Sunday, June 23, 2013

Gwleidyddion Llafur sydd wedi gweithio yn y cyfryngau

Owen Smith  (Bib)
Chris Bryant (Bib)
Edwina Hart (Cyngor Darlledu Cymru)
Ann Clwyd (Bib)

Teimlwch yn rhydd i gyfeirio at fwy yn y dudalen sylwadau.

8 comments:

Anonymous said...

Eluned Morgan

Anonymous said...

Alun Davies AC!

Plaid Gwersyllt said...

Ddaru John Stevenson sefyll dros Lafur mewn rhyw oes o'r blaen?

Anonymous said...

Leighton Andrews newn rhyw capasiti hefyd .... dwi'n amau.

Beth am gynhyrchwyr rhaglenni Radio Wales hefyd?

Colwyn said...

Sandy Mewies AC
Ken Skates AC (Wrexham Leader)

Anonymous said...

Ti'n hollol iawn am hyn wrth gwrs.

Ond mae yna broblem ehangach hefo cais Rhun: sef y perig y bydd yn bwydo'r bubble hunan-fodlon hwn sy'n bodoli rhwng Cyfryngau Cymru a'r Cynulliad ymhellach.

Mae o fel petai'n cadarnhau gred hon mai rhywbeth ar gyfer criw bach o wleidyddion a hacs cyfryngol ydi gwleidyddiaeth Cymru yn bennaf, ac mai ond y ddwy garfan yna sy'n bwysig mewn gwirionedd.

Ia, mae yna ddadl bod cael rhywun sy'n deall y cyfryngau yn help ond mae yna berig y bydd o'n gwneud PC hyd yn oed yn fwy "ymwybodol-gyfryngol".

Dwi ddim mor siwr a yw hynny'n gymaint o fendith a hynny wrth geisio cyrraedd cynulleidfa newydd.

Cai Larsen said...

Mae'r bybl ti'n son amdano yn cwmpasu y cyfryngau Cymreig a'r weinyddiaeth Lafur yn y Cynulliad. Mae pawb arall ar y tu allan.

Mae gwleidyddion Llafur yn flin oherwydd eu bod nhw'n teimlo eu bod wedi eu bradychu. Maent yn disgwyl teyrngarwch gan y Bib a'r sawl sy'n gweithio i'r Bib.

Anonymous said...

Nath Rhodri Lewis, newyddiadurwr BBC Wales, hefyd sefyll i fod yn AS i Llafur. Credi nath e colli enwebiad i Geraint Davies yn Gorllewin Abertawe