Tuesday, July 23, 2013

Ble mae Tal?

Fel dwi'n 'sgwennu'r blogiad yma mae  gan y Blaid o leiaf bedwar tim allan yn canfasio ar |Ynys Mon a thim arall yn taflennu.  Y prynhawn yma mi fydd yna o leiaf bump tim canfasio allan a thim taflennu.  Heno bydd  o leiaf bump tim canfasio allan a thim taflennu.  Bydd y trefniadau yn debyg am weddill yr wythnos.

Dydw i ddim yn gwybod beth mae'r Blaid Lafur yn ei wneud, dydw i ddim wedi dod ar draws fawr ddim tystiolaeth o fodolaeth eu hymgyrch (mae'r un peth yn wir am y Lib Dems a'r Toriaid gyda llaw - er fy mod wedi dod ar draws taflenni UKIP).  Dydw i ddim wedi gweld cymaint ag un poster Llafur (na'r Lib Dems na'r Toriaid).  Dwi'n deall trwy gyfrwng trydar bod Llafur 'out canvassing in Holyhead, great reception, neu bod Tal yn bwyta bara brith tra'n edrych ar dy ei nain neu beth bynnag - ond dyna fo. 

A daw hynny a ni at ymgyrch Llafur ar y We.  Yn ol Tal fydd o ddim yn blogio yn ystod yr ymgyrch, ond mae'n rhoi tudalen i ni efo'r newyddion diweddaraf am ei ymgyrch.  Dydi honno heb ei diweddaru ers i rhyw ddynas digon ffeind yr olwg ym Miwmaris ddweud wrth Tal ac Edwina Hart ei bod yn ei gefnogi - chwe niwrnod yn ol.  Mae yna ambell i lun o Tal yn ymgyrchu wedi ymddangos yma ac acw ar negeseuon trydar pobl eraill - gan amlaf ar ffurf Tal ac Albert yn siarad efo rhywun.

Dydi'r ffrwd trydar Labour4YnysMon heb ei ddiweddaru ers ddydd Gwener, a dydi Tal heb drydaru ers ein darparu efo'r wybodaeth ddiddorol iddo gael oggie i de ddydd Sul.

Lle mae pawb?  Ydi Llafur yn ymgyrchu?  Ydi pawb wedi mynd adref?  Ydi'r oggie wedi gwneud Tal yn rhy sal i ymgyrchu?  

20 comments:

Anonymous said...

Oggie, oggie, oggie. ......

Dyfed said...

Gelli fod yn sicr fod Llafur yn ffonio miloedd.

Anonymous said...

Byddwch yn ofalus iawn - mae Llafur yn feistr ar yr ymgyrch dan y radar".

Anonymous said...

Dyma'r math o iaith sydd yn hynod o berygl o fewn y Blaid. Iaith tebygl a gafodd ei ddefnyddio yn 2001 - ac edrychwch ar be ddigwyddodd ar y noson honno!.

MAE'R blaid Lafur allan yn Ng'gybi. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod o'n gadarnle. Ac mae awr o ymgyrchu yn C'gybi werth tua 4 awr o ymgyrchu mewn ardal gwledig fel Bro Rhosyr. Felly mae tactegau Llafur yn spot on o ochr yma.

Be mae Llafur wedi gwneud ydy gyrru llythyrau 'personol' i tai ambell berson. E.e wedi gyrru llythyrau am Newry Beach i drioglion lleol.

Mae Rhyn wedi gyrru rhywbeth sydd wedi ei yrru yn ysgrifen fo. Ond HEB wedi ei wneud yn personol - sydd yn siomedig. Pam ddim adio pethau fel "dwin gwybod pa mor bwysig ydy Twrisitiaeth yn Biwmares" neu "pa mor bwysig yw Stad Diwydianol Gaerwen" ayyb. Ond dyna ni.

Mae Llafur hefyd hefo tim lawr yn Llundain a Caerdydd sydd yn ffonio nifer i fyny.

Yn olaf- edrychwch ar etholiad 2010. Plaid oedd hefor etholiad mwyaf slic hefo poster, pamffledi ayyb. Ond rhywsut, Llafur nath dal enill.


Mae Llafur yn gwybod sut i enill etholiad. Rhaid i Plaid Cymru beidio a bod yn 'complacent' oherwydd fydd on digon hawdd colli Mon wrth feddwl bod o 'in the bag'.

Mae o dal yn 'two horse race' - dalia i weithio Rhun!

Anonymous said...

Dwi yn byw yn Gaerwen a dwi ddim wedi gweld uffar o neb mond lackeys.

Anonymous said...

Deall fod pobol yn syrthio ar draws ei gilydd yn canfasio dros Rhun a rhai ddim yn gwybod be goblyn mae nhw'n neud na lle mae nhw i fod. Efallai fod tawelwch Llafur yn fwy trefnus!!

Cai Larsen said...

Dydw i ddim yn darogan dim eto - jyst dweud nad oes dim i'w weld o ran Llafur.

