymryd patrwm lle mae'r Toriaid yn colli i Lafur ar un llaw ac i UKIP ar y llall tra bod y Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i Lafur gellir darogan y bydd y rhan fwyaf o seddi'r Toriaid o dan bwysau.  Mae gan pob aelod seneddol Toriaidd lle mae Llafur yn ail gydag eithriad David Davies le i boeni.  Mae hynny'n arbennig o wir mewn etholaethau lle mae gan y Lib Dems bleidlais barchus (y cwbl ohonyn nhw erbyn meddwl).  Mae'r Lib Dems yn siwr o golli Canol Caerdydd a fyddan nhw ddim yn ennill sedd o'r newydd.  Mae'r symudiad oddi wrth y Toriaid at UKIP yn fanteisiol iddynt ym Mrycheiniog. Maesyfed ond ddim yng Ngheredigion. Er bod Ceredigion ac Ynys Mon yn parhau i fod yn anodd i'r Blaid, mae'r ddwy yn fwy tebygol o lawer yn sgil datblygiadau diweddar, ac o gael yr ymgeisydd iawn a chanolbwyntio adnoddau yn ofalus mae'r ddwy bellach yn bosibiliadau pendant.  

Mae etholiad y Cynulliad 2016 yn fwy anodd eto i'w ddarogan. Bydd llawer yn dibynu os bydd Llafur mewn grym yn San Steffan. Gallai hynny arwain y ffordd at etholiad da neu dda iawn i Blaid Cymru. Ond y naill ffordd neu'r llall byddai hyd yn oed perfformiad tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn Ynys Mon yn gwneud UKIP yn gystadleuol yn y seddi rhanbarthol. Os bydd UKIP yn dod o flaen y Lib Dems yn y rhanbarthau - ac o dan amgylchiadau heddiw byddai hynny'n siwr o ddigwydd - byddai UKIP yn debygol o gymryd 5 a gadael y Lib Dems heb unrhyw seddi rhanbarthol. Byddai'r Cynulliad yn lle ofnadwy o unig i Kirsty Williams.

