Sunday, August 11, 2013

Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru

Cyfeiriad ydi'r teitl at gyfrol fer sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.  Gwaith o eiddo Richard Wyn Jones ydyw, ac mae'n ymdrin a'r hen dalp o fytholeg sy'n dal i ddod i'r wyneb o bryd i'w gilydd - sef bod gan cenedlaetholwyr Cymreig yn gyffredinol, a Phlaid Cymru yn benodol gydymdeimlad efo Ffasgaeth yn ystod tri degau a phedwar degau'r  ganrif ddiwethaf.

Mae'r gyfrol yn gampwaith fach.  Mae'r haeriad yn cael ei ddatgymalu yn llwyr a chyfangwbl mewn cwta 70 tudalen o waith trylwyr, cynhwysfawr, ysgolheigaidd - ond rhyfeddol o gynnil.    Does gennym ni ddim yr union air am elan yn y Gymraeg, ond mae'r gair hwnnw yn disgrifio'r ffordd mae'r awdur yn mynd i'r afael a hen gelwydd i'r dim.

Mae'r gwaith yn olrhain hanes y cyhuddiad, yn diffinio Ffasgaeth yn profi polisiau'r Blaid a safbwyntiau rhai o'i harweinwyr yng ngoleuni'r diffiniad hwnnw, yn edrych ar ddiwylliant gwleidyddol Cymru yn ystod degawd o ryfela ac yn edrych ar y celwydd yng nghyd destun diwylliant gwleidyddol Cymru.

Ar sawl cyfri mae'n anodd ychwanegu llawer at yr hyn mae Richard wedi ei ddweud.   Serch hynny hoffwn aros efo un mater ac edrych arno o gyfeiriad mymryn yn wahanol.  Mae Richard yn cyfeirio at y ffaith  bod gwreiddiau y celwydd  yng ngwrth Babyddiaeth amrwd rhai anghydffurfwyr yn y tri degau.  Mae hefyd yn cyfeirio at y chwithdod bod plaid a ddaeth yn gartref naturiol i Babyddion Cymru o 20au'r ganrif ddiwethaf ymlaen wedi cynnal y celwydd hwnnw - a bod nifer o wleidyddion sy'n Babyddion eu hunain ymhlith y rheiny.  Ceir hefyd eglurhad o'r tueddiad at ymysodiadau hysteraidd ac afresymegol  yng nghyd destun y ffaith bod llawer yn cael y syniad bod Cymru yn wlad ond heb fod yn wladwriaeth yn anghysurus - bod teyrngarwch wedi ei hollti yn seicolegol anodd, a bod hyn yn arwain at ddiffyg aeddfedrwydd wrth drin a syniadau yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Rwan mae Blogmenai wedi nodi yn y gorffennol bod tebygrwydd rhyfedd rhwng y Blaid Lafur Gymreig, a'r blaid Wyddelig Fianna Fail.  Mae gwreiddiau'r ddwy blaid yn gwbl wahanol wrth gwrs, ond maent yn debyg ar sawl cyfri.  Mae'r ddwy blaid yn 'ennill' pob etholiad yn yr ystyr eu bod yn cael mwy o seddi a phleidleisiau na neb arall (er bod y rhod wedi troi go iawn ar FF bellach yn sgil yr argyfwng economaidd).  Mae'r ddwy blaid hefyd yn ymarferol / bragmataidd yn hytrach nag ideolegol.  Eu prif ddiddordeb ydi ennill grym, ac arwahan i edrych ar ol buddiannau eu cleiantiaid a rhoi eu cefnogwyr mewn swyddi cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn poeni llawer am beth yn union maen nhw eisiau ei wneud efo'r grym.  Rheoli er mwyn rheoli ydi'r tueddiad.

Mae'r ddwy blaid hefyd yn sefydliadol, ond yn hoffi smalio bod yn wrth sefydliadol.  Roedd yna rhywbeth hynod Wyddelig am antics Leighton Andrews ar lawr gwlad y Rhondda yn gynharach yn yr haf.  Bydd FF hefyd yn taflu'r cyhuddiad 'Ffasgaeth' at eu gwrthwynebwyr gyda llaw - er a bod yn deg mae ganddyn nhw beth lle i wneud hynny - yn wahanol i'r Blaid Lafur Gymreig.  Mae pleidiau fel hyn  yn tueddu i gael eu gyrru gan syniadau eu partneriaid pan maent yn cael eu gorfodi i glymbleidio efo pleidiau mwy synadiaethol eu natur..  Polisiau economaidd adain Dde y PDs oedd yn gyrru'r clymbleidiau FF/PDs, a dogfen Plaid Cymru oedd Cymru'n Un i bob pwrpas.