Cwpl o bwyntiau:

Dydi canfasio ffon ddim cystal o lawer na chanfasio stepan drws. Mae pobl yn eich drysu efo pobl o India sy'n trio gwerthu stwff a dydi llawer o bobl dosbarth gweithiol ddim efo landlines bellach.

Mae llawer iawn o bobl yn dweud nad ydyn nhw wedi clywed dim gan Lafur - Gwalchmai ddoe er enghraifft. .

Mae sibrydion sy'n ymwneud a phleidleisiau post yn awgrymu mai chydig o waith 'dan y radar' mae Llafur wedi ei wneud yn y fan honno.

Os ydi Llafur eisiau ennill mae'n rhaid iddyn nhw ymestyn y tu hwnt i Gaergybi - ac ymhell y tu hwnt.

Mae Llafur yn ddibynol iawn ar naratif cyfryngol yn etholiadau San Steffan - does 'na ddim naratif felly y tro hwn.

Mae'r Blaid wedi gwneud llawer iawn o waith o dan y radar - llawer mwy na sy'n weledol.

Ond wedi dweud hynny dwi'n derbyn pwynt Anon 6.53 - dydi'r etholiad heb ei hennill a fydd hi ddim wedi ei hennill tan Awst 1. Llawer o waith i'w wneud o hyd.

Cai Larsen said...

Anon 6.59 - wyt ti o ddifri yn meddwl y gall yr ymgeiswyr ymweld a 50,000 o etholwyr yn bersonol?

Anonymous said...

Mae na daflenni Plaid allan am Newry.

Mabon said...

Am unwaith rwy'n lled-anghytuno efo ergyd dy neges di Cai.

I gychwyn, rwy'n cytuno fod o'n feirniadaeth ofnadwy ar y Blaid Lafur eu bod nhw'n methu a chael pobl allan i ymgyrchu ac yn methu a dod i gyswllt a'r etholwyr.

Ond peidied neb a gorffwys.
Mae'r Blaid Lafur yn hen feistri ar ymladd brwydrau etholiadol.

Mae'n nhw wedi deall yn well na neb mai ennill yr etholiad sy'n bwysig, ac i wneud hynny rhaid cael nifer penodol o bleidleisiau.

Mae ganddyn nhw 11,490 ar lefel San Steffan, a 6,307 ar lefel y Cynulliad.

O ran ennill etholiad does dim pwynt iddyn nhw siarad efo 50,000 o bobl.

Yn hynny o beth mae canfasio ffon llawer iawn yn fwy gwerthfawr, effeithiol, a defnyddiol na chanfasio drws i ddrws - mae'n cymryd llai o amser; mae'n llai 'labour intensive' ac mae'n fwy cywir.

Nid bwriad canfasio adeg etholiad yw i ennill etholwyr drosodd, ond yn hytrach i adnabod patrwm pleidleisio ac adnabod cefnogwyr, gwrthwynebwyr a phleidlais feddal.

Mae Llafur yn adnabod yr 'hard-core o 6,000 sy'n pleidleisio drostyn nhw doed a ddelo. Mae'n nhw'n gwybod pwy ydyn nhw. Mae'n nhw hefyd yn gwybod pwy sydd byth yn pleidleisio (trwy'r 'marked registers') ac felly nad oes diben eu canfasio achos na fyddan nhw'n pleidleisio y tro yma. Yr hyn mae'n nhw'n ei wneud efo'r ffon ydy dod i adnabod/wybod pwy yw'r 5,000 o bleidleiswyr meddal yna sy'n pleidleisio i Albert ond ddim i Lafur adeg etholiadau'r Cynulliad, ac yn fwy penodol y 3,000 yn ychwanegol sydd angen arnyn nhw i ennill etholiad Cynulliad ar Sir Fon (byddai 9,000 yn sicr o roi buddigoliaeth iddyn nhw, efallai hyd yn oed 8,500).

Drwy ganfasio ffon efo sgript effeithiol mae'n nhw'n dod i wybod pwy yw'r 3,000 o etholwyr yma, ac ymhellach yn dod i wybod pa faterion yn benodol sydd yn eu poeni (ysgol leol, ysbyty lleol y traeth lleol, baw ci, Wylfa, gofal plant, ayyb). O gasglu'r data euraidd yma dyna eu hymgyrch. Mae pob etholwr arall yn cael eu hanwybyddu ac, allan o 50,000 o etholwyr mae'n nhw'n canolbwyntio eu hadnoddau a'u hymdrechion yn llwyr ar y 3,000 yma.

Mae yn haws i griw o ganfaswyr fynd i weld 3,000 o bobl na 50,000. Yn wir yn yr amser bydd wedi cymryd i un plaid weld 50,000 o bobl unwaith bydd Llafur wedi mynd i weld 3,000 o bobl bron i 17 o weithiau - efo llythyrau penodol, taflenni personol, sgyrsiau, galwadau ffon - y cyfan er mwyn sicrhau fod y 3,000- yma yn dod i gorlan Llafur.

