Thursday, May 09, 2013

Alun Ffred yn rhoi'r gorau iddi yn 2016


Felly mae'r hyn sydd wedi bod yn dipyn o gyfrinach agored ers tro bellach wedi ei gadarnhau - mae  Alun Ffred Jones yn rhoi'r gorau iddi fel AC Arfon wedi'r etholiad nesaf.

Er i Ffred fethu'n lan a meistrioli rhai sgiliau gwleidyddol pwysig - rhoi swsus i fabis, smalio crio mewn cynhebryngau pobl nad yw yn eu hadnabod, cofio manylion megis bod Mrs Jones yn chwaer yng nghyfraith i wyres hanner chwaer Anti Jen - mae wedi bod yn aelod etholedig nodedig ym mhob ffordd arall.  Llwyddodd i wneud ei waith yn hynod effeithiol ym Mae Caerdydd fel gweinidog ac aelod tra'n gwneud y gwaith caib a rhaw adref.  Bu hefyd yn gefn i'r Blaid ar lawr gwlad Arfon gan gefnogi amrywiol weithgareddau'r canghenau ar hyd a lled yr etholaeth.  Mae'n un o'r bobl hynny sy'n ddigon ffodus i allu dweud rhywbeth synhwyrol o'r frest am unrhyw bwnc dan haul ar ol rhybudd o tua ugain eiliad. Dyna pam mae'n cael ei hun yn gorfod siarad ym mhob cinio, bore coffi, jambori neu ffair sborion mae'n mynd ar eu cyfyl.  Symudwyd y Gymraeg ymlaen yn sylweddol iawn o ran statws swyddogol yn ystod ei gyfnod fel gweinidog treftadaeth.   Mae'r ffaith iddo gynyddu mwyafrif oedd eisoes yn fawr yn erbyn llif cenedlaethol yn 2011 yn adrodd cyfrolau am ei effeithiolrwydd yn lleol.

Felly mae yna  gryn fwlch i'r sawl sy'n ei ddilyn ei lenwi.  Gall Blogmenai ddatgelu y bydd Sian Gwenllian, cynghorydd Felinheli, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a deilydd y portffolio addysg yn rhoi ei henw ymlaen.  Byddai Sian yn ymgeisydd cryf gyda'i brwdfrydedd, dealltwriaeth o'r cyfryngau, parodrwydd i weithio'n galed a chysylltiadau lleol - hanfodion ymgeisydd effeithiol yn yr oes sydd ohoni.  Byddai hefyd yn well am roi swsus i fabis na'i rhagflaenydd.

8 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Sian Gwenllan!... Ti ddim yn deud!

Anonymous said...

Job iawn i chdi - a llai o hassle!

Cai Larsen said...

Yn yr oes sydd ohoni mae rhywbeth yn llai o hasyl.

Marc Jones said...

Pob lwc i Ffred ar ei ymddeoliad haeddiannol. Allai'm meddwl am neb gwell na Siân i'w olynu.

Anonymous said...

ga i feiddio tarfu ar y love-in Plaid Cymru?!!

ma Mesur Iaith Ffred wedi ei sgwennu mewn kling-on, sy'n rhyfedd o gofio mai hen athro Cymraeg ydio. roedd dros 150 o welliana i'r Mesur!

a be nath o i sortio TAN 20?

fydd Sian Gwenllian yn gaffaeliad i Arfon, y Cynlleiad a'r cyfrynga Cymraeg - fydd hi'n neis gweld dynas n cael ei hethol ar sail ei gallu, am change x

Ioan Bellin said...

Diolch am waith Alun Ffred - mae Sian Gwenllian yn ymgeisydd gwych fel olynydd yn enwedig gyda'r profiad o lywodraethu yng Nghyngor Wynedd

Anonymous said...

Syniad uffernol fydde ethol Sian. Mae iddi enw drwg bellach yn lleol oherwydd cau ysgolion. Amser am rhywun hollol newydd sydd ddim yn rhan o'r clic cyngor.

Anonymous said...

mae gen innau amheuaeth o ddoethineb dewis sian er ei rhinweddau. Mi fyddai llais gwynedd wrth eu bodd