Monday, September 30, 2013

Patrymau iaith yn Arfon


Mae'n debyg gen i y dyliwn i ddiolch i Geraint Day an dynnu fy sylw at wefan Nomis - er bod rhywbeth yn dweud wrthyf na fydd y wraig yn diolch iddo am wneud hynny. Mae'r wefan yn cynnig mynediad i'r  ystadegau cyfrifiad 2011 sydd eisoes wedi eu rhyddhau.  Un o nodweddion unigryw (hyd y gwn i) y wefan ydi ei bod yn caniatau mynediad i ganlyniadu ardaloedd cyfri bach iawn - yn wir maent mor fach nes bod cwestiynau yn codi am barch at brifatrwydd.

Serch hynny mae'r nodwedd yma yn ddefnyddiol iawn ar sawl cyfri.  Er enghraifft mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith bod y Gymraeg yn mynd yn iaith drefol ar sail y ffaith mai wardiau trefol ydi'r rhai mwyaf Cymraeg o ran iaith.  Mae'r data ardal fach yn caniatau i ni ddatblygu ar y ddamcaniaeth hon.  Ystyrier y mapiau a data yma o bentref Bethel ger Caernarfon.





Mae'r map a'r set cyntaf yn cyfeirio at ardal o dai cymunedol yn bennaf yng nghanol y pentref, mae'r ail fap a set data yn cyfeirio at ardal o dai preifat yng nghanol y pentref ac mae'r trydydd yn cyfeirio at ardal wledig ar gyrion y pentref. Mae'r dair ardal yn cyfochri a'u gilydd. 

Yr hyn sy'n drawiadol ydi'r tebygrwydd rhwng y stadau preifat a chymunedol yng nghanol y pentref, a'r bwlch rhwng y cyfraddau siarad Cymraeg ymysg oedolion yn y canol a'r cyrion gwledig.  Mae'r patrwm yma yn un cyffredin yng Ngwynedd.  Un o'r arwyddion mwyaf pendant o Gymreigrwydd ardal ydi pa mor lluosog ac agos at ei gilydd ydi tai.  Lle mae llawer o dai yn agos at ei gilydd mae'r cyfraddau siarad Cymraeg yn debygol o fod yn uchel iawn.  Y duedd yma ydi un o'r prif resymau pam bod Arfon (ag eithrio Bangor) yn fwy Cymraeg o ran iaith na Dwyfor - mae dwysedd tai yn llawer uwch yn Arfon nag yn Nwyfor.


10 comments:

Anonymous said...

Oes cyfarwyddiadau rhywle ar gyfer craffu ar ardaloedd mor fanwl a hyn? Dim cyswllt amlwg i fapiau ar Nomis. Diolch

Cai Larsen said...

Dos i 'Local Characteristics' a wedyn idewis dy bwnc, wedyn Wizard Query, wedyn 2011 output areas. Does yna nunlla wedi ei enwi - cod sydd i pob dim - felly mae'n anodd.

Gareth said...

Tebyg bod gwell gyda mewnfudwyr byw yn y wlad nag ymhlith y trigolion lleol

Cai Larsen said...

Rhywbeth felly mae'n debyg.

Anonymous said...

Dydy'r ardaloedd ddim 'mor fach nes bod cwestiynau yn codi am barch at brifatrwydd' oherwydd y camau a gymerir i sicrhau nad oes perygl o hynny. Mae adran '10.13 How has the confidentiality of data at small areas been protected? ' http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/2011/census-data/2011-census-user-guide/faqs/index.html#10 yn egluro: 'Every household has a probability of being selected for record swapping and some records are created by imputation by the statistical methodology used to create census estimates. The method has been designed to ensure there is sufficient doubt as to whether a value of one in a census table is a true value or one that has been created by imputation or swapping persons in or out of that cell.'

Mae hynny hefyd yn golygu nad yw'r canlyniadau'n hollol ddibynadwy am yr ardaloedd hyn. Maen nhw'n cael eu defnyddio fel blociau adeiladu i gael amcangyfrifion dibynadwy am ardaloedd mwy.

Mae InfoBaseCymru (http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/2011census/profile?profileId=303) yn cynnwys data am LSOAs, sef yr ardaloedd bach sy'n cyfuno data OAs. Dyma, e.e. dolen at ddata 'Ardal: W01000052 - Bethel a Chwm-y-Glo 1': http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/2011census/profile?profileId=303 Fe welwch ei bod yn cynnwys map.

Cai Larsen said...

Diolch 10:23

Anonymous said...

Diddorol iawn. Ac ar y lefel yna, castell Caernarfon sydd ar ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg!

Hogyn o Rachub said...
This comment has been removed by the author.
Hogyn o Rachub said...

Mi wnes i edrych mewn i hyn yn ardal Bethesda (sef Pesda, Rachub a Gerlan) ychydig fisoedd nôl a dod i'r un math o gasgliad. Y ganran gyffredinol ydi 77.4% yn y gymuned.

Roedd y rhannau Cymreiciaf (80%+) i gyd yn stadau i bob pwrpas - Coetmor, Erw Las, gwaelodion Rachub, a chanrannau uchel iawn yn nwy "is-ward" Abercaseg (87% ac 89%) a Ffordd Bangor. Os ydych chi'n nabod y rhannau hyn o Fethesda, mae'n amrywio rhwng y darnau tlotaf a'r darnau cymharol gyfoethog, tai neis ac ati, sy'n ddiddorol ynddo'i hun.

Dim ond yn 3 o'r 15 "is-ward" yr oedd canran llai na 70% yn siarad Cymraeg. Topiau Rachub, ardal Braichmelyn (y ddau yn llefydd digon tebyg o ran y tai sydd ar gael yno), ac yn ddigon diddorol y rhan uchaf o'r Stryd Fawr (sydd, yn wahanol i'r awgrym,yn digwydd cynnwys mwy o lefydd gwledig).

Anonymous said...

Gellir canfod y cod i'r ardaloedd mân gan ddefnyddio cod post a'r wefan yma - http://ukpostcodedata.com/ - OA Code ydi'r cod perthnasol.