DYMA ydy ymgyrch etholiadol effeithiol - defnyddio adnoddu yn ofalus ac wedi ei dargedu.

Nid yr amser i genhadu yw adeg ymgyrch etholiad - rhaid ennill etholiad bryd hynny. Mae'r genhadaeth i ddechrau y diwrnod ar ol yr etholiad. Yn anffodus mae llawer gormod o bobl yn gorffwys bryd hynny ac yn aros tan yr etholiad nesaf. Yr hyn mae rhywun yn gwneud rhwng etholiadau ddylai benderfynu ar ffawd yr etholiad mewn gwirionedd, nid yr ymgyrch etholiadol.

Cai Larsen said...

Mae nhw wedi bod yn ffonio ein harlodau ni Mabon.

Anonymous said...

Diolch, Mabon, sylwadau diddorol iawn sy'n agoriad llygad i mi. Ydi'r pleidiau i gyd a mynedfa i'r cronfeydd data yma?

Mabon said...

Cai, mae hynny'n awgrymu bod eu bas data nhw'n wallus. Debyg iawn i'w sefyllfa yn Glasgow adeg yr is-etholiad yno rai blynyddoedd yn ol.

Wedi dweud hynny dydy ffonio ein haelodau ni ddim yn ddrwg o beth iddyn nhw - mae'n nhw'n dod i wybod pwy a ble mae cefnogwyr y Blaid a phwy felly i beidio a gwastraffu amser efo yn enwedig pan ddaw etholiadau 2015/16.

Anon 2:11pm - Gall pob plaid wleidyddol brynnu'r Marked Up registers oddi wrth yr awdurdod lleol. Mae yna fformiwla i weithio'r pris allan. Os all plaid wleidyddol eu fforddio mae'n nhw'n amrhisiadwy, ond yn eitha drud i blaid bach. Maent hefyd yn dangos pwy sydd yn cael pleidlais bost - eto erfyn pwerus iawn i'r Blaid Lafur. Wn i ddim sawl cyfrif ydw i wedi bod ynddo ac yn gweld ymgeisydd un plaid neu gilydd yn ennill ar gownt pleidlais y dydd dim ond i weld y blwch pleidlais bost yn cael ei hagor ar y diwedd a Llafur yn ennill yn gyfforddus.

O ran y data eraill, gellir prynnu rhifau ffon am swm. Ac os oes arian ar gael (ac mae gan Lafur) gellir prynu proffeil o etholwyr, trwy gwmniau arbenigol sy'n casglu data gan e.e. Tesco Clubcard ac ati (neu hyd yn oed Facebook, ond dydy lefelau ymgyrchu etholiadau lleol ddim mor soffistigedig a hynny eto).

Mae posib prynu pob mathau o bethau. Os nad oes arian, yna rhaid gweithio amdano.

Anonymous said...

Diolch eto, Mabon. Difyr iawn. Dwi'n cofio gweld yn rhywle fod yr SNP yn flaenllaw iawn yn y meysydd yma ac wedi dysgu oddi wrth ac wedi buddsoddi yn nhechnegau y Democratiaid yn UDA.

Anonymous said...

50,000 o etholwyr yn Mon?

Tegwared said...

Etholiad 2011:
Turnout 24,067 (48.6%)

Cai Larsen said...

Hmm - felly dyna'r ateb i'r dirgelwch - mae Tal mewn canolfan ffonio o fore gwyn tan mos.

Ond o ddifri, os ydi Llafur yn credu y gallent ennill y math yma o etholiad trwy ffonio cefnogwyr tybiedig, mae yna gamddaealltwriaeth sylfaemol ar eu rhan.

Am resymau amlwg wna i ddim trafod hyn rwan, ond mi sgwennaf flogiad ar y pwnc wedi i ni gael y canlyniad.

Anonymous said...

49mil a rhywbeth yw nifer etholwyr Mon.
Mae Tal yn sicrhau ei fod yn cael ei weld yn y cadarnleoedd Llafur - 'brand awareness'. Mae'r ymgyrchu negyddol ar eu rhan yn gwbl fwriadol, er mwyn ceisio negydu momentwm y Blaid ac atgoffa pobl pam na ddylian nhw bleidleisio i'r Blaid. Mae'n nhw'n paratoi i golli hon, ac am geisio lleihau'r difrod.
Ond rwy'n cytuno a thi Cai.
Mae'r momentwm gan Rhun; mae'r sylw (yr hyn sydd wedi bod) wedi bod i Rhun; mae'n ymgyrch bositif, mae yna 'vibe' dda i ymgyrch y Blaid, a lefel adnabyddiaeth o Rhun yn anghymharol.

Dyfed said...

Diolch i Mabon am sylwadau hynod ddiddorol ac addysgiadol. Mae'n hynod drist meddwl y gellid ennill y sedd trwy ganolbwyntio ar 3,000 o bobl yn unig - a pheidio a siarad efo gweddill yr etholaeth. Mae'n adlewyrchiad gwael iawn ar y system ddemocrataidd sydd gennym.

Chasity said...

Great!