Sunday, May 19, 2013

Y Toriaid yn dychwelyd i'r dyfodol

Fel mae dyn yn heneiddio mae yna rhywbeth yn braf am weld hen batrymau cyfarwydd yn ail adrodd eu hunain.  Tori blaenllaw yn galw actifyddion ei blaid yn mad, swivel eyed loons, pawb o fewn y blaid honno yn ffraeo efo pawb arall ynglyn ag Ewrop, Toriaid adnabyddus o'r gorffennol pell yn ymddangos fel ysbrydion i feirniadu arweinyddiaeth eu plaid, llwyth o aelodau seddi cefn yn gwneud sioe fach o bleidleisio yn erbyn eu llywodraeth eu hunain, rhai o'r mad swivel eyed loons yn sefyll y tu allan i 10 Downing Street yn myllio o flaen y camerau teledu am y sawl sy'n byw yn y ty hwnnw - gyda'u llygaid yn troelli'n lloerig yn eu pennau. Swnio'n debyg iawn i'r 80au hwyr a'r 90au mewn aml i ffordd.  

  Pendraw'r gorffwylldra mewnol yma yn y gorffennol oedd colli grym a gweld lefelau cefnogaeth yn sownd o gwmpas 30% am ddegawd a mwy.  Ffliwc oedd yn gyfrifol am gael y Toriaid allan o'r rhigol hwnnw - cyfuniad o arweinydd Llafur trychinebus, cyfres o ryfeloedd amhoblogaidd a'r economi yn diflanu'n ddi seremoni i lawr y toiled.  Hyd yn oed efo storm berffaith y tu cefn iddynt ni lwyddodd y blaid i ennill grym ar ei phen ei hun.  A rwan - gyda'r storm honno wedi gostegu a'r un hen batrwm o gecru, myllio ac actifyddion a gwleidyddion yn lladd ar ei gilydd wedi ail sefydlu - mae'r lefelau cefnogaeth yn ol yr ochr anghywir o 30%, a chenhedlaeth arall fel gwrthblaid yn gyflym agosau.

Ar un olwg byddai dyn wedi disgwyl y byddai'r Toriaid wedi dysgu rhywbeth o'u hanes eu hunain.  Ond y broblem ydi nad ydyn nhw'n gallu dysgu - mae yna elfennau sy'n rhy groes i'w gilydd oddi fewn i'r blaid, ac mae'r elfennau hynny yn credu mai eu heiddo nhw ydi'r blaid honno.  Felly bydd y sioe yn mynd rhagddi tan ychydig fisoedd cyn yr etholiad nesaf pan fydd pawb yn gwneud ymdrech anferthol i smalio bod yn ffrindiau, bydd yr etholiad yn cael ei cholli a bydd cyfnod estynedig arall fel gwrthblaid yn aros y Toriaid.  

1 comment:

Ioan said...

Edrychwch ar:
http://englandexists.com/wp/?p=1045#disqus_thread

Edrych bod UKIP o blaid Prydain co-federal (ella...).

Paragraph bach digri:

"During the UKIP conference in Birmingham I was slipped a piece of paper with details of UKIP’s new devolution policy and some notes confirming that the NEC had approved it and it had the blessing of UKIP Wales who have been a pain in the ass over devolution for some time, considering it the work of Satan (or worse, the French)."