Friday, May 03, 2013

Etholiad Mon - sylwadau brysiog


  • Y peth amlwg i son amdano ydi perfformiad y Blaid - mae'n berfformiad cadarn iawn, ac efo dipyn o lwc gallai fod wedi bod yn un gwych.  Byddai nifer fach o bleidleisiau ychwanegol mewn pedair ward (Lligwy, Bro Rhosyr, Seiriol a Talybolion) wedi rhoi 16 sedd a grym llwyr i'r Blaid. 
  • Does yna ddim modd gor bwysleisio canlyniad mor erchyll ydyw i'r prif bleidiau unoliaethol - ac yn enwedig felly y Toriaid a Llafur.  Llwyddodd y Toriaid i gael llai o bleidleisiau nag UKIP, a chafodd y Blaid fwy na'r Lib Dems, Llafur a'r Toriaid efo'i gilydd.   
  • Mae'r traddodiad annibynnol yn fwy gwydn nag oedd llawer ( gan gynnwys fi) yn ei gredu.  Serch hynny nid ymgeiswyr annibynnol gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholiadau lleol ar Ynys Mon am y tro cyntaf erioed.  Mae hyn yn newid sylweddol. 
  • Dwi'n amau y bydd Albert Owen yn cysgu'n rhy dda heno.  Dwi'n gwybod bod etholiad cyffredinol yn beth gwahanol iawn i etholiad lleol, dwi'n gwybod bod yna amgylchiadau arbennig y tro hwn - ond roedd gan bawb yn Ynys Mon gyfle i fotio i Lafurwr ac 17% wnaeth hynny.  Mi fydd yna ogwydd cyffredinol tuag at Lafur yn 2015 ond Ynys Mon ydi Ynys Mon.  Os bydd y Blaid yn dewis yn ddoeth - yn dewis rhywun efo hygrededd ar lawr gwlad Mon - mae'r hyn oedd yn edrych yn hynod anhebygol ychydig wythnosau yn ol yn ymddangos yn bosibl yn fwyaf sydyn. 
  • Mae perfformiad sobor Llafur yn haeddu sylw pellach.  Methodd y blaid yn llwyr a gwneud argraff y tu allan i ardal Caergybi.  Er iddynt ennill sedd yn Seiriol (ardal Beamaris) pleidlais Alwyn Rowlands nid un Llafur oedd honno.  Cafodd eu hail ymgeisydd bleidlais digon tebyg i un UKIP.  Ar ben hynny tan berfformiodd Llafur yn eu cadarnle yn ardal Caergybi.  Dwy o'r dair sedd a gawsant yn ward Caergybi - ardal drefol, dlawd Saesneg o ran iaith - ac roedd UKIP yn agos at gymryd eu hail sedd.  Mae ward gyfagos Ynys Cybi yn fwy dosbarth canol ond mae'n cynnwys ardaloedd Maeshyfryd a Kingsland yn nhref Caergybi - ardaloedd a ddylai fod yn ddelfrydol i Lafur.  Plaid Cymru ddaeth ar ben y rhestr, collodd John Chorlton - arweinydd Llafur ei sedd gan ddod ar ol UKIP.  Roedd eu dau ymgeisydd arall y tu ol i'r Toriaid hyd yn oed.  Mae yna rhywbeth sylfaenol o'i le ar drefniadaeth Llafur ym Mon - a hyd yn oed ar Ynys Cybi ei hun.   
  • Mae arweinyddiaeth bresenol y Blaid yn wahanol i'r rhai rydym wedi eu cael yn y gorffennol o ran arddull i'r graddau ei bod yn arweinyddiaeth 'hands on' iawn o ran ymgyrchu a chymryd rhan mewn etholiadau.  Mae'r ffordd yma o fynd ati wedi talu ar ei ganfed y tro hwn ac mae'n bluen yn het yr arweinydd (cymharol) newydd. Mae'n debyg mai dyma'r ymgyrch fwyaf brwdfrydig a threfnus yn Ynys Mon ers ethol Ieuan Wyn Jones yn ol yn 1987.  Mae'r ymgyrch wedi cryfhau'r drefniadaeth leol yn sylweddol a gellir mynd ati i adeiladu ar hynny o gwmpas y cynghorwyr newydd.  
  • Mae'r Blaid ym Mon i'w llongyfarch am eu hymgyrch y tro hwn.   Roedd yn drefnus, trylwyr a brwdfrydig.  
 Cyn gorffen mae'n debyg y dyliwn ddweud gair neu ddau am ymdriniaeth ystafell newyddion BBC Cymru.  Pan roeddwn yn mynd i'r gwaith y bore ma roedd yr hogiau wrthi'n brysur yn dweud wrthym  bod Ynys Mon yn union y math o le y gallai UKIP wneud yn dda ynddo.  Erbyn heno roeddynt yn gweld arwyddocad mawr i'r ffaith i'r blaid adain Dde ddod yn bedwerydd mewn un ward.  Rwan doedd UKIP erioed yn gystadleuol yn Ynys Mon - a fyddan nhw byth.   Ond maent wedi cael etholiad dda yn Lloegr.  Mae'n naturiol ddigon bod y Bib yn hefru am hynny.  Ond byddai'n syniad i'r Bib yng Nghymru lunio eu naratif eu hunain wrth ymdrin ag etholiadau yng Nghymru - naratif sy'n rhywbeth i'w wneud efo realiti gwleidyddol yng Nghymru.  Ond byddai hynny'n ormod i ofyn mae'n debyg gen i.

Thursday, May 02, 2013

Ewch i bleidleisio

Os ydych ddigon ffodus i fyw yn Ynys Mon ac heb bleidleisio eto ewch allan i wneud hynny.

Nid  yn aml y bydd etholwyr yn cael cyfle i fwrw eu pleidlais mewn modd sy'n rhoi cyfle i dorri'n gwbl glir oddi wrth orffennol gwael a dechrau symud tuag at tuag ddyfodol gwell.  Mae heddiw yn cynnig cyfle felly.  Peidiwch a'i wastraffu.

