Thursday, July 18, 2013

Rhan Tal Michael mewn 'stitch up' Llafur arall

Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod i Tal Michael gael ei ddewis ym Mon yn rhannol oherwydd i John Chorlton gael ei wahardd rhag cael ei ystyried gan Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur yng Nghaerdydd.



Ddylai neb synnu  llawer wrth gwrs - trwy'r math yma o ddulliau y bydd ymgeiswyr Llafur yn cael eu hethol yn aml.  Ond yr hyn sy'n rhyfedd ydi i Tal gymryd rhan mewn stitch up eithaf enwog flynyddoedd yn ol.

Mae'r stori yn ymwneud ag un o gyd gynghorwyr Tal yn Islington yn ol yn y naw degau cynnar oedd eisiau mynd yn AS Llafur tua Leeds - dynas o'r enw Liz Davies.  Gwrthodwyd ymgeisyddiaeth Liz Davies oherwydd i gwynion gael eu gwneud amdani - sef  ei bod wedi heclo ac annog trais mewn cyfarfod o Bwyllgor Addysg Islington.  Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd yn berson addas i fod yn AS Llafur. 

Yn anffodus roedd pwy bynnag oedd wedi gwneud yr honiad wedi anghofio rheol cyntaf yr adroddwr anwiredd - paid byth ag enllibio twrna.  Bar gyfreithiwr ydi Liz Davies. Canlyniad y penderfyniad oedd achos enllib gyda thri o gynghorwyr Llafur yn ateb cyhuddiadau o enllib.  Tal Michael oedd un o'r rheiny.  Wnaeth yr achos ddim cyrraedd ei derfyn yn dilyn datganiad gan y tri eu bod bellach yn derbyn nad oedd sail i'r honiadau ynghyd a chyfraniadau ariannol ganddynt i ymgyrch etholiadol Jeremy Corbin. 

Ymddengys bod gan y ddynas acw bwynt pan ddywedodd bod golwg dan din ar Tal y tro cyntaf gwelodd ei lun rhyw rhyw bythefnos yn ol.

 Gellir gweld mwy am y stori yma ac yma.

ON - peidiwch a disgwyl gweld y stori yma ar gyfly y Bib na'r Western Mail

2 comments:

Anonymous said...

Y stori yng ngeiriau Liz Davies ei hun.

‘But shortly after my selection, the press reported that Blair had “gone ballistic”..
Falsehoods were circulated about my political affiliations and my record as a Labour councillor in Islington, and I was forced to take libel action against three Blairite Islington Councillors who concocted a story about me inciting violence at a council meeting. Eventually, I won an apology and accepted payment in lieu of damages as part of a High Court settlement... ’

Liz Davies. Through the Looking Glass : A Dissenter inside New Labour (2001)

Falsehoods gyda llaw
1.Anwiredd 2. Celwydd

Diddorol fyddai clywed fersiwn Tal Michael o'r stori hon.

Anonymous said...

Dau gwestiwn

Ydi aelodau'r Blaid Lafur yng Nghaergybi, ac yn wir ar yr ynys yn gyffredinol, yn ymwybodol o'r stori hon tybed?

Beth yw ymateb John Chorlton i hyn oll ?

Un stitch up - anffodus!
Dwy stitch - patrwm yn dechrau ymddangos!