Tuesday, September 17, 2013

Pam bod safbwynt Carwyn Jones yn sylfaenol afresymegol

Os ydi'r hyn oedd gan Carwyn Jones i'w ddweud yn y Pierhead heddiw yn cynrychioli barn y Blaid Lafur Gymreig yn ehangach, yna mae'r blaid honno wedi teithio ymhell iawn tros y blynyddoedd diwethaf - cyfansoddiad newydd gyda rhagdybiaeth o blaid datganoli, cynyddu'n sylweddol yr amrediad o feysydd datganoledig, sofraniaeth Gymreig yn rhan o'r setliad - datganoli fel digwyddiad yn hytrach na phroses  - digwyddiad sy'n cael dylanwad llawer mwy pell gyrhaeddol ar fywyd yng Nghymru na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.  A digwyddiad sy'n wrthbwynt i'r galw am annibyniaeth - rhyw fath o drefniant parhaol.

Ond y broblem efo damcaniaeth Carwyn ydi'r ffaith nad oes dim yn barhaol - ac mae hynny yn cynnwys gwladwriaethau.  Daeth pob gwladwriaeth i fodolaeth ar rhyw bwynt mewn hanes, a byddant oll yn dod i ben ar bwynt arall.  Un o'r elfennau fydd yn dod a'r wladwriaeth Brydeinig i ben ydi'r paradocs sydd ynghlwm a safbwynt Carwyn ei hun.  Mae'n cydnabod bod Cymru yn wlad, y dylai fod a sofraniaeth, ac y dylai wneud y penderfyniadau pwysig ynglyn a'i bywyd cenedlaethol ei hun.  Yr hyn nad yw'n ei wneud ydi gofyn y cwestiwn amlwg - os ydi Cymru yn wlad, yna pam na ddylai gael trefniadau cyfansoddiadol tebyg i pob gwlad arall?  Os ydym yn derbyn bod Cymru yn wlad, yna 'does yna ddim dianc rhag y cwestiwn sylfaenol hwn.  

No comments: