Monday, June 10, 2013

Carwyn yn deffro am ychydig funudau

Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd roedd gen i athro ddylai fod wedi ymddeol flynyddoedd cyn iddo wneud hynny. . Wna i ddim o'i enwi - ond roedd yn enwog y tu allan i'r maes addysg. Roedd ganddo ddisgyblaeth arbennig o dda pan oedd yn effro, ond roedd y disgyblaeth hwnnw yn dirywio braidd pan syrthiai i gysgu - ac roedd yn syrthio i gysgu yn amlach ac yn amlach yn ystod misoedd olaf ei yrfa. Byddai'n deffro pan a'r swn yn ormodol ac yn mynd ati i ail sefydlu trefn - cyn syrthio i gysgu eto.

Roeddwn yn meddwl am yr hen greadur hwnnw wrth ddarllen am Carwyn Jones yn dweud y drefn wrth Leighton Andrews am ymgyrchu yn erbyn polisi cau ysbytai Llafur ar balmentydd y Rhondda. Ymddengys ei fod wedi sylwi o'r diwedd.

Dwi ddim yn siwr os ydi Carwyn yn dda am gadw trefn ar ei gyd Lafurwyr pan mae'n effro, a dydw i ddim yn siwr ei fod wedi deffro digon i sylwi nad ydi Leighton ar ei ben ei hun yn chwarae'r gem fach ragrithiol yma - mae Owen Smith, Mark Antoniw, Chris Bryant, Keith Davies a Nia Griffiths wrthi hefyd.

Yn fy mhrofiad i mae yfed coffi yn rheolaidd yn ffordd dda iawn o gadw'n effro.  Mae'n rhywbeth y gallai Carwyn ei ystyried.

No comments: