Tuesday, May 28, 2013

Gemau Gwyddeleg

Un o'r ychydig bethau sy'n gyffredin rhwng Gwyddelod o gefndir cenedlaetholgar - ag eithrio cefndir Pabyddol - ydi diddordeb mewn gemau Gwyddeleg.

Gellir gweld tystiolaeth o hyn ar hyd a lled yr ynys - mae crysau GAA yn llawer mwy cyffredin ar y stryd na chrysau pel droed neu rygbi. Os ydi sir neu dref yn gwneud yn dda mewn rhyw gystadleuaeth neu'i gilydd mae baneri'n cael eu plastro ar pob polyn, pob gardd ffrynt a phob dim arall sy'n gallu cymryd poster. Dwi'n cofio dreifio trwy dref yn Kerry flynyddoedd yn ol a chael bod pobl wedi paentio eu ceir yn lliwiau'r tim lleol. Mae lonydd Iwerddon yn gallu bod yn brysur iawn ar ddyddiau Sul gan bod byddinoedd o bobl yn dilyn eu timau lleol o un rhan o'r wlad i'r llall.

Mae yna rhywbeth cadarnhaol iawn yn yr oes sydd ohoni bod gemau cynhenid, amaturaidd yn gallu esgor ar y fath frwdfrydedd. Mae'r llun wedi ei gymryd yn Cushendall, reit yng nghornel gogledd ddwyreiniol y wlad. Mae'r Alban yn nes at Cushendall na Belfast heb son am Ddulyn, ac mae tir mawr yr Alban i'w weld yn glir o'r traeth.

2 comments:

Anonymous said...

Gemau Gwyddelig yw'r term. Paid cyfieithu o'r Saesneg.

Gaeleg yn Gymraeg = Alban

Gwyddeleg/ig = Iwerddon

... fel arall, dalia i flogio. Difyr fel arfer.

Cai Larsen said...

OK - mi wna i hynny.