Wednesday, May 01, 2013

Etholiadau ddydd Iau - siroedd Lloegr

Mae'n debyg mai UKIP fydd y stori fawr yn y cyfryngau Prydeinig ddydd Gwener - am a ganran o'r bleidlais maent yn ei ennill os nad y nifer o'r seddi maent yn ei gael.  Mae'r polau piniwn yn ogystal ag is etholiadau San Steffan a lleol yn awgrymu i'r blaid adain dde symud ymlaen yn sylweddol ers etholiad 2010.

Mae'n debyg bod tri rheswm sylfaenol am hyn.  Yr un lleiaf pwysig ydi i'r BNP wneud yr hyn mae pleidiau neo ffasgaidd Prydain wedi ei wneud erioed a syrthio'n ddarnau oherwydd ffraeo mewnol.  Mae hyn wedi creu rhywfaint o le newydd ar y dde i UKIP, ond ddim cymaint a'r hyn sydd wedi ei greu gan ddyfodiad y glymblaid yn Llundain.  Mae hynny wedi llusgo 'r Toriaid i'r chwith ar yr un llaw tra'n gwneud y Lib Dems yn anaddas ar gyfer pleidleiswyr protest ar y llall.  Mae cryn dipyn o dir gwleidyddol felly wedi ei agor i UKIP.

Y gred hyd yn ddiweddar oedd y byddai UKIP yn cael pleidlais sylweddol, ond yn methu troi hynny'n nifer fawr o seddi - 40 i 60 o enillion efallai.  Byddai hyn yn eu rhoi yn bedwerydd.  Mae yna reswm da tros ddod i'r casgliad yma.  Does gan UKIP ddim llawer o beirianwaith ar hyd y DU, a bydd symudiadau cyflym tuag at pleidiau di beirianwaith yn tueddu i fod yn gyson ym mhob man.  Dydi'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym yn y DU ddim yn garedig efo pleidiau sydd a chefnogaeth nad yw'n  amrywio llawer o ardal i ardal - oni bai bod y gefnogaeth honno yn uchel iawn.

Yr enghraifft mwyaf enwog o hyn ydi etholiad 1983.  Roedd y Gynghrair SDP / Rhyddfrydwyr wedi hel cryn dipyn o gefnogaeth yn gyflym iawn.  Pan ddaeth yr etholiad cawsant 25.4% o'r bleidlais o gymharu a 27.6% Llafur.  Ond dim ond 23 o seddi a gawsant - o gymharu a 209 Llafur.  Roedd cefnogaeth y Gynghrair wedi ei dosbarthu yn gyfartal ar hyd y DU, tra bod un Llafur yn anwastad ac wedi ei ganoli ar ardaloedd trefol a diwydiannol.  Erbyn heddiw mae cefnogaeth y Lib Dems yn llai gwastad, ac mae ganddynt beirianwaith sylweddol mewn rhai ardaloedd.  Yn 2010 daeth 23% o'r bleidlais a 57 sedd iddynt.

Beth bynnag, cyhoeddwyd pol ComRes oedd wedi ei gymryd yn y siroedd (ceidwadol yn bennaf) lle   yr etholiadau lleol yn ystod y dyddiau diwethaf.  Mae'r marchnadoedd betio wedi symud yn sgil hynny.  Y canlyniad oedd Toriaid 31%, Llafur 24%, UKIP 22% a'r Lib Dems 12%.  Rwan petai hynny yn cael ei wireddu mae'n awgrymu y gallai UKIP gael mwy o seddi na mae pobl yn disgwyl.  Mewn ras 4 ceffyl bydd seddi yn cael eu hennill gyda chanran o 30%.  Dydi 22% ddim ymhell o 30%.  Gyda 1,745 o ymgeiswyr mae'n anodd dychmygu y bydd pleidlais UKIP mor gyson nes atal cwpl o gannoedd o ymgeiswyr rhag cael 30%+ a 40%+ a felly cael eu hunain yn cystadlu am y seddi hynny.

Etholiadau ddydd Iau - rhan 1 Ynys Mon

Mi fydd yna etholiadau yn rhai o siroedd Lloegr - rhai cymharol wledig a cheidwadol yn bennaf ac yn Ynys Mon ddydd Iau.  Cawn gip ar Ynys Mon yn gyntaf.