Mae plaid ddi ideoleg yn naturiol ddrwgdybus o blaid sy'n syniadaethol o ran natur, ac i raddau yn y byd rhyfedd yma mae meddu ar ideoleg yn dystiolaeth ynddo'i hun o eithafiaeth.  Y peth diwethaf mae plaid ansyniadaethol ei eisiau ydi disgwrs ynglyn a syniadau oherwydd nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn syniadau nag unrhyw syniadau eu hunain.  Mae'n llawer haws sgrechian 'ffasgwyr, ffasgwyr, ffasgwyr' na mynd trwy'r anghyfleustra anymunol o orfod siarad am syniadau pan nad oes gennych y diddordeb lleiaf mewn pethau felly - na'r arfau deallusol i'w trafod yn iawn.  Mae'r cyfeiriad at ffasgaeth yn cynnig y fantais ychwanegol o awgrymu bod syniadau eich gwrthwynebwyr yn rhy eithafol i drafferthu efo nhw.  Mecanwaith ydyw mewn gwirionedd sy'n caniatau i'r sawl sydd yn ei defnyddio  ddatgyweddu yn wleidyddol.

Dwi'n siwr y bydd cyfrol wych Richard Wyn Jones yn gwneud llawer i sicrhau na fydd yr union gelwydd yma'n cael ei ail ddefnyddio yn y dyfodol.  Ond os oes arwyddion clir  y bydd Plaid Cymru yn adeiladu ar lwyddiant ddydd Iau diwethaf gallwn ddisgwyl ymysodiadau hysteraidd o rhyw fath neu'i gilydd.  Mae natur y Blaid Lafur Gymreig a'r gwacter sydd yn ei chanol yn sicrhau hynny.  

O.N Os oes yna rhywun yn darllen hwn am yr ail waith ac yn cael ei fod yn wahanol i'r cyntaf y rheswm ydi i blogspot - am resymau sy'n glir iddo'i hun yn unig - ddileu'r blydi job lot. Dwi wedi gorfod ei ail 'sgwennu, ac mae ychydig yn wahanol o ganlyniad.

4 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae Richard yn cyfeirio at y ffaith bod gwreiddiau y celwydd yng ngwrth Babyddiaeth amrwd rhai anghydffurfwyr yn y tri degau

Rwy'n cael y sylw yma yn un anodd ei ddeall. Roedd Saunders, wrth gwrs, yn Babydd amlwg ond ar y cyfan plaid fach y beirdd a'r gweinidogion anghydffurfiol oedd Plaid Cymru hyd y 70au.

Os bu plaid "Babyddol" yng Nghymru erioed y Blaid Lafur fu hwnnw gan fod y sawl o dras Wyddelig yn yr ardaloedd diwydiannol wedi bod yn hynod driw i Lafur dros y blynyddoedd. Pam felly byddai plaid efo nifer o babyddion yn ei mysg yn taflu baw secteraidd at blaid arall oedd efo dim ond un aelod amlwg o Babydd?

Cai Larsen said...

Mae yna hen draddodiad gwrth Babyddol yng Nghymru mae gen i ofn Alwyn, ac mae'n un digon milain.

Nid unigolion Pabyddol oedd yr unig broblem yn yr achos yma, ond hen syniadau Catholig cas yn halogi Cymru fach.

Alwyn ap Huw said...

Dwi ddim yn amau bod yna draddodiad milain o wrth Gatholigiaeth yng Nghymru. Cofio athrawes ysgol Sul yn dweud wrthyf am beidio a chyffwrdd y dŵr sanctaidd wrth fynychu priodas Babyddol gan mae bi-pi'r Pab ydoedd.

Dim yn anghytuno a chanfyddiad Dicw am wrth Babyddiaeth yn cael ei ddefnyddio gan Lafur yn erbyn y Blaid chwaith, jest yn gweld o'n anodd ei ddallt o ystyried pa mor ddryw i Lafur bu'r rhai o dras Wyddelig.

Cai Larsen said...

Gwreiddiau'r celwydd sydd mewn gwrth Babyddiaeth - go brin bod Paul Murphy yn deall hynny.