Monday, July 01, 2013

Cadw pethau yn y teulu - diweddariad

Yn ol y blogiwr adain dde Paul Staines mae gwraig Tal Michael, Mary wedi ei dewis i ymladd Aberconwy yn etholiad San Steffan tros Lafur.  

8 comments:

Anonymous said...

Oes 'na lawer o wahaniaeth rhwng hi a Guto, 'dwch?!

Cai Larsen said...

Gwybod dim amdani a dweud y gwir.

Anonymous said...

Difyr fod Tal yn swnio mor debyg i Alun pan mae'n Trydar yn Gymraeg:

@TalMichael: Da i gael paned a bara brith efo Dic a Barbara heno. Meant yn byw yn y tŷ ger Llanfachraeth lle gafodd fy Nain ei fagu

Anonymous said...

Anon

Mae 'na sawl rheswm i beidio pleidleisio dros Tal(iesin) ond gawn ni beidio dechrau trafod cam-dreiglo etc? Dwi'n gwybod y byddai rhywun yn disgwyl i berson ag addysg sgwennu Cymraeg cywirach - wedi'r cyfan dyna fase'n wir mewn unrhyw iaith arall - ond mae hanes y Gymraeg yn wahanol.

Dwi'n gwybod nad wyt y ceisio bod yn sarhaus ond jyst gad y peth fod.

Dwi'm yn cytuno efo Alun Michael ond dwi'n ei edmygu am geisio ail-afael yn ei Gymraeg ac am fagu ei 5 plentyn yn y Gymraeg. Mae hynny'n well na Kinnocks y byd yma a sawl aelodau Llafur arall sy'n gallu treiglo ac sydd â tadau a sgwennodd lyfrau ar dreiglo - ie, Rhodri Morgan. Mae Alun Michael yn berson llawer mwy didwyll na bu Rhodri Morgan.

BoiCymraeg said...

^^ Cytuno 100% anon.

Anonymous said...

Cwestiwn sydyn i Tal Michael.

Pwy yw ??
Joe Benton : Martin Caton : Jenny Chapman : Jeremy Corbyn : Nic Dakin : Natascha Engel : Bill Esterson : Paul Flynn : Dai Havard : Kelvin Hopkins : Sian C. James : Gerald Kaufman : John McDonnell : Michael Meacher : Alan Meale : Ian Mearns : Yasmin Qureshi : Marsha Singh : Valerie Vaz : Alan Whitehead : Mike Wood

Ateb

Dwy flynedd yn ôl fe ddaru’r 21 AS Llafur uchod arwyddo cynnig seneddol (EDM) yn galw ar y llywodraeth i ohirio’u cynlluniau ar gyfer rhaglen adeiladu gorsafoedd niwclear newydd.

Unrhyw sylw Tal ?
Fydd y 21 yn helpu gyda'r canfasio ?

Dafydd

Anonymous said...

Fe gefes i'n nhwyllo'n llwyr gan Rhodri Morgan a dwi'n gandryll rwan!
Troi allan fod Rhodri y math gwaethaf o'r Blaid Lafur, ymdrabaeddu mewn rhyw ffantasi dosbarth gweithiol trallodus tra'n dod o gefndir cefnog ei hun, cymreictod WRU a wneud dim dros frwydr hawliau sifil go iawn yr iaith gymraeg, ac ar ben y cyfan lolyn digyfeiriad.
Alun Michael ar y llaw arall yn bragmatydd peniog sydd a diddordeb mewn tynnu pobol allan o dlodi ac sydd wedi gweithredu yn ymarferol dros y gymraeg. Tal Michael o gefndir anrhydeddus iawn yn fy marn i. Ond Rhun yn ymgeisydd gwell

Anonymous said...

'Cymru' UKIP newydd sylweddoli be ydi polisi eu plaid ar ddatganoli....

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/split-emerges-ukip-over-future-4875659

dyna biti ;-)