Er nad oes gen i lawer o wybodaeth arbennig ynglyn a sut mae pethau yn mynd dwi'n meddwl y bydd y Blaid yn gwneud yn dda, ac efallai yn dda iawn.  Mae yna nifer o resymau am hyn.

Mae'r traddodiad annibynnol ym Mon wedi methu mewn ffordd nad yw wedi methu yn unman arall yng Nghymru.  Er na ddylid byth dan gyfrif gallu rhai ar yr Ynys i beidio a gweld perthynas rhwng yr unigolyn maent yn pleidleisio trosto a'r weinyddiaeth yn Llangefni, mae yna syrffed cyffredinol efo antics y cyngor tros y blynyddoedd, ac mae hynny yn siwr o gael ei adlewyrchu yn y patrymau pleidleisio.

Mae'r drefniadaeth etholiadol newydd - llai o wardiau, llai o gynghorwyr, wardiau aml aelod - yn cynyddu'r pwysau ar yr ymgeiswyr annibynnol yn sylweddol.  Mae'n hawdd i unigolyn ddod i 'nabod digon o bobl i'w ethol mewn ward gyda 1,500 o etholwyr, ond mae'n stori cwbl wahanol mewn ward efo 6,000 o etholwyr.  Mewn ward o'r maint yma mae poblogrwydd plaid yn dod yn fwy pwysig na phoblogrwydd personol, ac mae'n anodd cysylltu efo trigolion pob rhan o'r ward heb gael trefniadaeth i wneud hynny.  Mae gan bleidiau gwleidyddol strwythurau i ymladd etholiadau tra nad oes gan unigolion drefniadaeth felly.

Felly gallwn ddarogan gyda pheth sicrwydd y bydd ymgeiswyr pleidiol yn gwneud yn well tra bydd rhai annibynnol yn gwneud yn salach.  Ond dydi hynny ddim yn egluro pam fy mod yn meddwl y bydd y Blaid yn gwneud yn dda.  Un rheswm amlwg ydi mai Plaid Cymru ydi'r blaid sydd efo'r mwyaf o gefnogaeth (ac aelodau) ar yr ynys.  Iawn - dwi'n gwybod Albert Owen ydi'r AS - a dydi hwnnw ddim yn Bleidiwr.  Ond mae etholiadau San Steffan yn rhai sydd yn cael eu hymladd mewn cyd destun o gyfraddau pleidleisio uchel a sylw cyfryngol Prydeinig di baid am wythnosau sy'n adlewyrchu naratifau etholiadol Prydeinig.  Cwestiwn sylfaenol etholiad San Steffan ydi pwy sydd fwyaf addas i lywodraethu yn San Steffan?

O ddileu'r amgylchiadau hyn mae Plaid Cymru pob amser yn perfformio'n well na'r pleidiau unoliaethol yn Ynys Mon - mewn etholiadau Ewrop, Cynulliad a rhai cyngor.  Does yna ddim rheswm o gwbl i feddwl y bydd pethau yn wahanol y tro hwn.  Y gwrthwyneb sy'n wir - mae Ynys Mon yn dir anodd iawn i'r Lib Dems hyd yn oed pan mae'r amgylchiadau ehangach yn ffarfiol - a dydyn nhw ddim ar hyn o bryd.  Dydi'r Toriaid ddim yn debygol o wneud yn dda chwaith - mae UKIP yn bwyta rhan o'u cefnogaeth ac mae amgylchiadau ehangach yn anodd iddynt hwythau.  Er bod yr etholaeth yn un llai gwledig na mae llawer o bobl yn dychmygu, mae yna rannau helaeth ohoni yn wledig ac felly yn anodd i'r Blaid Lafur.

Ychwanegwch at hynny'r ffaith i'r Blaid ymladd ymgyrch fwy eang a systematig na'r un o'r pleidiau eraill, a gallwn gymryd y bydd y Blaid yn gwneud yn dda.  Amser a ddengys os bydd yn gwneud yn ddigon da i gipio grym ar ei phen ei hun.