Saturday, September 14, 2013

Cartogram etholiadol arall

Diolch i Ioan am dreulio ei amser cinio yn creu cartogram arall.  Petai wedi lliwio Ynys Mon yn unol a chanlyniad yr is etholiad, byddai'r gwyrdd yn dywyllach nag ydyw yn unrhyw ran arall o Gymru. 

4 comments:

BoiCymraeg said...

Pam bod pleidlais y blaid gymaint yn is yn Merthyr Tydfil ag yn y cymoedd y naill ochr a'r llall iddi? Byddwn i'n meddwl bod Merthyr yn digon tebyg i Rhymni a'r Rhondda o ran demograffeg, siaradwyr Cymraeg a.y.y.b. - ife jest diffyg trefniadaeth hanesyddol gan y Blaid yn yr ardal?

Dylan said...

Ie, mae gwendid y Blaid ym Merthyr yn od. Yn enwedig o gofio eu bod wedi ennill rheolaeth o'r cyngor yn y 1970au. Beth aeth o'i le?

Anonymous said...

Dwi yn mwynhau edrych arnyn nhw . .

Alwyn ap Huw said...

Meddai Dylan Beth aeth o'i le?

Os edrychwch ar y broblem mae'r SNP wedi cael efo Bill Walker MSP, neu'r problemau gwaeth byth mae IWCIP wedi cael efo cynifer gynghorydd ac ASE yn niweddar bydd hynny yn awgrymu rhywfaint o'r ateb.

Doedd dim disgwyl i'r Blaid curo ym Merthyr ym 1970; ond oherwydd isetholiad Caerfyrddin, isetholiad Caerffili, ymddygiad tan-din Llafur ar ôl Aberfan, controfersi parthed ail enwebu S O Davies, a gwaith anhygoel Dafydd Wigley, roedd "bron" popeth yn mynd o blaid y Blaid ym 1970. Yr hyn aeth yn erbyn y Blaid oedd bod pobl nad oedd y Blaid yn gobeithio iddynt ennill wedi cael eu henwebu er mwyn llenwi bwlch; cafodd pobl nad oeddynt yn dymuno dyfod yn gynghorwyr eu hethol, ac roedd y cyngor yn cachu.

Moeswers i bob plaid, am wn i, i beidio a dewis ymgeiswyr anobeithiol mewn seddi anobeithiol rhag ofn cael siom o'r ochr orau!

Mae angen yr ymgeisydd gorau i'r Blaid yng Ngwent yn ogystal ag yng Ngwynedd "rhag ofn"!