Saturday, June 01, 2013

Gwleidyddiaeth hunaniaeth a'r cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon

Gwleidyddiaeth hunaniaeth - fel mae'r enw yn awgrymu - ydi gwleidyddiaeth sy'n ymwneud a'r ffordd mae pobl yn diffinio eu hunaniaeth eu hunain. Gall hunaniaeth gyfeirio at ethnigrwydd, cenedl, rhywioldeb, hil, rhanbarth, dosbarth cymdeithasol, lliw, cefndir diwylliannol ac ati. Mae'n debyg bod hunaniaeth yn effeithio ar wleidyddiaeth bron i bawb i ryw raddau neu'i gilydd. Yr hyn sy'n nodweddu Gogledd Iwerddon ydi bod hunaniaeth yn tra arglwyddiaethu tros bron i pob ystyriaeth arall. Mae'r naratifau a greir gan wleidyddiaeth hunaniaeth yn gryfach nag unrhyw naratif arall - gan gynnwys y materion bara menyn sydd yn tra arglwyddiaethu yn y rhan fwyaf o lefydd. Cau ysbytai ydi'r stori yng Nghymru - pleidlais yn Stormont i wahardd spads gwleidyddol sydd a record parafilwrol a choctel sydd ar werth mewn bar yn Lloegr o'r enw Sunday Bloody Sunday oedd y materion mawr yng Ngogledd Iwerddon wythnos diwethaf.

Un o nodweddion gwleidyddiaeth hunaniaeth yng Ngogledd Iwerddon ydi'r angen i farcio tir - i ddangos pwy sydd 'biau' gwahanol ardaloedd. Mae unoliaethwyr yn fwy euog o hyn na chenedlaetholwyr. Mae yna filoedd ar filoedd o faneri Jac yr Undeb mewn ardaloedd unoliaethol dosbarth gweithiol ar hyd a lled y dalaith. Mae tricola'r Weriniaeth i'w gweld hefyd - ond ddim i'r un graddau. Mi fydd yna lawer iawn ohonynt yn ymddangos am ychydig wythnosau o gwmpas y Pasg - ond mae'r marcio tiriogaethol cenedlaetholgar yn tueddu i fod yn llai amrwd na'r marcio unoliaethol - dwyieithrwydd cyhoeddus, cyfeiriadau at Gemau Gwyddelig neu furluniau - sydd bellach yn aml ddim yn cyfeirio at y rhyfel hir yn uniongyrchol - er enghraifft. Mae'r murluniau teyrngarol wedi eu nodweddu gan ddiffyg datblygiad - lluniau yn clodfori'r UVF neu'r UFF ydi'r rhan fwyaf ohonynt hyd heddiw.

Mae'n debyg nad oes yna lawer o lefydd lle mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fwy gweladwy nag ydyw yn ninas Derry. Lluniau o ddwy stad ar lan orllewinol Afon Foyle a geir isod - Y Bogside a'r Fountain. Mae'r naill yn stad tai cenedlaetholgar sylweddol iawn, tra bod y llall yn stad fechan unoliaethol. Mae'r ddwy stad yn teimlo eu bod o dan warchae. Yn achos y Bogside cof o Bloody Sunday a'r is strwythur milwrol sylweddol oedd yn eu hamgylchu am ddegawdau sydd wrth gefn yr ymdeimlad. Yn achos trigolion y Fountain cred mai nhw ydi'r Protestaniaid olaf ar ochr orllewinol y Foyle - tir sydd yn bwysig i unoliaethwyr am resymau hanesyddol - sydd yn gyrru pethau.

Mae canfyddiad trigolion y Fountain wedi ei seilio i raddau ar symudiadau poblogaeth go iawn a ddigwyddodd yn ystod y trafferthion. Roedd yna fwyafrif hanesyddol Protestanaidd ar lan ddwyreiniol yr afon, ac atgyfnerthwyd hwnnw pan symudodd tros i dri chwarter y 12,000 o Brotestaniaid oedd yn byw ar y lan Orllewinol tris yr afon yn fuan wedi i'r helyntion gychwyn. Cafwyd symudiad cyfatebol o Babyddion i'r gorllewin. Arhosodd trigolion y Fountain yn y Gorllewin, gan wneud eu murluniau, eu baneri a'u hunaniaeth mor eglur ag oedd bosibl eu gwneud. Mae unoliaethwyr y lan ddwyreiniol yn gwneud eu gorau i ddangos mai nhw ydi perchnogion yr ardal honno hefyd. Mae yna faneri Jac yr Undeb i'w gweld yr holl ffordd trwy'r Waterside.

Ond yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod hanes wedi gadael y ddau ganfyddiad ar ol - ond mae fel petai'r naill ochr na'r llall wedi sylweddoli hynny. Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn dangos hynny yn boenus o glir. O safbwynt y Bogside mae bron i'r cwbl o'r is strwythur diogelwch wedi mynd. Prin bod unrhyw bresenoldeb diogelwch i'r gorllewin o'r Foyle. Yr hyn sydd yno ydi Pabyddion - miloedd ar filoedd ar filoedd ohonyn nhw - 54,976 a bod yn fanwl. 3,169 o Brotestaniaid sydd yno. Ar un olwg mae demograffeg a rhyfel wedi sicrhau bod ardal y dref gaerog - ardal sydd yn ymylu at fod yn santaidd i unoliaethwyr- bellach ynghanol mor o genedlaetholwyr. Yn yr ystyr hwnnw mae trigolion y Bogside - a'r stadau sydd i'r gorllewin iddynt - Creggan, Shantallow a'r holl ddatblygiadau tai mawr diweddar wedi ennill eu rhyfel.

Ond o graffu ar y ffigyrau mae yna wirioneddau eraill hefyd. Mae poblogaeth y Fountain yn syrthio. 364 sy'n byw yno bellach - 88 yn llai na ddeg mlynedd yn ol. O fynd yn ol ymhellach roedd y boblogaeth yn sylweddol. Yn wir mae yna bellach saith gwaith cymaint o Brotestaniaid yn byw ar, neu yn agos at, stadau Pabyddol y lan orllewinol na sydd yn byw yn y Fountain - ac yn gwneud hynny heb ddangos yr un baner na murlun unoliaethol neu deurngarol.

Ond yr hyn sydd o fwyaf o syndod ydi bod y mwyafrif unoliaethol ar y lan ddwyreiniol wedi mynd - beth bynnag mae baneri'r Waterside yn ei awgrymu. Mae yna 25,345 o Babyddion yn byw yn y Dwyrain o gymharu a 20,097 o Brotestaniaid. Rhith ydi'r syniad o lan ddwyreiniol unoliaethol bellach.

Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Derry yn cael ei adlewyrchu yng ngweddill y dalaith - er ddim i'r un graddau ym mhob man. Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi bod angen y gymuned unoliaethol i farcio tir a chynrychioli ei hun ar ffurf weledol yn cynyddu fel mae ei niferoedd yn godtwng.



No comments: