Monday, August 05, 2013

Ynglyn a chanfasio ffon

Mi gododd y pwnc yma sawl gwaith yn ystod yr ymgyrch, yma ar Flogmenai ac wrth sgwrsio efo pobl.  Y cyd destun oedd diffyg ymddangosiad Llafur ar lawr gwlad mewn rhannau mawr o'r ynys.  Byddai pobl yn ymateb i'r sylw trwy ddweud bod gan Llafur ymgyrch ffonio gynhwysfawr, a bod gan ymgyrchoedd felly hanes o gryn lwyddiant.



Rwan cyn mynd ymlaen efallai ei bod werth atgoffa ein hunain mor syml ydi'r broses o ennill pleidleisiau yn ei hanfod:

1.  Adnabod naratif gwleidyddol sy'n apelio at ganrannau arwyddocaol o bobl.
2.  Cyfathrebu'r naratif efo'r carfannau hynny o bobl.
3.  Cadw cysylltiad efo'r carfannau o bobl - rhwng etholiadau ac yn ystod cyfnodau etholiadol.
4.  Sicrhau bod y carfannau perthnasol o bobl yn pleidleisio.

Mae hyn oll yn abswrd o syml wrth gwrs pan rydym yn edrych ar gymhlethdod ymgyrch etholiadol fel yr un sydd newydd ddod i derfyn ym Mon - ond o grafu i lawr i graidd pethau, dyna ydi esgyrn y broses.

O edrych ar bethau felly mae'n amlwg y gellir defnyddio'r ffon yng nghyd destun pwyntiau 2,3 a 4 - ac mae Llafur wedi gwneud hyn yn hynod effeithiol yn y gorffennol.  Ond mae pethau wedi newid ers oes aur y canfasio ffon ddeg i bymtheg mlynedd yn ol.

Yn gyntaf mae llai o lawer o bobl efo ffonau gwifr confensiynol yn y cartref heddiw na phryd hynny.  Mae dyfodiad y ffon symudol fel eitem ar gyfer pawb wedi arwain at lawer o bobl yn gwneud heb ffon confensiynol.  Mae'r ffaith bod cwmniau ffon yn llawer mwy llym o ran disgwyliadau statws credid nag oeddynt ers talwm yn cryfhau'r tueddiad.  Mae'r diffyg ffonau confensiynol yn fwy cyffredin ymysg pobl dosbarth gweithiol - y dosbarthsydd fwyaf tebyg o bleidleisio i Lafur.  Mae'n bosibl wrth gwrs dod o hyd i rifau ffonau symudol - ond mae hynny'n fwy anodd o lawer, ac mae'n fwy anodd eu perthnasu i'r rhestr etholwyr.

Yn ail mae gwneud unrhyw beth ar y ffon wedi ei gymhlethu gan y ffaith bod dwsinau o bobl bellach yn ceisio cysylltu a ni ar y ffon yn ddi ofyn er mwyn ceisio gwerthu gwahanol geiriach i ni.  Dydan ni ddim yn or hoff o'r galwadau ffon di ddiwedd, a rydym yn tueddu i fod yn sinicaidd ynglyn a'r sawl sy'n gwneud y galwadau.  Mewn amgylchiadau felly dydan ni ddim yn debygol o fod eisiau gwneud yr hyn mae'r sawl sy'n ein ffonio eisiau i ni ei wneud.

Mae yna le i ymgyrchu ffon - ond techneg ymgyrchu sydd yn gweithio fel ychwanegiad i dechnegau eraill hen a newydd ydyw mewn gwirionedd.  Os ydi Llafur yn bwriadu defnyddio'r dechneg yma fel craidd eu hymgyrchoedd yn y dyfodol, yna gallant edrych ymlaen at fwy o ganlyniadau fel un Ynys Mon.

No comments: