Monday, August 19, 2013

A gwers fach i'w dysgu o Wlad y Basg

Mae Gwlad y Basg wedi ei rhannu rhwng tair uned lywodraethol.  Mae gogledd y wlad oddi mewn i ffiniau Ffrainc (Iparralde) , ac mae gweddill y wlad naill ai yn Navarre neu yng Nghymuned  y Basg - dau ranbarth sydd oddi mewn i ffiniau Sbaen.



Ychydig iawn o gefnogaeth swyddogol a geir i'r iaith ar ochr Ffrainc i'r ffin.  Yma (ar ffigyrau 2006) ceir 22.5% o'r boblogaeth yn siarad iaith y Basg a 8.6% yn ei deall.  Ond mae'r ffigyrau hyn yn cwympo - 2% o gwymp ers 2001 a 4% ers 1996.  Y cohort 65+ ydi'r mwyaf tebygol o lawer i siarad yr iaith.

Yn Navarre ceir llywodraeth unoliaethol, ond mae'r llywodraeth hwnnw yn cefnogi'r iaith mewn rhannau lle defnyddir yr iaith o ddydd i ddydd.  11.1% sy'n ei siarad yno, gyda 7.6% yn ei deall.  Mae'r ffigyrau yma yn welliant bach ar 1991 (9.5%) a 1996 (9.6%).  Mae'r proffil iaith yn iachach nag a geir yn Iparralde gyda bron i 20% o bobl 16-24 yn siarad yr iaith o gymharu a llai na 10% yn y grwp 65+.

Yng Nghymuned y Basg ceir llywodraeth genedlaetholgar bron yn ddi eithriad, ac mae'n hyrwyddo'r iaith gyda phenderfyniad ac arddeliad.  Mae 30.1% yn siarad yr iaith yno, gyda 18.3% yn ei deall.  Mae hyn yn cymharu a 27.7% yn 1996 a 29.5% yn 2001.  Mae 57.5% o bobl 16-24 yn siarad yr iaith tra bod 25% o bobl 65+ yn gwneud hynny.  Mae tua tri chwarter y plant ysgol yn siarad iaith y Basg.

Wna i ddim trafferthu nodi beth ydi'r wers. 



No comments: