Tuesday, May 14, 2013

Panig bach y Toriaid


Un o'r ychydig bethau cadarnhaol i ddod o lwyddiant diweddar UKIP ydi'r panig sy'n ymledu trwy'r Blaid Doriaidd.  Adlewyrchiad o'r panig hwnnw ydi penderfyniad pedwar o aelodau seneddol Toriaidd Cymru i gicio yn erbyn y tresi mewn perthynas ag Ewrop.  Petai'r polau diweddaraf yn cael eu hadlewyrchu mewn etholiad cyffredinol byddai tri ohonynt - Stephen Hart, Alun Cairns a Guto Bebb yn colli eu seddi, ac mae sedd y pedwerydd - David Davies - wedi ei lleoli mewn rhan o Gymru lle gallai UKIP ddisgwyl gwneud argraff sylweddol.  Y sleisen o'u pleidlais fyddai'n cael ei gymryd gan UKIP fyddai'n gwneud y gwahaniaeth i'w gobeithion i raddau helaeth.

Mae'n debyg bod yr hogiau yn gobeithio y bydd yr holl sioe yn apelio at gefnogwyr UKIP.  Ond y broblem ydi bod ymddangos yn anghytun a ffraegar yn debygol o fod yr un mor niweidiol i'r Toriaid a bygythiad etholiadol UKIP.  Wedi'r cwbl ffraeo tros Ewrop oedd yn rhannol gyfrifol am y gweir fwyaf yn hanes diweddar y Toriaid yn 1997.  Doedd yna ddim bygythiad arwyddocaol o gyfeiriad UKIP bryd hynny wrth gwrs.  Gallai'r cyfuniad o'r ffraeo traddodiadol Toriaidd ynglyn ag Ewrop ar un llaw ynghyd ag UKIP yn bwyta i mewn i'w cefnogaeth ar y llall yn hawdd sicrhau bod etholiad 2015 yn waeth i'r Toriaid nag oedd un 1997 hyd yn oed.

1 comment:

Painter Cost said...

Very interesting to read line by line presents a unique and interesting content to anyone again.